Y Cylch Tragwyddol oedd grŵp o bump Dalek glas ac arian a gafodd eu creu gan Ymerawdwr y Daleks. (PRÔS: Engines of War) Rhoddwyd i'r grŵp y dasg o greu arfau amser i ddefnyddio ar yr Arglwyddi Amser yn y Rhyfel Mawr Olaf Amser.
Helpon nhw arwain yr ymdrech rhyfel gyda'r Ymerawdwr (PRÔS: The Whoniverse) gan greu y Canon Amserol ar Moldox ar gyfer yr ymdrech. Creuon nhw hefyd y Dalek Ysglyfaethus, mewn plan i greu erfyn yn defnyddio'r Doctor. Dinistriodd Borusa'r Cylch pan dywedodd y Doctor iddo fe ddileu pob ôl gweithgarwch y Daleks yn y Droell Tantalws. (PRÔS: Engines of War)
Yn y cefn[]
- Ym mhennod wyth, disgrifiwyd un o'r grŵp fel glas ac aur. Mae hyn yn wahanol i bob disgrifiad arall o'r Cylch Tragwyddol yn y nofel, gan mae pob disgrifiad arall, cyn ac ar ôl, yn eu disgrifio fel glas ac arian.
- Ail gyfarfod nodedig y Doctor â grŵp Dalek amserol yw hwn. Y grŵp cyntaf oedd y Tîm Ymchwil Amser.