Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Business Unusual oedd pedwerydd nofel y gyfres BBC Past Doctor Adventures. Gary Russell ysgrifennodd y stori a gafodd ei rhyddhau ar 1 Medi 1997 a chynhwysodd y stori y Chweched Doctor, Melanie Bush a Brigadydd Lethbridge-Stewart.

Hon oedd cynnig Gary Russell am antur cyntaf Mel gyda'r Chweched Doctor a darluniad o gyfarfyddiad cyntaf y Chweched Doctor gyda Alstair Gordon Lethbridge-Stewart.

Crynodeb cyhoeddwr[]

Grym diogelwch heb hunaniaeth swyddogol... cyfarwyddwr rheoli heb enw... creuadur sinistr yn debyg i helgi uffernol yn gwarchod pencadlys... nid yw Senénet yn gwmni rhyngwladol arferol.

Yn teithio ar ben ei hun, mae'r Doctor yn cyrraedd Brighton, 1989. Yno, mae'n darganfod bod ei hen ffrind, y Brigadydd wedi mynd ar goll wrth ymchwilio SenéNet, cwmni sydd ar fin rhyddhau eu consol gemau newydd am bris mor rhesymol mae'n hurt. Gwelwyd y Brigadydd yn olaf yn eu pencadlys, wedi'i sefydlu yn Ashdown Forest...

Gan ymchwilio'n bellach, mae'r Doctor yn parhau a pharhau i glymu ei hun i ddigwyddiadau. Gyda Mel, rhaglenydd cyfrifiaduron o Pease Pottage, bydd rhaid i'r Doctor gwrthsefyll cynllwyn tawelwch, achub y Brigadydd a'r byd unwaith eto - rhywbeth a fyddai'n haws os gwybodai'r Doctor yn le i ddechrau...

Plot[]

Prologue (1)[]

I'w hychwanegu.

Monday (2)[]

I'w hychwanegu.

Tuesday (3)[]

I'w hychwanegu.

Wednesday (4)[]

I'w hychwanegu.

Epilogue (5)[]

I'w hychwanegu.

Cymeriadau[]

  • Y Chweched Doctor
  • Melanie Bush
  • Y Brigadydd
  • Dyn gwelw
  • Efeilliaid Gwyddeleg
  • Ashley Moby
  • Christine Bush
  • Bryan Erskine
  • Ryuichi Futayomoto
  • Ingrid Krafchin
  • Janine Gilbert
  • Jones
  • Lawson
  • Luke Aspinall
  • Rupert Illingworth
  • Susan Illingworth
  • Trey Korte

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r Doctor yn ymbwullo ar bobl mae ef wedi llwyddo i gynnal ei gyfeillgarwch gyda ar ddraws sawl ymgorfforiad, gan gynnwys Wilkin, porter St Cedd's College, a'r "gwenwynwr Cymraeg cynhyrfus", mae'n debyg yw Goronwy.
  • Mae'r Brigadydd yn ystyriad cymeriadau'r gemau fideo Mario Brothers a Sonic the Hedgehog.
  • Mae'r Doctor yn hoff o Pink Floyd, yn enwedig eu albwm The Piper at the Gates of Dawn.

Bwydydd a diodydd[]

  • Mae'r Doctor yn prynu burger Lochie wrth Nessie's ym Mrighton ac yn ei fwyta mewn un cegiad.

Nodiadau[]

The Chain of Commands

Clawr eiledol

  • Adnabuwyd y nofel hon hefyd fel The Chain of Commands.
  • Gwnaeth y nofel hon cyflwyno'r Brigadydd i chweched ymgofforiad y Doctor. Roedd y nofel hefyd yn pennod canol trioleg a chynhwysodd nofel y Trydydd Doctor, The Scales of Injustice, a chyflwyniad print Evelyn Smythe yn Instruments of Darkness.
  • Mae'r nofel yn canolbwyntio ar "broblem" creuodd The Ultimate Foe. Yno, mae'r Doctor yn cyfarfod â Mel am y tro cyntaf, ond mae'r Mel hwnnw yn dod o ddyfodol personol y Doctor. Ond wedyn, mae hi'n gadael cwrt yr Arglwyddi Amser gydag ef. Esboniodd y nofel Time of Your Life yn barod bod y Chweched Doctor wedi mynd â Mel The Ultimate Foe yn syth nôl i'w hamser cywir (digwyddiad dangosodd The Wrong Doctors mewn manwl). Yn Business Unusual, mae ysgrifennydd Gary Russell wedi porteadu gwrthwyneb The Ultimate Foe, gyda chyfarfod cyntaf Mel iau gyda'r Chweched Doctor yn cael ei bortreadu. Ond, nawr mae'r Doctor yn allan o sync gyda Mel.
  • Yn yr un modd i nofel Gary Russell, Instruments of Darkness, yn gwrth-ddweud hanes Evelyn Smythe, mae'r nofel hon yn gwrth-ddweud hanes Big Finish y Brigadydd. Mae'r nofel hon a'r stori sain The Spectre of Lanyon Moore yn adrodd cyfarfyddiad cyntaf y Chweched Doctor a'r Brigadydd. Fodd bynnag, gan mae Spectre yn dynodi'r Chweched Doctor fel ebychu syndod syfrdanol bod y Brigadydd yn ei adnabod, gall Brigadydd Spectre wedi tybio bod fersiwn hon o'r Chweched Doctor yn iau i'r un fe gyfarfododd gyda yn ei orffennol. Felly, mae'r Doctor yn Business Unusual a'r Brigadydd yn The Spectre of Lanyion Moore yn esgus nad oeddent wedi cwrdd â'i gilydd o'r blaen er lles cadwraeth y llinell amser.
  • Mae'r nofel hefyd yn arddangos rhai o elfennau cefndirol creodd John Nathan Turner ar gyfer Mel, gan gynnwys y ffaith cwrddodd hi'r Doctor wrth iddo ceisio trechu cais y Meistr i darfu ar farchnad stoc y byd. Yn y pendraw, anwybyddodd Hen Gyfres 23 y cefndir hon gan nid yw Mel yn adnabod y Meistr wrth ei weld yn The Ultimate Foe. Er mwyn cydnabod yr anghysondeb hon, mae'r stori yn cael Mel i gwrdd â'r Doctor ar ôl iddo darfu ar gynlluniau'r Meistr ac yn ei helpu gyda'r adladd gan ddefnyddio ei sgiliau codio.

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Chweched Doctor yn benderfynnol ar geisio osgoi unryw cyfarfyddiad gyda Mel, achos mae'n ofni os yw hi'n ei gyfarfod ac yn dod yn gydymaith iddo, heb os nac oni bai byddai ef yn troi i mewn i'r Valeyard. Ymhen tipyn, bydd y Doctor yn cuddio yn y gorffennol mewn cais i dawelu a chartrefu. (PRÔS: The Spindle of Necessity)

Dolenni allanol[]

Advertisement