Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Rhedodd Cyfres 2 The Sarah Jane Adventures rhwng 29 Medi 2008 a 8 Rhagfyr 2008. Cynhwysodd y gyfres Elizabeth Sladen fel Sarah Jane Smith, Tommy Knight fel Luke Smith, Daniel Anthony fel Clyde Langer, Anjli Mohindra fel Rani Chandra, Alexander Armstrong fel Mr Smith, a Yasmin Paige fel Maria Jackson. Cychwynodd y gyfres gyda The Last Sontaran a chlodd gyda Enemy of the Bane.

Trosolwg[]

Cynhwysodd y gyfres 6 stori dros 12 episôd. Darlledwyd y gyfres o 29 Medi 2008 nes 8 Rhagfyr 2008. Dechreuodd y gyfres gyda chast y gyfres cyntaf (ar wahan i John Leeson fel K9, gan ni ymddangosodd o fewny gyfres hon). Yn dilyn y stori gyntaf, digwyddodd newidiad cast mawr. Gadawodd Yasmin Paige y gyfres, a'i hamnewidwyd gyda Anjli Mohindra fel Rani Chandra. Cynhwysodd gweddill storïau'r gyfres cyfeiriau at Maria, megis lluniau ac ôl-gofion. Dychwelodd Paige i'r gyfres am y tro olaf yn The Mark of the Berserker.

Roedd y gyfres yn nodedig am ddychweliad Nicholas Courtney yn rôl Sir Alistair Gordon Lethbridge-Stewart. Hon oedd ei ymddangosiad cyntaf (ar sgrîn) ers y ffilm annibynol FIDEO: Downtime yn 1995 a'r tro cyntaf mewn cynhyrchiad BBC ers TV: Battlefield yn 1989. Cafodd UNIT eu hymddnangosiad cyntaf yn y gyfres deilliedig.

Roedd dychweliad gelynion yn cynnwys y Bane a'r Trickster, a Krislok, a gafodd ei atal rhag marw er mwyn gweithio i'r Trickster, sydd wedyn yn cael ei ryddhau rhag gweithio i'r Trickster. Mae'r Sontarans yn ymddangos am y tro cyntaf mewn gyfres deilliedig, gyda stori dilynol i'r stori Doctor Who The Sontaran Stratagem / The Poison Sky

Sawl mis yn dilyn diwedd y gyfres, adunodd y cast - yn cynnwys unig ymddangosaid K9 yng nghyfres 2 - am Fron Raxacoricoffallapatorious, episôd-mini wedi'i cynhyrchu ar gyfer Red Nose Day 2009.

Yn nodedig, mae poster hysbysol y gyfres sydd yn cynnwys cast cyfres 2 yw'r unig tro mae Mr. Smith yn cael ei cynnwys yn lluniau hysbysol fel aelod o'r cast.

Cast[]

  • Sarah Jane Smith - Elisabeth Sladen
  • Luke Smith - Tommy Knight
  • Clyde Langer - Daniel Anthony
  • Rani Chandra - Anjli Mohindra
  • Mr Smith - Alexander Armstrong (llais)
  • Haresh Chandra - Ace Bhatti
  • Gita Chandra - Mina Anwar

Cylchol[]

  • Maria Jackson - Yasmin Paige
  • Alan Jackson - Joseph Millson
  • Chrissie Jackson - Juliet Cowan
  • Mrs Wormwood - Samantha Bond
  • Celeste Rivers - Floella Benjamin
  • Carla Langer - Jocelyn Jee Esien
  • K9 Mark IV - John Leeson (llais)
  • Y Trickster - Paul Marc Davis
  • Krislok - Jimmy Vee, Philip Hurd-Wood
  • Steve Wallace - Elijah Baker
  • Mr Cunningham - Huw Higginson
  • Trinity Wells - Lachele Carl

Gwadd[]

  • Nicholas Skinner - Ronan Vibert
  • Lucy Skinner - Clare Thomas
  • Pied Piper - Bradley Walsh
  • Newyddiadurwr Ffrangeg - Anthony Debaeck
  • Paul Langer - Gary Beadle
  • Barbara Smith - Rosanna Lavelle
  • Eddie Smith - Christopher Pizzey
  • The Brigadier - Nicholas Courtney

Storïau teledu[]

# Teitl Awdur Cyfarwyddwr Nodiadau
1 The Last Sontaran Phil Ford Joss Agnew Cyflwyniad Kaagh. Ymddangosiad rheolaidd olaf Maria Jackson ac Alan Jackson, ac ymddangosiad olaf Chrissie Jackson.
2 The Day of the Clown Michael Kerrigan Ymddangosiad cyntaf Rani Chandra, Gita Chandra ac Haresh Chandra.
3 Secrets of the Stars Gareth Roberts Achos cyntaf o'r Doctor yn ymddangos yn y gyfres, er mewn ôl-fflachiad.
4 The Mark of the Berserker Joseph Lidster Joss Agnew Ymddangosiad olaf Maria ac Alan Jackson. Cyflwyniad Carla Langer.
5 The Temptation of Sarah Jane Smith Gareth Roberts Graeme Harper Ymddangosiad olaf Krislok. Cyflwyniad rhieni Sarah Jane, Barbara Smith ac Eddie Smith, gan hefyd datgelu eu tynged.
6 Enemy of the Bane Phil Ford Ailgyflwyniad Alistair Gordon Lethbridge-Stewart, Kaagh, Mrs Wormwood a'r Bane. Ymddangsiad olaf Kaagh a Mrs Woormwood.

Episôd arbennig[]

# Teitl Awdur Cyfarwyddwr Nodiadau
- From Raxacoricofallapatorius With Love Gareth Roberts & Clayton Hickman Joss Agnew

Estronwyr a gelynion[]

  • Kaagh
  • Pied Piper
  • Martin Trueman
  • Ancient Lights
  • Paul Langer
  • Travist Polong
  • Y Trickster
  • Graske
  • Mrs Wormwood
  • Cal Kilburne
  • Bane
  • Slitheen

Nofelau[]

Hyd yma, addaswyd dwy stori fel nofeleiddiadau gan Penguin Character Books. Cyhoeddwyd y dwy ym Mis Tachwedd 2008.

  • The Last Sontaran
  • Day of the Clown

Sainlyfrau[]

  • The Time Capsule
  • The Ghost House

Darllediad rhyngwladol[]

Yn wahanol i gyfres 1, a gafodd ei darlledu ar BBC Kids yn Canada ac ar The Sci-Fi Channel yn yr UDA, ni ddarlledwyd cyfres 2 ar unwaith yn y gwledydd hwnnw. O ganlyniad, rhyddhawyd y DVD cyn darllediad teledu yng Nghogledd America.

Yng nghanol Ionawr 2010, dechreuodd BBC Kids darlledu cyfres 2, er erbyn hyn gollyngwyd y sianel gan un o ddarparwyr gwasanaeth cebl mwyaf Canada.

Rhyddhad cyfryngau cartref[]

  • Rhyddhawyd The Complete Second Series (gan gynnwys From Raxacoricofallapatorious with Love fel ychwanegiad wedi'i mynedu trwy gwblhau cwis) ar 9 Tachwedd 2009.
  • Y dydd olynol, ar 10 Tachwedd 2009, rhyddhawyd y gyfres yng Nghogledd America. Dynododd hyn y tro cyntaf rhyddhawyd cyfres cyfan o fasnachfraint Doctor Who ar DVD cyn ei darllediad teledu.
Advertisement