Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Cold Blood (Cy: Gwaed Oer) oedd nawfed episôd Cyfres 5 Doctor Who.

Hon oedd ail ran stori dwy ran a gynhwysodd dychweliad y Silwriaid a marwolaeth cyntaf Rory Williams, a wnaeth esgyn yn gyflym i'w ddileuad amserol ar ôl i hollt mewn amser bwyta ei gorff. O ganlyniad, y Doctor yn unig sydd yn ei gofio.

Unwaith eto, mae'r Doctor yn ceisio dod o hyd i datrysiad heddychlon am wrthdaro rhwng y Silwriaid a Dyn. Yn yr achos hon, un Silwryn yn unig sydd ar fai am ddinistriad yr ymddiriedaeth rhwng y rhywogaethau, fel mae un person. Yn nodedig am amrywiad hon y Silwriaid, sydd fel arfer yn heddychlon a chymwynasgar, mae Alaya a Restac yn hiliol ac yn hil-laddol.

Yn wahanol i amrywiau blaenorol o'r Silwriaid na oroesodd eu cyfarfyddiad cyntaf gyda'r Doctor, mae'r braich Cwmtaf yn oroesi am gyfle arall i gyd-fyw gyda dynoliaeth yn y dyfodol

Byddai Neve McIntosh, a chwaraeodd Alaya a Restac, yn dychwelyd i'r sioe y flwyddyn olynol yn A Good Man Goes to War, yn chwarae Silwryn arall o'r enw Madame Vastra. Ond, yn wahanol i'r cymeriadau yn y stori hon, byddai Vastra yn parhau fel un o gynhreiriaid y Doctor, yn bennaf o fewn Oes Fictoria.

Crynodeb[]

Unwaith eto, mae'r Unarddegfed Doctor yn cyfarfod ag aelodau'r Silwriaid. Ond, y tro hyn, bydd modd iddo rhywstro dyn rhag eu dinistrio mewn cais hunan cadwedigaeth, neu bydd modd iddo broceri heddwch rhwng y rhywogaethau i gael dyfodol gwell am ddau rywogaeth y Ddaear?

Yn y cyfamser, mae llawer o gwestiynnau heb eu hateb: A oes modd ymddiried yn Ambrose i gadw Alaya'n fyw? Beth sydd yn digwydd i anaf Tony Mack? Yfe bai'r Silwriaid yw'r beddi gwag? A beth sydd yn aros am Mo ac Amy pan mae doctor Silwryn yn frwdfrydig i weld beth sydd yn cael ymateb wrthynt?

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - Matt Smith
  • Amy Pond - Karen Gillan
  • Rory - Arthur Darvill
  • Alaya/Restac - Neve McIntosh
  • Nasreen Chaudhry - Meera Syal
  • Tony Mack - Robert Pugh
  • Ambrose - Nia Roberts
  • Mo - Alun Raglan
  • Elliot - Samuel Davies
  • Malohkeh - Richard Hope
  • Eldane - Stephen Moore

Cast di-glod[]

  • Silwriaid:[1]
    • Nathalie Cuzner
    • Barbara Fadden
    • Alexandra Winton
    • Samantha Bennett

Cyfeiriadau[]

Y Doctor[]

  • Mae'r Doctor yn gofyn am seleri yn dilyn dadlygriad agos angheuol.

Technoleg[]

  • Mae padiau cludo'r Silwriaid yn defnyddio swigod disgyrchiant.
  • Mae'r Doctor yn chwilio am lofnodion gwres er mwyn lleoli Amy.

Rhywogaethau[]

  • Yr Amddifyniad Klempari yw pan mae unigolyn yn honni taw aelod olaf eu rhywogaeth ydynt.

Nodiadau[]

  • Enwyd y stori hon Warm Planet gan y BBC ar gamgymeriad.
  • Er ni ddefnyddiwyd yn yr episôd, mae modd gweld golygfa yn Doctor Who Confidential lle mae'r Silwriaid yn tywys y Doctor a Nasreen i'w neuadd. Yn yr olygfa, mae Nasreen yn nodi nad yw hi am farw "lawr man hyn". Mae'r Doctor yn cydymdeimlo gyda hi trwy ddweud "y tro diwethaf ges i fy nienyddio mi roedd yn wir traferth". Gall hon cyfeirio at sawl digwyddiad, ond achos ni chynhwyswyd yr olygfa yr rhan o'r stori, nid yw'r olygfa yn effeithio parhad golygfeyd y gyfres.
  • Mae'r Doctor yn gadael corff Rory achos mae golau'r hollt wedi cyrraedd ei gorff, ond, roedd modd ei achub achod nid oedd y maes amser wedi dechrau bwyta Rory.
  • Mae'r Doctor yn defnyddio'r ymadrodd "squeaky bum time". Defnyddiodd Sir Alex Ferguson yr ymadrodd yn gwreiddiol yn 2003. Cyn i Matt Smith penderfynu fod yn actor, ei obaith oedd i fod yn bêl-droediwr, cyn cael ei orfodi i atal achos anaf i'w gefn.
  • Hon yw'r stori gyntaf ers rhan un TV: The End of Time i gynnwys adroddawd. Storïau eraill i gynnwys adroddawd yw TV: The Deadly Assassin, Doctor Who, Army of Ghosts a Human Nature. Doedd yr adroddawd dim yn y sgript. Yn ôl Ashley Way, ychwanegodd Steven Moffat yr adroddawd.
  • Mae'r Doctor yn sôn am y Silwriaid yn gaeafgysgu pan ddysgon nhw am blaned yn crasio i mewn i'r Ddaear. Mewn gwirionedd, y Ddaear yn cael y Lleuad.
  • Dangoswyd clipiau wrth TV: The Eleventh Hour, The Time of Angels, Flesh and Stone, a The Vampires of Venice.
  • Mae'r Doctor yn dal ei sgriwdreifar sonig yn fertigol, yn atgoffaol o hen fodelau'r sgriwdreifar. Y tro olaf i'r Doctor dal y sgriwdreifar fel hyn oedd TV: Utopia. Yn Confidential, dywedodd Matt Smith nid arf yw'r sonig, ac felly ni phwyniodd y sonig at arfau'r Silwriaid i'w diarfogi.
  • Mae'r stori hon yn parhau hanes methianau'r Doctor i gyrraedd heddwch rhwng y Silwriaid a phobl. (TV: Doctor Who and the Silwriaid, The Sea Devils, Warrors of the Deep)
  • Yn y storïau blaenorol, ni gwisgodd Silwriaid mygydau. Arbedwyd arian ac amser gan y mygydau gan doedd actorion a wisgodd mygydau ddim angen cymaint o amser ar golur.
  • O fewn storïau cynharach roedd gan Silwrynd trydydd llygaid gyda llawer o ddefnyddiau. Roedd modd iddyn nhw ei ddefnyddio i greu gwres er mwyn palu trwy waliau ogofau, gweithredu eu technoleg, ac i amddiffyn eu hun. Gollyngodd Steven Moffat y llygaid achos ofnodd ef byddent yn edrych yn rhy debyg i Davros.
  • Torrwyd olygfa lle mae Amy a Mo yn dod o hyd i amryw o anifieiliaid herwgipiodd y Silwriaid, gan gynnwys ci Tony Mack o flynyddoedd cynt, o achos diffyg amser.
  • Nododd Karen Gillan byddai olygfa marwolaeth Rory yn "her enfawr", achos roedd rhaid iddi ei berfformio'n "credadwy".
  • Hon yw ymddangosiad cyntaf Silwriaid gyda thafod hir sydd yn gallu chwistellu gwenwyn.
  • Torrwyd hefyd oedd sgwrs rhwng Rory ac Alaya lle byddent yn siarad am fydd. Byddai'r sgwrs hyn yn rhagweld tynged Rory ar ddiwedd y stori.

Cyfartaledd gwylio[]

  • BBC One dros nos: 5.7 miliwn (5.4 miliwn ar BBC One, 0.3 miliwn ar BBC HD)
  • Cyfartaledd DU terfynol: 7.49 miliwn[2]

Lleoliadau ffilmio[]

  • Mae Siambr Cyngor y Silwriaid yw'r Deml Heddwch. Ymddangosodd y Deml fel Platfform Un yn TV: The End of the World, adeilad y Senedd yn TV: Gridlock, teml Chwaeroliaeth y Sibylline yn TV: The Fires of Pompeii, ac siambr y Mona Lisa yn yr oriel yn TV: Mona Lisa's Revenge. Byddai'r Lleoliad yn cael ei defnyddio am y bwyty Almaeneg wnaeth River Song ymosod ar yn TV: Let's Kill Hitler, ac am deml Yrcarnos yn WC: The Eternal Mystery.
  • Gerddi Botaneg Plantasia, Parc tawe, Abertawe.
  • Eglwys St Gwynno, Llanwynno, Pontypridd
  • Castell Hensol, Hensol

Cysylltiadau[]

  • Datgelwyd bod TARDIS y Doctor o leuaf yng nghanol y ffrwydriad a greuodd yr holltau amser, gan mae'r Doctor yn cael rhan o'r TARDIS o'r hollt wedi'i losgi. Mae hyn yn rhagweld digwyddiadau TV: The Pandorica Opens / The Big Bang
  • Mae'r Doctor yn cyfeirio ei gyfarfyddiad cyntaf gyda'r Silwriaid. (TV: Doctor Who and the Silwriaid)
  • Mae Rory yn gwthio'r Doctor er mwyn ei achub, ond oherwydd hynny, lladdwyd Rory, yn debyg i Jenny. (TV: The Doctor's Daughter)
  • Mae'r Doctor yn siarad am pwyntiau sefydlog amser. (TV: The Fires of Pompeii, The Waters of Mars)
  • Mae dosbarth rhyfel y Silwriaid yn defnyddio arfau pelydr gwres yn debyg i arfau Cythreuliaid y Môr. (TV: Warriors of the Deep)
  • Defnyddia'r Silwriaid swigod disgyrchiant. Defnyddiodd Edwin Bracewell swigod disgyrchiant hefyd i gadw y Spitfires yn y gofod. (TV: Victory of the Daleks)
  • Mae Eldane yn parchu Dyn yn debyg i Sh'vak. Ond, mae gan Restac yr un agwedd â Tulok, er crëodd Tulok pobl er mwyn iddo eu hela am sbri. (SAIN: Bloodtide)
  • Perswadiodd y Trydydd Doctor aelod o'r Silwriaid i rannu'r blaned gyda Dyn, ond cafodd ef ei ladd gan Silwriaid eraill di-ffyddiol. (TV: Doctor Who and the Silwriaid)
  • Mae Amy yn dwyn wrth bocedi Malokeh er mwyn dianc. Dwynodd Darius Pike wrth boced Thorne. (TV: Liberation) Mae'r Doctor wedi dwyn wrth sawl poced. (TV: The Ribos Operation ayyb)
  • Mae'r Doctor yn gofyn am seleri yn dilyn dilyniant dadhalogi. Gwisgodd y Pumed Doctor seleri ar ei labed (TV: Castrovalva ayyb), gan honni ei fod yn adferydd gwych. (TV: The Caves of Androzani)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

  • Rhyddhawyd yr epissôd yn rhan o Doctor Who Series 5: Volume 3 ar 2 Awst 2010 ar DVD a Blu-ray gyda Amy's Choice a The Hungry Earth.
  • Rhyddhawyd yr epissôd yn rhan o Steelbook Cyfres 5 ar 10 Chwefror 2020.
  • Cafodd yr episôd ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #78 ar 28 Rhagfyr 2011.

Troednodau[]

Advertisement