Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Dido, neu'r Trydydd ar ddegfed blaned, (PRÔS: The Rescue) oedd blaned gartref y Didowyr a Bwystfilod y Tywod.

Data Astronomegol[]

Roedd gan Dido o leiaf tair lleuad a dydd hyd un deg tri awr. Roedd y blaned yn rhan o gysawd dwbl, gan gylchdroi o amgylch dwy seren, ag oedd yn cylchdroi o amgylch ei gilydd yn eu tro; ac felly, teithiodd y planed mewn llwybr "ffigwr wyth". O ganlyniad, llosgodd llysiant ac anweddodd moroedd y blaned wrth gyrraedd y ganolbwynt rhwng y sêr, gan orfodi'r Didowyr i ffoi tan y ddaear am ganoedd o flynyddoedd. (PRÔS: The Rescue) Credwyd nad oedd foroedd o gwbl ar y blaned. (PRÔS: The Empire of Glass)

Roedd Dido llai na flwyddyn golau i ffwrdd o Eldoff Wyth. (PRÔS: The Rescue)

Hanes[]

Ymwelodd y Doctor Cyntaf gyda Dido ar adeg cyn ei deithiau gydag Ian Chesterton a Barbara Wright. O ganlyniad i gylchred y Didowyr o guddio tan y ddaear am ganrifoedd yn ystod y gyfnod difrifol, (PRÔS: The Rescue) roeddent yn niferu ond tua chant pan yn cyfarfod y Doctor. (TV: The Rescue)

Yn ystod neu'n fuan ar ôl 2493, crash-laniodd yr UK-201 ar y blaned. Yr unig oroeswyr ar y llong oedd Vicki Pallister a Bennett, yr olaf yn llofruddwyr a laddodd yr oroeswyr eraill a brodorion Dido - ar wahân i ddau nad oedd yn gwybod am. Cyrhaeddodd y Doctor Cyntaf a'i gymdeithion Ddido yn y TARDIS. Yno, darganfodon nhw'r gwir y tu ôl i gynllun Bennett, cyn iddo farw trwy ddisgyn wrth glogwyn tra'n ceisio dianc wrth ddau o frodorion olaf Dido. Aeth y teithwyr â Vicki i ffwrdd yn y TARDIS gydan nhw. (TV: The Rescue)

Cafodd y blaned ei warchod o dan Etifeddiaeth Alaethol. (PRÔS: The Tomorrow Windows)

Ymwelodd y Seithfed Doctor a Melanie Bush â Dido unwaith. (SAIN: Maker of Demons)