Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Bill Potts oedd cydymaith olaf y Deuddegfed Doctor. Rhannodd y ddau berthynas athro-myfyriwr, yn debyg i Leela a Gabby Gonzalez, er ar delerau swyddogol.

Pan gyfarfyddodd hi â'r Doctor yn gyntaf, mi roedd hi'n gweithio fel dynes cinio ym Mhrifysgol St Luke, ym Mryste. Yn ei hamser rhydd, mynychodd hi i ddarlithoedd y Doctor yn y brifysgol. Wnaeth y Doctor gweld ei photensial, ac felly, gwahoddodd y Doctor hi i gyfres o sesiynau tiwtora personol.

Yn dilyn cyfarfyddiad gyda phwll o olew ymdeimladol, darganfyddodd Bill gwir hunaniaeth y Doctor — estronwr oedd yn teithio trwy amser, ond roedd bellach yn gwarchod cromgell gudd o dan gampws y brifysgol. Wedyn, gwahoddwyd hi i deithio trwy amser a'r gofod gan y Doctor.

Ar ei theithiau gyda'r Doctor a Nardole, teithiodd Bill i blaned wladfa ac ymwelodd hi â'r Ffair Rhew mawr olaf. Profodd hi wacter gofod a achubodd hi'r Ddaear gan ddefnyddio cof o'i Mam. Dysgodd hi hefyd am gais y Doctor i wella ei hen ffrind, yr Arglwyddes Amser Missy. Wnaeth Bill hefyd helpu rhoi nôl golwg y Doctor, gan adael i Fynachod rheoli'r Ddaear am amser cyflym.

Wrth fynd gyda'r Doctor am brofiad i weld os oedd modd i Missy bod yn berson da, cafodd Bill ei saethu'n angheuol ar long wladfa Mondasaidd gan Jorj. O ganlyniad, cafodd hi ei throi'n Cyberman yn erbyn ei dymuniadau, er cadwodd hi ei hunaniaeth o achos ei hewyllys cref.

Unwaith helpodd Bill y Doctor i drechu'r Cybermen, achubwyd Bill o'i thynged gan Heather, a oedd wedi dychwelyd amdani hi cyn troi hi i mewn i olew ymdeimladol fel ei hun. Wedyn gosod y TARDIS i gymryd y Doctor i ffwrdd, gadawodd Bill gyda Heather i deithio'r bydysawd.

Bywgraffiad[]

Cyn y Doctor[]

Cafodd Bill ei geni tua 1991. (TV: The Pyramid at the End of the World) Gan fu marw ei Mam pan oedd hi'n iau, magwyd Bill gan fam faeth o'r enw Moira. (TV: The Pilot) Ni fynegodd Bill ei rhywioldeb yn agored, gan ffafrio ei datgelu ond pan oedd angen. Roedd ei mam faeth yn anymwybodol o'i lesbiaiddrwydd, gan ragdybio bod gan Bill diddordeb mewn dynion. (TV: The Pilot, Extremis) O ganlyniad o ddiffyg Moira o gadw unrhyw un o'i phartneriaid, peidiodd Bill dysgu eu henwau yn aml. (TV: The Pilot)

Ym Mhrifysgol St Luke[]

Hwyrach yn ei bywyd, wnaeth Bill gweini sglodion ym Mhrifysgol St Luke ym Mryste, a — er nad oedd hi'n fyfyriwr — mynachodd hi i rhai o ddarlithoedd y Deuddegfed Doctor. Yn sylwi ar ei photensial, daeth y Doctor yn diwtor personol iddi.

Dros Nadolig 2016, dwedodd Bill i'r Doctor bod hi fod edrych fel ei mam, ond, achos doedd dim llawer o luniau o'i mam ar gael, nid oedd Bill yn gwybod os oedd hyn yn wir. Wedyn, pan aeth hi nôl i'r fflat lle roedd hi'n byw gyda'i mam, dywedodd Moira wrthi ei bod hi wedi dod o hyd i focs llawn lluniau o fam Bill. Ar un o'r lluniau, wnaeth Bill gweld adlewyrchiad y Doctor.

Yn ystod ei thiwtora yn 2017, magodd Bill crysh ar fyfyriwr arall, Heather, a wnaeth dangos pwll iddi oedd yn rhoi adlewyrchiad gwrthdro. Gofynnodd Bill i Heather peidio gadael hebddi hi. O ganlyniad, pan gymerwyd Heather gan y pwll, dilynnodd hi Bill i'w chartref, fel byddai ddim yn gadael hebddi.

Aeth Bill i swyddfa'r Doctor, lle wnaeth y Doctor gwahodd hi mewn i'r TARDIS. Yna, ceision nhw colli'r creadur dŵr, trwy deithio i Sydney, Awstralia yn gyntaf, wedyn planed pell, ac i orffen, parth rhyfel yn y Rhyfel Dalek-Movellan. O'r diwedd sylwodd Bill bod Heather yn ei dilyn achos ei haddewid i beidio gadael hebddi. Ar gyngor y Doctor, rhyddhaodd hi Heather o'i haddewid blaenorol.

Yn dilyn dychwelyd i'r brifysgol, edifarhaodd Bill am beidio cymryd cynnig Heather. Wedyn, pan edrychodd Bill ar y TARDIS yn fwriadol, a phryd sylweddolodd y Doctor ar ei bwriad, gofynodd iddi sefyll an agos ato gan fwriadu dileu ei chofion o'r digwyddiadau, ond cymhelliodd Bill i'r Doctor i beidio. Yn hwyrach, cytunodd y Doctor i gymryd Bill ar ei deithiau yn y TARDIS. (TV: The Pilot)

Teithiau gyda'r Doctor[]

Gan ddweud wrth Nardole ei fod yn cludo'r TARDIS nôl i'w swyddfa, tywysodd y Doctor Bill i weld gwladfa ddynol yn y dyfodol pell. (TV: Smile)

I'w hychwanegu. (TV: Thin Ice, Knock Knock, COMIG: The Soul Garden, The parliament of Fear, Matildus, The Phantom Piper, The Clockwise War, PRÔS: The Shining Man, Diamond Dogs COMIG: The Wolves of Winter, The Promise, PRÔS: Bill and the Three Jackets)

Teithio gyda'r Doctor a Nardole[]

I'w hychwanegu. (TV: Oxygen, Extremis, The Pyramid at the End of the World, The Lie of the Land, Empress of Mars, COMIG: The Lost Dimension, THe Great Shopping Bill, A Confusion of Angels, PRÔS: Plague City, TV: The Eaters of Light, World Enough and Time)

Personoliaeth[]

I'w hychwanegu.

Sgiliau[]

I'w hychwanegu.

Ymddangosiad[]

I'w hychwanegu.