Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Rhedodd Cyfres 3 Torchwood, hefyd wedi'u hadnabod fel Children of Earth, dros bum nos olynol o 6 Gorffennaf nes 10 Gorffennaf 2009. Cynhwysodd y gyfres John Barrowman fel Jack Harkness, Eve Myles fel Gwen Cooper, Kai Owen fel Rhys Williams, a Gareth David-Lloyd fel Ianto Jones. Cychwynnodd y gyfres gyda Children of Earth: Day One a chlodd gyda Children of Earth: Day Five.

Trosolwg[]

Strwythurwyd y gyfres fel un stori, wedi'i darlledu dros pum episôd o dan y teitl o Torchwood: Children of Earth, wedi'i darlledu dros bum nos olynol. Roedd gan y gyfres cynhyrchydd newydd, Peter Bennett, a chyfarwyddodd Euros Lyn y gyfres, hen gyfarwyddwr cyfres newydd Doctor Who.

Ysgrifennodd Russell T Davies yr episodau cyntaf ac olaf ac arc y stori. Ysgrifennodd Davies a James Moran y trydydd episôd, tra John Fay, ysgrifennydd newydd, ysgrifennodd yr ail a'r phedwerydd episodau. Er, yn ôl blog Moran, roedd gan y tri ysgrifennydd mewnbwn i'r arc.

Yn wreiddiol, ysgrifennwyd Freema Agyeman a Noel Clarke i mewn i'r gyfres fel Martha Jones a Mickey Smith, gyda Agyeman yn ymddangos trwy gydol y gyfres a Clarke yn y dwy episôd olaf. Ond pan dderbyniodd Agyeman rôl yn Law & Order: UK, caiff ei hymddangosiad ei lleihau i ond cameo, a gafodd ei dorri gan oedd hi'n rhy brysur i ffilmio. Gorfododd ymrwymiadau ffilmio Clarke iddo ganslo ei ymddangosiad. (REF: Doctor Who: The Writer's Tale - The Final Chapter)

Mae Nicholas Briggs, person sydd wedi ysgrifennu ac actio mewn sawl cynhyrchiad Doctor Who gyda ac heb drwydded ers yr 1980au, prif lais estronwyr ar gyfres newydd Doctor Who yn cael ei ymmmdangosiad cyntaf mewn cynhyrciad Doctor Who teledu deilliedig.

Dechreuodd cynhyrchiad y gyfres yn Awst 2008.

Yn 2010, enwebodd y Television Critics Association y gyfres am Best TV Movie, Miniseries and Special.

Cynhwysodd y gyfres John Barrowman fel Jack Harkness, Eve Myles fel Gwen Cooper, Gareth David-Lloyd fel Ianto Jones (yn y bedwar episôd gyntaf), a Kai Owen fel Rhys Williams.

Cast[]

  • Capten Jack Harkness - John Barrowman
  • Gwen Cooper - Eve Myles
  • Ianto Jones - Gareth David-Lloyd
  • Rhys Williams - Kai Owen
  • Lois Habiba - Cush Jumbo
  • John Frobisher - Peter Capaldi
  • Clem McDonald - Paul Copley
  • Johnson - Liz May Brice
  • Rhiannon Davies - Katy Wix
  • Alice Carter - Lucy Cohu
  • Mr Dekker - Ian Gelder
  • Prif Weinidog Green - Nicholas Farrell
  • Bridget Spears - Susan Brown
  • Steven Carter - Bear McCausland
  • Johnny Davies - Rhodri Lewis
  • Andy Davidson - Tom Price
  • Llais y 456 - Simon Poland


Cylchol[]

  • Dr Rupesh Patanjali - Rik Makarem
  • Denise Riley - Deborah Findlay
  • Trinity Wells - Lachele Carl
  • Newyddiadurwr Ffrangeg - Anthony Debaeck

Gwadd[]

  • Rick Yates - Nicholas Briggs

Episodau[]

# Teitl Awdur Cyfarwyddwr Nodiadau
1 Day One Russell T Davies Euros Lyn Ymddangosiad cyntaf Clem McDonald, Lois Habiba, John Frobisher, Brian Green, Rhiannon Davies, Johnny Davies, Mr. Dekker, Alice Carter, Steven Carter a Asiant Johnson. Mae Gwen yn beichiog. Dinistriad Hwb Torchwood.
2 Day Two John Fay
3 Day Three Russell T Davies, James Moran Ymddangosiad cyntaf y 456. Sefydliad pencadlys dros dro am Torchwood Tri.
4 Day Four John Fay Marwolaeth Ianto Jones a Clem.
5 Day Five Russell T Davies Ymddangos olaf y 456. Marwolaeth Steven Carter a John Frobisher. Gadewiad Jack Harkness o'r Ddaear. Chwaliad Torchwood Tri.

Estronwyr a gelynion[]

  • Llysgennad y 456
  • John Frobisher
  • Brian Green
  • Johnson
  • Rupesh Patanjali
  • Hitchhiker

Argaeledd digidol[]

Mae Cyfres 3 Torchwood ar gael i brynu ar:

  • iTunes yn Awstralia, Canada, Ffrainc, yr Almaen, y DU a'r UDA.
  • Amazon Video yn Awstria, yr Almaen, y DU a'r UDA.
  • Netflix mewn 70 gwlad, yn eithrio Austria, Canada, Ffrainc, yr Almaen, a'r DU.
  • Stan yn Awstralia sydd yn cynnwys gweddill y cyfresi.

Storïau sain[]

  • Asylum
  • Golden Age
  • The Dead Line

Darlledwyd y storïau yng Nghorffennaf cynnar ar Radio 4 cyn darllediad Children of Earth. Rhyddhawyd y CD wedyn ar 22 Medi 2009.

Advertisement