Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Y British Broadcasting Corporation yw brif endid ddarlledu deledu a radio yn y Deyrnas Unedig a chwmni adloniant byd eang. Yn y presennol, mae'r BBC yn preswylio dros sawl sianel deledu a gorsaf radio, gyda sawl un o rhein wedi darlledu deunydd Doctor Who dros y blynyddoedd.

Sianel gyntaf - ac ar y pryd unig - y BBC oedd BBC tv; dyma lle ddechreuodd Doctor Who darlledu yn 1963. Gyda chychwyniad BBC Two ar 21 Ebrill 1964, cafodd y sianel BBC tv ei hailenwi i BBC One, ac felly o The Screaming Jungle - episôd 3 The Keys of Marinus - nes 1989 ac o 2005 ymlaen dyna prid sianel ddarlledu Doctor Who. Darlledodd Torchwood ar y sianel yma hefyd am ail hanner ei rhediad.

Sianeli eraill y BBC[]

  • BBC Two
  • BBC Three - Sianel cychwynol Torchwood a Doctor Who Confidential.
  • BBC Four - Wedi dangos sawl ail-ddarllediad, gan gynnwys The Hand of Fear.
  • CBBC - Sianel plant; darlledydd The Sarah Jane Adventures.
  • BBC Radio
  • BBC Radio 7 (eisioes BBC Radio 4 Extra) - Darlledydd gwreiddiol cyfres gyntaf The Eighth Doctor Adventures gan Big Finish.

Mae'r BBC hefyd wedi ymestyn i sawl cyfrwng arall, gan gynnwys: BBC Audio, sydd wedi cyhoeddi sawl recordiad trac sain o'r gyfres, a dramâu sain gwreiddiol; BBC Video, sydd wedi cyhoeddi sawl episôd a rhaglen dogfen i'r marchnad fideo cartref; a BBC Books, sydd wedi cyhoeddi llenyddiaeth ffuglen a ffeithiol Doctor Who ers 1996.

BBC Worldwide yw braich y BBC sydd yn gwylio dros gwerthiant tramor rhaglenni megis Doctor Who, a cheisiadau cynhyrchu tramor.

BBC Studios yw busnes byd eang, gyda'r modd i logu, creu, dosbarthu a marchnata cynnyrch ar gyfer y BBC yn y DU a thramor.

Mae hefyd gan y BBC gysylltiad i sawl sianel cable Gogledd America sydd yn darlledu rhaglenni masnachfraint Doctor Who, gan gynnwys BBC America (UDA) a BBC Kids (Canada). Serch hynny, nid yw'r darlledwyr yma yn cael eu hystyried i fod yn rhan uniongyrchol o'r BBC genhedlol.

Dolenni allanol[]