Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Yr Ŵd, hefyd wedi'u hadnabod fel yr Ŵdfath, oedd rhywogaeth cyfanbeth o ddynolffurfiol telepathig a ddaeth o Sffêr yr Ŵd. Am adeg, caethiwodd dynoliaeth yr Ŵd, gan eu diaelodi ar mwyn sicrhau eu caethwasiaeth.

Bioleg[]

Roedd yr Ŵd yn rhywogaeth dynolffurfiol gyda tentaclau ar gyfer bwydo ar waelod eu gwynebau. (TV: The Impossible Planet) Nid oedd ganddynt llinynnau llais ac felly cyfathrebon nhw trwy delepathi. (TV: Planet of the Ood) Roedd gan yr Ŵd hyd oes hir; goroesodd Ŵd Sigma o leiaf 100 mlynedd yn dilyn diwedd caethiwed yr Ŵd gan ddynolffurf ac roedd y Degfed Doctor wedi'i syndodu gan hon, gan feddwl byddai'r Ŵd llawer hyn. (TV: The End of Time)

Roedd gan yr Ŵd ddau ymenydd: ymenydd blaen yn eu pennau, ac ôl ymenydd eiledol. Fel arfer byddent yn dal eu hymenyddau yn eu dwylo, gyda'r ymenydd wedi cysylltu iddynt trwy gysylltydd yn debyg i linyn bogeiliol i'w gwynebau. Yr ymenydd blaen wnaeth y rhan fwyaf o'r meddylio a chynhwysodd y synhwyryddion telepathig. Yr ôl ymenydd wnaeth prosesu cofion ac emosiynau, gan arwain at ansefydlogrwyddion os gwaredwyd yr ymenydd. Byddai modd i Ŵd goroesi heb yr ôl ymenydd, ac yn aml byddai wedi'i hamnewid gyda'r sffêr cyfieithu a gysylltodd i system nerfol yr Ŵd . (TV: Planet of the Ood) Roedd gan Hynefydd yr Ŵd ymenydd blaen mwy o faint. (TV: The End of Time) Lleolwyd Ymenydd yr Ŵd enfawr ar eu planed cartrefol ag weithredodd fel y canolfan telepathi; os ddinistriwyd yr ymenydd, byddai pob aelod y rhywogaeth yn marw, ac os echyngwyd byddai gallu meddwl y rhywogaeth yn gwanhau. (TV: Planet of the Ood)

O dan amgylchiadau arferol, roedd yr Ŵd yn creuaduriaid gwareddol ac anniweidiol. Ac felly, ynghyd strwythur eu hymenyddau, roedd yr Ŵd agored i lygredugaeth, fel gwelwyd pan cafodd y rhywogaeth eu caethiwo'n hawdd gan Ood Operations. (TV: Planet of the Ood) Yn waeth fyth, hawliodd eu telepathi goddefol iddyn nhw cael eu rheoli a/neu meddwi gan fodolau telepathig mwy pwerus, megis y Bwystfil (TV: The Impossible Planet) ac House. (TV: The Doctor's Wife)

Telepathi ac ablau meddwl[]

Yn gwreiddiol, roedd yr Ŵd yn hil cyfanbethol wedi'u dilyn gan yr Ymenydd yr Ŵd, a ddefnyddiodd eu ôl ymenyddau i "ganu" i'w gilydd. Newidodd lliw llygaid Ŵd gyda'r lefel o weithgaredd telepathig, gan oleuo'n goch fel arfer ond trodd eu llygaid yn wen pan nad oeddent wedi'u cysylltu i'r ymwybyddiaeth cynulliadol. Camgymrodd dynoliaeth, ag oedd ond yn nabod yr Ŵd yn eu ffurf anabledd-telepathi, bresenoldeb y llygaid coch fel haint o'r enw "llygaid-coch". (TV: Planet of the Ood) O dan rheolaeth House, goleuodd llygaid un Ŵd yn werdd. (TV: The Doctor's Wife)

Hanes[]

Hanes cynnar[]

Roedd yr Ŵd yn hil-dorf a ddaeth wrth Sffêr yr Ŵd. (TV: Planet of the Ood)

Yn y 2010au, bu fyw Ŵd yn rhan o stryd trap cudd yn Llundain a gysgododd estronwyr coll ar y Ddaear o dan warchodaeth Maer Me. Yn union fel gweddill preswylwyr y stryd, cuddiwyd yr Ŵd i ymddangos yn ddynol trwy ddefnyddio Lurkworms. Fe'u welwyd gan yr Deuddegfed Doctor wrth ddarparu gwiriadau cynnal a chadw ar Cyberman. (TV: Face the Raven)

Caethiwed[]

I'w hychwanegu.

Digwyddiadau di-ddyddiad[]

Yn dilyn ymddatguddiad Sutekh i'r bydysawd, yr Ŵd oedd un o'r rhywogaethau nodedig gwaredodd y duw yn gyfan gwbl. Yn hwyrach, cawsant eu hadferu gan y Pymthegfed Doctor a Ruby Sunday, gyda'r Doctor ei hun yn croesawi dychweliad yr Ŵd. (TV: Empire of Death)

Yn y Cefn[]

  • Wedi'u cyflwyno yn The Impossible Planet, creuwyd yr Ŵd gan Russell T Davies, gydag ef yn derbyn credyd am eu greu gan ddechrau gyda A Good Man Goes to War.
  • Ar un adeg, ystyriwyd cael yr Ŵd i ymddangos yn y stori deled 42, yno byddent unwaith eto yn cael eu meddu, mae'n debyg gan Torajii. (DWDVDF 5)