Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Rhedodd Cyfres 1 Doctor Who o 26 Mawrth 2005 nes 18 Mehefin 2005. Dyma'r stori gyntaf i gael ei gynhyrchu gan BBC Wales. Cynhwysodd y gyfres Christopher Eccleston fel y Nawfed Doctor a Billie Piper fel Rose Tyler. Cychwynnodd y gyfres gyda Rose a clodd gyda The Parting of the Ways

Trosolwg[]

Cyflwynodd y gyfres y Nawfed Doctor, a'i gydymaith Rose. Deliodd y gyfres gyda'r ymadrodd "Bad Wolf", priaf acr y gyfres. Gwelir yr ymadrodd yn rhan fwyaf yr episodau o'r gyfres.

Darparodd Cyfres 1 hefyd y gwybodaeth cyntaf am y Rhyfel Mawr Olaf Amser. Digwyddodd adfywiad cyntaf y gyfres newydd yn The Parting of the Ways. Yn ychwanegol, cyflwynodd y gyfres Jack Harkness, yn dechrau'r syniad am y gyfres deilliedig Torchwood.

Cynhyrchu[]

Cynhwysodd Cyfres 1 deg stori ar ddraws un deg tri episôd. Pennaeth y sioe oedd Russell T Davies, o ganlyniad dyma pwynt cychywyn beth sydd fel arfer yn cael ei sôn am fel "oes RTD" (Sn: "RTD era") ymysg cefnogwyr y sioe. Darlledwyd y gyfres un deg chwecch blwyddyn yn dilyn y gyfres llawn olaf blaenorol, ac naw mlynedd olynol i'r stori deledu diweddaraf. Ond nid llwyddiant unigol Russell T Davies oedd dod â Doctor Who nôl i BBC One. Mae sawl rhaglen dogfennol yn cadarnhau mai ymdrech grŵp o bobl wnaeth adfywio'r sioe ar gyfer y ganrif newydd, yn enwedig gwethwyr y BBC, Jane Tranter a Lorraine Heggessey, a chyd-gynhyrchwyr gweithredol Davies, Julie Gardner a Mal Young.

Roedd eu cais am adfywio'r sioe yn llwyddianus, gyda bwriad Russell o gael y cyfres yn barhad o'r gyfres gwreiddiol yn ffafriol. O ganlyniad, mae sawl agwedd o'r gyfres wreiddiol yn parhau i mewn i'r gyfres hon: etifeddiaeth Arglwydd Amser y Doctor; y sgriwdrefar sonig, ei TARDIS, a gelyn enwocaf y Doctor, y Daleks. Gwelodd y gyfres hefyd ddychwediad enwau unigol ar gyfer episodau am y tro cyntaf ers The Gunfighters yn Hen Gyfres 3.

Er ysgrifenodd RTD rhan fwyaf o'r gyfres, fe gyflogodd hefyd Mark Gatiss, Robert Shearman, Paul Cornell, a Steven Moffat ar sail eu gwaith blaenorol yn y cyfresi Virgin New Adventures a Short Trips. Gyda Gatiss a Cornell, roedd Davies yn eglur roedd ef eisiau sgriptiau gyda theimlad tebyg i'w gwaith yn y VNAs.

Yn y pendraw, newidodd diwydiant teledu Prydain wrth ddewis i gynhyrchu'r gyfres yn Caerdydd yn lle Llundain. Cafodd arsyniad y BBC ei newid o hen faengolofn o ddiwylliant i hwb enfawr o gynhyrchu cyfresi teledu Prydain. Er, gwynebodd y gyfres yr un fath o broblemau mae llawer o wledydd heb brofiad mewn cynhyrchu cyfres dibynnol ar effeithiau arbennig.

Enillodd y gyfres y National Television Award a BAFTA am "Best Drama Series", yn gadarnhad o'i boblogrwydd a'i llwyddiant. Dyma oedd tro cyntaf cafodd Doctor Who ei enwebu am BAFTA ers Hen Gyfres 15, a'r tro cyntaf i'r sioe cael ei enwebu mewn categori "oedolyn". Yn bwysicach fyth, dyma'r tro cyntaf i Doctor Who ennill BAFTA. Hefyd, enillodd Christopher Eccleston a Billie Piper National Television Award am "Favourite Actor" a "Favorite Actress". Yn ychwanegol, dechreuodd awdur Steven Moffat goruwchreolaeth tair mlynedd dros yr Hugo Award "Short Form Presentaion" gan ennill am The Empty Child / The Doctor Dances. Byddai Jack Harkness, a gafodd ei gyflwyno yn y stori hon, hefyd yn mynd ymlaen i gael effaith enfawr ar fydysawd Doctor Who.

Cast[]

ac yn cyflwyno David Tennant fel Doctor Who

Craidd[]

  • Jackie Tyler - Camille Coduri
  • Mickey Smith - Noel Clarke
  • Autons - Alan Ruscoe, Paul Kasey, David Sant, Elizabeth Fost, Helen Otway
  • Y Foneddiges Cassandra - Zoë Wanamaker
  • Trinity Wells - Lachele Carl
  • Harriet Jones - Penelope Wilton
  • Blon Fel-Fotch Passameer-Day Slitheen - Annette Badland, Alan Ruscoe
  • Adam Mitchell - Bruno Langley
  • Capten Jack Harkness
  • Daleks - wedi'u gweithredu gan Barnaby Edwards, Nicholas Pegg, David Hankinson a wedi'u lleisio gan Nicholas Briggs

Gwadd[]

Storïau teledu[]

Gwelodd Cyfres 1 newidiad llwyr mewn fformat storïau'r gyfres. Yn lle treulio sawl episôd 30 munud ar un stori, fel oedd yr arfer gyda'r hen gyfres, newidodd Davies a'i dîm y fformat i gael un stori cyfan mewn episôd 45 munud. Roedd hefyd storïau dwy ran ar ddraws y gyfres, gan gynnwys stori olaf y gyfres. Mae'n debyg o achos i lwyddiant y gyfres hon yw'r rheswm bod bron pob un o'r cyfresi canlynol wedi dilyn y fformat hon.

Wnaeth Cyfres 1 hefyd gweld defnyddiad arc stori ar ddraws y gyfres am y tro cyntaf. Am gyfres 1 mae modd gweld neu glywed yr ymadrodd "Bad Wolf", wedi'i cuddio mewn bron pob un o episodau'r gyfres.

Episodau[]

# Teitl Awdur Cyfarwyddwr Nodiadau
1 Rose Russell T Davies Keith Boak Ymddangosiad cyntaf y Nawfed Doctor, Rose Tyler, Jackie Tyler a Mickey Smith. Ailgyflwyniad yr Autons a'r Ymwybyddiaeth Nestene. Ymddangosiad cyntaf y sgriwdreifar sonig glas. Episôd cyntaf y gyfres newydd.
2 The End of the World Euros Lyn Ymddangosiadau cyntaf yr Wyneb Boe a'r Foneddiges Cassandra. Cyflwyniad yr ymadrodd Bad Wolf. Cyfeiriadau cyntaf at y Rhyfel Mawr Olaf Amser. Ymddangosiad cyntaf y papur seicig. Y tro cyntaf i gymeriad LHDTQRh+ cadarnhaol ymddangos mewn stori deledu.
3 The Unquiet Dead Mark Gatiss Cyflwyniad Hollt Caerdydd.
4 Aliens of London
(Rhan 1)
Russell T Davies Keith Boak Ymddangosiad cyntaf Toshiko Sato, Harriet Jones a'r Teulu Slitheen.
5 World War Three
(Rhan 2)
6 Dalek Robert Shearman Joe Ahearne Ailgyflwyniad y Daleks ac ymddangosiad cyntaf Adam Mitchell. Crybwylliad cyntaf at ran y Doctor yn y Rhyfel Amser.
7 The Long Game Russell T Davies Brian Grant Ymddangosiad olaf Adam Mitchell. Ymddangosiad cyntaf Satellite 5.
8 Father's Day Paul Cornell Joe Ahearne Cyflwyniad Pete Tyler.
9 The Empty Child
(Rhan 1)
Steven Moffat James Hawes Ymddangosiad cyntaf Jack Harkness.
10 The Doctor Dances
(Rhan 2)
11 Boom Town Russell T Davies Joe Ahearne Ailymddangosiad Blon Fel-Fotch Passameer-Day Slitheen.
12 Bad Wolf
(Rhan 1)
Ymddangosiad rheolaidd olaf y Nawfed Doctor. Cyflwyniad y Degfed Doctor. Ymddangosiad olaf Jack Harkness fel cydymaith teithio'r Doctor. Crybwylliad cyntaf at Torchwood. Datrysiad yr arc Bad Wolf.
13 The Parting of the Ways
(Rhan 2)

Addasiadau a Marsiandïaeth[]

Cyfryngau cartref[]

VHS[]

Rhyddhawyd pob episôd o gyfres 1 ar VHS gan Colombia Tristar Home Entertainment ym mis Tachwedd 2005.

DVD[]

Enw stori Rhif a hyd episodau Dyddiad rhyddhau R2 Dyddiad rhyddhau R1 Dyddiad rhyddhau R4
Doctor Who: Volume 1
Rose
The End of the World
The Unquiet Dead
3 x 45 mun. 16 Mai 2005 7 Tachwedd 2006 17 Mehefin 2005
Doctor Who: Volume 2
Aliens of London /
World War Three
Dalek
3 x 45 mun. 13 Mehefin 2005 7 Tachwedd 2006 3 Awst 2005
Doctor Who: Volume 3
The Long Game
Father's Day
The Empty Child /
The Doctor Dances
4 x 45 mun. 1 Awst 2005 7 Tachwedd 2006 31 Awst 2005
Doctor Who: Volume 4
Boom Town
Bad Wolf /
The Parting of the Ways
3 x 45 mun. 5 Medi 2005 7 Tachwedd 2006 6 Hydref 2005
Doctor Who: The Complete First Series 13 x 45 mun. 21 Tachwedd 2005 14 Chwefror 2006 (Canada)
4 Mehefin 2006 (UDA)
8 Rhagfyr 2005

Blu-ray[]

Rhyddhawyd Cyfres 1 yn rhan o set bocs blu-ray Doctor Who: Complete Series 1-7 ar 4 Tachwedd 2013 (DU), ac ar 5 Tachwedd 2013 (UDA). Yn hwyrach, cafodd Cyfres 1 ei rhyddhau fel Doctor Who: The Complete First Series ar blu-ray ar 13 Awst 2015.

Ar 20 Mawrth 2017, rhyddhawyd Steelbook Cyfres 1.

Nofeleiddiadau[]

  • Rose
  • Dalek

Storïau gosodwyd yn y gyfres hon[]

Nofelau[]

BBC New Series Adventures[]

  • The Clockwise Man
  • The Monster Inside
  • Winner Takes All
  • The Deviant Strain
  • Only Human
  • The Stealer of Dreams

Storïau sydyn[]

Doctor Who Annual[]

  • Doctor vs Doctor
  • The Masks of Makassar
  • Pitter Patter

eShort Puffin[]

Twelve Doctors of Christmas[]

  • The Red Bicycle

The Day She Saved The Doctor[]

  • Rose and the Snow Window

Gwefan Doctor Who[]

  • Christmas Special

Sain[]

Destiny of the Doctor[]

  • Night of the Whisper

The Ninth Doctor Chronicles[]

  • The Window on the Moor
  • The Window on the Moor
  • Retail Therapy

Short Trips[]

  • The Lichyrwick Abomination

Storïau sain Doctor Who y BBC[]

  • The Ashes of Eternity

Comics[]

Doctor Who Annual[]

  • Mr Nobody

Doctor Who Magazine[]

Doctor Who: The Ninth Doctor[]

  • Weapons of Past Destruction
  •  Doctormania
  •  The Transformed
  •  Official Secrets
  • Slaver's Song
  • Sin-Eaters
  • Secret Agent Man
  • The Bidding War

Doctor Who: The Thirteenth Doctor[]

  • Return of the Volsci

Free Comic Book Day[]

  • Hacked

Dolenni allanol[]

Advertisement