Pileri cwrel y TARDIS
Cwrel TARDIS oedd sylwedd organig a ffurfiodd y TARDIS. Caiff TARDISau eu tyfu, nid wedi'u hadeiladu. (TV: The Impossible Planet)
Roedd gan y Doctor Rhyfel, (TV: The Day of the Doctor) y Nawfed Doctor, (TV: Rose) y Degfed Doctor, (TV: The Christmas Invasion) a'r Unarddegfed Doctor TARDIS gyda thu mewn oedd yn debyg i gwrel. Roedd sawl piler edrychodd yn fwy debyg i goed neu winwydd na chefnogaeth strwythurol, a sylwedd yn debyg i gwrel o amgylch yr adeiledd. (TV: The Eleventh Hour)
Pan cyfunodd y TARDISau'r Pumed a'r Degfed Doctor, awgrymodd y Pumed Doctor taw "cwrel" oedd thema Desktop presennol y TARDIS. Ac roedd y thema'n waeth na'r "croen llewpard". (TV: Time Crash)
Roedd ystafell rheoli trydyddol TARDIS y Seithfed Doctor â golwg organig debyg i garreg. (PRÔS: Nightshade)
Ar ôl y Rhyfel Mawr Olaf Amser, credwyd bod cwrel TARDIS wedi'i ddiflanu. Lleolwyd darn o gwrel TARDIS ar Arcadia. Ceisiodd Sladen dwyn rhan o'r cwrel gyda'i phartner, Dana MacLeish. Ymyrrodd Jack Harkness gan gymryd y cwrel i'w hun. (COMIG: The Culling)
Dechreuodd cwrel TARDIS tyfu o amgylch yr Allosodwr macro-cinetig tonffurf triboffisegol wedyn cyfuniad digon hir gyda'r TARDIS. (TV: The Runaway Bride)
Cynhwysodd yr Archif Du ddarn o gwrel TARDIS. (TV: The Day of the Doctor)