Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Before the Flood (Cy: Cyn y Llifogydd) oedd pedwerydd episôd y Cyfres 9 Doctor Who.

Yn unigryw i'r episôd hon, ac hefyd i weddill cyfres Doctor Who BBC Wales ers ddarlledodd y gyfres yn gyntaf yn 2005, mae'r olygfa cyntaf cyfan yn cynnwys y Deuddegfed Doctor yn torri'r perdwerydd wal gan ei gael yn esbonio'r paradocs bootstrap, pwynt hanfodol i'r stori.

Cynhwysodd y stori hefyd y Doctor yn chwarae thema agoriadol Doctor Who ar sgrîn am y tro cyntaf gan ddefnyddio gitâr trydan, a oedd Peter Capaldi yn gwybod sut i chwarae ac oedd ef yn bersonol wedi dewis wrth siop mewn olygfa yn The Magician's Apprentice. Mae alaw Capaldi wedi'i cymysgu dros cerddoriaeth arferol y sioe.

Elfen nodedig o gynhyrchiad y stori oedd rhu'r Brenin Bysgotwr a llais ysbryd holograffig y Deuddegfed Doctor, gyda Corey Taylor, canwr arweiniol y grŵp metel trwm, Slipknot, a chefnogwr y sioe, yn darparu ei lais.

Crynodeb[]

Mae cynllun goroesi erchyll wedi'i greu gan y Brenin Bysgotwr. Bydd y bydysawd yn teimlo'r canlyniadau. Bydd modd atal y digwyddiadau hon? Bydd modd i'r Doctor sicrhau y dyfodol trwy wneud yr amhosib?

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

Cyfeiriadau[]

  • Wrth ddysgu eu bod wedi teithio nôl i 1980, mae O'Donnell yn nodi taw cyfnod hyn yw'r cyfnod cyn Harold Saxon a'r Lleuad yn ffrwydro, gyda'r Doctor yn ymmwybodol o'r ddau. Mae hi hefyd yn sôn am y Gweinidog Rhyfel. Ond, nid yw'r Doctor yn deall y cyfeiriad hon ac mae'n gofyn iddi i beidio ymelaethu.
  • Mae'r TARDIS yn glanio drws nesaf i Краснодар, sef Rwsieg. Mae'r tref cyfan, cyn cael ei lifogi, gyda thema Rwsieg o ganlyniad i fod yng nghanol y Rhyfel Oer. Mae'r Doctor yn honni roedd y byddin yn cael eu hyffforddi i ysbeilio tir Sofiet.

Theorïau a chysyniadau[]

  • Mae'r Doctor yn siarad am y Paradocs Bootstrap.

Unigolion[]

  • Mae gan y Doctor penddelw o Ludwig van Beethoven yn y TARDIS. Mae'n honni roedd Beethoven yn ddyn "neis, dwys, a oedd hoff o ymgodymu breichiau".
  • Mae O'Donnell yn crybwyll Rose Tyler, Martha Jones, ac Amy Pond.
  • Gweithiodd O'Donnell ar gyfer y Cudd-wybodaeth Milwrol.
  • Mae modd gweld posteri arweinydd Rwsieg Joseph Stalin a Vladimir Lenin.
  • Mae Prenis yn cymryd nodau mewn Almanac Wybrennol.

Bwydydd a Diodydd[]

  • Mae Bennett yn dweud bwydodd brechdan corgimwch.

Technoleg[]

  • Dydy uwchffonau ddim yn gweithio mewn cawell Faraday.
  • Mae'r Doctor yn dynodi Google.
  • Mae'r Doctor a Clara yn siarad dros FaceTime trwy parthau amser trwy iPhone Clara a sgrîn TARDIS y Doctor.

Cerddoriaeth[]

  • Mae gan y Doctor casgliad o finyls yn y TARDIS gan gynnwys gwaith niferoedd o cyfansoddwyr enwog: un o Franz Liszt, Heather Harper yn canu "Four Last Songs" a "Songs With Orchestra" gan Richard Strauss, dau record Haydn (un yw "Haydn symphonies"), a Beethoven's 5th.

Cyfundrefnau[]

  • Mae'r Doctor yn dweud bydd UNIT yn cymryd y cawell Faraday i'r gofod. Yno, heb faes electromagnetig y Ddaear i'w cynnal, bydd yr ysbrydion yn afradloni.

Nodiadau[]

  • Mae'r episod yn adio gwrth-felodi gitâr trydanol i'r teitlau agoriadol, wedi'i chwarae gan Capaldi, yn ddechrau o'r Doctor yn chwarae Pumed Symffoni Beethoven ar ei gitâr trydanol ar ddiwedd yr olygfa agoriadol. Hon oedd amrywiant un-tro na chafodd ei hailadrodd. Ond, mae'r amrywiant wedi dod yn poblogaidd gyda chefnogwyr y sioe.
  • Roedd rhestriad Radio Times wedi'i cyfeilio gan llun fach o'r Doctor yn cwrdd â Prentis, gyda isdeitl o "Doctor Who / 8.25p.m. / Raising the Dead: the Doctor comes face-to-face with a reanimated Prentis (Paul Kaye)".
  • Teitl gweithredol y stori (gan gynnwys yr episôd blaenorol) oedd Ghost in the Machine. (DWM 492)
  • Yn ôl cyfweliad ar sioe Americanaidd, Conan, datgelodd Jenna Coleman ei bod hi'n berchen ar y wiwer clocwaith ar ben y seinydd Mgpie ar ddechrau'r episôd.

Cyfartaledd gwylio[]

  • BBC One dros nos: 4.38 miliwn
  • Cyfartaledd DU terfynol: 6.05 miliwn

Lleoliadau ffilmio[]

  • Ardal Hyffforddi Caerwent

Gwallau cynhyrchu[]

  • Mae'r trelar "tro nesaf" am The Girl Who Died yn cynnwys golygfa o Clara yn y gofod heb ei orffen.
  • Mae dryll y Brenin Bysgotwr ar goll wrth i'r argae torri, ond mae wedi'i dychwelyd wrth iddo rhuo at y gorlifiad.
  • Pan mae'r Doctor, O'Donnell a Bennett tu mewn i'r llong ofod, mae modd gweld person yn cerdded trwy'r cefndir. Nid Prentis yw hyn gan maent o daldra gwahanol ac maent hefyd mewn dillad gwahanol.
  • Ar sawl achos yn ystod trafodaeth y Doctor a Prentis, mae'r saethiad wedi'i adlewyrchu gan mae ei het yn gorffwys ar yr ochr anghywir.
  • Pan mae Prentis yn darganfod rhwymau yn y llong ofod, maent yn aildrefnu rhwng saethiau.

Cysylltiadau[]

  • Mae gan y mwyhadur ar ddechrau'r episôd logo Magpie Electricals. (TV: The Idiot's Lantern)
  • Ar ben y mmwyhadur, mae wiwer clocwaith, nododd Clara'n flaenorol bod y Doctor wedi datgymalu radio'r TARDIS er mwyn defnyddio'r rhannau i'w greu. (TV: Under the Lake)
  • Pan ddatgelodd O'Donnell bod Bennett yn mynd yn sâl, mae'r Doctor yn egluro taw canlyniad teithiau amser ambell waith yw hyn. (TV: The Caretaker) Mae O'Donnell yn amheus digwyddodd hyn gyda Rose, Martha nac Amy yn ystod eu teithiau cyntaf. (TV: The End of the World, The Shakespeare Code, The Beast Below)
  • Wrth gyfarfod gyda Albar Prentis, mae'r Doctor yn nodi ei fod wedi cyfarfod â Thivolians o'r blaen, a nid yw'r Doctor yn hoff ohonynt. (TV: The God Complex)
  • Meistri cyfredol Tivoli, a'r pobl ag anfonodd Prentis i'r Ddaear i gladdu'r Brenin Bysgotwr, yw'r Arcateenians. (TV: Greeks Bearing Gifts, Invasion of the Bane)
  • Mae'r Doctor yn dweud "I've had a good innings" wrth baratodd am ei farwolaeth. Rhein oedd geiriau olaf y Chweched Doctor cyn ei adfywiad. (SAIN: The Brink of Death, PRÔS: Spiral Scratch)
  • Mae'r Doctor yn nodi bod gan ei ymgorfforiad cyfredol "gwall clerigol", yn cyfeirio at y ffait taw hon oedd ei gorff cyntaf yn y cylch adfywiol newydd rhoddodd yr Arglwyddi Amser iddo. (TV: The Time of the Doctor)
  • Mae'r Doctor wedi llwyddo cysylltu ffôn y TARDIS nôl i gonsol canolog y TARDIS. (TV: The Time of The Doctor)
  • Ceisodd y Doctor ymladd amser o'r blaen (TV: The Waters of Mars)
  • Mae'r Doctor yn cyfaddef nad oedd gan bobl sydd yn gwybod maent yn mynd i farw dim i golli. Roedd gan ei ragflaenydd barn tebyg wrth wynebu'r Mara yn ystod Gwarchae Trenzalore. (PRÔS: The Dreaming)
  • Mae Clara'n cwyno i'r Doctor nad yw hi'n barod i golli person arall mae hi'n gofalu am. (TV: The Time of the Doctor, Death in Heaven)
  • Mae Clara'n adnabod ni fydd hi'n cydymaith i'r Doctor am fyth ac mi fydd person arall yn ei holyni. (FIDEO: Clara and the TARDIS)
  • Mae'r Doctor yn dynodi taw ef sydd yn amddiffyn y Ddaear. (TV: The Christmas Invasion, The Eleventh Hour)
  • Mae Clara yn honni i Bennett i ymddiried yn y ffaith ei bod hi'n adnabod sut mae'n teimlo i weld cariadon yn marw. (TV: Death in Heaven)
  • Unwaith eto, mae Protocol diogelwch 712 yn cael ei actifadu. (TV: Blink)
  • Mae'r Brenin Bysgotwr yn siarad am sut ddaeth Arglwyddi Amser y rhywogaeth mwyaf rhyfelus yn yr alaeth. (TV: The End of Time, The Night of the Doctor, The Day of the Doctor) Ac mae'n siarad am sut mae'r Doctor yn digon parod i aberthu ei hun cyn newid hanes na'r dyfodol. (TV: The Fires of Pompeii, The Time of the Doctor)
  • Yn debyg i ysbryd Clara, mae'r Doctor yn dynodi mai hologram yw ei ysbryd. (TV: Under the Lake)
  • Yn debyd i sut wnaeth y Nawfed Doctor a Rose Tyler, pan mae'r Doctor yn teithio nôl hanner awr mewn amser, mae'n gwylio ei hun o bell. (TV: Father's Day)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Doctor Who: Series 9: Part 1 ar 2 Tachwedd 2015.
  • Yn hwyrach, rhyddhawyd yr episôd fel rhan o set bocs DVD, Blu-ray ac fel Steelbook o Doctor Who: The Complete Ninth Series ar 7 Mawrth 2016.

Troednodau[]

Advertisement