Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who

Cass oedd dirprwy'r Drum, gorsaf cloddio danddwr yng Nghaithness, Yr Alban yn 2119. Roedd hi'n fyddar, a defnyddiodd ei ffrind Tim Lunn i gyfieithu ei hiaith arwyddionn.

Pan laddwyd prif swyddog Jonathan Moran, cymerodd Richard Pritchard rheolaeth dros y criw, yn erbyn statws Cass. Er hyn, arweinodd hi'r criw i'r cawell Faraday. Yna, roedd y grŵp yn ddiogel rhag arweinydd yr ysbrydion, Prentis.

Yn dilyn marwolaeth Pritchard, cydnabuwyd hi fel arweinydd y tîm. Pan gyrhaeddodd y Deuddegfed Doctor, fe gaeth cynllun i rhwystro'r ysbrydion. Fodd bynnag, wnaeth Cass ac Alice O'Donnell aros nôl yn yr ystafell rheoli. Roedd modd i Cass darllen gwefusau ysbrydion er mwyn gweithio allan beth oedd yr ysbridion yn ailadrodd mewn unsain distaw, a roedd hyn yn hanfodol i leoli'r arteffact estronaidd.

Pan benderfynodd y Deuddegfed Doctor teithio nôl mewn amser i gyn llifogwyd yr ardal er mwyn datrys dirgelwch yr ysbrydion, fe ddaeth Cass, Lunn a Clara Oswald yn sownd tu ôl i'r drysau llifogydd. Dychwelon nhw i'r bwyty, lle mynegodd Cass ei amau byddai'r Doctor yn eu hachub. Yna, gwelon nhw ffigwr yn tywynnu yn y dŵr, cyn cael eu harswydio wrth sylweddoli taw ysbryd y Doctor oedd tu allan, (TV: Under the Lake) a mewn gwirionedd oedd hologram crëwyd gan sbectol haul sonig y Doctor. (TV: Before the Flood)

Cass kisses Lunn

Cass yn cusanu Lunn. (TV: Before the Flood)

Pan gyrhaeddodd ysbryd y Doctor, fe agorodd y cawell Faraday gan rhyddhau'r ysbrydion eraill. Aeth Cass i chwilio am Lunn, a aeth i ddod o hyd i Ffôn Clara. Ymosodwyd arni hi gan ysbryd Moran, cyn iddi braidd dianc.

Yn dilyn diwedd y bygythiad, Lunn, Cass a Bennett oedd yr unig goroeswyr allan o bersonél yr orsaf. Wrth edrych ar ysbryd O'Donnell yn y cawell Faraday gyda'r ysbrydion eraill, dywedodd Bennett i Lunn cyfieithu neges at Cass a ddatganodd cariad Lunn tuag at Cass a sut dymunodd Bennett allai wedi dweud i O'Donnell am ei gariad ef tuag ati hi cyn ei marwolaeth. Fe gaeth Cass ei syfrdanu gan gyfaddefiad Lunn a fe ymddiheuriodd yn gloi cyn iddi syfrdanu fe wrth ei gusanu. (TV: Before the Flood)

Yn y cefn[]

  • Cass yw'r cymeriad byddar cyntaf i ymddangos yn Doctor Who, ond nid Sophie Stone yw'r actor byddar cyntaf i ymddangos ar y soie, gan roedd Tim Barlow, a chwaraeodd Tyssan yn y stori Hen Gyfres 17 Destiny of the Daleks, yn hollol fyddar wrth ffilmio'r stori. Roedd modd iddo darllen gwefusau.
Advertisement