Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Rhedodd Cyfres 1 The Sarah Jane Adventures rhwng 1 Medi 2007 a 19 Tachwedd 2007. Cynwhysodd y gyfres Elisabeth Sladen fel Sarah Jane Smith, Yasmin Paige fel Maria Jackson, Tommy Knight fel Luke Smith, Daniel Anthony fel Clyde Langer, a Alexander Armstrong fel Mr Smith. Cychwynnodd y gyfres gyda Invasion of the Bane a chlodd gyda The Lost Boy.

Trosolwg[]

Cynhwysodd y gyfres 6 stori dros 11 episôd. Yn dilyn episôd arbennig 60 munud ar 1 Ionawr 2007, darlledwyd cyfres lawn rhwng 24 Medi 2007 a 19 Tachwedd 2007 mewn pum stori dwy-rhan. Roedd pob episôd y gyfres lawn yn 25 munud o hyd, gan ddynodi'r tro cyntaf mae episodau 25 munud wedi'u defnyddio mewn masnachfraint Doctor Who ers cafodd y cyfres gwreiddiol ei chanslo yn 1989.

Darlledwyd trelar ar gyfer y gyfres a welodd Clyde yn trafod 13 Bannerman Road.

Cast[]

  • Sarah Jane Smith - Elisabeth Sladen
  • Maria Jackson - Yasmin Paige
  • Luke Smith - Tommy Knight
  • Clyde Langer - Daniel Anthony
  • Mr Smith - Alexander Armstrong (llais)
  • Alan Jackson - Joseph Millson
  • Chrissie Jackson - Juliet Cowan

Cylchol[]

  • K9 - John Leeson (llais)
  • Mrs Wormwood - Samantha Bond
  • Professor Rivers - Floella Benjamin
  • Trinity Wells - Lachele Carl
  • Carl / Nathan Gross - Anton Thompson McCormick, Jimmy Vee
  • Y Trickster - Paul Marc Davis
  • Krislok - Jimmy Vee, Philip Hurd-Wood

Gwadd[]

  • Kelsey Hooper - Porsha Lawrence-Mavour
  • Andrea Yates - Jane Asher
  • Bea Nelson-Stanley - Phyllida Law
  • Sister Helena - Beth Goddard
  • Mark Grantham - Chook Sibtain
  • Jen - Nadiyah Davis
  • Jay Stafford - Jay Simpson
  • Heidi Stafford - Holly Atkins

Storïau teledu[]

Rhif stori Teitl Ysgrifennwr Cyfarwyddwr Nodiadau
1 Invasion of the Bane Russell T Davies & Gareth Roberts Colin Teague Ailgyflwyniad Sarah Jane Smith a K9 Math IV. Ymddangosiad cyntaf Luke Smith, Maria Jackson, Alan Jackson, Chrissie Jackson, Mr Smith, Mrs Wormwood a'r Bane. Unig ymmdangosiad Kelsey Hooper. Dangoswyd bod K9 yn cyfyngu gwasgariad twll ddu o ganlyniad i arbrofiad yn y Swistir.
2 Revenge of the Slitheen Gareth Roberts Alice Troughton Ailgyflwyniad y Slitheen a chyflwyniad Clyde Langer.
3 Eye of the Gorgon Phil Ford Alice Troughton
4 Warriors of Kudlak Phil Gladwin Charles Martin Y tro cyntaf mae Luke, Clyde a Maria yn teithio i'r gofod, ac yn cael eu cynnwys mewn plot y tu hwnt i'r Ddaear.
5 Whatever Happened to Sarah Jane? Gareth Roberts Graeme Harper Ymddangos cyntaf y Trickster a Krislok.
6 The Lost Boy Phil Ford Charles Martin Datgelwyd bod Mr Smith yn estronwr o rhywogaeth y Xylok tu mewn i uwchgyfrifiadur, gyda chymeriad creulon drygionus. Trwy ddefnydd feirws, mae'n troi'n gyfeillgar.

Estronwyr a gelynion[]

  • Bane
  • Mrs Wormwood
  • Mam y Bane
  • Davey
  • Slitheen
  • Gorgon
    • Yr Abades
  • Sister Helena
  • Uvlavad Kudlak
  • Y Feistres
  • Mark Grantham
  • Brigâd y Trickster
    • Y Trickster
  • Krislok
  • Xylok
    • Mr Smith

Nofelau[]

Gyda Cyfres 1 The Sarah Jane Adventures, nododd y tro cyntaf ers The Novel of the Film yn 1996 comisiynwyd nofeleiddiadau am episodau teledu wrth gynhyrchiad masnachfraint Doctor Who. Cyhoeddwyd y pedwar nofeleiddiad cyntaf yn 2007, a'r dau olaf yn 2008.

  • Invasion of the Bane
  • Revenge of the Slitheen
  • Eye of the Gorgon
  • Warriors of Kudlak
  • Whatever Happened to Sarah Jane?
  • The Lost Boy

Sainlyfrau[]

  • The Glittering Storm
  • The Thirteenth Stone

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

  • Rhyddhawyd Invasion of the Bane ar DVD ar 29 Hydref 2007.
  • Rhyddhawyd The Complete First Series (yn cynnwys Invasion of the Bane) ar 10 Tachwedd 2008.

Argaeledd ffrydio[]

  • Ar 19 Awst 2021, fe ddaeth holl episodau The Sarah Jane Adventures ar gael i ffrydio ar BritBox.
Advertisement