Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who

Yn berson garw a llym i ddechrau, ond mewn gwirionedd yn berson caredig a maddeugar, y Deuddegfed Doctor oedd ymgorfforiad cyntaf ail gylch adfywio'r Doctor, wedi rhoi iddo gan yr Arglwyddi Amser wrth awgrym Clara Oswald ar ddiwedd Gwarchae Trenzalore.

Yn sicr o oroesiad Gallifrey, nid oedd y Doctor yma wedi ei gyfyngu gan euogrwydd. Fe ddaeth yn berson llai gyfeillgar, gan deimlodd nad oedd rhaid iddo guddio'r boen o beth feddyliodd oedd diddymiad yr Arglwyddi Amser. Gydag agwedd tawel, holodd y Doctor yn aml i'w hyn os mai ddyn da oedd ef. Yn aml byddai'n gollwng cyfarchiadau mewn sefyllfeydd pwysgar, pan oedd angen roedd modd iddo ddod yn berson oeraidd a deallus. Serch yr ymddangosiad anhrugarog, roedd y Doctor yn ofalgar ac empathetig iawn, o hyd yn ceisio gwneud y peth iawn am yr unig rheswm mai hwnnw yw'r peth cywir i'w wneud.

Ond yn ei frwydr cyntaf gyda Missy llwyddodd y Doctor i ddatrys ei broblem foesol, gan sylweddoli mai ond "twpsyn gyda bocs a sgriwdreifar" oedd ef a deithiodd i helpu bobl arall. Yn dilyn hon, dechreuodd y Doctor arddangos ei ochr gyfeillgar yn fwy aml a chryfhaodd ei gysylltiad â Clara. Yn dilyn ei marwolaeth, fe dreuliodd pedwar a hanner biliwn mlynedd yn ei ddeial cyffes er mwyn cyrraedd Gallifrey o achos pryder Rassilon gyda'r Hybrid. Yn eisiau dial, torrodd y Doctor foesau ei hun, gan rhyddhau ei ddig ar yr Arglwyddi Amser mewn cais i achub Clara, a cholli ei chofion ohoni fel cosb o'i ddewisiadau.

Ar ôl cyfarfyddiad olaf gyda River Song, detholwyd y Doctor i warchod Gromgell Missy ym Mhrifysgol St Luke gyda Nardole. Rhywbryd i mewn i'w rôl, fe ddechreuodd tiwtora Bill Potts, ac yn fuan wedyn dechreuodd hi teithio gyda fe, wedi'u ymuno gan Nardole yn dilyn goresgyniad gan Fynachod. Pan ganlynodd aprofi ymadferiad Missy mewn Bill yn cael ei throi i mewn i Cyberman, Missy yn gadael gyda'r Meistr Saxon, a Nardole yn cael ei gadael ar ôl, cafodd y Doctor ei anafu'n angheuol mewn brwydr yn erbyn y Cybermen.

Trwy geisio atal y broses adfywio yn dilyn blino gyda newid personoliaeth a cholli cymdeithion o hyd, cwrddodd y Doctor gyda'i ymgorfforiad cyntaf a Testimony, a anogodd afatarau gwydr Bill a Nardole iddo adfywio. Yn derbyn ei adfywiad a'i gyfrifoldeb dros fywyd, defnyddiodd y Doctor ei fomentau olaf i gynghori ei olynydd, yn fodlon parhau i fod y Doctor gorffennodd y Doctor adfywio i mewn i gorff benywaidd.

Bywgraffiad[]

Dyddiau'r dyfodol[]

Yn dilyn rhoi Gallifrey i mewn i dimensiwn poced, (TV: The Day of the Doctor) cofiodd y Seithfed Doctor gweithio gyda 12 ymgorfforiad arall i achub gallifrey. (SAIN: Cold Fusion)

Pan cwrddodd y Degfed Doctor River Song, dwedodd hi wrtho am ymgorffodiad dyfodol y Doctor yn rhoi sgriwdreifar sonig iddi (TV: Silence in the Library) ac am eu cyfarfyddiad olaf gyda fe "o'r dyfodol" ar Darillium. (TV: Forest of the Dead) Gan mai ar ymgorfforiad oedd ef, (TV: The Time of the Doctor) credodd yr Unarddegfed Doctor roedd River yn siarad amdano. (FIDEO: Last Night)

Tra'n cyfarfod "Pili Pala'r Fortecs", dywedwyd i'r Degfed Doctor na fyddai'n cael ei "rhwystro" i "un deg tri bywyd". (COMIG: Vortex Butterflies)

Pan ymosodwyd ar yr Unarddegfed Doctor gan the Then and the Now ar Lujhimene, roedd gwyneb y Deuddegfed Doctor yn rhan o wynebau'r Doctor gwelwyd wrth cafodd linell amser y Doctor bron ei ddinistrio. (COMIG: Running to Stay Still)

Pan wahoddwyd yr Unarddegfed Doctor a River Song i barti gan bysgod-bobl, dywedodd River wrth y Doctor os byddai'r parti yn mynd yn gwael, mi fyddi hi yn dweud wrtho'i ymgorfforiad nesaf "dywedais i cymaint". (COMIG: An Adventure in Brine and Plaice)

Yn ystod ymweliad â bydysawd eiledol lle roedd yr Unarddegfed Doctor yn cymeriad mewn cyfres teledu, dywedodd yr Unarddegfed Doctor wrth ei actor, Matt Smith, byddai Peter Capaldi yn dewis da i'w chwarae ar y sioe, a fe achubodd Peter Capaldi bydysawd ei hun wrth Fandrel. (COMIG: The Girl Who Loved Doctor Who)

Ôl-adfwyiad[]

Ar ôl brwydro yng Nghwarchae Trenzalore am 900 mlynedd, (PRÔS: Tales of Trenzalore), derbyniodd yr Unarddegfed Doctor cylch adfywio newydd wrth yr Arglwyddi Amser yn dilyn Clara Oswald yn apelio atynt. Defnyddiodd y Doctor egni ffrwydrol yr ailosodiad i ddinisrio grymoedd y Daleks, cyn dychwelyd i'w TARDIS i orffen ei adfywiad, (TV: The Time of the Doctor) gan wneud galwad ffôn gloi i Clara, lle ddysgodd byddai ei ymgorfforiad newydd yn hen gyda gwallt llwyd. (TV: Deep Breath) Yn newid mewn fflach o flaen Clara, lleisiodd y Doctor newydd ei syndod at ei afu newydd wrth ddechreuodd y TARDIS crasio. (TV: The Time of the Doctor) Gan grasio ar y Ddaear cyn-hanesyddol, dilynwyd a llyncwyd y TARDIS gan dyranosor benywaidd; a phryd llywiodd y Doctor ei TARDIS i Lundain yn yr 1890au, daeth y tyranosor hefyd ar ddamwain.

Ar ôl i'r deinosor poeri'r TARDIS allan, llawn pwysau ô-adfywiol, roedd y Doctor wedi gwylltio cyn cwmpodd i gysgu wedi blino'n lan; cafodd ei rhoi i'r gwely er mwyn gwella. Yn fuan, fe ddihunodd er mwyn archwilio i'r deinosod a oedd nawr yn cael ei llosgi, a wedyn crwydrodd ef strydoedd llundain gan siarad â thramp lleol, sylwodd y Doctor ei fod yn adnabod ei wyneb newydd, cyn cyfnewid hoff oriawr ei gyn-ymgorfforiad am got y tramp. (TV: Deep Breath)

Yn dilyn gweld hysbysiad gan Missy, (TV: Death in Heaven) aeth y Doctor a Clara i bwyty, lle ddysgon nhw bod droidiau clocwaith, wedi'u harwain gan y Dyn Hanner-Wyneb, wedi bod yn cynhaeafu pobl er mwyn trwsio eu hun i gyrraedd Gwlad yr Addewid. Torrodd y Doctor ei freuddwyd, cyn naill ai neidiodd neu cafodd y Dyn Hanner-Wyneb ei wthio wrth ei godyn dianc gan y Doctor, cyn i'r Doctor dychwelyd i'r TARDIS a gadael Clara yn llundain Fictoriaidd. (TV: Deep Breath) Aeth y Doctor i helpu ei gyn-ymgorfforiadau rhoi Gallifrey i mewn i Bydyswad poced gan roedd y cyfriau roedd ef yn gweithio ar trwy bob un o'i ymgorfforiadau wedi'i cwblhau, (TV: The Day of the Doctor) cyn ymuno â'r Cadfridog yn yr Ystafell Rhyfel i drefnu cymorth trychineb. Yna, ymunodd a'i ymgorfforiadau eraill yn yr Is-Oriel er mwyn dathlu, (PRÔS: The Day of the Doctor) cyn ailaddurno ystafell gonsol y TARDIS a dewis gwisg newydd. (TV: Deep Breath)

Yn ddychwelyd am Clara, trafododd y Doctor a Clara am y ffordd amheus cwrddon nhw yn ei hen ymgorfforiad, cyn i Clara lleisio ei amheuaeth o hunaniaeth y Doctor newydd. Trwy geisio dychwelyd Clara i'w chartref, glaniodd y Doctor yn Glasgow ar ddamwain, lle derbyniodd Clara galwad wrth yr Unarddegfed Doctor yn annog Clara i helpu'r Doctor trwy ei adfywiad. (TV: Deep Breath)

Profiadau cynnar[]

Wrth adael i gael coffi am Clara a'i hun, cwrddodd y Doctor â hen ffrind, 78351, cyn i'r ddau ymchwilio i lofruddiau a ddigwyddodd ar yr Orsaf Rhostio Coffi Rhyngalaethol. (PRÔS: Lights Out)

Gyda'r bwriad o ddychwelyd gyda'r coffi, achubodd y Doctor peilot ymladd Gwrthsafiad Undeb y Galaethau o'r enw Journey Blue wrth ymosodiad Soser Dalek (TV: Into the Dalek) yn Nghysawd Ryzak, (PRÔS: The Secret Lives of Monsters) ond gadawodd ei brawd marwoledig yn y ffrwydrad. Ar ôl annog Journey i ofyn yn ddymunol, fe ddychwelodd Journey i'w llong orchymyn, yr Aristotle, lle cyflwynodd Cyrnol Morgan Blue Dalek gyda gwall sydd wedi'i droi yn dda.

Twelve listening to Rusty

Y Doctor, tu mewn i Dalek, yn cwestiynnu os yw'n ddyn da. (TV: Into the Dalek)

Tair wythnos yn ddiweddarach, o safbwynt Clara, dychwelodd y Doctor amdani. Fe ofynnodd i Clara os mai ddyn da yw ef, cwestiwn nad oedd modd i Clara ateb, cyn dychwelyd i'r orsaf i helpu'r Dalek. Wedi ymuno gan ddau filwr o'r enw Gretchen Carlisle a Ross, defnyddiodd y Doctor a Clara crebachydd gronynnau i lleuhau eu hun er mwyn mynd tu mewn i'r Dalek, eisioes wedi'i enwi yn "Rusty" gan y Doctor. Yn dilyn colli Ross i wrthgorffau Rusty, darganfyddodd y Doctor difera ymbelydredd yn Rusty, a fe drodd yn dda wrth weld genedigaeth seren, ond hefyd roedd yr ymbelydredd yn lladd Rusty. Trwsiodd y Doctor Rusty, ond achosodd hwn iddo colli ei ddaioni, gan ladd filwyr yr orsaf, a galw'r Daleks i'r orsaf, ond sylweddolodd y Doctor byddai modd ailgychwyn daioni Rusty gan ei atgoffa am enedigaeth y seren. Gyda Clara yn rhyddhau cofion cyfyngedig Rusty, aeth y Doctor i'r Mwtant Kaled er mwyn cael cysylltiad meddwl; ond mae hyn ond yn achosi i Rusty gweld casineb y Doctor tuag at y Daleks, a lladd pob Dalek ag ymatebodd i'w alwad. Cyn adael i barhau ei wrthryfela yn erbyn y Daleks, mae Rusty yn dweud wrth y Doctor fyddai ef yn Dalek da. Yn wrthod cais Journey i deithio gydag ef a Clara, dychwelodd y Doctor Clara i'w chartref, gyda'r ddau yn ansicr os mai dyn da oedd y Doctor, ond gyda Clara yn credu roedd ef yn ceisio i fod. (TV: Into the Dalek) Wedyn meddyliodd y Doctor am ba fath o Dalek fyddai ef. (PRÔS: Dalek)

Ymunodd y Doctor â grŵp o chwech o deithwyr, gan gynnwys Geoffrey Chaucer ifanc, ar siwrne i'r eglwys yn Santiago de Compostela er mwyn osgoi'r pla. Wrth gyrraedd, sylwodd y Doctor mai llong ofod estronwyr angheuol, wedi'u cuddio fel sgerbydau pren, oedd yr eglwys. Llwyddodd y Doctor a'r teithwyr i ddianc, a wedyn esboniodd y Doctor i Chaucer wnaeth baban un o'r teithwyr, trwy cynrychiolu bywyd newydd, brawychu'r estronwyr. (PRÔS: The Mercy seats)

Anturiau newydd gyda Clara[]

I'w hychwanegu.

Cwrdd â Danny a Courtney[]

Wrth ymweld â Clara, darganfododd y Doctor Skovox Blitzer yn agos i Ysgol Coal Hill, a felly, fe guddiodd yn yr ysgol fel y gofalwr dros dro er mwyn cael gwared o'r robot. Er mwyn cadw Clara rhag ymyrru, datgelodd y Doctor mai cynllun ef oedd i ddefnyddio cynhyrchyddion cronodein i ddanfon y Blitzer miloedd o flynyddau i'r dyfodol. Ond, atalwyd ei gynllyn gan Danny Pink, cariad Clara, a rhywun nad oedd y Doctor yn hoff ohono gan mai milwr oedd ef, gan feddyliodd Danny bod y Doctor yn ddrwgdybus a roedd y dyfeisiau yn beryglus. O ganlyniad, cafodd y Blitzer ei ddanfod ond sbel fach i'r dyfodol, a felly newidodd y Doctor ei gynllun i geisio twyllo'r Blitzer i feddwl mai ei ucholygwr oedd y Doctor. Wedi anactifadu'r Blitzer, cymerwyd ef gan y Doctor, a'i rhoi i mewn i'r gofod, gan gymryd ddisgybl trafferthus Clara, Courtney Woods, gydag ef ar ôl iddi darganfod ei wir hunaniaeth, (TV: The Caretaker) er na welodd ddim byd arbennig ynddi. (TV: Kill the Moon)

Anturiau pellach gyda Clara[]

I'w hychwanegu.

Ffrae mawr gyda Clara[]

I'w hychwanegu.

Teithiau unigol[]

I'w hychwanegu.

Clara'n ailymuno[]

I'w hychwanegu.

Yr Awr Dywyllaf[]

I'w hychwanegu. (TV: Dark Water / Death in Heaven)

Breuddwydio am Santa[]

I'w hychwanegu. (TV: Last Christmas)

Ail gyfle gyda Clara[]

I'w hychwanegu.

Gadael Davos[]

I'w hychwanegu.

Parhau i deithio gyda Clara[]

I'w hychwanegu.

Ysbrydion y Drum[]

I'w hychwanegu.

Digwyddiad ar Karaoke[]

I'w hychwanegu.

Anturiau olaf gyda Clara[]

I'w hychwanegu.

Yr Hybrid[]

I'w hychwanegu.

Symud ymlaen[]

I'w hychwanegu.

Achub Gabby[]

I'w hychwanegu.

Teithio ar ei ben ei hun[]

I'w hychwanegu.

Teithiau gyda Hattie[]

I'w hychwanegu.

Byw gyda'r teulu Collins[]

I'w hychwanegu.

Dychwelyd i deithio[]

I'w hychwanegu.

Mynd â Jata nôl i'w gartref[]

I'w hychwanegu.

Cymdeithion dros dro[]

I'w hychwanegu.

Teithiau unigol[]

I'w hychwanegu.

Ailgwrdd River[]

I'w hychwanegu.

Gwarchod y Gromgell[]

I'w hychwanegu.

Anturiau tra ym Mhrifysgol St Luke[]

I'w hychwanegu.

Cwrdd Bill[]

I'w hychwanegu.

Anturiau cynnar Bill[]

I'w hychwanegu.

Bygythiad y Gofod-freuddwyd[]

I'w hychwanegu.

Anturiau pellach gyda Bill[]

I'w hychwanegu.

Argyfwng amser[]

I'w hychwanegu.

Dallter[]

I'w hychwanegu.

Anturiau olaf[]

I'w hychwanegu.

Ei frwydr olaf[]

Llong wladfa'r Mondasians[]

I'w hychwanegu.

Gwrthod newid[]

I'w hychwanegu.

Marwolaeth[]

I'w hychwanegu.

Ôl-marwolaeth[]

I'w hychwanegu.

Digwyddiadau heb dyddiad[]

  • Gan siarad â chynulleidfa anweledol, esboniodd y Deuddegfed Doctor cysyniad y Paradocs Bootstrap trwy ddefnyddio'r sefyllfa o ddyn tybiadol yn defnyddio ei wybodaeth ar Ludwig van Beethoven i deitho nôl mewn amser i'w gwrdd cyn troi i mewn i Beethoven ar ddamwain o ganlyniad. (TV: Before the Flood)
  • YN ystod yr amser roedd ganddo wallt hir, ymwelodd y Deuddegfed Doctor â Fy Merch yn ystod ei charchariad mewn pob ddrych er mwyn gofyn am ymddiheiriad wrthi. Ni ymddiheiriodd hi o gwbl, gan deimlo mai ef oedd "y gwaethaf". (SAIN: Shadow of a Doubt)

Llinellau amser eiledol[]

I'w hychwanegu.

Cyfeiriau ychwanegol[]

I'w hychwanegu.

Proffil seicolegol[]

Personoliaeth[]

I'w hychwanegu.

Arferion[]

Yn union fel ei seithfed ymgorfforiad, siaradodd y Deuddegfed Doctor gydag acen o'r Alban, (TV: Deep Breath) gyda Bernice Summerfield yn nodi mai acen o Lasgow oedd ei un ef, o'i gymharu ag un Ucheldiroedd yr Alban y Seithfed Doctor. (PRÔS: Big Bang Generation) Defnyddiodd y Doctor ei acen fel esgus i gwyno am bethau, (TV: Deep Breath) a fe feddyliodd roedd yr acen yn ddeniadol mewn pobl eraill. (TV: Last Christmas) Gyda'i acen, roedd gan y Doctor tueddiad o wneud ffrostiau a bygythiadau cyfrwys. (TV: Deep Breath, Into the Dalek, Robot of Sherwood, Mummy on the Orient Express, Flatline, Death in Heaven, The Witch's Familiar, Before the Flood, The Girl Who Died, Face the Raven, Heaven Sent, The Return of Doctor Mysterio, Oxygen, Extremis, The Pyramid at the End of the World, The Lie of the Land, The Eaters of Light, The Doctor Falls, Twice Upon a Time) Ond, roedd gwir dicter y Doctor yma yn dawel iawn. (TV: Death in Heaven, The Witch's Familiar, The Girl Who Died, Face the Raven, Hell Bent, The Doctor Falls)

Yn union fel ei rhagflaenydd, byddai'r Deuddegfed Doctor hefyd yn siarad wrth ddefnyddio ei ddwylo er mwyn pwysleisio pwynt, ond roedd ei symudiadau ef yn fwy cadarn, gan atalnodi ei bwyntiau trwy ddefnydd o'i gyfeirfys, ond byddai ei symudiadau yn ddigymellach tra'n meddwl yn ddwfn. (TV: Time Heist) Yn aml, byddai'r Doctor yma yn codi ei gyfeirfys, ei fys bach a'i fawd, tra'n gostwng ei fys canol a modrwy. (TV: Deep Breath, Into the Dalek, Listen, Time Heist, The Caretaker, Kill the Moon, In the Forest of the Night, Dark Water, Last Christmas, The Doctor's Meditiation, The Magician's Apprentice, The Witch's Familiar, Under the Lake, Before the Flood, Face the Raven, Hell Bent, The Return of Doctor Mysterio, Thin Ice, Knock Knock, Oxygen, The Pyramid at the End of the World, Twice Upon a Time)

Fe gnodd ei law hefyd, (TV: Deep Breath, Into the Dalek, Mummy on the Orient Express, In the Forest of the Night, Under the Lake, Before the Flood, The Zygon Inversion) tapiodd ei ddanedd gyda'i fys, (TV: Kill the Moon, In the Forest of the Night, Last Christmas, The Girl Who Died, The Woman Who Lived, Hell Bent, Oxygen, The Lie of the Land, The Eaters of Light) neu ddaliodd ei ben yn ei law wrth feddwl, (TV: Listen, Kill the Moon, Mummy on the Orient Express, The Witch's Familiar, The Girl Who Died, Hell Bent, Smile, Empress of Mars) llechwenu trwy droi ei law gyda'i fawd yn sticio allan, (TV: Deep Breath, Into the Dalek, The Caretaker, The Doctor's Meditiation, The Girl Who Died, The Woman Who Lived, The Zygon Invasion, Hell Bent, The Husbands of River Song, The Eaters of Light) a fe ymblethiodd ei ddwlo wrth ystryied rhywbeth. (TV: Deep Breath, Into the Dalek, Robot of Sherwood, Time Heist, The Caretaker, Kill the Moon, Mummy on the Orient Express, Flatline, Dark Water, Death in Heaven, Last Christmas, The Girl Who Died, The Zygon Invasion, The Zygon Inversion, Face the Raven, Heaven Sent, Hell Bent, The Husbands of River Song, The Pilot, The Lie of the Land, Empress of Mars)

Sgiliau[]

I'w hychwanegu.

Golwg[]

I'w hychwanegu.

Gwallt[]

I'w hychwanegu.

Dillad[]

Prif Wisgoedd[]

I'w hychwanegu.

Gwisgoedd eraill[]

I'w hychwanegu.

Yn y cefn[]

  • Fel y Doctor Rhyfel a'r Nawfed Doctor, roedd ymddangosiad cyntaf teledu y Deuddegfed Doctor mewn stori cynt nag yr un lle gwelwyd yr adfywiad i mewn i'r Doctor hwnnw.
Advertisement