Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Bwyd oedd yr enw rhoddwyd i bethau fwytadwy. Bwytwyd trwy gydol y bydysawd cyfan gan rywogaethau ac hiliau estronaidd gwahanol. "Vittles" oedd enw tafodiaethol am fwyd. (TV: Horror of Fang Rock) Nododd y Doctor Cyntaf roedd gan fwyd cydrannau, gan gynnwys blasau, oedd modd cymysgu fel lliwiau cynradd. (TV: The Daleks) Credodd Ribbons "yn lwcus" roedd modd tynnu sylw unrhywbeth gyda "thamaid fach o fwyd", cyn arddanos hyn gyda'r gwynfynod cnawd. (TV: It Takes You Away)

I benderfynnu ar ba fath o fwyd roedd organebau'n bwyta, roedd rhaid edrych ar eu dannedd. Roedd Dannedd llygaid yn cael eu defnyddio i rhwygo cig. Defnyddiwyd blaenddannedd ar gyfer torri bwyd. Caiff cilddannedd ei ddefnyddio i falu bwyd. Defnyddiwyd y cyn-cilddannedd am gnoi bwyd. Roedd y pedwar gan y Jydŵn - dannedd hollysydd, a oedd yn golygu byddent yn bwyta cig a llysiau. (WC: Teeth and Eating)

Y Ddaear[]

Ar y Ddaear, roedd amryw eang o fwydydd ar gael, megis slogdion, (TV: School Reunion) stêc, (TV: Sky) ffrwyth, (TV: "The Firemaker") twrci (TV: The Time of the Doctor) a mwy.

Honnodd y Nawfed Doctor roedd oes y flwyddyn 200,000, y Bedwaredd Ymerodraeth Wych a Hael Ddyn, gan "bwyd anhygoel". Gweinyddodd Lloeren Pump kronkburgers, a all cael cael eu gweini gyda caws neu pajatos, a zaffic, diod wnaeth Rose Tyler cymharu i Slush Puppie gyda blas cig eidion. (TV: The Long Game)

Defnyddiodd y Degfed Doctor bwyd, yn enwedig torriad porc, i tynnu sylw Hoix. (TV: Love & Monsterss)

Bwyd a'r Doctor[]

Roedd y Doctor yn hoff o fwyd o'r Ddaear, mae'n debyg achos roedd e'n hoffi'r blaned yn gyffredinol. Yn enwedig, mwynhaodd y Doctor Jelly Babies, (TV: Robot, Doctor Who), seleri, (TV: Castrovalva) a bysedd pysgod gyda chwstard (TV: The Eleventh Hour) trwy lawer o'u hymgorfforiadau.

Archebodd y Nawfed Doctor stêc a sglodion wrth fwyta â Blon Fel-Fotch Passameer-Day Slitheen. (TV: Boom Town)

Trwy ystod fawr o'u hymgorfforiadau, nid oedd y Doctor yn hoff o ellyg. (PRÔS: Human Nature, The Taking of Chelsea 426, SAIN: One Mile Down, TV: Hell Bent, Twice Upon a Time)