Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who

Y Daleks oedd hil rhyfelol (TV: The Witch's Familiar, Hell Bent) wedi'u creu o fwtaniaid o beirianneg genetig, (TV: The Daleks, Genesis of the Daleks) ac yn perthyn i fath DNA sylfaenol 467-989. (TV: Daleks in Manhattan) Yn ôl y rhan fwyaf o adroddiadau, planed tarddiad y Daleks oedd Sgaro. (TV: The Daleks) Fel arfer, roedd y fwtaniaid wedi'u hamgáu mewn arfwisg o bolycarbid (TV: Remembrance of the Daleks) a'r metel Dalekaniwm. (COMIG: The Humanoids)

Ar sawl adeg, adnabyddodd y Daleks yn agored taw Arglwydd Amser unigol, y Doctor, oedd eu gelyn mwyaf. (TV: The Chase) Disgrifiodd y Doctor nhw yn yr un modd, (COMIG: Defender of the Daleks, TV: Victory of the Daleks) ac, yn eu degfed ymgorfforiad, nododd taw "nid metel yn unig oeddent, mi roedd yn byw," a "thu mewn i'r plisgyn, roedd creadur a gaeth eu geni am gasineb, a'u hunig meddyliad oedd i ddinistrio popeth a phobun oedd dim hefyd yn Dalek." (TV: Daleks in Manhattan) Nododd y Degfed Doctor hefyd roedd Dalek wedi'u hamgáu ers enedigaeth o fewn plisgyn metel oer heb fodd o deimlo dim, a honnod taw hyn oedd y rheswm sgrechon nhw. (TV: Doomsday) Dywedodd y Doctor Rhyfel taw "nid robotiaid" ydyn nhw, ond "creuaduriaid milain, hynod o ddeallus, a oedd yn anadlu, ac yn byw mewn tanc rhyfelu". (PRÔS: The Stranger)

Brwydrodd y Daleks gyda'r Arglwyddi Amser yn y Rhyfel Mawr Olaf Amser, gan orffen cryn mewn dinistriad llwyr yr hil Dalek, (TV: Dalek) nes ailadeiladon nhw eu hymerodraeth (TV: Asylum of the Daleks) gan ddefnyddio progenitor. (TV: Victory of the Daleks) Yn anygoel o senoffobig ac yn penderfynnol ar reolaeth bydysawd-eang, cafodd y Daleks eu casáu ac ofni trwy gydol amser a'r gofod. (TV: Genesis of the Daleks) Eu hamcan oedd i ddileu holl fywyd di-Dalek, (TV: Victory of the Daleks) fel rhoedd eu crëwr wedi rhaglennu. (TV: Victory of the Daleks)

Bioleg[]

Er edrychodd y Daleks yn hollol robotig, seiborgau oedd y Daleks mewn gwirionedd, gyda chorff byw wedi'u cynnal gan arfwisg amddiffyngar allanol symudol ac arfog o fetel Dalecaniwm a pholycarbid. Peiriannau teithio marc III oedd rhein, wedi'u dylunio i gario eu ffurfiau mwtadol, nid chyfuniad biomecanyddol gwir. (SAIN: The Four Doctors) Yn y modd yma, roeddent rhywfant yn debyg i'r Cybermen; serch hynny, roedd cyrff y Daleks wedi mwtadu cymaint wrth eu dyndeidiau Kaled iddyn colli holl ymddangosiad dynolffurf, ar wahân i lygad sengl (gwelir isod). (TV: The Daleks, Evolution of the Daleks) Darlledodd y Daleks gwybodaeth trwy rwydwaith telepathig artiffisial o'r enw'r Pathweb, (TV: Asylum of the Daleks) gyda'r Deuddegfed Doctor yn nodi mai hon oedd y "bas data mwyaf" roedd ef yn gwybod am. (TV: Twice Upon a Time)

Nid oedd modd i Ddaleks marw'n naturiol, gyda phob cell wedi'u rhaglennu i gadw'n fyw, (TV: The Witch's Familiar) hyd yn oed os cafon nhw eu torri'n ddarnau a wedi'u claddu am ganrifoedd i ffwrdd wrth eu arfwisg. (TV: Resolution) Serch hynny, parhaodd corff Dalek i heneiddio, gyda'r corff yn pydru a phydru nes y pwynt roeddent yn dwmpen o casineb brown tywyll. Heb fodd o yrru eu harfwisgiau rhagor, bydd y Daleks yma yn eu gadael cyn mynd i fyw mewn carthffosydd dinasoedd y Daleks; o ganlyniad, roedd gair y Daleks am "carthffos" hefyd eu gair am "fynwent". (TV: The Witch's Familiar) Wnaeth un Dalek aros yn fyw wrth i wyddonwr Bryant Anderson ei ddifynnu. (PRÔS: We are the Daleks!)

Roedd gan y Daleks cysylltiad cryf â thrydan statig; gyda'u harfwisg wedi'u pweru gan y drydan ar adeg yn eu hanes, (TV: The Daleks, The Dalek Invasion of Earth) a dechreuodd fwtanod Kaled newydd eu bywydau trwy sioc trydan statig cyn cael eu rhoi i mewn i'w harfwisgiau. Unwaith, eboniodd yr Ail Doctor roedd trydan statig "fel gwaed y Daleks". (TV: The Power of the Daleks) Canlyniad ceisiadau Theodore Maxtible i gynnwys trydan statig yn ei arbrofion teithio amser oedd prototeip ei beiriant amser yn denu'r Daleks iddo ar ddraws amser. (TV: The Evil of the Daleks)

Yn ystod y Rhyfel Dalek-Movellan, er mwyn deall y Movellans yn gwell, adbeiriannod y Daleks eu hun i fod yn fwy robotig am adeg, gan gael gwared o bopeth organig. (PRÔS: Dalek Combat Training Manual) Arweiniodd hon at fethmat a barhaodd am ganrifoedd, (TV: Destiny of the Daleks) ac felly aeth y Daleks nôl at eu gwreiddiau organig. (PRÔS: Dalek: The Astounding Untold History of the Greatest Enemies of the Universe)

Yn ystod y Rhyfel Mawr Olaf Amser, dargafododd y Daleks roedd modd iddynt dynnu'r egni artron wrth deithwyr amser eraill i greu broses adfywio yn debyg i'r arglwyddi amser. Hawliodd hon i'r Daleks trwsio eu hamgaeadau a'u cyrff organig. Ond, roedd y dechnoleg yma dal yn sylfaenol erbyn dinistriodd y Doctor Gallifrey; (PRÔS: Dalek) Achosodd hon hefyd i'r Dalek amsugno DNA wrth y teithiwr amser, gan eu hachosi i fwtadu wrth safon pur y Daleks - rhywbeth annerbynniol i Ddalek. (TV: Dalek) Yn hwyrach, trefnodd Davros "arbrofiad" i ddwyn swmp enfawr o egni adfywio gan eu darlledu i "bob Dalek ar Sgaro". Syth ar ôl eu hadfywiad torfol, honnodd y Daleks eu bod eisioes yn "fwy bwerus", gan enwi'r arbrofiad yn lwyddiant. (TV: The Witch's Familiar)

Anatomeg[]

Arfwisg[]

Prif erthygl: Arfwisg

Arfwisg frwydr allanol[]

Roedd gan y Daleks ymddangosiad amrywiol, (TV: The Magician's Apprentice ayyb) gyda'r lliwiau'n aml dynodi rhengiau gwahanol o fewn hierarchaeth y Daleks. (PRÔS: War of the Daleks) I ddechrau, roedd y Dalek sylfaenol yn wen, heb unryw slatiau o gwbl wrth ddefnyddio Beiriannau Rhyfel y Daleks. (TV: The Daleks, COMIG: Genesis of Evil) Yn hwyrach, derbynion nhw platiau synhwyro mewn ffurf slatiau o amglych eu rhan canol i droi mewn i'r Daleks Arian, (TV: The Daleks' Master Plan) wedi'u allddodi gan Ddaleks Llwyd, (TV: Destiny of the Daleks) ac yn y diwedd Daleks Efydd. (TV: Dalek) Enw'r arfwisg gyntaf dyfeisiodd Davros oedd y "peiriannau teithio marc III". (TV: Genesis of the Daleks; PRÔS: Still Need a Title!)

Roedd modd rhannu arfwisg Dalek yn dri: cromen dop, canol, a gwaelod. Cromen dop Dalek oedd eu modd o weld a chyfathrebu, cromen gyda phâr o oleuadau (wedi'u cyfeirio atynt fel dadwefrau golau) yn uchel ar ochrau'r gromen dop, a choesyn llygad fel perisgop yn y canol. Roedd y gromen dop yma wedi'i gysylltu i'r rhan ganol gan "wddf", sef y rhan grât. (PRÔS: Prisoner of the Daleks)

Cysylltwyd y ddryllfraich a'r braith rhyngweithiol i ran ganol Dalek, sef y llwyfan arfau. (PRÔS: Prisoner of the Daleks) Darparodd y rhan yma gallu gweithredol ac ymosodol i'r Dalek. Roedd gan modelau hwyrach yr abl i symyd y rhan yma'n rhydd o weddill y corff. (TV: Dalek; COMIG: The Only Good Dalek) Lleolwyd y rhan fwyaf o fás y Dalek y tu mewn i'r rhan yma. (TV: Daleks in Manhattan)

Roedd gwaelod Dalek, neu'r sylfaen, (PRÔS: Prisoner of the Daleks) yn fodd symud iddynt, wedi'u hadeiladu fel sgert o blatiau gyda sfferau synhwyro drostynt. Hawliodd hon symudiad, a mewn modelau hwyrach, ehediad.

Oherwydd y cyd-ddibyniaeth rhwng elfennau biolegol a thechnolegol Dalek, roedden nhw'n fath o seiborg. Ond, roedd y Daleks ymerodrol creodd Davros ar gyfer Rhyfel Cartref Ymerodrol-Gwrthgiliedig y Daleks yn seiborgau go iawn, wedi'u cysylltu uniongyrchol i'w plisgiau. (TV: Remembrance of the Daleks)

O'r tu allan, roedd arfwisg Dalek i'w weld yn debyg i focs pupur maint bod dynol, gyda choesyn llygad mechanyddol sengl ar gromen cylchdroadol, dryllfraich a braich rhyngweithiol. Roedd eu harfwisg wedi'u creu wrth bolycarbid a dalecaniwm. (WC: Monster File: Daleks) Roedd hanner gwaelod Dalek wedi'u gorchuddio'n gyfan mewn pump deg chwech hanner sffêr, (TV: Dalek) neu sfferau synhwyro, (COMIG: City of the Daleks) ag oedd yn gallu gweithio fel system hunan-ddinistrio. (TV: Dalek)

Roedd eu harfwisg yn llawn trapiau; pan gyffyrddodd Yevgeny Kandinsky y "Metaltron" yn Utah, gorfododd y Dalek iddo rhoi ei fraich y tu mewn i'r arfwisg, a gydag ef yn sownd, achosodd y Metaltron i'r ddyn llosgi mewn tân. Serch hynny, pan gyffyrddodd y teithiwr amser Rose Tyler y Dalek, llwyddodd y Dalek amsugno ei DNA a'i defnyddio i adfer eu hun. (TV: Dalek; PRÔS: Dalek) Unwaith, awgrymodd y Degfed Doctor roedd modd i unryw un, gan gynnwys pobl nad oedd erioed wedi teithio trwy amser, ad-ddeffro Dalek trwy gyffwrdd eu harfwisg, gan rhodd y gweithrediad hwnnw modd i Ddalek amsugno eu DNA. (PRÔS: Prisoner of the Daleks) Roedd Daleks y roedd eisioes wedi marw hefyd yn barhau i fod yn berygl. Yn aml, byddai darlledwyr firws ar yr arfwisg a weithiodd yn awtomatig. (PRÔS: I Am a Dalek) Byddai ceisio i agor arfwisg Dalek yn debygol iawn o danio system hunan-ddinistrio'r Dalek o ganlyniad i'w dyfeisiau gwrth-ymdriniaeth. (PRÔS: Prisoner of the Daleks)

Coesyn llygad Dalek oedd eu man mwyaf bregus - gan nad oedd unryw system gynorthwyol os caiff y coesyn eu torri neu'u niweidio - ac yn aml byddai dinistrio llygad Dalek yn arwain at y Dalek yn gwylltio ac yn saethu eu prif arf i bob gyfeiriad mewn hylltraw. (GÊM: City of the Daleks) Ond, roedd yr offeryn yn sensetif iawn, gan hawlio Dalek i weld yr is-goch, ymhlith ystod o donfeddi eraill. (PRÔS: Legacy of the Daleks) Gweithiodd arfwisg Dalek hefyd fel siwt aml-amgylchfyd hollol cloëdig, yn hawlio teithiau trwy gwactod y gofod neu danddwr heb unryw offer cynnal bywyd arall. (TV: The Dalek Invasion of Earth, The Parting of the Ways; COMIG: The Dalek Project) Roedd modd cysylltu coesyn llygad Dalek i ganolfannau gweledigaeth Dalek eraill. (GÊM: City of the Daleks; TV: Asylum of the Daleks)

Cysylltwyd Dalek i'w arfwisg trwy gysylltydd positron. Roedd gan y mwtan eu hun mynediad i ddarparyddion maeth ac offer rheolaeth o'r tu mewn i'r siambr mewnol. (SAIN: The Time of the Daleks) Dywedodd y Deuddegfed Doctor "nid peiriant" oedd Dalek, ond "cyfatebiad perffaith am greuadur byw". (TV: Into the Dalek) Yn wir, roedd modd i Dalek cael ei "niweidio" pan gafodd y rhan anfiolegol yn unig eu hanafu. (TV: Dalek, Into the Dalek)

Oherwydd eu modd mmudiant o lithro, cafodd modelau cynnar y Daleks eu drysu gan risiau, ac felly roedd yn haws i'w drechu yn y sefyllfa gywir. Unwaith, llwyddodd y Pedwerydd Doctor a'i gymdeithion dianc wrth Ddaleks trwy ddringo i mewn i bibell yn y nen, gyda'r Doctor yn gwllweirio Dalek cyn diflannu. (TV: Destiny of the Daleks) Roedd modd i rau fodelau hofro, neu hedfan o dan bŵer eu hun, fel llong ofod bach, ac felly roedd modd iddynt deithio i fyny grisiau, yn cael gwared o'u gwendid gwreiddiol. (TV: Revelation of the Daleks, Dalek, Resolution, ayyb)

Roedd modd i'r Drôn Addiffynnol gwreiddiol, wedi'u seilio ar ddyluniad a thechnoleg Dalek Rhagarchwiliol, perfformio drawsglwyddiad gofodol syml. (TV: Revolution of the Daleks) Roedd gan arfwisg Cwlt Sgaro yr abl i berfformio drawsglwyddiad amserol, i'w weld yr unig aelodau a ddefnyddiodd y dechnoleg yma yn ystod Brwydr Canary Wharf. (TV: Doomsday, Daleks in Manhattan)

Ffynhonell pŵer[]

Newidodd ffynhonell pŵer arfwisg Dalek sawl gwaith. Yn ystod ei gyfarfyddiad cyntaf gydan nhw ar Sgaro, dysgodd y Doctor Cyntaf bod arfwisg Dalek yn cael eu pweru'n allanol trwy'r trydan statig a redodd trwy gydol lloriau metel Dinas y Daleks. Byddai ynysu Dalek wrth y llawr trwy ddeunydd anghludol yn di-bweru'r arfwisg, ond nid oedd hon yn farwol yn syth i'r preswylydd. (TV: "The Escape") Yn gwreiddiol, datrysodd y Daleks y problem yma trwy ychwanegu ddysgl at eu harfwisg i dderbyn pŵer, (TV: The Dalek Invasion of Earth) ond yn y pendraw cafon nhw eu hamnewid am slatiau hirsgwar fertigol o gwmpas yr adran ganol ag amsugnodd ffynonellau pŵer erall. (TV: The Chase)

Hyd yn oed yn eithaf hwyr yn hanes y Daleks, roedd rhai dal i ddefnyddio trydan statig ar Sgaro - megis y Daleks ar y llong a wnaeth crasio ar Vulcan, (TV: The Power of the Daleks) er erbyn hyn roeddent y tu hwnt i'r Rhyfel Cartref Ymerodrol-Gwrthgiliedig y Daleks. (PRÔS: War of the Daleks) Roedd y Daleks nad oedd yn edrych i dynnu eu pŵer wrth drydan statig yn amlwg wedi parhau i gael cysylltiad â'r trydan, gan ddaenodd Theodore Maxtible y Daleks i'w dŷ ar ddamwain trwy ddefnyddio trydan statig yn ei arbrofion teithio amser ac roedd modd iddyn nhw symud yn rhydd ar ddraws lloriau pren y tŷ. (TV: The Evil of the Daleks)

Erbyn dechrau'r Rhyfel Mawr Olaf Amser, roedd y Daleks wedi addasu eu technoleg i ddefnyddio math o egni ag oedd i'w weld yn ymwneud â phroses teithio amser. Ar sawl adeg, gwelwyd Daleks a'u dyfeisiau yn amsugno'r egni yma wrth deithwyr amser er mwyn pweru eu hun. (TV: Dalek, Doomsday)

Yn yr amser rhwng y ddau ffynhonell yma, roedd pa bynnag ffynhonell a ddefnyddion nhw (i'w weld) yn gwrthddyfod cael eu draenio gan Dinas Enfawr yr Ecsiloniaid. Yn rhyfeddol, parhaodd y Daleks i gael ddigonedd o bŵer i symud a siarad er cafodd eu harfau i hatal gan y ddinas, sydd yn awgrymu roedd eu harfau ar system pŵer gwahanol i weddill eu ffynhonell pŵer. Dywedodd y Trydydd Doctor roedd hyn oherwydd roedd Daleks yn seicocinetig a symudon nhw trwy bŵer eu meddyliau yn unig. (TV: Death to the Daleks) Nid oes llawer o enghreifftion eraill o'r Daleks yn dangos abl seicig, ond roedd modd i Rusty galw ei ddryllfraich nôl os gafodd ei torri wrth eu arfwisg, (TV: Twice Upon Time) ac, ar y blaned Kyrol, daeth yr Wythfed Doctor o hyd i rŵp o Ddaleks dynol a llwyddodd, trwy flynyddoedd o fyfyrio, i ddatblygu seicocinesis i radd ardderchog. (COMIG: Children of the Revolution)

Yn ychwanegol, roedd gan Ddaleks y Rhyfel Mawr Olaf Amser faes grym ag atalodd bwledi ac arfau egni rhag gyffwrdd eu arfwisg. (TV: Dalek, The Parting of the Ways, Doomsday, Daleks in Manhattan, The Big Bang)

Llafaredd[]

Yn ôl sawl adroddiad, nad oedd gan y creuadur Dalek unrhyw offer llefaru gweledol ac felly roedd eu lleisiau yn trydanol; roedd modd i'r mwtan gwichio'n unig. (TV: Resurrection of the Daleks; SAIN: Jubilee) Ar y llaw arall, cafodd sawl Dalek y tu allan i'w plisgyn eu clywed yn siarad ar sawl adeg yn defnyddio'r llais Dalek cyfarwydd, gan gynnwys Dalek Caan ar ôl iddo cael ei gwylltio yn dilyn arnoethiad i amser a'r gofod cyfan, (TV: Journey's End) Dalek Du a gafodd eu plisgyn wedi'u dinistrio gan y Kiseibya, (SAIN: Enemy of the Daleks) a Dalek rhagarchwiliol ynysedig a gyrhaeddodd y Ddaear yn y 9fed ganrif, yn dilyn cael eu tynnu wrth eu plisgyn gan rhyfelwyr dynol. (TV: Resolution) Dangosodd yn digwyddiad os siaradodd person o fewn plisgyn Dalek, byddai eu llais yn ennill ansawdd metalaidd Dalek. (TV: The Daleks)

Yn achos y Metaltron, dechreuodd y mwtan Dalek ei fywyd gyda llinynnau llais, ond cafon nhw eu tynnu yn eithaf cynnar er mwyn creu lle ar gyfer llais synth newydd gredwyd i fod yn fwy dibynadwy gan Ymerodraeth y Daleks. (PRÔS: Dalek) Yn gyffredinol, siaradodd y Daleks mewn lleisiau robotig, toredig, traw uchel ag oedd yn hawdd i ddynwared; (TV: The Evil of the Daleks, Dalek, ayyb) eu bloedd brwydro mwyaf adnabyddus oedd "EX-TER-MINATE!", gyda pob sillaf unigol yn cael ei sgrechen trwy eu lleisiau trydanol (gyda'r dwy sillaf olaf gyda'i gilydd). Ymadroddion eraill arferol oedd "I (neu "WE") OBEY!" fel ymateb i unrhyw orchymyn wrth uwchraddolion. (TV: Destiny of the Daleks, Dalek, The Parting of the Ways, ayyb) Roedd hefyd gan Daleks cyfathrebwyr yn rhan o'u plisgiau a fyddai'n canu larwm i rhoi gwybod i Daleks eraill gafodd y plisgyn eu hagor o'r tu fas. (TV: Planet of the Daleks)

O ran achosion unigolion di-Dalek a fyddai'n ceisio rheoli plisgiau Dalek, byddai'r dyfeisiau cyfathrebu yn cyfyngu iaith Dalek. Bydd ceisiadau i gadarnhau eu hunaniaeth yn canlyn gyda'r plisgyn yn dyweud "I am a Dalek" a daeth mynegiadau emosiynnol neu "rwyt ti'n wahanol i mi" allan fel "Exterminate". Newidwyd "dy ffrind ydw i" i "dy elyn ydw i". Cafodd cyfangiadau eu dileu, gydag ymadroddion fel "I don't understand", a "What's happening?" yn cael eu troi i "I do not understand", a "What is happening?" (TV: The Witch's Familiar) Serch hynny, nid oedd y cyfyngiadau yno pan roedd mwtan Dalek go iawn yn gyrru'r plisgyn; roedd modd iddynt trafod cysyniadau megis ffrindiaeth, tosturiaeth a chaethiwed, fel arfer i dwyllo, gosod trapiau ac i droi eraill i gweithio amdanynt, (TV: The Dalek, The Power of the Daleks, The Evil of the Daleks, Dalek, Victory of the Daleks) ac ar rai adeg pan roeddent yn gofyn am dosturiaeth yn gwirioneddol wrh eraill. (TV: Dalek, The Big Bang; SAIN: Enemy of the Daleks)

Y tu mewn[]

Roedd gan y tu mewn i'r arfwisg, lle bu fyw'r mwtant Dalek eu hun, systemau cynnal-bywyd a chyfrifiadur a gynhwysodd gwybodaeth strategaethol a thactegol. Byddai mwtant Dalek yn gweithredu'r arfwisg trwy law; os gymerwyd y fwtant wrth yr arfwisg, roedd modd i ffurfiau byw eraill weithredu'r arfwisg os oedd modd iddynt ffitio i mewn i'r gwisg. (TV: The Daleks, The Space Museum, The Witch's Familiar)

Os niweidiwyd ochr mewnol y Dalek, byddai gwrthgorffynnau Dalek, ag edrychodd fel pelen y llygad, yn archwilio i'r niwed cyn dinistrio'r bygythiad trwy ei troi i mewn i bowdr mân. Yn dilyn hon, tywysodd y gwrthgorfffynnau gweddillion y fygythiad i'w rhoi i mewn i diwb bwydo fel bydd y creuadur yn gallu bwydo ar eu protin. (TV: Into the Dalek)

Roedd gan bob Dalek gromgell y cortecs, sef "banc cofion" a gynhalodd "puredd" casineb Dalek. Yn ôl y Deuddegfed Doctor, diffoddodd gromgell y cortecs "pob brychyn o garedigrwydd a thosturiaeth". Roedd hon yn ychwanegiad i arfwisgiau Dalek ar bwrpas, yn cyfyngu unryw cof ag all achosi Dalek i ffwrdd o'r "puredd" a ragwelodd Davros ar eu gyfer. Os dorrwyd gromgell y cortecs, byddai modd i Dalek ddysgu emosiynnau cadarnhaol megis caredigrwydd a ffrindiaeth. Serch hynny, ni ddysgodd Rusty, Dalek geisiodd y Doctor achub rhag y syniadaeth atgas, i fod yn garedig. Yn lle, cymerodd Rusty i gasáu'r Daleks yn dilyn gweld casineb yr Arglwyddi Amser at y Daleks. (TV: Into the Dalek) Pan gwrddodd y Doctor a Rusty unwaith eto, nid oedd gan Rusty unryw agweddau tosturiol gan ond helpu'r Doctor yn dilyn dysgu byddai modd achosi niwed i'r Daleks. (TV: Twice Upon a Time)

Mwtant[]

Y creuaduriaid o fewn arfwisgiau gwir Daleks oedd mwtant Dalek. Dangosodd un adroddiad bod gan y mwtant dwylo mân yn debyg i grafangau madfall, ond ni welwyd y mwtant llawn. (TV: The Dalek) Dangosodd adroddiadau eraill ffurf wahanol i'r mwtantau, gyda'r Seithfed Doctor yn eu disgrifio fel "blobiau bach gwyrdd". (TV: Remembrance of the Daleks) Yn ôl un ffynhonnell, adnabuwyd y creuaduriaid o fewn arfwisgiau'r Dalek fel Dals, (TV: "The Ambush") ond mae'n bosib taw enw arall am y Kaleds oedd Dal. (PRÔS: The History of the Daleks)

Roedd gan mwtant Dalek fyw sawl dentacl, ac un llygaid canolog, neu llygaid dde arferol a llygaid chwith mor fach roedd modd ei anwybyddu ar ddamwain yn hawdd - ar y cyfan edrychodd mwtant Dalek fel rhywbeth disgrifiodd Lucie Miller fel "os chwydodd rhywun ginio fôr lawes." (SAIN: Blood of the Daleks) Er eu diffyg abl i symud gweledol, roeddent yn digon abl o amddiffyn eu hun, megis pan fel ymosoddodd Dalek ar filwyr cyn ei ladd. (TV: Resurrection of the Daleks) Roedd hefyd gan y Daleks rhyw safon o delecinesis. (TV: Death to the Daleks; PRÔS: Twice Upon a Time)

Wrth gyfeirio at Dalek Caan, defnyddiodd Davros, crëwr y Daleks, y rhagenw gwrywaidd, gan awgrymu roedd y rywogaeth yn wrywaidd. (TV: Journey's End) Serch hynny, defnyddiodd y Nawfed Doctor "it" i gyfeirio at y Dalek "Metaltron", gan awgrymu roedd y hil yn di-ryw. (TV: Dalek) Cyfeiriodd y Deuddegfed Doctor at Rusty gan ddefnyddio "it", (TV: Twice Upon a Time) ond yn gynharach yn ei fywyd, fe gyfeiriodd at y Daleks fel "bechgyn" Davros. Defnyddiodd Missy rhagenwau gwrywaidd wrth gyfeirio at y Dalek Goruchafol. (TV: The Witch's Familiar) Roedd o leiaf un aelod o'r rhywogaeth, Dalek Sec, rhyw fath o ambilen fel cwdyn ag oedd yn digon fawr i llyncu dyn aeddfed mewn paratoad i ar gyfer yr Arbrofiad Terfynnol, gyda Sec yn amsugno Mr Diagoras gan ddefnyddio'r ambilen hon i'w droi i mewn i'r Dalek-Ddynol. (TV: Daleks in Manhattan)

Roedd gan bob Dalek tueddiad i feddwl yn union yr un modd, ac o ganlyniad roedd "cynadleddau" rhwng Daleks yn fwy debyg i gôr o Daleks gwahanol yn cytuno gyda'i gilydd. (PRÔS: Doctor Who and the Day of the Daleks) Roedd gan rai mwtantau ablau o safon uwch. Roedd modd i fwtant Sgowt Dalek Rhagarchwiliol meddwi a rheoli bodau eraill, adfywio gan ddefnyddio golau uwchfioled ac roedd modd iddo oroesi y tu allan i arfwisg, (TV: Resolution) Roedd ymwybyddiaeth cynulliadol Dalek o fewn gweddillion organig mân, neu fewn darnau o DNA, gyda Dalek newydd yn gallu tyfu wrth y deunydd hwnnw. (TV: Revolution of the Daleks)

Ar adegau, adlamodd aelodau o rywogaethau eraill, wedi'u mwtadu'n sylweddol, gan gynnwys bodau dynol, yr arfwisgoedd o adeg i adeg. (TV: Genesis of the Daleks, Revelation of the Daleks, The Parting of the Ways, Asylum of the Daleks)

Prif erthygl: Daleks o darddiad dynol

Bregusrwydd[]

I'w hychwanegu.

Hanes[]

Disgrifiad o linell amser y Daleks[]

I'w hychwanegu.

Tarddiad ar Sgaro[]

I'w hychwanegu.

Y Daleks ag Ameron[]

I'w hychwanegu.

Ar Sgaro[]

I'w hychwanegu.

Teithio'r gofod[]

Cychwyn Ymerodraeth y Daleks[]

I'w hychwanegu.

Targedu'r Ddaear[]

I'w hychwanegu.

Rhyfeloedd eraill gyda dynoliaeth[]

I'w hychwanegu.

Yr Ail Rhyfel Dalek[]

Ail-arfogi[]

I'w hychwanegu.

Gweithrediad rhannu a gorchfygu[]

I'w hychwanegu.

Trothwy'r Arkheon[]

I'w hychwanegu.

Cryfhau pellach o ymerodraeth y Daleks[]

I'w hychwanegu.

Teithio Amser[]

Dyddiau cynnar o'r Daleks yn teithio amser[]

I'w hychwanegu.

Gwrthdaro gyda Gwasanaeth Diogelwch y Gofod[]

I'w hychwanegu.

Rhyfel Cartref Enfawr y Daleks[]

I'w hychwanegu.

Ailstrwythuriad Ymerodraeth y Daleks[]

I'w hychwanegu.

Dychweliad i bŵer[]

I'w hychwanegu.

Brwydrau pellach[]

I'w hychwanegu.

Y Rhyfel Dalek-Movellan[]

I'w hychwanegu.

Y Rhyfel Dalek Hymeodrol-Ailnegodol[]

I'w hychwanegu.

Yr Ymerodraeth Newydd[]

Wrth ludw'r rhyfel cartref[]

I'w hychwanegu.

Adnweyddiad Ymerodraeth y Daleks[]

I'w hychwanegu.

Ail Feddiant Enfawr y Daleks[]

I'w hychwanegu.

Rhyfel gyda'r Mentor[]

I'w hychwanegu.

Adfywiad Ymerodraeth y Daleks[]

I'w hychwanegu.

Gwrthdaro gyda'r Arglwyddi Amser[]

Rhan yn Rhyfel y Nefoedd[]

I'w hychwanegu.

Newid yn y linell amser[]

I'w hychwanegu.

Y lwybr i'r Rhyfel Amser[]

I'w hychwanegu.

Y Rhyfel Mawr Olaf Amser[]

I'w hychwanegu.

Ar un adeg, llwyddodd y Daleks digonedd o lynges i ymosod yn ormesol ar Gallifrey. Yn gwynebu diddymiaeth, ac heb dewis arall, cafodd Cardinal Ollistra Cynghorwr Voltrix i agor hollt gofod er mwyn rhyddhau'r Fampiriaid Enfawr. Llwyddon nhw dinistrio llynges y Daleks. (COMIG: The Bidding War)

Ar ddydd olaf y Rhyfel Amser, llwyddodd y Daleks gorchfygu Arcadia, ail ddinas Gallifrey. (TV: The Last Day) Ond, gan nad oedd modd iddynt bregu ffosydd awyr y Prifddinas, amgylchodd ac ymosododd y Daleks ar Gallifrey. Cynllun y Doctor Rhyfel oedd i ddefnyddio arf o'r enw "Y Foment" i ddiddymu'r Daleks a'r Arglwyddi Amser. Ond, ni ddefnyddiwyd yr arf, a llwyddodd 13 ymgorfforiad cyfan o'r Doctor cuddio Gallifrey a'r Arglwyddi Amser mewn mân-fydysawd, gan adael y Daleks i ddinistrio eu hun trwy saethu at ei gilydd. I bob olwg, nid oedd newid mewn canlyniad y rhyfel: bu Gallifrey yn diflannu, a dinistriwyd y Daleks (ar y cyfan). (TV: The Day of the Doctor)

Goroesi'r Rhyfel Amser[]

Rhagdybiodd y Nawfed Doctor yn anghywir wnaeth "hil cyfan y Daleks" cael eu dinistrio gan y Rhyfel Amser. (TV: Dalek) Ond, roedd sawl eithriad.

Ffoaduriaid[]

Yn ei lyfr am ddiwedd y Rhyfel Mawr Olaf Amser, cydnabyddodd y Curadur, ymgorfforiad arddyfodol y Doctor, ei bod yn anhebyg iawn goroesodd nifer bychain o Daleks y ffrwydriad ag orffennodd y Rhyfel Amser, yn enwedig o'i gymharu a'r nifer cwrdodd y Doctor yn dilyn y Rhyfel, doedd dim ots ar faint y ffrwydriad. Fe ddynododd ei gred bersonol oedd, ar yr eiliad a ddylai fod eu buddigoliaeth dibennol, byddai gweld awyr Gallifrey yn llawn fersiynau gwahanol o'u gelyn mwyaf, Y Doctor, wedi brawychu'r Daleks na farwodd cymaint, byddent wedi rhedeg mewn ofn i bob rhan o'r bydysawd, mae'n debyg "hyd heddiw". (PRÔS: The Day of the Doctor)

Goroeswyr gwasgarol[]

I'w hychwanegu.

"Gêm hir" Ymerodraeth y Daleks[]

I'w hychwanegu.

Cynlluniau Cwlt Sgaro[]

I'w hychwanegu.

Crëadigaeth a dinistriad Ymerodraeth Newydd y Daleks[]

I'w hychwanegu.

Paradeim newydd y Daleks[]

Adferiad y Daleks[]

I'w hychwanegu.

Pla'r bydysawd unwaith eto[]

I'w hychwanegu.

Yr Ymerawdwr Newydd[]

I'w hychwanegu.

Angofio'r Doctor[]

I'w hychwanegu.

Gwarchae Trenzalore[]

I'w hychwanegu.

Crud y Duwion[]

I'w hychwanegu.

Gwrthiant mewnol[]

I'w hychwanegu.

Dychwelyd i Sgaro a thu hwnt[]

I'w hychwanegu.

Gelynion y Trydydd ar Ddegfed Doctor[]

I'w hychwanegu.

Trechiad olaf damcaniaethol[]

I'w hychwanegu.

Digwyddiadau heb ddyddiad[]

Rhyfelu gyda'r Gwrthiant Galactig[]

I'w hychwanegu.

Digwyddiadau arall[]

I'w hychwanegu.

Llinellau amser eiledol[]

I'w hychwanegu.

Bydysawdau eiledol[]

I'w hychwanegu.

Cymdeithas a diwylliant[]

Adnabuwyd y Daleks yn bennaf fel hil rhyfelol a frwydrodd ar ddraws gyfundrefnau cyfan yn erbyn rhywogaethau ar ddraws y bydysawd. (TV: The Daleks, Doomsday) Wrth sefyll yng Ngwallgofdy'r Daleks, nododd yr Unarddegfed Doctor roedd ef yn ystyried y Daleks i fod hil rhyfelol mwyaf craff y bydysawd, (TV: Asylum of the Daleks) ac ystyriwyd canol parth rhyfel Dalek fel yr ardal mwyaf lleithiog roedd ef yn gwybod am gan y Deuddegfed Doctor. (TV: The Pilot)

Gwerthfawrogiad at harddwch[]

I'w hychwanegu.

Y Doctor[]

O ganlyniad i gael eu trechu yn aml gan y Doctor, fe ddaeth yn ffigur chwedlonol yn niwylliant y Daleks. Roedd gan y Daleks gorchymyn byth barhaol i ladd y Doctor yr eiliad gwelon nhw'r unigolyn, ac ar adegau roedd modd iddynt adbanod yr Arglwydd Amser er eu hadfywiadau niferus. Adnabuwyd y Doctor fel "Ka Faraq Gatri" gan y Daleks, sef y "Dygiedydd Tywyllwch" neu'r "Dinistriwr Bydoedd". (COMIG: Bringer of Darkness) Yn dilyn y Doctor yn rhwystro cais y Daleks i ddiddymu bywyd cyfan y bydysawd, ar wahân iddyn nhw eu hun, gan ddefnyddio bom realiti, bloeddodd Davros at y Doctor yn llawn dicter, yn enwi'r Doctor "am byth, y Dinistriwr Bydoedd!!". (TV: Journey's End)

Ystyriwyd y Doctor gan y Daleks i fod eu gelyn eithafol. (TV: The Chase, Victory of the Daleks, Evolution of the Daleks) Er i'r Doctor eu hun cyfeirio at y Meistr fel eu harchelyn, (TV: The Deadly Assassin) disgrifiodd y Doctor y Daleks fel eu gelyn eithafol (COMIG: Defender of the Daleks) a'u harchelynion, gan eu gweld fel pechod mwyaf y bydysawd. (TV: Victory of the Daleks) Yn debyg, yn ystod eu deuddegfed ymgorfforiad, honnodd y Doctor mai Davros, crëwr y Daleks, oedd ei archelyn. (TV: The Magician's Apprentice) Wrth siarad am y Daleks i Ace, datblygodd llais y Seithfed Doctor naws oer a frawychodd Ace. (PRÔS: Illegal Alien)

Seicoleg[]

Roedd gan Daleks unigol braidd unrhyw personoliaeth unigryw, gan ymateb i hierarchaeth difrifol. Cafon nhw eu dwyn i gyflwr er mwyn dilyn gorchmynion heb unryw amheuon, hyd yn oed os ganlynodd yr orchymyn mewn anaf neu farwolaeth. (SAIN: The Curse of Davros) Dywedodd Dalek Jast wrth ddyn-Dalek nag amheuodd Daleks gorchmynion, (TV: Evolution of the Daleks) tra mynnodd Dalek Thay ni derbyniodd Daleks gorchmynion wrth bodau an-Dalek, (TV: Doomsday) gyda Dalek arall yn dal nag atebodd Daleks cwestiynnau dynol. (TV: The Stolen Earth)

Plant Davros[]

Ar sawl adeg, roedd y Daleks yn fodlon lladd eu crëwr, Davros. (TV: Genesis of the Daleks, Resurrection of the Daleks) Er, fel adroddodd Jack Harkness, tro ar ôl dro byddai'r Daleks yn sylweddoli bod angen eu crëwr arnynt, yn enwedig ei wybodaeth, deallusrwydd, arbenigedd, a'i creadigaeth. (WC: Monster File: Davros) Datganiodd Davros o achos i nam genetig fe fethodd dileu, dangosodd y Daleks parch a thrugaredd tuag ato. O ganlyniad, cantiasant i Davros seiffonu eu hegni bywyd er mwyn cynnal ei hunan pan oedd yn marw. (TV: The Witch's Familiar)

Crefydd[]

Fel nodwyd uchod, roedd Daleks a gaeth eu creu trwy fwtadu a thrinio denfydd genetig dynol gan Ymerawdwr y Daleks gwallgof yn benboethion crefyddol. Addolon nhw eu Hymerawdwr union fel Duw, gan feddiannu cysyniad cabledd. Doedd gan Dalek arferol dim crefydd, ar wahân i'w cred gwallgof yn goruchafiaeth eu rhywogeth eu hun, (TV: The Parting of the Ways) gyda rhai yn honni doedd dim Duw. (SAIN: The Final Phase) Er hyn, mabwysiadodd dau rŵp, Cwlt Sgaro a Chabál Volatix, enwau defnyddiwyd yn draddodiadol ar gyfer grwpiau crefyddol. (TV: Doomsday, COMIG: The Then and the Now)

System cyfreithiol[]

I'w hychwanegu.

Hierarchaeth y Daleks[]

Prif erthygl: Hierachaeth y Daleks

Er gwelon nhw eu holl rhywogaeth yn uwchraddol, roedd ganddynt system hierarchaeth, gan gynnwys ystod eang o rhengoedd wedi'u rhoi i Daleks penodol. (TV: The Dalek Invasion of Earth, The Evil of the Daleks, Victory of the Daleks)

Ysgrifau Dalek[]

Prif erthygl: Ysgrifen Dalek
Prif erthygl: Dalek (iaith)

Iaith swyddogol y Daleks oedd Dalek. Bodolodd rhegiadau yn eu hiaith a'u defnyddiwyd i ddisgrifio ffurfiau bywyd di-Dalek, gan gwelodd y Daleks pob rhywogaeth arall yn israddol. (PRÔS: Twice Upon a Time)

Defnyddiodd y Daleks arysgrifau arnynt fel codau cydnybyddiaeth. Hefyd, mesuron nhw amser mewn rels. (TV: Doomsday) Roedd modd iddynt darllen rhifolion a geiriau dynol, gan hyd yn oed defnyddio nhw ar adegau. (TV: Planet of the Daleks)

Enwau[]

I'w hychwanegu.

Effaith ddiwylliannol[]

I'w hychwanegu.

Technoleg Dalek[]

Arfau'r Daleks[]

I'w hychwanegu.

Cyfeiriau eraill[]

I'w hychwanegu.

Yn y cefn[]

Ymddangosodiadau arall[]

I'w hychwanegu.

Teitlau stori[]

Gan ddechrau gyda'r drama Invasion of the Daleks yn 1964, y fformat enwocaf ar gyfer storïau Dalek yw "... of the Daleks". Cafodd y fformat hyn ei ddefnyddio'n gyntaf ar gyfer stori deledu gyda The Power of the Daleks yn 1966, a chafodd ei ddefnyddio'n ddiweddaraf ar Eve of the Daleks yn 2022. Mewn gwirionedd, os ystyrir storïau comig, sain a nofelau, mae mwy o storïau'n bodoli i beidio ddefnyddio'r fformat hon. Mae'r fformat "... of the Daleks" wedi'i hystyried yn ddigon enwog i gael jôc yn dynwared y fformat, gyda'r ffilm gwirion Myth Runner yn cynnwys crybwylliad tuag at y stori Deuteronomy of the Daleks.

Mae'r gair Dalek wedi ymddangos mewn mwy o deitlau storïau teledu Doctor Who nag unryw enw arall, er mae Planet a Death yn fwy cyffredin os ystyrir teitlau episodau unigol cyfnod Hartnell - storïau heb deitlau cwmpasog yn gwreiddiol. Yng nghyfnod cyfan Hartnell, defnyddiwyd Dalek union unwaith mewn teitlau - "The Daleks", episôd dau y stori ag enillodd y teitl The Dalek Invasion of Earth yn hwyrach.

Natsi mewn pob ffordd[]

I'w hychwanegu.

Yr ymadrodd[]

I'w hychwanegu.

Dyluniad[]

I'w hychwanegu.

Cerddoriaeth[]

I'w hychwanegu.

Cameos[]

I'w hychwanegu.

Materion eraill[]

I'w hychwanegu.

Dolenni allanol[]

I'w hychwanegu.

Advertisement