Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Boom oedd trydydd episôd Cyfres 14 Doctor Who. Dyma'r episôd cyntaf ers Twice Upon a Time yn 2017 i'w hysgrifennu gan Steven Moffat. Rhyddhawyd y stori ar 17 Mai 2024 ar Disney+ a chafodd ei darlledu ar 18 Mai 2024 ar BBC One.

Rhedodd Moffat y sioe yn flaenorol o 2010 i 2017 gan hefyd ysgrifennu episôdau ar gyfer Russell T Davies y tro cyntaf rhedodd e'r sioe. O ganlyniad, dynododd dychweliad Moffat y tro cyntaf erioed i gyn-arweinydd Doctor Who dychwelyd i ysgrifennu episôd ar gyfer arweinydd olynol. Dyma hefyd yr episôd gyntaf i Davies peidio ei hysgrifennu ers dychwelyd gyda The Star Beast.

O ran y naratif, mae'r stori yn parhau'r arc a ddechreuwyd yn The Church on Ruby Road trwy gadarnhau cysylltiad Ruby Sunday ag eira, yn enwedig ei habl i'w adalw, fel gwelwyd yn Space Babies a The Devil's Chord.

Crynodeb[]

Wedi'u dal o fewn rhyfel trychinebus ar Castarion 3, mae'r Doctor yn cael ei drapio trwy gamu ar ffrwydryn tir. Oes modd iddo achub ei hun, Ruby, a'r blaned cyfan - heb symud?

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - Ncuti Gatwa
  • Ruby Sunday - Millie Gibson
  • John Francis Vater - Joe Anderson
  • Carson - Majid Mehdizadeh-Valoujerdy
  • Splice Alison Vater - Caoilinn Springall
  • Mundy Flynn - Varada Sethu
  • Canterbury James Olliphant - Bhav Joshi
  • Ambiwlans - Susan Twist

Criw[]

I'w hychwanegu.

Cyfeiriadau[]

Unigoion[]

  • Mae John Francis Vater a Carson yn rhan o Batrôl B. Maent yn dychwelyd i'r orsaf yn dilyn cyfarfyddiad gradd 1.
  • Tatẅodd Mundy groen Posh Graham.
  • Mae Carson yn cyfeirio at farwolaeth Wilson wrth law yr ambiwlans.
  • Mae John Francis Vater, yn ôl yr ambiwlans, yn 42 mlwydd oed, gyda lefelau corff arferol, pwysedd gwaed uchel, gweithrededd cardiac dda, ac afu gyda mân infflamasion.
  • Rhieni John Francis Vater yw Agnes a Millicent Vater.
  • Mae Mam Splice Alison Vater eisioes wedi marw.
  • Mae'r Doctor yn cadarnhau nad "Y Doctor" yw ei enw go iawn, a nid yw'n ddoctor go iawn chwaith.
  • Nid oes gan y Pymthegfed Doctor gwisg rheolaidd fel ei rhagflaenwyr. Yr unig agwedd parhaus yn ei wisg yw'r modrwyon.

Technoleg[]

  • Mae'r Doctor yn nodi ceisiodd ef ddiarfogu ffrwydryn tir smart Villengard anweithiol tra o dan ddŵr mewn gymkhana lesbiaidd am fet. Yno, fe fethodd ei ddiarfogu'r ffrwydryn, ac o ganlyniad fe gollodd y fet.
  • Defnyddiwyd hwfers dronaidd i glirio'r mŵg.
  • Roedd geo-stamp yn rhan o'r neges derbynodd Splice.
  • Yn dilyn terfyniad eu bywyd wrth law Ambiwlans, mae corff Anglican yn cael eu cywasgu i mewn i olion sanctaidd; mae'n cymryd ffurf wrn.
  • Yn dilyn torriad Algorithm Villengard gan Vater, ymgychwynodd yr ambiwlans y protocol adfywiadol.

Villengard[]

  • Mae Villengard wedi darparu arfau ar gyfer Môr-filwyr Anglicanaidd yr Eglwys.
  • Defnyddiwyd Algorithm Villengard i optimeiddio costau.

Nodiadau[]

  • Mae'r fersiwn o'r Skye Boat Song a ganodd y Doctor yn dyddio i addasiad o gân Gaeleg o 1782.
  • Nid yw'r gerdd am wraig yr Arlywydd yn bodoli yn y byd go iawn; mae'n cyfeiriad at linell wrth Missy yn The Magician's Apprentice lle dywedodd hi gofalodd hi am y Doctor ers "y nos dwynodd ef y lleuad a gwraig yr Arlywydd."
  • Y "dyn bach trist" a dywedodd wrth y Doctor "What survives of us, is love" yw bardd Saesneg Philip Larkin.
  • Cadarnhaodd Steven Moffat mewn cyfweliad nad oedd unryw pwysigrwydd i'r dyddiad o Hydref y 5ed - wedi'i dewis ar hap.
  • Mae'r Doctor yn torri'r "pedwerydd wal" eto wrth ddweud "rydyn i gyd yn toddi i ffwrdd yn y pendraw". Torrodd y Doctor Cyntaf y pedwerydd wal o'r blaen, (TV: The Feast of Steven) gyda sawl un o'i olynion yn parhau i wneud.
  • Yn y stori, mae Splice yn chwilio am ei thâd, John - mae hon yn galw nôl i stori gyntaf Moffat yng nghyfnod Davies, TV: The Empty Child a The Doctor Dances, lle roedd Jamie yn chwilio am ei fam, Nancy.
  • Ysbrydolwyd Steven Moffat i ysgrifennu'r stori yma yn dilyn gweld golygfa y stori'r Pedwerydd Doctor, Genesis of the Daleks, lle mae'r Doctor yn camu ar ffrwydryn tir wrth deithio ar ddraws maes brwydr Skaro. Teimlodd Moffat ddihangodd y Doctor wrth y sefyllfa yn rhy hawdd a fe eisiodd ehangu'r syniad.[1]

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 2.04 miliwn[2]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 3.38 miliwn[2]

Cysylltiadau[]

  • Aeth y Doctor i Villengard cyn eu hymgorfforiad rhyfel, (COMIG: The Whole Thing's Bananas) gyda'r Nawfed Doctor yn adrodd y hanes i Jack Harkness. (TV: The Doctor Dances) Yn hwyrach, fe ddarganfyddodd y blaned yn deilchion. (TV: Twice Upon a Time)
  • Mae'r Doctor yn canu "The Skye Boat Song". Roedd modd i'r Ail Ddoctor canu'r gân ar ei recordr, (TV: The Web of Fear) a'r Meistr hefyd. (TV: The Power of the Doctor)
  • Yn flaenorol, camodd y Pedwerydd Doctor ar ffrwydryn tir. Y tro hwnnw, fe gafodd Harry Sullivan i ddodi carreg o dan y ffrwydryn. (TV: Genesis of the Daleks)
  • Mae'r Doctor yn nodi ei fod wedi cwrdd â "faw ymwybodol", gan eu disgrifio fel cwyngar. (TV: The Witchfinders).
  • Unwaith, cyfeiriodd Missy at antur cafodd y Doctor lle dwynodd ef "y lleuad a gwraig yr Arlywydd". (TV: The Magician's Apprentice)
    • Cofiodd y Doctor hefyd "dwyn a cholli'r lleuad". (TV: Hell Bent)
  • Mae'r Doctor yn nodi ei fod yn dad, rhywbeth dywedodd ei ddegfed ymgorfforiad i Rose Tyler (TV: Fear Her) a Donna Noble. (TV: The Doctor's Daughter)
  • Mae eira unwaith eto yn bwrw o amgylch Ruby pan mae hi mewn perygl, (TV: Space Babies, The Devil's Chord) gyda'r Doctor yn nodi pwysigrwydd ei genedigaeth. (TV: The Church on Ruby Road)
  • Mae'r Doctor yn cwrdd eto gyda'r môr-filwyr Anglicanaidd, aelodau'r Eglwys, gan nodi'n hwyrach mi fyddai'n ymweld nhw o amser i amser; cwrddodd yr Unarddegfed Doctor gydag aelodau'r eglwys sawl gwaith. (TV: The Time of Angels, Flesh and Stone, A Good Man Goes to War, The Time of the Doctor)
  • Mae'r Doctor yn dweud taw bysedd pysgod a cwstard yw ei hoff bryd o fwyd. Dyma hoff bryd o fwyd yr Unarddegfed Doctor. (TV: The Eleventh Hour, Let's Kill Hitler)

Troednodau[]