Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
Welsh countryside

Cefn gwlad Cymru. (TV: Countrycide)

Cymru oedd gwlad Bryneidig, gyda ei phrifddinas, Caerdydd, yn eistedd ar hollt amser. (TV: The Unquiet Dead ayyb) ac roedd hefyd yn gartref i Torchwood Tri. (TV: Everything Changes ayyb) Yn ôl Rex Matheson, Cymru oedd "cyfwerth â New Jersey i Brydain". (TV: The New World)

Cymraes oedd Gwen Cooper (gyda theulu o Abertawe) a Chymro oedd Ianto Jones, gweithwyr Torchwood Tri, ac roedd gŵr Gwen, Rhys Williams, hefyd yn Gymro.

Daearyddiaeth[]

Rhannodd Cymru arfordir tir gyda de orllewin Lloegr (TV: Army of Ghosts) Yn arferol, rhannwyd y wlad i Ogledd Cymru (SAIN: Forgotten Lives) a De Cymru. (TV: The Stolen Earth)

Roedd dinasoedd nodedig yn Nghymru yn cynnwys Caerdydd (TV: Army of Ghosts) ac Abertawe, (TV: The Categories of Life) a threfi nodedig yn cynnwys Aberystwyth (TV: Army of Ghosts) a Wrecsam (SAIN: Forgotten Lives) Roedd hefyd gan Aberystwyth Prifysgol. (TV: Random Shoes)

Llywodraeth[]

Enw llywodraeth Cymru oedd y Senedd. Roedd gan llywodraeth y DU cyfrifoldeb dros Gymru, ond honnodd Blon Fel-Fotch Passameer-Day Slitheen nad oeddent yn talu sylw i unrhywbeth a ddigwyddodd yn y wlad, gan nodi gall arfordr De Cymru cyfan "cwympo i'r môr" heb i lywodraeth y DU sylwi. (TV: Boom Town)

Hanes[]

Hanes Cynnar[]

Yn 1400, aeth Geoffrey Chaucer i guddio yng Nghymru o dan ffugenw. (SAIN: The Doctor's Tale)

19eg ganrif[]

Seiliwyd Torchwood Tri yn 1885. (PRÔS: Slow Decay)

20fed ganrif[]

Trwy'r ganrif, dechreuodd preswylwyr Brynblaidd yn yng nghanol Bannau Brycheiniog cyflawni llofruddiaeth a chanibaliaeth yn gyfrinachol. (TV: Countrycide)

Yn 1959, crashiodd grŵp Navarino, ynghyd â'r Seithfed Doctor a Melanie Bush, yng ngwersyll gwyliau Shangri-La yng Nghymru. Ymosododd y Bannermen ar y gwersyll, ond fe'u trechwyd gan Dywysoges Chimeron. (TV: Delta and the Bannermen)

Yn yr 1970au, gweithiodd y Trydydd Doctor ar ei TARDIS mewn sgubor ar ochr mynydd Cymraeg. (COMIG: Gemini Plan)

Ychydig o flwyddi yn ddiweddarach, ymwelodd y Trydydd Doctor a Jo Grant, yn gweithio ar gyfer UNIT, gyda thref lofaol Cymraeg, Llanfairfach, a Wholeweal, comiwn gwrthddiwyllianol fach gerllaw. (TV: The Green Death)

Yn 1992, fe ddaeth y Seithfed Doctor ac Ace o hyd i borth tu mewn i gylch cerrig gerllaw Llanfer Ceiriog, a wnaeth cysylltu â byd estronaidd Tír na n-Óg. (PRÔS: Cat's Cradle: Witch Mark)

21ain ganrif[]

Yn ystod cyfnod y "ghost shift" yn 2007, roedd yr ysbrydion, a mewn gwirionedd roeddent yn Cybermen o Fyd Pete, wedi'u rhagweld i ymddangos trwy Gymru, yn enwedig yn Aberystwyth a Chaerdydd. (TV: Army of Ghosts)

Ym Mis Medi 2009, dinistriwyd hwb Torchwood Tri. (TV: Children of Earth: Day One)

Erbyn amser digwyddiad Dydd y Gwyrth, roedd y Cymry yn casáu cael eu galw'n Saeson; pan sarhawyd Gwen Cooper gan asiant y CIA fel hun, dywedodd Gwen wrthi hi taw Cymraes ydy hi cyn ei phwno yn ei gwyneb mewn dicter. (TV: Rendidtion)

Yn 2010, cynnnalwyd angladd ffug ar gyfer y Doctor yng Ngorsaf 5 UNIT tu mewn i'r Wyddfa. Mewn gwirionedd, ystryw creodd Tia Karim a Claw Shansheeth yr 15fed Lynges Angladd i ddwyn TARDIS y Doctor oedd hyn. (TV: Death of the Doctor)

Yn 2020, Dihunwyd llwyth Silwriaid oherwydd gweithrediad drillio yng Nghwmtaff, cyn selion nhw'r preswyliwyr tu mewn i faes grym. (TV: The Hungry Earth / Cold Blood)

Hanes hwyrach[]

Erbyn y 33ain ganrif, roedd Cymru yn parhau i fod yn rhan o'r DU pan breswylodd poblogaeth cyfan y DU ar wahan i'r Alban ar Starship UK. (TV: The Beast Below)

Gwybodaeth Arall[]

Adnabuwyd hiliaeth yn erbyn y Cymry fel Cymroffobia. (SAIN: Superiority Complex)

Adnabuwyd Cymru am ei dyfrynnoedd niferus. Yn 2005, enillodd Ianto Jones y llysenw "Valley Boy" o achos ei Gymreictod. (SAIN: Uprising)

Water Wales rhoddod cyflenwad ddŵr i Gymru. (SAIN: Day Zero)

Yn 2009, coegiodd Ianto Jones taw llysgennad Cymru i'r Swistir oedd ef (gyda Gwen Cooper fel ei wraig) er mwyn cael mynediad i ala agoriadol y Gwrthdrawydd Hadronnau Mawr i ymchwilio ddigwyddiadau estronaidd yno. (SAIN: Lost Souls)

Ar sawl adeg yn ystod digwyddiadau Dydd y Gwyrth, credodd llawer o Americanwyr daw Gwen o Loegr, er ei hannifyrrwch. (TV: Rendition, End of the Road)

Unwaith, anfonwyd Cadlywydd Paul Keele, Dr. Eleanor Harcourt a Proffesor Ivor Fassbinder o Dark Space 8 i Gymru y Canol Oesoedd. (SAIN: Bang-Bang-a-Boom!)

Roedd gan Gymru Uned Gwrth-Derfysgaeth ac Eithafiaeth. (SAIN: A Mother's Son)

Yn y cefn[]

  • Cynhalwyd Recordio lleoliad ar gyfer The Abominable Snowmen a The Five Doctors mewn lleoliadau anghyfaneddol yng Nghogledd Cymru. Hefyd, cynhalwyd ffilmio allanol ar gyfer The Masque of Mandragora ym Mhortmeirion, yng Nghogledd Cymru.
  • Ers adfywiad y sioe, cynhyrchwyd cyfresi newydd Doctor Who yng Nhymru yn bennaf, yn enwedig yn ardal Caerdydd. O ganlyniad, mae ffilmio am bron pob un o'r epiodau newydd wedi cymryd lle yn yr ardal. Gosodwyd episodau megis The Unquiet Dead a Boom Town yn benodol yn Nghaerdydd ei hun.
  • Cynyhyrchwyd tair chyfres cyntaf Torchwood a The Sarah Jane Adventures cyfan yng Nghymru, gyda'r blaenorol yn cymryd lle ar ddraws Caerdydd, a'r canlynol yn cael stori wedi'i gosod tu mewn i'r Wyddfa.
  • Pencadlys cynhyrchu presennol yw Roath Lock Studios ym Mhorth Teigr ym Mae Caerdydd. Symudodd y fasnachfraint yna ym 2012, gan ddod o Upper Boat Studios yng Nghaerdydd yng ngynt.
Advertisement