Aliens of London oedd pedweredd episôd Cyfres 1 Doctor Who.
Mae'r stori yn nodedig am gynnwys cliffhanger gyntaf gyfres Doctor Who BBC Wales, canlyniad o ddechrau'r stori dwy ran gyntaf. Byddai cadw storïau amlran yn y gyfres yn hawlio Davies i ehangu plot y stori a dychwelyd elfen cofiadwy o'r gyfres gwreiddiol.
Mae'r stori yn cyflwyno sawl elfen newydd a fyddai'n dychwelyd i fydysawd Doctor Who. Yn mwyaf amlwg, mae'r teulu Slitheen a fyddai'n dychwelyd mewn storïau Doctor Who a The Sarah Jane Adventures hwyrach. Mae'r stori hon yn nodedig am ymddangosodiad cyntaf Toshiko Sato, cymeriad bydd yn aelod craidd Torchwood Tri yn y sioe deilliedig Torchwood. Yn ychwanegol, cyflwynodd yr episôd Harriet Jones, gwleidiadwr Prydeinig. Roedd hyn hefyd yn gyflwyniad UNIT i'r gyfres newydd.
Un o ewysyllroddion y stori - yn aml wedi'i anghofio gan awduron y gyfres - oedd y rhan o'r stori cyn y teitlau agoriadol. Wrth i'r Nawfed Doctor dychwelyd Rose Tyler blwyddyn yn nyfodol y gwylwyr, mae "presennol" Doctor Who a'i dwy gyfres deilliedig wedi'u gosod blwyddyn yn diweddiarach na'r blwyddyn darlledu, nes Planet of the Dead.
Dyma'r episôd olaf Doctor Who i gael unryw rhan wedi'i recordio yn y BBC Television Centre. (TCH 49)
Crynodeb[]
Mae Rose yn cael ei dychwelyd adref gan y Doctor... blwyddyn rhy hwyr. Ond cyn mae modd iddi esbonio ei habsenoldeb, mae llong ofod yn crasio i mewn i Big Ben, yn achosi argyfwng byd-eang. Gwaeth fyth, mae'r Prif Wenidog wedi diflannu... Mae rhywbeth sinistr yn digwydd yn 10 Stryd Downing, ac wrth i hanes y Doctor o amddiffyn y Ddaear ei oddiweddu o'r diwedd, mae cais gwleidiadwr Harriet Jones am gael atebion yn ei thywys i fyd newydd... llawn estronwyr. Yn y cyfamser, mae gan Rose trafferth wrth ei theulu, gan mae camgymeriadau ei gorffennol yn bygwth torri ei theulu'n deilchion.
Plot[]
I'w hychwanegu
Cast[]
- Doctor Who - Christopher Eccleston
- Rose Tyler - Billie Piper
- Jackie Tyler - Camille Coduri
- Chwyth-baentiwr - Corey Doabe
- Heddwas- Ceris Jones
- Adroddwr - Jack Tarlton
- Adroddwr - Lachele Carl
- Ru - Fiesta Mei Ling
- Bau - Basil Chung
- Matt Baker - Ei hunan
- Andrew Marr - Ei hunan
- Cadfridog Asquith - Rupert Vansittart
- Joseph Green - David Verrey
- Indra Ganesh - Navin Chowdhry
- Harriet Jones - Penelope Wilton
- Margaret Blaine - Annette Badland
- Doctor Sato - Naoko Mori
- Oliver Charles - Eric Potts
- Mickey Smith - Noel Clarke
- Estronwr - Jimmy Vee
- Strickland - Steve Speirs
- Slitheen - Elizabeth Fost, Paul Kasey, Alan Ruscoe
Cast di-glod[]
|
|
|
Cyfeiriadau[]
Unigolion[]
- Mae Jackie yn dweud cafodd hi ei gofyn allan gan Billy Croot.
United Nations Intelligence Taskforce[]
- Mae'r Doctor yn siarad am UNIT, sef yr United Nations Intelligence Taskforce, fel arbennigwyr ar estronwyr. Yn ôl y Doctor, fe weithiodd gydan nhw unwaith, ond na fyddent yn ei adnabod pellach.
Y Doctor[]
- Yn ôl y Doctor, mae wedi cymryd rhan mewn cystadleuthau yfed gyda chyn-Brif Weinidog David Lloyd George.
- Mae'r Doctor yn dweud ei fod yn naw can mlwydd oed.
- Gorfodir y Doctor i wylio clip Blue Peter ar y deledu, ynddo mae Matt Baker yn creu cacen long ofod.
Arc Bad Wolf[]
- Mae bachgen yn chwyth-baentio'r geiriau "BAD WOLF" ar ochr y TARDIS.
Cyfeiriau o'r byd go iawn[]
- Yn dilyn trawiad y long ofod i mewn i'r Thames, mae preswylwyr yr Ystad Powell yn creu baner sydd yn darllen "ELLO E.T.", cyfeiriad at y ffilm E.T. the Extra-Terrestrial.
Nodiadau[]
- Teitl gweithredol yr episôd oedd Aliens of London Part One (World War Three oedd Part Two).
- Hon oedd perfforiad cyntaf Penelope Wilton fel Harriet Jones.
- Hon yw'r tro cyntaf yn y gyfres bod y Doctor yn cael ei fwrw gan fenyw, digwyddiad parhaol yng nghyfresi hwyrach.
- Mae'r episôd yn gorffen ar y cliffhanger cyntaf ers rhan dau Survival, gyda'r stori yn parhau i World War Three. Hefyd, dyma'r achos cyntaf ers Invasion of the Dinosaurs i episôd cyntaf stori peidio rhannu ei enw gyda'r ail rhan (Enw rhan gyntaf Invasion of the Dinosaurs oedd Invasion).
- Poster swyddogol yr heddlu yw cyfeiriad cyntaf y gyfres at yr Ystad Powell. Defnyddiwyd lun o Billie Piper ei hun ar y poster yn lle un o hi'n chwarae Rose.
- Mae'r olygfa lle mae Dr Sato yn gwylio'r mochyn estronaidd yn torri allan o'r drws metel mewn syndod yn cyfeiriad at olygfa unfath yn ffilm teledu Doctor Who 1996 lle mae'r Wythfed Doctor a oedd newydd ei adfywio wedi torri trwy drws metel y fadrodd, gan ofnu weithiwr yr ysbyty.
- Bwriad y tîm cynhyrchu oedd i awgrymu taw'r Prif Weinidog cyfredol, Tony Blair, oedd hyn. Ar sylwebaeth sain DVD yr episôd canlynol, esboniodd y cynhyrchydd Phil Collinson cyflogon nhw actor i chwarae'r corff gan ddeall byddai'n edrych fel Tony Blair. Pan nad oedd y dyn yn edrych mor debyg ag obeithion nhw, ceisiodd y tîm osgoi arddangos y corff yn glir. Mae'r awgrym taw Blair yw'r corff yn aros o fewn llinell Harriet: "I'm hardly one of the babes", cyfeiriad at y nifer fawr o gweidydwyr benywaidd Llafur wnaeth cael myniediad i Dŷ'r Cyffredin yn dilyn enilliad Llafur yn 1997, wedi'u henwi fel "Blair's Babes" gan gyfryngau Prydain. Mae'n cael ei gadarnhau yn TV: Rise of the Cybermen cafodd Tony Blair ei ethol ym mydysawd Doctor Who.
- Yn ôl Russell T Davies yn Doctor Who Magazine, daeth y dewisiad o gael yr ymadrodd Bad Wolf ar ddraws y gyfres wedi digwydd nes dewisiad hap o cael y geiriau "bad wolf" wedi'u graffitio ar ochr y TARDIS. O ganlyniad, cafodd cyfeiriau at Bad Wolf eu hychwanegu i weddill sgriptiau Cyfres 1. Er mae tarddiad yr ymadrodd wedi'i ddatgelu, mae dal yn ddirgel o bam gafodd y geiriau "bad wolf" ei ddewis i fod ar ochr y TARDIS (yn hytrach nag unryw gair arall).
- Mae allwedd y TARDIS yn edrych fel allwedd Yale arferol. Yn y gyfres gwreiddiol, dechreuodd allwedd y TARDIS fel hyn, cyn newid i allwedd estronaidd iawn yn ystod cyfres olaf y Trydydd Doctor a barhaodd am ddau gyfres gyntaf y Pedwerydd Doctor. Yna newidodd yr allwedd nôl i allwedd arferol. Ymddangosodd yr allwedd estronaidd am ymddangosiad olaf yn ystod y ffilm teledu. Nawr mae'r allwedd yn goleuo wrth i'r TARDIS materioli.
- Pan mae'r Doctor yn dechrau'r TARDIS er mwyn mynd i Ysbyty Albion, mae'n plygio ei sgriwdreifar sonig i mewn i gonsol y TARDIS. Yn gwreiddiol byddai "traed" gan y prop er mwyn ei blygio i mewn i'r consol, ond cafodd y syniad hon ei ollwng.
- Ar sawl adeg, mae'r Doctor yn cyfeirio at Mickey fel "Ricky". Yn TV: Rise of the Cybermen, datgelir taw Ricky Smith yw fersiwn eiledol Mickey ym Myd Pete.
- Dyma'r stori gyntaf i archwilio i'r effaith ar weddill teulu cydymaith wrth i'r cydymaith gadael i gael anturiaethau gyda'r Doctor. Yn yr achos hon, mae teulu Rose yn meddwl cafodd hi ei llofruddio gyda Mickey fel drwgdybiwr. Mae effaith teithiau'r cymdeithion ar eu teulu yn thema hanfodol o gyfnod Russell T Davies.
- Dyma 700fed episôd Doctor Who.
- Gan ddechrau yn yr episôd hon (wedi'i darlledu yn 2005, ond wedi'i gosod yn 2006), mae'r rhan fwyaf o storïau'r "presennol" yn cymryd lle tua blwyddyn ar ôl y flwyddyn darllediad. Er ni chafodd hyn ei ymosod yn gyson, mae'r dadleoliad hefyd yn bresennol am y gyfresi deilliedig Torchwood a The Sarah Jane Adventures. Byddai hyn yn barhau nes The End of Time, lle wnaeth storïau'r "presennol" adlunio unwaith eto gyda'r dyddiad darlledu, gyda'r un peth yn digwydd ar gyfer Cyfres 4 The Sarah Jane Adventures a Chyfres 3 Torchwood.
- Dyma ymddangosiad cyntaf UNIT ar sgrîn ers TV: Battlefield. Mae'r Doctor yn dynodi'r enw llawn fel United Nations Intelligence Taskforce. Dyma defnyddiad olaf yr enw yma, gan erbyn yr amser cafodd yr enw llawn ei ddefnyddio yn y gyfres teledu eto yn TV: The Sontaran Stratagem, newidwyd yr enw i UNified Intelligence Taskforce. (Yn ôl A Brief History of Time Travel, nad oedd yr UN yn fodlon cael ei ene wedi'i cysylltu i asiantaeth ffuglen).
- Yn dilyn y cliffhanger yn syth oedd trelar ar gyfer World War Three. Cafodd y dewisiad hon ei farnu gan ddangoswyd gymeriadau'r stori wedi goroesi'r sefyllfaoedd bywyd-fygythiol a ddangoswyd eiliadau'n gynt. O ganlyniad, dechreuodd y trelars ar gyfer storïau dwy ran canlynol ei rhoi ar ôl y credydau, ar wahân i Bad Wolf a chynhwysodd trelar yn yr un lleoliad ag Aliens of London a Rise of the Cybermen a na chynhwysodd trelar o gwbl.
- Bydd Christopher Eccleston a Naoko Mori yn ymddangos wedyn gyda'i gilydd fel John Lennon a Yoko Ono yn Lennon Naked.
- Y golygfa lle mae'r Doctor yn erlid y mochyn estronaidd oedd y golygfa cyntaf ffilmiodd Christopher Eccleston ar gyfer y gyfres.
Cyfartaledd gwylio[]
- BBC One dros nos: 7 miliwn
- Cyfarteledd DU terfynol: 7.63 miliwn
Lleoliadau ffilmio[]
- Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Heol Casnewydd, Caerdydd
- Stryd John Adam, Llundain
- Victoria Enbankment, Llundain
- Brandon Estate, Llundain
- Castell Hensol, Sir Forgannwg
- Unit Q2, Imperial Way, Casnewydd
- Channel View Flats, Caerdydd
- West Bute Street, Caerdydd
Cysylltiadau[]
- Mae Rose yn cofio mynd i'r blwyddyn 5,000,000,000. (TV: The End of the World)
- Datgelir wedyn taw aelod Torchwood Tri yw "Dr Sato" yn cyflawni gwaith argudd. (TV: Everything Changes) Yn wreiddiol, ddylai Dr Owen Harper wedi gwneud yr awtopsi ond roedd ganddo salwch bore drannoeth ac ond yn diweddar dechreuodd ar y tîm. (TV: Exit Wounds)
- Yn dilyn ymchwilio ar y Doctor, mae Mickey wedi dysgu bod y Doctor wedi gweithio ar gyfer UNIT. (TV: Spearhead From Space ayyb) Mae'r Doctor yn honni na fyddent yn ei adnabyddu gan mae wedi "newid llawer ers yr hen ddyddiau".
- Hagrwyd y TARDIS yn flaenorol gyda sgriblau sialc (TV: The Time Warrior, The Leisure Hive), graffiti (TV: Paradise Towers) a phaent pinc. (TV: The Happiness Patrol) Ni fydd hyn y tro olaf byddai'r TARDIS yn cael ei phaeintio chwaeth. (TV: Face the Raven)
- Bydd y Doctor yn ymweld ag Ysbyty Albion eto yn 1941. (TV: The Empty Child / The Doctor Dances)
- Gwelir y trawiad (a'r digwyddiadau canlynol) gan Elton Pope o safbwynt gwahanol. (TV: Love & Monsters)
- Mae'r Doctor yn dweud wrth Rose ei fod yn 900 oed, er mae wedi dynodi oedran henach yn flaenorol. (TV: Time and the Rani)
- Mae Margret yn nodi ei fod yn anghenrheidiol i "ni" cywiro'r cyfnewidiad nwy. Yn hwyrach, bydd y Slitheen yn defnyddio siwtiau croen tenach heb gyfnewidiad nwy. (TV: The Lost Boy)
- Yn ystod ei ymgorfforiad cyntaf, ymwelodd y Doctor â 10 Downing Street yng Ngorffennaf 1900 gyda Steven Taylor a Vicki Pallister. (SAIN: Upstairs)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
- Cafodd Aliens of London, ynghyd World War Three a Dalek, eu rhyddhau ar DVD ar 13 Mehefin 2005 (DU) ac ar 7 Tachwedd 2006.
- Yn hwyrach, cafodd yr episôd ei rhyddhau gyda gweddill Cyfres 1 yn rhan o DVD Doctor Who: The Complete First Series ar 21 Tachwedd 2005.
- Cafodd yr episôd ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #2.
- Rhyddhawyd yr episôd ar Doctor Who: Series 1-4 ym mis Hydref 2009, ac wedyn ar blu-ray yn rhan o Doctor Who: Complete Series 1-7 ar 4 Tachwedd 2013 (DU) ac ar 5 Tachwedd 2013 (UDA).
- Ar 20 Mawrth 2017 cafodd yr episôd ei rhyddhau gyda gweddill Cyfres 1 mewn Steelbook.
Troednodau[]
|
|