Alice O'Donnell oedd technegydd systemau'r Drum, gorsaf gloddio danddŵr yn yr Alban yn 2119.
Yn gwreiddiol, gweithiodd fel deallusydd milwrol, ond fe'i israddiwyd o ganlyniad i hongian cydweithiwr allan o ffenest.
Mi roedd hi'n edmygwr enfawr o UNIT a gwaith y Doctor gydan nhw, a dangosodd hi adnabyddiaeth o hen gymdeithion y Doctor megis Rose Tyler, Martha Jones, ac Amy Pond, o ganlyniad roedd hi wrth ei bodd pan gyrhaeddodd y Deuddegfed Doctor i helpu nhw gyda'u problem ysbrydion.
Pan osododd y Doctor trap ar gyfer ysbrydion ei brif swyddog blaenorol Moran a Tivolian o'r enw Albar Prentis, arhosodd O'Donnell a Cass nôl yn yr ystafell reoli. Ei gwaith hi oedd cau ac agor drysau i alluogi aelodau arall y criw i ddianc yr ysbrydion ac arwain nhw at eu targed nesaf.
Pan benderfynodd y Doctor teithio nôl mewn amser i gyn llifogwyd yr ardal er lles ddatrys dirgelwch a tharddiad yr ysbrydion, O'Donnell a Mason Bennett oedd yr unig rhai a medrodd cyrraedd y TARDIS gyda'r Doctor, ac felly aethon nhw nôl mewn amser gyda fe. (TV: Under the Lake)
Wedi teithio nôl i Gaithness cyn y llifogydd, ymunodd hi'r Doctor a Bennett yn eu hymchwiliad o long ofod y Brenin Bysgotwr cyn ymddangosodd y marciau ar y wal. Cyfarfododd hi hefyd â Prentis, yn fuan cyn ei farwolaeth. Wedi'i farwolaeth, roedd rhaid i O'Donnell rhedeg wrth y Brenin Bysgotwr, ond fe'i lladdwyd ganddo a fe'i throdd yn ysbryd.
Ymddangosodd ysbryd O'Donnell yn y dyfodol gyda'r ysbrydion eraill. Trapiwyd hi yn y cawell Faraday gyda Bennett yn ei ffarwélio, gan gyfaddau ei gariad tuag ati. Dywedodd y Doctor wrth Clara Oswald byddai UNIT yn torri'r cawell Faraday o'r orsaf, cyn thaflu'r cawell i'r gofod. Heb faes magnetig y Ddaear, byddai'r ysbrydion yn afradloni. (TV: Before the Flood)