Yr Angylion Wylo oedd rywogaeth dynolffurf hynod o bwerus gyda'r abl clo-cwantwm, wedi'u henwi ar ôl y tueddiad o orchuddio eu gwynebau o ganlyniad i'r angenreidrwydd i osgoi trapio ei gilydd mewn ffurf maenedig tragwyddol trwy edrych at ei gilydd. Rhodd hon i'r Angylion eu hymddangosiad "wylo" arwyddocaol. Roedd y rhywogaeth yn adnabyddus o fod yn seicopathiaid llofruddiol "caredig", gan gael gwared o'u haberthau yn "dosturiog" trwy eu danfon i'r gorffennol a gadael iddynt byw eu bywydau yn llawn, ond mewn cyfnod amser cynharach. Hawliodd hon i'r angylion bwydo ar olion ynni amser yr aberth. Serch hynny, pan roedd yr egni posib llawer yn llai na fynhonnell eiledol i fwydo ar, byddai'r Angylion yn lladd mewn fyrdd eraill, megis torri gyddfau.
Bioleg[]
Gydag oedran bron mor hynafol â'r bydysawd gyfan, edrychodd yr Angylion Wylo a gafodd eu creu wrth gerfluniau arferol union yr un erychiad â chyn cafon nhw eu cymryd drosodd. Edrychodd Angylion eraill fel cerfluniau cerrig o angylion dynolffurf gydag adenydd yn gwisgo citon. Edrychodd babanod yr angylion fel cerub - fersiwn bach a noeth o'r Angylion hyn. Roedd gan y babanod yr un ablau â'r oedolion, ond pan nad oedd modd eu gweld, byddai camau eu traed a'u chwethin plentynaidd yn cael eu clywed. Ar adegau bydd Angel yn cymryd ffurf cerfluniau mwy o faint, megis y Cerflun Rhyddid. (TV: The Angels Take Manhattan) Wrth fod yn ffyrnig, byddai Angel Wylo yn ysgyrnu eu dannedd a'u crafangau. (TV: Blink)
Yn ôl River Song, person oedd gyda mynediad i'r Book of the Weeping Angels penderfynol, mewn gwirionedd, doedd yr Angylion dim yn garreg, a chymeron nhw'r ffurff hwnnw wrth cael eu cloi'n cwantwm er mwyn amddiffyn eu hun trwy guddio fel cerfluniau. O ganlyniad, nododd hi byddent yn "dod" yn cerfluniau yr eiliad syllodd unryw bywyd synhwyrol arnynt, cyn cael eu rhyddhau i'w gwir ffurf pan nad oedd neb yn edrych arnynt. (WC: Monster File: Weeping Angels)
Heb eu cyflenwad bwyd arferol, byddai Angel Wylo yn gwanhau o newyndod, gyda'r carreg yn difrodi ar ddraws y flynyddoedd. Weithiau bydd y difrod yma digon trwm fel na fyddai Angel eisioes yn adnabyddadwy fel Angel Wylo rhagor, gan golli eu hadenydd ac edrych fel cerfluniau hynafolm arferol. Nid oedd gan Angel gwan yr un buanedd â'u cyfatebwyr "iachus". Ond, roedd modd iddynt atgyfnerthu eu cryfder a'u hymddangosiad os cawsant ffynhonnell egni newydd. Awr yn unig oedd angen ar Angel i adfer yn gyfan gwbl. (TV: The Angels Take Manhattan) Roedd modd i wendid ymyrru ar eu habl i ddanfon pobl nôl mewn amser. (TV: The Angels Take Manhattan)
Pwerau ac ablau[]
Cyffyrddiad Angel[]
Roedd modd i'r Angylion Wylo dadleoli eu haberthau nôl mewn amser gydag un cyffyrddiad yn unig. Byddent wedyn yn bwyta'r egni potensial wrth y bywydau bydd eu haberth wedi byw. Roedd modd iddynt symyd pobl ar ddraws y gofod yn ychwanegol i amser, er enghraifft pan gyffyrddwyd Kathy yn Llundain, cafodd hi ei dadleoli Hull yn 1920. (TV: Blink)
Mewn rhai achosion, cafodd arberthau eu traswgludo ar ddraws pellter heb eu symud trwy amser. Roedd yr abl hon yn ddefnyddiol wrth geisio arwain yr aberth, megis Rory Williams, at ffermydd egni cwantwm, fel Winter Quay yn Efrog Newydd. (TV: The Angels Take Manhattan) Ar achosion eraill, cafodd aberthau eu trawsgludo nôl mewn amser i union yr un lle, gan eu hynysu'n fwriadol, fel digwyddodd yn fferm egni cwantwm, (TV: The Angels Take Manhattan) neu gyda ynysiad cyflawn ar gyfer alltynnu cwantwm. (TV: Village of the Angels)
Tybiodd y Degfed Doctor bydd cael cyffyrddiad gan yr un Angel yn danfon pobl i'r un amser, yn union fel digwyddodd iddo fe, Martha Jones, a Billy Shipton pan gafon nhw i gyd eu danfon i 1969. (TV: Blink) Roedd y theori yma i'w weld yn ddilys wrth i Rory Williams ac Amy Pond cael eu danfon i'r 1930au. (TV: The Angels Take Manhattan) O achos hon, cafon nhw eu galw "seicopathiaid mwyaf caredig y bydysawd" gan y Pumed Doctor. (SAIN: Fallen Angels)
Dadlodd ffynonellau gwahanol ar effaith ail gyffyrddiad wrth Angel Wylo. Yn Medderton, wedi'u hynysu gan yr Angylion wrth y gofod ac amser, byddai ail gyffyrddiad yn achosi person i droi'n garreg a chwalu, gan ddinistrio Gerald a Jean yn 1901, yn lle eu danfon nôl ail waith. (TV: Village of the Angels) Serch hynny, yn Efrog Newydd, cafodd Rory Williams ei gyffwrdd sawl gwaith, gan gael ei drawsgludo o Central Park i stryd arall, wedyn i Winter Quay, ac yn dilyn hynny yn pellach nôl mewn amser yn yr un lleoliad, cyn i amser cael ei newid gan Rory ac Amy Williams iau, wrth iddynt gwenwynnu'r bwyd trwy greu baradocs. (TV: The Angels Take Manhattan) Mae'n bosib bod y dwy effaith yn opsiwn, gyda'r Angel ei hun yn dewis.
Clo-cwantwm[]
Roedd gan yr Angylion Wylo'r amddiffyniad unigryw perffaith: clo-cwantwm, ag achosodd Angel i droi i garreg wrth gael eu gweld, (TV: Blink) hyd yn oed yn anuniongyrchol. (TV: Flesh and Stone, Village of the Angels) O ganlyniad, nad oedd modd iddynt ymosod tra'n cael eu gweld, ond hefyd sicrhaodd nad oedd modd eu hanafu gan nad oedd modd lladd carreg. (TV: Blink)
O ganlyniad i un o anfanteision y clo-cwantwm roedd rhaid i'r Angylion Wylo orchuddio eu llygaid o hyd, er mwyn sicrhau na fyddent yn cychwyn amddiffyniau ei gilydd. Os edrychodd dwy Angel Wylo neu fwy at ei gilydd, bydden nhw'n sownd am fyth. (TV: Blink, SAIN: Fallen Angels) Achos y ffaith yma, meddyliodd y Degfed Doctor am yr angylion fel myrnwyr mwyaf unig y bydysawd. (TV: Blink)
Pan nad oedd neb yn eu gwylio, roedd modd i Angel Wylo symyd yn hynod o gyflym, gan deithio ar ddraws pellter mewn fflach. (TV: Blink) Ond, yn aml byddent yn arafu wrth nesáu at eu hysglyfaeth, fel petai roedden nhw'n "chwarae gyda'u bwyd". (SAIN: Fallen Angels)
Cychwynodd effaith y clo-cwantwm hefyd pan gafodd Angel eu gwylio trwy gyfrwng fel gwydr, neu wrth leoliad hollol wahanol megis trwy fonitor teledu cylch cyfyng. (COMIG: A Little Help from My Friends, TV: Flesh and Stone, Village of the Angels) Byddai Angel hefyd yn cloi wrth gredu bod nhw'n cael eu gwylio. Pan esgusodd Amy Pond gweld yr Angylion Wylo, troesant i garreg, cyn dechrau symud yn garcus wrth sylweddoli nad oedd modd i Amy eu gweld. (TV: Flesh and Stone)
Roedd modd i aberthau osgoi'r Angylion trwy wincio yn lle gorfodi eu hun i gadw eu llygaid ar agor a pheidio blincio. Osgodd y Degfed Doctor yr Angylion Wylo yn y modd yma yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, (COMIG: The Weeping of Mons) a wnaeth Amy Pond yr un peth am fach, gan straffaglu'n enfawr. (TV: The Time of Angels)
Cryfder corfforol[]
Ar adegau pan oedd gan Angel digon o fwyd, heb angen ar unrhyw adnoddau eraill, bydd tueddiad gan Angel i ladd trwy dorri gwddf aberth. Roedd cryfder yr Angylion yn amlwg, gyda'r abl i dorri trwy ddrysau dur, gorfodi olwynion a gafodd eu magneteiddio i droi, a thori gyddfau heb drafferth. (TV: The Time of Angels / Flesh and Stone, 'The Lost)
Pwerau seicig[]
Wrth edrychodd aberthau ar lygaid Angel, roedd modd i'r Angel heintio'u canolfannau gweledol, gan greu delwedd ohonynt yn yr ymennydd. Byddai modd i'r Angel dylanwadu'r aberth wrth dyfu, nes gorffen torogi lle byddai modd i'r Angel dianc wrth gorff y person gan eu ladd. Roedd modd i atal yr abl hon drwy ddiffodd y ganolfan gweledol, sef, drwy gau llygaid. Os gadwyd y llygaid ar agor, tybiodd yr Unarddegfed Doctor bydd y broses yn parhau. (TV: The Time of Angels / Flesh and Stone)
Roedd esiamplau o ddylanwad meddwl yn cynnwys cael yr aberth i gyfri lawr y munudau nes eu marwolaeth, a gwneud i'r aberth dychmygu roedd un o'u hangellion yn garreg. Byddent hefyd yn gwrthannog eu haberth rhag cau eu llygaid, gan byddai hwnnw yn gwanhau eu dynanwad. (TV: The Time of Angels / Flesh and Stone)
Unwaith bu fyw Angel Wylo anfadol yn ymennydd Claire Brown, ac achosodd iddi dychmygu roedd ganddi adenydd Angel. Wrth ddechrau drawsnewid, dechreuodd rhannau o Claire troi'n garreg. (TV: Village of the Angels) Yn wahanol i achos Amy Pond, a nag aeth mor pell â hon, (TV: Flesh and Stone) roedd modd i bawb gweld y trawsnewidiaeth hon. (TV: Village of the Angels)
Mewn un achos unigryw, roedd modd i un Angel unigol haentio'r robotiaid, Heavenly Host, gyda Gabriel yn unig yn llwyddo gwrthsefyll y newidiad. Gan roedd gan y Host ymddangosiad angylaidd yn barod, roedd y newidiad yn cynnwys carreg hylifol yn gostwng o'r gwyneb ac yn eu hamgylchu; yn lle Angel yn neidio wrth eu pennau. (COMIC: A Confusion of Angels)
Lledaeniad[]
Unwaith, nododd River Song roedd gan bob blaned Angylion Wylo yn sleifio trwy'r tywyllwch, gan rybuddio roedd modd i unryw cerflun byddai person yn gweld bod yn Angel Wylo mewn gwirionedd, yn aros i unrywun blincio neu droi i ffwrdd. (WC: Monster File: Weeping Angel) Hefyd awgrymodd hi roedd modd i'r Angylion troi cerfluniau arferol i mewn i Angylion Wylo, neu eu hanheddu ar leiaf. (TV: The Angels Take Manhattan)
Byddai unrywbeth gydag edrychiad Angel Wylo, gan gynnwys luniau a fideos, yn ennill ablau Angel, ac yn y pendraw, oni bai na chafodd y delwedd ei dorri, byddai'n dod yn Angel go iawn hefyd. (TV: The Time of Angels, GÊM: The Lonely Assassins) Roedd modd i un Angel dianc wrth lun i mewn i ffôn symudol. (GÊM: The Lonely Assassins) lle roedd modd iddynt symud yn digidol, gan lygru'r data, (GÊM: The Lonely Assassins: "A weeping what now?") cyn ceisio dianc i mewn i'r rhwydwaith ffonau. (GÊM: The Lonely Assassins: "Escape? Where to?") Bydd rhai ceisiadau i ddinistrio delwedd, er enghraifft y Trydydd ar Ddegfed Doctor yn llosgi darluniad Claire Brown, yn cryfhau'r Angel, gan greu rith tân o'r Angel Wylo yn yr achos yma. (TV: Village of the Angels) Er gymerodd hynod o ymdrech, gydag amser roedd modd i Angel Wylo gadael y delwedd, gan gymryd ffurf ffisegol. (Tv: The Time of Angels, Village of the Angels)
Roedd hyd yn oedd dychymyg digon manwl yn hawlio Angel Wylo i ddechrau ffurfio o fewn ymenydd person, gan eu trawsffurfio yn araf. Dechreuodd Claire Brown cael rhagargoelion o'r Angylion Wylo a'r y TARDIS, yn dilyn cynnal Angel Wylo anfadol yn ffoi wrth y Division. (TV: Village of the Angels)
Roedd modd hefyd creu Angel newydd pan byddai Angel yn gweld ei hun, sef mewn drych. Bydd yr Angel yn cadw ati i syllu at ei hun yn dragwyddol oni bai i'r adlewyrchiad parhau i'w gwylio; ac felly, unwaith dechreuodd yr Angel newydd bodoli, os gadwodd yr Angel i syllu at yr adlewyrchiad, byddai mwy yn cael eu creu. (PRÔS: Magic of the Angels, SAIN: Fallen Angels)
Os gafodd Angel eu trapio o fewn CCTV, byddai modd iddynt dilyn eu haberth o fewn lluniau'r camera, ond dim yn y byd go iawn. Unwaith, cafodd Mark Whitaker ei ddanfon nôl mewn amser gan Angel a'i dreuliodd o fewn systemau CCTV'r stryd uchel. Ond, wnaeth cost yr ymdrech i wneud hon achosi i'r Angel ymffurfio i'r byd go iawn cyn falu'r lludw. (PRÔS: Touched by an Angel) Os recordiwyd fideo o Angel Wylo, wedyn unwaith roedd y fideo yn Angel go iawn, roedd modd i'r Angel rheoli unryw system ag oedd wedi arnoethi'n uniongyrchol i'r recordiad gyda swmp o rym difrifol - wnaeth tafluniad o Angel a gafodd eu creu wrth recordiad lwyddo i farwgloi systemau cyfan long er nad oedd ganddo unryw sêl farwglo, a gwarchod waliau'r llong rhag dulliau mewndreiddiad megis torri thermal. (TV: The Time of Angels)
Os fwytodd Angel Wylo ar Arglwydd Amser, roedd modd i'r Angel defnyddio egni'r ymgorfforiadau'r dyfodol er mwyn creu mwy o'u hun. Digwydodd hon pan gafodd y Chweched Doctor nôl mewn amser cyn cael ei dywys gan y Degfed Doctor yn ei TARDIS, lle cafodd saith Angel eu creu, yn hafal i'r niferoedd o ymgorfforiadau ag oedd yn eu gwahanu. Cafodd 49 Angel eu creu drwy afleoli'r dau ymgorfforiad. (SAIN: Wink)
Cyfathrebu[]
Nid oedd gan Angylion Wylo lleisiau naturiol dealladwy, (TV: The Time of Angels) ond roedd modd iddyn lleisio sgrechiadau ar gyfer chwerthin, (TV: Flesh and Stone) a roedd modd i blant chwerthin mewn modd plentynaidd. (TV: The Angels Take Manhattan)
Serch hynny, roedd modd i Angel Wylo cymryd ymwybyddiaeth - a llais - rhywun lladdon nhw. (TV: The Time of Angels; SAIN: The Side of Angels) Yn union fel gyda Cleric Bob, roedd modd i Angel siarad trwy ymwybyddiaeth eraill er mwyn cyfathrebu gydag eraill. Dewisodd yr Angel defnyddio Bob yn penodol er mwyn ymgracio yr Unarddegfed Doctor, gan ddangos yr abl i ddeall teimladau eraill. (TV: The Time of Angels) Mewn achos arall, cymerodd Angel Wylo llais y person roeddent yn ceisio cyfathrebu gyda, gan chwarae llais ei hun ar ei deledu er mwyn cael trafodaeth gydag ef, cyn ffurfio. (TV: Village of the Angels)
Roedd modd iddynt cyfathrebu gyda'i gilydd dros pellderau hir, hyd yn oed pan roeddent wedi rhewi. (TV: The Angels Take Manhattan)
Galluoedd eraill[]
Roedd gan gusan Angel Wylo sawl effaith ac abl, gan gynnwys troi'r pobl cusanwyd i ddyblau o uniogolion erail, gydan nhw yn marw cwpl o wythnosau eraill; roedd modd i gusan Angel amsugno egni bywyd o'u haberth, gan eu chwalu'n lludw. (PRÔS: The Angel's Kiss: A Melody Malone Mystery)
Roedd yr Angylion yn gallu gweld yn ardderchog yn nhywyllwch. Roedd modd i Angel mordwyo ar ddraws tirwedd heb unrhyw golau o gwbl, tra ni fyddai aberth yn gweld dim. (TV: Blink, ayyb)
Ffynonellau egni eraill[]
Roedd modd i Angel Wylo hefyd bwydo ar ffynonellau egni eraill, megis ymbelydredd Llong Ofod dosbarth Galaethol, neu drydan wrth ridiau pŵer a dyfeisiau symudol, fel torchau. Achosodd hon i oleuadau diffodd, yn hawlio Angel i osgoi eu clo-cwantwm. (TV: Blink, The Time of Angels / Flesh and Stone, Village of the Angels)
Awgrymodd un adroddiad roedd modd i Angel bwydo ar egni paradocs amserol, (PRÔS: Touched by an Angel) Ar y llaw arall, dangosodd fynhonell arall roedd modd i baradocs gwenwynu'r bwyd, gan ladd y mwyafrif o'r Angylion Wylo. (TV: The Angels Take Manhattan)
Gwendidau[]
Lladd Angel[]
O achos eu habl amddiffynol, roedd yr Angylion Wylo yn annodd iawn i ladd, gan fod yn imiwn i bob un arf. Serch hynny, roedd modd iddynt marw o newyn os na chafon nhw unryw ynni amser am sbel. (TV: The Time of Angels / Flesh and Stone) Roedd hefyd yn bosib i drechu Angel Wylo trwy eu gorfodi dwy Angel i edrych ar ei gilydd, gan fyddent wedyn yn edrych ar ei gilydd yn fyth bythol yn parhau i ysbarduno clo-gwantwm y llall. (TV: Blink) Modd arall o'u trechu, a'r unig fordd o'u lladd ar wahân i newyn, oedd i greu paradocs a fyddai'n gwenwynnu'r ynni amser fwydon nhw ar. (TV: The Angels Take Manhattan) Pan roedd yr Angylion wedi llwgu, roedd modd eu niweidio gan renedau. (COMIG: The Weeping Angels of Mons) A roedd Racsacoricoffalapatoriad yn digon cryf i ddibennu Angel Wylo mewn un ysgythriad. (COMIG: A Confusion of Angels)
Serch hynny, roedd yr Angylion Wylo i'w weld yn gallu ailffurfio eu hun ar ôl cael eu adfeilio yn eu ffurf carreg. Roedd modd i Angel ailffurfio ei hun ar ôl cael ei dinistrio gan sgriwdreifar sonig y Doctor, er roedd ei braich dde ar goll. (TV: Good as Gold)
Cafodd rŵp o Angylion eu lladd (neu wedi eu dirwasgu i'r pwynt nad oedd modd i'w hymwybyddiaethau effeithio neb rhagor) pan ddefnyddiodd y Doctor deledu cylch cyfyng i'w ffilmio, wrth gael yr Angylion i edrych ar ei gilydd trwy sgriniau. Achosodd hon i'r Angylion i doddi i mewn i'r sgriniau. (PRÔS: Touched by an Angel)
Hanes[]
Hanes Cynnar[]
Yn ôl yr Arglwyddi Amser, esblygodd yr Angylion Wylo yn ystod Gwawr Amser. (SAIN: The Side of the Angels) Serch hynny, roedd gan yr Angylion Wylo statws chwedlonol o fewn cymdeithas yr Arglwyddi Amser, gyda'r Pedwerydd Doctor yn amau eu bodolaeth. (COMIG: Gaze of the Medusa) Mae'n bosib daeth yr Angylion, neu rhan ohonynt, wrth bla fel gwelwyd ar y blaned Gehanna. (PRÔS: Grey Matter)
Yn ôl rhith dangosodd y Brenhines Cárnival, gofalodd hil o ryfelwyr wedi'u paentio am ardd y Mamothiaid Gwreiddiol cyn gorffennodd yr Arglwyddi Amser y Amseroedd Tywyll trwy resymoli'r bydysawd. (PRÔS: Christmas on a Rational Planet) O'r rhai ag oroesodd rhesymoli'r bydysawd, roedd ond modd iddynt symyd pan nad oeddent yn cael eu gweld gan fodolaeth arall. Tra arosodd y "rhyfelwyr" o fewn deyrnas amser-eiledol. (PRÔS: Cobweb and Ivory) Awgrymodd Compassion roedd modd iddynt mynedu'r bydysawd ehangach, gan ddefnyddiodd hi lu o "filwyr terracota" ag oedd ond yn gallu symud pan nad oedd yn cael eu gwylio. (PRÔS: Warring States)
Roedd yr Angylion Wylo yn ymglwm â the Division, mudiad Galiffreiaidd (TV: Village of the Angels) a helpodd sefydlu amser rhesymol. (TV: Once, Upon Time) Dechreuodd yr Angylion gweithio ar gyfer Division. (TV: Village of the Angels)
Pan ffurfiwyd y Ddaear gan asteroidau, roedd tair Angel Wylo wedi'u trapio o fewn y blaned. (SAIN: Fallen Angels)
Yn yr Hen Aifft, cafodd Angel Wylo ei dod o hyd iddi yn mynedfa pentref. Yn ystod eclips, lladdwyd y rhan fwyaf o'r bentref gan Angel, ar wahân i un ferch. Gan ddilyn yr unig oroesydd i feddfan yr ymerodwr, cafodd yr Angel ei threchu pan aildrefnodd yr ferch ddrychau, gan drapio'r Angel yn ei ffurf carreg. Er hyn, edrychodd y ferch i mewn i lygaid yr Angel, ac felly fe'i hawgrymwyd trodd y ferch ei hun yn Angel Wylo gan aros gyda'r Angel. (PRÔS: The Mirrored Room)
Yn ei hadran ar yr Angylion Wylo, awgrymodd y llyfr The Secret Lives of Monsters, cafodd chwedl Medusa ei hysbrydoli gan "fwystfil go iawn" ag oedd gan yr abl i droi bobl yn garreg gydag un edrychiad yn unig. (PRÔS: The Secret Lives of Monsters)
16eg ganrif[]
Yn ystod y Dadeni Dysg, cafodd tair Angel a gafodd eu trapio o fewn y Ddaear wrth ffurfio eu darganfod o fewn blociau marmor. Gan feddwl mai gwyrth oedd hon, ffurfiodd grŵp o offeiriaid a chredwyr Drefn y Dair Angel, cyn comisiynnu Michaelangelo i "ryddhau" yr Angylion. Cafodd yr Angylion eu trechu gan y Pumed Doctor a'u cloi o dan feddogofâu'r Cappella Sistina (SAIN: Fallen Angels)
Ar 23 Mawrth 1526, ceisiodd yr Unarddegfed Doctor ac Amy Pond dod o hyd i beth digwyddodd i ddinas coll Anglica. Yno, daeth nhw o hyd i Angylion Wylo, gyda Amy Pond yn cael ei danfon i 1446. (GÊM: Angels in the Shadows)
19eg ganrif[]
Yn ôl trawsysgrifiad cynhyrchodd yr North West Historical Society o erthygl gan The Manchester Guardian ar suddiad yr Elysium ar 17 Gorffennaf 1888, roedd rai adroddiadau o ryw fath o gerflun angylaidd yn dod o'r murddun llong; serch hynny, roedd y papur newydd go iawn wedi rhoi rheswm y ddamwain ar storm rym 12 yn lle. (PRÔS: Pride of Mayfield Star Lines Beached in Devastating Storm)
Yn 1898, ceisiodd Angel Wylo ymosod ar yr Unarddegfed Doctor ac Amy wrth geision nhw tynnu llun o ysbrudion ar gyfer Cymdeithas Ymchwilio Seicig. (PRÔS: Suddenly in a Graveyard)
20fed ganrif[]
Yn 1909, cynhwysodd y Galerie d'Art de Parisiennes bortread o Angel Wylo. (COMIG: Gallery)
Yn Awst 1914, cyn ac yn ystod Brwydr Mons yng Ngwlad Belg, gwelwyd Anylion Wylo yn hela milwyr o'r dwy ochr. Oherwydd hyn, credodd rhai fod yr Angylion wedi dod i'w hachub rhag erchyllion y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn hwyrach yn y rhyfel, yng Nghorffennaf 1916, gwynebodd y Degfed Doctor a Gabby Gonzalez lu o Angylion Wylo yn hela aberthion yn nhref St Michel yn Ffrainc. Danfonwyd un o'r milwyr i Rufain yn y flwyddyn 97 yng nghanol y Colosseum, a danfonwyd un arall i 1535 lle gafodd ei gyrrhaeddiad ei weld gan dorf, ac felly fe gafodd ei losgu fel gwrach. (COMIG: The Weeping Angels of Mons)
Ym Mharis, 1923, prynnodd yr Unarddegfed Doctor swmp o gomigau (COMIG: The Doctor Shops for Comics) a gynhwysodd Angel Wylo bychain. Tra'n rhedeg wrth y Voord, agorodd Gabby Gonzalez y paced yma, gan achosi'r Angel Wylo i dyfu a'u afleoli nôl mewn amser i'r cyfarfod rhwng cymdeithion y Doctor ym Mharis, 1923. Tybiodd Gabby rowd yr Angel yno ar bwrpas i'w thywys hi nôl i'r amser cywir er mwyn newid hanes. Yn dilyn trechu Deuddegfed Doctor eiledol, addodd yr Unarddegfed Doctor i ddod o hyd i'r Angel Wylo cywir cyn plannu'r Angel er mwyn i amser cadw ati ar y cwrs presennol. (COMIG: Four Doctors) Yn dilyn cael yr Angel Wylo cywir wrth Amgueddfa yr Angylion Wylo, rhodd Alice Obiefune yr Angel yn barod ar gyfer Gabby i dod o hyd iddi. Tra yn y pecyn, cadwyd yr Angel yn llonydd gan ddyfeis gwylio. (COMIG: The Doctor Shops for Angels)
Yn 1938, defnyddiodd yr Angylion Wylo Ddinas Efrog Newydd fel "fferm" oherwydd ei phoblogaeth enfawr, gan drawsffurfio rhan fwyaf o gerfluniau'r ddinas i Angylion Wylo. Byddent yn cadw aberthau wedi'u carcharu yn Winter Quay cyn danfon yr aberthau nôl mewn amser os geision nhw dianc. (TV: The Angels Take Manhattan) Yn ystod yr adeg hon, defnyddiodd Max Kliener gusan Angel Wylo i drawsnewid pobl yn ddyblau o'i berfformwyr a gwarchodion. Pan ymchwiliodd River Song i Kliener, defnyddiodd hi ei minlliw rhithbair er mwyn ei achosi i gusanu'r Angel roedd ef yn defnyddio: gan hawlio'r Angel i ddraenio ynni bywyd Kleiner a'i ladd. (PRÔS: The Angel's Kiss: A Melody Malone Mystery)
Roedd yr Arglwydd Troseddau Julius Grayle hefyd yn berchen ar yr un Angel fwydodd Kleiner a sawl Angel ifanc. Fe gadwodd yr oedolyn yn ei swyddfa mewn llawhualau, gan ei thosturio a'i hanafu, a fe gadwodd y babanod wedi'u cloi yn ei seler tywyll. Yn ymateb i sgrechiadau'r Angel, sbïodd o leiaf dwy Angel Wylo arall ar gartref Grayle, yn cuddio fel cerfluniau arferol. Yn y pendraw, ymosodon nhw pan adawyd y tŷ heb amddiffyniadau.
Yn fuan yn dilyn ymosodiad yr Anylion ar blasdy Grayle, teithiodd yr Unarddegfed Doctor, Amy, River, a Rory Williams i Winter Quay, lle cafon nhw eu trapio gan yr Angylion. Serch hynny, neidiodd Rory wrth do Winter Quay, ac felly fe grëodd paradocs amser (gan roedd llinell amser eiledol gyda'r Angylion yn cadw Rory yn Winter Quay nes fu farw yn bodoli'n barod). Canlyniad hon oedd Rory yn gwenwynu a lladd y mwyafrif o'r Angylion. (TV: The Angels Take Manhattan)
Peintiodd yr Artist Ivan Stockinsky y llun Glimpsed in a Graveyard yn darlunio dwy gerflun mewn siâp angylion gydag adenydd yn sefyll tu fas i feddfan. Roedd y darlun yn hynod o wahanol i'r steil arferol fe sefydlodd trwy ei fywyd. Cafodd ei ddanfon nôl mewn amser gan Angel, gan adael y darlun ar yr îsl ac felly tybiodd pobl fe gafodd ei fradlofruddio gan asiantau Joseph Stalin. Serch hynny, arhosodd ond un "cerflun" Angel yn unig y tu fas i'r beddfan, gyda neb yn esbonio lle aeth yr un arall. (PRÔS: The Secret Lives of Monsters)
Yn ystod yr 1970au, ffurfiodd Angylion Wylo Dinas Efrog Newydd gynghrair gyda Chardinal Ollistra er mwyn pweru adeiladau Galiffreiaidd a fyddai'n eu gwarchod rhag dinistriad y bydysawd, ar gyfer defnyddio pobl fel ynni amser posib. Cyfathrebon nhw gyda Ollistra a'r Mynach trwy gyfathrebydd cwantwm. Pan daeth yr Eleven, torodd y gynghrair gan adawodd ef i'r Angylion bwydo ar aelodau Enclave ag oedd yn cuddio yn y dinas. Bwydodd yr Angylion ar y Mynach, gan ei afleolu trwy amser, a wnaeth rhoi swmp enfawr o ynni iddynt. (SAIN: The Side of the Angels)
21ain ganrif[]
Cechmyn Wester Drumlins[]
Dechreuodd grŵp fach o Angylion Wylo breswylio yn Wester Drumlins, (TV: Blink) nad oedd wedi'u preswylio ynddo ers "diflannodd" Mr Satchwell a Mrs Satchwell yn hwyr yn yr 1960au. (PRÔS: The Secret Lives of Monsters) Roedd yr ardal yn gartref i sawl digwyddiad rhyfedd ers hwyr yn yr 1930au. (PRÔS: The Very Real Mystery of Wester Drumlins)
Yn ddiolch i bresenoldeb yr Angylion, (TV: Blink) dechreuodd Wester Drumlins cael ei meddwl am fel lleoliad arswydus, gyda nifer o'r pobl ag aeth i'r lle ar goll (PRÔS: The Secret Lives of Monsters) yn dilyn cael eu cyffwrdd gan yr Angylion. (TV: Blink) Ymhlith eu haberthion oedd Carol Martindale ac Andy Kenyon - y ddau'n pedair ar bymtheg mlwydd oed - gyda'u diflaniad yn cael eu adrodd mewn papur newydd wythnos yn hwyrach. Cynhwysodd yr adroddiad lun o un o'r Angylion, ond camgymrodd yr adroddiad symudiad yr Angylion fel harddegwyr yn eu symud. (PRÔS: The Secret Lives of Monsters)
Yn y 2000oedd, cafodd y Degfed Doctor â'i gydymaith Martha Jones yn 1969 eu strandio gan rŵp o Angylion, gydan nhw yn ennill eu TARDIS gyda'r bwriad o ddefnyddio technoleg yr Arglwyddi Amser er mwyn cael myniediad i'r ffynhonell bron anifeidrol o ynni amserol mewn proses a fyddai'n digon dinistriol i "ddiffodd yr Haul". Er enillon nhw'r TARDIS, nid oedd modd iddynt cael mynediad i'r gwrthrych siâp blwch heddlu; ond, yn hwyrach llwyddon nhw dod o hyd i allwedd y TARDIS. Yn anffodus i'r Angylion, cymerodd Sally Sparrow yr allwedd wrth yr Angylion cyn llwyddon nhw mynd i'r TARDIS. O ganlyniad, dilynon nhw Sally er mwyn cael mynediad i'r TARDIS.
Yn ychwanegol, danfonon nhw Kathy Nightingale i 1920 a Billy Shipton i 1969, ac o ganlyniad hawlion nhw i'r Doctor ynghyd Martha Jones i gyfathrebu gyda Sally trwyddo. Yn hwyrach, ymwelodd Sally a Larry Nightingale â Wester Drumlins unwaith eto, gyda'r Angylion yn eu cornelu yn yr islawr yn eithaf gyflym lle roedd y TARDIS yn cael eu storio. Ar dor yr Angylion yn diffodd y golau, yn hawlio nhw i symud yn haws, llwyddodd Sally a Larry cael mynediad i'r TARDIS gan eu danfon nôl i'r Doctor. Pan orffennodd y TARDIS i anfateroli, roedd yr Angylion yn sownd yn syllu at ei gilydd ar ddraws y gwagle lle roedd y TARDIS wedi sefyll, gyda phob un yn troi i garreg. (TV: Blink) Cofiodd yr Unarddegfed Doctor y digwyddiadau yma pan gafodd ei ofyn os yw erioed wedi cwrdd yr Angylion Wylo o'r blaen, gan ddisgrifio'r Angylion yma fel "cechmon, braidd yn oroesi". (TV: The Time of Angels)
Digwyddiadau eraill[]
Ar un adeg yn yr 2000oedd, darganfododd Julia Hardwick sawl cliw yn ei rhybyddio yn erbyn yr Angylion Wylo, a sawl llun yn darlunio hi yn y gorffennol. Pan ymchwiliodd hi i'r Angylion, cafodd hi ei danfon i'r gorffennol gan yr Angylion. Danfonodd hi'r cliwiau i hi ei hun. (WC: A Ghost Story for Christmas)
Yn 2009, diflannodd bachgen o'r enw Charlie Cause wrth ffilmio ffilm annibynnol o'r enw Zombie Vixens. Portreadodd y lluniau olaf ohono ef yn cael ei ymosod ar gan Angel Wylo mewn mynwent. (PRÔS: Whatever Happened to Charlie Cause?)
Ar ddau achos yn 2012, cafodd Rory Williams ei afleoli gan Angel Wylo yn Efrog Newydd. Y tro gyntaf, cuddiodd Angel fel rhan o ffynon ddŵr, lle danfonodd hi Rory i 1938. Yr ail dro, fe gafodd ei afleoli gan oroesydd dinistriad Winter Quay yn agos i fedd ef ac Amy. Hawliodd Amy i'r Angel i'w chyffwrdd, gan ei danfon nôl i'r un amser â Rory, ond yn rhwystro'r Doctor rhag eu weld byth eto. (TV: The Angels Take Manhattan)
Yn 2016, lladdodd Angel Wylo Dorothea Ames oherwydd ei methiant am rwystro Charlie Smith rhag ddefnyddio'r cabinet eneidiau yn erbyn cydgenedl y cysgod. Gweithiodd y Gyfernwyr am yr Angylion, yn paratoi ar gyfer y Cyrhaeddiad. (TV: The Lost)
Gwelodd a threchodd y Deuddegfed Doctor un Angel Wylo ag oedd wedi'i chysylltu i garreg Galiffreiaidd yn Efrog Newydd. (SAIN: The Lost Angel)
Brwydrodd grŵp o bobl a gafodd eu cyflogu gan Kate Stewart (PRÔS: And now for a story...) ar gyfer Gweithred Toriad Amser yn y 2020au (WC: 14684 UNIT Field Log) yn erbyn Angylion Wylo ym Mhencadlys UNIT. (PRÔS: And now for a story...)
Hanes hwyrach[]
Ar amser anhysbys, crëwyd darn o lenyddiaeth benderfynol ar yr Angylion. (TV: The Time of Angels)
Ar 20 Hydref 2820, llenwyd eglwysi cadeiriol wladfa Gothica gan bobl mewn chwinciad yn honni daw nhw o'r dyfodol. Rhybuddion nhw byddai'r wladfa cyfan yn cael ei gorchfygu gan Angylion Wylo yng Nghant mlynedd a dau ddydd. Yn wir, ar 22 Hydref 2920, gorchfygwyd eglwysi cadeiriol wladfa Gothica gan Angylion Wylo. (PRÔS: Time Traveller's Diary)
Yn y 33ain ganrif, ymosododd lluoedd o Angylion Wylo ar fydoedd wladfeydd dynol gan dywyllu golau'r haul i fwydo; gofynwyd bydoedd megis Moscow Newydd i frwydro yn eu herbyn. Dywed rhai nad oedd modd gwynebu creuaduriaid mor pwerus. (PRÔS: Legends of the Weeping Angels)
Ar un adeg yn yr 47ain ganrif, daeth cannoedd o Angylion Wylo i Alffafa Metracsis i ddienyddu'r gwareiddiaeth yr Aplans. Yn dilyn hon, collon nhw eu ffynhonnell bwyd, gan fynd i gysgu yn Adeilfedd Aplan. Dysgodd Angel arall am hon rhywsut, gan esgus cysgu yn adfeiliaid Razbahan nes cael ei darganfod, gan barhau nes diwedd y 50fed ganrif. Yn y pendraw, yn dilyn pasio trwy sawl llaw preifat, cafodd yr Angel ei chludo ar y Byzantium. Dilynnodd River Song yr Angel, a cheisiodd hi rhybyddio'r perchennog, ond ni wrandodd ar ei rhybuddion ac felly achosodd yr Angel i'r llong crasio ar Alffafa Metracsis, gan gynllunio defnyddio ymbelydredd y llong fel tanwydd.
Aeth yr Unarddegfed Doctor ac Amy Pond, ynghyd River a milwyr wrth yr Eglwys, i mewn i'r teml i ddod o hyd iddi. O fewn y drysfa darganfodon nhw sawl hen gerflun. Tybiodd y Doctor bod yr Angel wedi cuddio yma er mwyn osgoi cael ei darganfod. Lladdod yr Angel tri milwyr cyn defnyddio ymwybyddiaeth un ohonynt i gyfathrebu gyda'r Doctor. Pan ddarganfododd y Doctor bod pob un o'r cerfluniau yn Angylion, yn cryfhau trwy fwydo ar ymbelydredd y llong, dechreuon nhw ymosod. (TV: The Time of Angels)
Wedi'u hamgylchu gan Angylion, dihangon nhw trwy saethu'r sffêr disgyrchiant, gan achosi "gwynt" yn helpu nhw i gwmpo lan i'r Byzantium. Cafon nhw eu dilyn gan yr Angylion, cyn i'r ddau grwp dod o hyd i hollt mewn un o waliau'r llong. Roedd yr hollt yn gollwng ynni amser pur. Rhywbeth tybiodd yr Angylion byddai'n ymddangos, gan fe gynhwysodd nifer annherfynnol o ynni iddyn bwydo ar. Fodd bynnag, yn dilyn dal y Doctor, fe dywedodd ef wrthon nhw nad oedd modd iddynt bwydo ar ynni amser pur, a mewn gwirionedd oedd y tân ar ddiwedd y bydysawd. Hawliodd hon i'r Doctor ddianc i ailymuno gyda gweddill y grŵp.
Yn ofni'r hollt, dechreuodd yr Angylion ffoi i ochr arall y llong, gan gael eu hatal gan arsylliadau'r clerigwyr. Pan roedd Amy, y Doctor a River yn unig ar ôl, gwynebodd yr Angylion y Doctor. Dywedon nhw yr unig ffordd i gau'r hollt oedd i dwlu ei hun i mewn iddo. Yn lle, arosodd y Doctor i ddisgyrchiant artiffisial y Byzantium ddiffodd (achos roedd yr Angylion yn amsugno gormodedd o egni wrth y llong ei hun), achosodd hon i fyddin cyfan yr Angylion i gwmpo i mewn i'r hollt, yn ei llenwi nes caeodd yr hollt gan ddileu'r Angylion wrth hanes, gan gynnwys yr un ym mhen Amy. (TV: Flesh and Stone)
Ar adeg anhysbys, teithiodd yr Angylion Wylo i Trenzalore ynghyd sawl rhywogaeth arall yn ymateb i neges ddirgelus yn lledaenu ar ddraws y gofod ac amser. Yn wahanol i bob rywogaeth arall, llwyddon nhw cyrraedd y blaned, lle cafon nhw eu darganfod gan yr Unarddegfed Doctor a Clara Oswald. Cafon nhw eu hamgylchu gan yr Angylion Wylo, ond galwodd y Doctor y TARDIS a dihangon nhw. Yn ystod Gwarchae Trenzalore yn hwyrach, ceisiodd Angel Wylo ymosod ar y dre, ond cafodd hi ei hatal gan y Doctor gan ddefnyddio ddrych, gyda'r Doctor wedi ysgrifennu "with love from the Doctor!" ar y ddrych. Yn y pendraw, ffodd gweddill yr Angylion Wylo, ynghyd gweddill yr ymosodwyr ar wahân i'r Daleks. (TV: The Time of the Doctor)
Yn y 67ain ganrif, darparodd cyfres briff-fideo o'r enw Perils of the Constant Division wybodaeth ar, ymhlith rhywogaethau eraill, yr Angylion Wylo. (TV: The Tsuranga Conundrum)
Yn y flwyddyn pump deg sgwiliwn, roedd gan Amgueddfa'r Angylion Wylo canoedd o filoedd o Angylion Wylo wedi'u trapio o dan arolygaeth parhaol, gyda sawl un ohonynt wedi'u rhoi i'r amgueddfa gan y Doctor ei hun. (COMIG: The Doctor Shops for Angels) Benthygodd y Doctor Angylion Wylo bach a fyddai'n danfon Gabby Gonzalez nôl mewn amser (COMIG: Four Doctors) wrth yr amgueddfa ar ôl datrys y problem o ba un fydd yn danfon Gabby'r nifer digonol o amser nôl yn llinell amser ei hun. (COMIG: The Doctor Shops for Angels)
Diwedd y bydysawd[]
Ar Galiffrei, roedd grŵp o Angylion wedi'u trapio mewn "gwifrau ffibr oprig" yn y Metrics, lle cafon nhw eu darganfod gan Clara Oswald a'r Deuddegfed Doctor. (TV: Hell Bent)
Digwyddiadau diddyddiad[]
Llwyddodd Strax dal Angel Wylo. Yn dilyn danfon neges i Sontar, dewisodd Strax llwyddodd ef datrus modd i ddod yn heintrydd i Angylion Wylo. Fe feddyliodd oherwydd dywedodd y Doctor iddo i beidio byth blincio yn agos i Angylion Wylo, byddai cau ei lygaid yn cael gwared o'r angen i flincio. (COMIG: The Adventures of Strax & the Time Shark)
Brwydrodd Jack Harkness yn erbyn lu o Angylion Wylo yn ystod gweithio fel Asiant Amser. (COMIG: Secret Agent Man)
Unwaith, trapiodd yr Angylion Wylo rywun yn atig tŷ ar y Ddaear. Rhodd y Deuddegfed Doctor gymorth i'r person trwy ddanfon eu TARDIS. Ar ôl i'r person dianc yn y TARDIS, cafodd yr Angylion eu trapio wedi cloi-cwantwm yn yr atig. (GÊM: Don't Blink)
Danfonodd yr Angylion Wylo dau blentyn o'r enw Tarmin ac Izmay i mewn i'r gorffennol lle byddent yn dod yn hen gwpl a fyddai'n gadael losiynnau i blant a fydd yn dod i chwarae yng ngarddiau'r tŷ bu fyw'r ddau ynddi nes diwedd eu bywydau, gan gynnwys eu hun o'r gorffennaf. (PRÔS: The Garden of Statues)
Trawsgludwyd Angel Wylo i Gehanna gan Prif Swyddog Meddyginiaeth y blaned, Perinne, gan obeithiodd hi dysgu am brosesau gloi-cwantwm yr Angylion er lles gwellhau cwarantîn y blaned. Dialodd yr Angel wrth ledaenu delwedd yr Angylion i mewn i'r boblogaeth trwy'r mygydau gwisgodd pob dinesydd, gan droi'r boblogaeth gyfan i mewn i Angylion. (PRÔS: Grey Matter)
Carcharwyd Angel Wylo yng ngharchar y Jydŵn, ynghyd y Trydydd ar Ddegfed Doctor, gan ennill yr enw "Angela" wrthi. Wrth gerdded yn ei chell, blinciodd y Doctor er mwyn cael hi i symud. Ceisiodd yr Angel ymosod, ond cafodd hi ei rhwystro gan y gawell trydanol a'i hualau, cafodd y Doctor ei hofnu gan hon. Symudodd "Angela" nôl i'w safle gwreiddiol wrth symudodd y Doctor ymlaen. (TV: Revolution of the Daleks)
Gweithio am Division[]
I'w hychwanegu.
Llinellau amser eiledol[]
I'w hychwanegu.
Cyfeiriau eraill[]
Roedd plant yn gwybod yn naturiol am berygl yr Angylion Wylo, a chafodd gemau plant eu creu er mwyn dysgu i blant sut i ddianc wrth y llofruddwyr unig. O ganlyniad, myfyriodd River Song os oedd ofn naturiol plant o'r tywyllwch yn ymateb i gysgodau gan roedd yna posibilrwydd o Angel cuddio unrywle yn y tywyllwch. (WC: Monster File: Weeping Angels)
Cyn ddechreuad Rhyfel y Nefoedd, teithiodd Avus i amser-eiledol, ac yno fe welodd fyddin ddrygnaws o gerfluniau ag oedd ond yn gallu symud pan nad oedd neb yn edrych arnynt. (PRÔS: Cobweb and Ivory)
Pan gafodd amgueddfa ei chreu wrth gofion y Doctor yn y Metrics, roedd Angel Wylo yno. (COMIG: The Forgotten) Wrth geisio cael Jackson Lake i ddwyn i gof, cyfeiriodd y Degfed Doctor at ei antur gyda'r Angylion Wylo a'i brofiad gyda Sally Sparrow, gan siarad am yr ymadrodd "Don't blink". (TV: The Next Doctor) Cyfeiriodd Rassilon at y ddau Arglwydd Amser ag wrthwynebodd ef, ag oedd yn gorchuddio eu llygaid yn union yr un modd i'r Angylion Wylo, fel "sefyll fel arwyddfaeniau i'w cywilydd, fel yr Angylion Wylo hynafol". (TV: The End of Time)
Ofn eithafol Gibbis oedd yr Angylion Wylo, ac achosodd hwnnw i rhith ohonynt ymddangos yng ngwesty crëodd cyfrifiadur. (TV: The God Complex) Wrth hela am rannau'r Cloc Tragwyddoldeb, daeth y Doctor o hyd i gerflun angel carreg yn Llundain, 1561; fe rybuddiodd River Song i beidio blincio nes gadarnhaodd ef taw nid Angel Wylo ond carreg arferol oedd y cerflun. (GÊM: The Eternity Clock)
Pan ddarllenodd telepath Emily Fairfax ymenydd y Bonheddigwr Damcaniadol, roedd Angel Wylo o fewn y delweddau. (COMIG: Hypothetical Gentleman) Nododd y Deuddegfed Doctor mewn darllediadau propaganda i Ddaear gaethiwedig yn y 2010au, roedd yr Angylion Wylo ymysg gelynion dynoliaeth a gafodd eu trechu gan y Mynachod. (TV: The Lie of the Land)
Yn y cefn[]
The Brilliant Book 2011[]
Mae The Brilliant Book 2011, lyfr sydd yn cynnwys gwybodaeth di-naratif mae'r wici yma dim yn ystyried i fod yn ffynhonell dilys, wedi nodi sawl darn o wybodaeth angysbys am yr Angylion Wylo, gan gynnwys:
- Adnabyddodd yr Arglwyddi Amser am yr Angylion Wylo gan eu hystyried mewn modd erchyll: cyfieithodd hen lawysgrif ar yr Angylion Wylo, wedi'i ysgrifennu mewn Uwch Galiffreieg, i mewn i "mae y tu ôl i ti".
Doctor Who: Legacy[]
O fewn stori Doctor Who: Legacy, mae'r Unarddegfed Doctor a'i gymdeithion yn gwynebu'r Angylion Wylo yn Efrog Newydd yn 2012, ac ar Alffafa Metracsis wrth deithio nôl trwy'r llinell amser.
Gemau Fideo[]
- Mae Angylion Wylo yn lefel Doctor Who yn LEGO Dimensions.
Materion Eraill[]
I'w hychwanegu.
Troednodau[]
|