Children of Earth: Day One oedd episôd gyntaf cyfres 3 Torchwood. Russell T Davies ysgrifenodd yr episôd, a chafodd ei cyfarwyddo gan Euros Lyn. Cynhwysodd yr episôd John Barrowman fel Jack Harkness, Eve Myles fel Gwen Cooper, Kai Owen fel Rhys Williams, a Gareth David-Lloyd fel Ianto Jones.
Cychwynodd y stori diwedd y Sefydliad Torchwood a gafodd ei sefydlu dros y ddwy gyfres diwethaf trwy golled eu hadnoddau technolegol. Gwelwyd hefyd dinistriad pencadlys Torchwood Tri a lladrad eu cerbyd. Darganfododd Gwen hefyd ei bod hi'n feichiog.
Cynhwysodd yr episod ail ymddangosiad Peter Capaldi o fewn bydysawd Doctor Who. Yn flaenorol, chwaraeodd Caecilius yn y stori The Fires of Pompeii. Yn hwyrach, fe fyddai yn chwarae'r Deuddegfed Doctor.
Crynodeb[]
Pan mae plant y Ddaear i gyd yn stopio ac yn côr-ganu "Rydyn ni'n dod", mae tîm Torchwood yn dechrau archwilio. Ai ddechreuad argyfwng byd-eang yw hon?
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Captain Jack Harkness - John Barrowman
- Gwen Cooper - Eve Myles
- Ianto Jones - Gareth David-Lloyd
- Rhys Williams - Kai Owen
- Lois Habiba - Cush Jumbo
- Dr Rupesh Patanjali - Rik Makarem
- Alice Carter - Lucy Cohu
- Steven Carter - Bear McCausland
- Bridget Spears - Susan Brown
- John Frobisher - Peter Capaldi
- Mr Dekker - Ian Gelder
- Johnson - Liz May Brice
- Clem McDonald - Paul Copley
- Brian Green - Nicholas Farrell
- Rhiannon Davies - Katy Wix
- Colonel Oduya - Charles Abomeli
- Johnny Davies - Rhodri Lewis
- Anna Frobisher - Hilary Maclean
- Nyrs - Anna Lawson
- Ysgrifenydd Llywodraeth - Rachel Ferjani
- Swyddog y Près- Christopher James
- Dyn Tacsi Dŵr - Phylip Harries
- Gweithredydd - Ben Loyd-Holmes
- David Davies - Luke Perry
- Mica Davies - Aimee Davies
- Holly Frobisher - Julia Joyce
- Lilly Frobisher - Madeleine Rakic-Platt
- Clem ifanc - Gregory Ferguson
- Merch Taiwaniaidd - Jennifer Chew
- Mam - Crisian Emmanuel
- Mam 2 - Melanie Barker
- Tad - Scott Bailey
Cyfeiriadau[]
Y byd go iawn[]
- Mae Gwen yn galw Jack a Ianto "the Chuckle Brothers".
- Mae hysbysiad ar gyfer Tommy Hilfiger.
Bwytai[]
- Mae Ianto yn cynnig mynd â'i nith, Mica, i McDonald's achos collodd ef ei phen blwydd.
Pobl[]
- Mae gan Gwen llun o Toshiko Sato ac Owen Harper yn ei gweithle.
UNIT[]
- Mae Cyrnol Alan Mace wedi'i leoli yn Vancouver.
Amser[]
- Mae'r plant yn siopio am y tro cyntaf am 8:40yb GMT, ac eto am 10:30yb. Mae Rhys yn sylwi mae'r amseroedd rhain yn cyfateb i'r amseroedd mae plant mwyaf allan, gan fynd i'r ysgol a chael egwyl.
Lleoliadau[]
- O ganlyniad i'r plant, mae Gwen yn recordio 17 damwain cerbyd yn cynnwys plant rhwng 8:40 a 8:41 ar ddraws y wlad o Lasgow i Borth Ia.
- Mae Ianto yn derbyn adroddiadau wrth Ffrainc, Norwy, Sweden, Denmarc, Lwcsembwrg, Sbaen, Portiwgal, Bosnia a Thokyo.
- Mae Oyuda yn dweud wrth Frobisher bod plant wedi stopio ar ddraws y byd, o Brydain, Yr Almaen, India, Yr Aifft, Guyana, Singapore, i America.
Nodiadau[]
- Yn gwreiddiol, digwyliwyd byddai Freema Agyeman yn ymddangos fel Martha Jones trwy gydol y gyfres. Pan achosodd ei rôl yn y gyfres Law & Order: UK iddi peidio fod ar gael am y gynhyrchiad cyfan, ysgrifenodd Davies cameo iddi ar gyfer Day One, ond atalodd ei amserlen rhag ffilmio'r cameo. Cadwyd y cameo mewn ffurf sgript yn Doctor Who: The Writer's Tale - The Final Chapter. I bob olwg, mae Martha yn parhau i fod yn rhan o UNIT, gan fod Jack yn cwyno bod ei gyfarchwr UNIT yn rhingyll yn lle Martha. Awgryma hon na chymerodd Martha cynnig swydd Jack yn TV: Journey's End.
- Yr ysbyty yn yr episôd yma yw un ysbyti defnyddiwyd yn nrama ysbyty'r BBC, Casualty.
- Er dewisiad y tîm cynhyrchu i ddileu "United Nations" wrth enw acronym UNIT, mae deialog yr episôd yma yn sefydlu bod UNIT dal yn cael eu rheoli gan y Cenhedloedd Unedig, gan maent yn gorchymynnu UNIT i rybydd melyn.
- Mae cyfeiriad at sioe gomedi y BBC, Gavin and Stacey, trwy'r dyfyniad "What's occurring?".
Cyfartaleddau gwylio[]
- BBC One dros nos: 5.9 miliwn
- Cyfartaledd DU terfynol: 6.47 miliwn
Cysylltiadau[]
- Mae Gwen yn galw am Ianto a Jack pan mae golau'r Hwb yn troi i ffwrdd, cyfeiriad at yr adeg cerddodd hi i mewn arnon nhw unwaith. (TV: Adrift)
- Mae twylliad Jack a Ianto o Rupesh Patanjali wrth iddo dod o hyd i eu pencadlys yn adlewyrchu beth wnaeth y tîm i Gwen pan ffeindiodd hi y sefydliad. Mae Gwen yn sylwi hon. (TV: Everything Changes)
- Mae Lois yn archwilio i hanes Torchwood, gan gynnwys ei sefydliad gan y Frenhines Fictoria yn 1879. (TV: Tooth and Claw)
- Wrth i Frobisher dweud am adrodd i'r Prif Weinidog, mae Dekker yn nodi bod swyddogion detholedig yn "dod a mynd", gan gyfeirio at newidiadau cyson Prif Weinidogion Prydain, megis Harriet Jones trwy 2006 a 2007 cynnar, (TV: The Christmas Invasion) Harold Saxon trwy 2008, (TV: The Sound of Drums) ac Aubrey Fairchild nes gwanwyn 2009. (PRÔS: Beautiful Chaos)
- Pan mae Rhys yn galw Gwen am dŷ gwelodd yn gwerthu, mae'r arwydd yn dweud "Frost and Lynch", yr un bua Mark Lynch ynghyd â chlwb ymladd Weevil. (TV: Combat)
- Mae'r SUV wedi cael ei llofruddio o'r blaen. (TV: Countrycide, Fragments)
- Mae Jack wedi rhyfeddu o'r blaen ar beth fyddai'n digwydd os gaiff ei gorff i ddinistrio'n gyfan gwbl. (PRÔS: Bay of the Dead)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
- Rhyddhawyd yr episôd gyda gweddill y gyfres ar DVD ar 13 Gorffennaf 2009.
- Cafodd ei rhyddhau hefyd yn rhan o set bocs Cyfres 1-4 ar 14 Tachwedd 2011.
Troednodau[]
|