Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Helpodd David Whitaker (18 Ebrill 1928 yn Knebworth, Lloegr - 4 Chwefror 1980 yn Fulham, Llundain, Lloegr) creu Doctor Who a gweithredodd fel golygydd sgript cyntaf y gyfres, yn dechrau gyda An Unearthly Child nes The Dalek Invasion of Earth. Pryd dechreuodd Whitaker gweithio ar y sioe, mi roedd yn gweithio mewn carafán ym maes parcio'r BBC Television Centre. (TCH 1)

Fe wnaeth hefyd ysgrifennu sawl stori Doctor Who, gan gynnwys The Crusade, The Power of the Daleks a The Evil of the Daleks, a Power oedd stori cychwynol yr Ail Doctor. Roedd gwaith arall Dalek yn cynnwys y gomig Dalek yn TV Century 21, a'r ddrama theatr 1965 The Curse of the Daleks.

Yn 1964, comisiynwyd Whitaker gan gyhoeddwyr Frederick Muller i ysgrifennu dwy nofel wedi seilio ar y gyfres. Fe ysgrifennodd Doctor Who in an Exiting Adventure with the Daleks (addasiad y stori Dalek cyntaf, The Daleks, gan Terry Nation; ail-gyhoeddwyd yn hwyrach o dan enw Doctor Who and the Daleks) a Doctor Who and the Crusaders (addasiad stori ei hunan, The Crusade). Yn gwreiddiol cyhoeddwyd y ddwy nofel gan Armada Paperbacks am bris o 2'6 yr un. Yn 1973 ail-gyhoeddasant gan Target Books ac, ynghyd â trydydd nofel wrth Bill Strutton, fe daethant yn graidd y gyfres nofelau poblogaidd o nofelau Doctor Who.

Cyd-ysgrifennodd tair nofel llawn storïau a gynhwysodd y Daleks gyda Terry Nation a gyhoeddwyd yr un pryd a'i nofeleiddiadau blaenorol: The Dalek Book, The Dalek World a The Dalek Outer Space Book.

Yn 1980, comisiynwyd Whitaker i ysgrifennu nofeleiddiad o The Enemy of the World, ond bu farw cyn ei gwblhau. Yn 1994, cyhoeddwyd stori sydyn, Rennigan's Record, yn DWM 200.

Disgrifiodd gwraig cyntaf Whitaker, yr actores June Barry, fel dyn â "moesau anhygoel rhywsut wnaeth eich atgoffa o hen gyfnod."

Llyfryddiaeth[]

Teledu[]

Doctor Who[]

Ffilmiau[]

  • Daleks' Invasion of Earth 150 A.D. (deunydd ychwanegol)

Nofeleiddiadau[]

  • Doctor Who in an Exciting Adventure with the Daleks
  • Doctor Who and the Crusaders

Blodeugerddi[]

  • The Dalek Book (gyda Terry Nation)
  • The Dalek World (gyda Terry Nation)
  • The Dalek Outer Space Book (gyda Terry Nation)

Storïau sydyn[]

  • Rennigan's Record
  • The Lair of Zarbi Supremo

Stribedi comig[]

  • TV Century 21

Dramâu[]

  • The Curse of the Daleks (gyda Terry Nation)

Sain[]

  • The Curse of the Daleks (gyda Terry Nation, addaswyd gan Nicholas Briggs)

Dolenni allanol[]

Advertisement