Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Doctor Who yw cyfres deledu Prydeinig a masnachfraint byd-eang crëwyd a rheolwyd gan y BBC.

Canolbwynt y rhaglen yw teithiwr amser o'r enw "y Doctor", sydd yn aml - er nid o hyd - yn cael eu portreadu fel dod o hil o bobl adnabyddwyd fel Arglwyddi Amser. Mae'n teithio trwy amser a'r gofod mewn peiriant amser a alwyd y TARDIS. Mae'r TARDIS - sydd i bob olwg yn flwch heddlu Llundain ar y tu allan - â dimensiynnau mewnol agos at anifeidredd. Oherwydd mae cysylltiad y dyluniad â'r sioe wedi dod yn rhan eigonig o ddiwylliant Prydeinig, mae'r dyluniad yn eiddo'r BBC yn lle y gwneuthuwyr gwreiddiol, Gwasaneth Heddlu Metropolitan.

Ers adfywiad Doctor Who yn 2005, mae'r sioe wedi'i chynhyrchu yn bennaf yng Nghymru gan BBC Cymru, gyda'r trac sain yn cael ei chwarae'n aml gan Gerddorfa Genedlaethol Cymraeg y BBC er 2006.

Er lles cefnogi newidiadau i'r cast, mae'r naratif yn galluogi'r Doctor adfywiad ar ei farwolaeth, lle mae'n troi i mewn i berson hollol gwahanol. Mae'r cast hefyn yn cynnwys un neu fwy o "gymdeithion", fel arfer menywod. Ar gyfartaledd, newida'r cast yn llwyr pob tair neu bedair mlynedd, ffactor sylweddol yn hirhoedledd y raglen.

Mae gan y sioe dau - dadla rhai tri - brif gyfnod. Roedd cyfnod gwreiddiol y sioe o 1963 i 1989, a gelwir yn aml y cyfnod "clasurol". Wedyn, yn 1996, daeth cais fethiadol o adfywiad gyda chyd-cynhyrchiad rhwng y BBC a Universal Studios. Mae'r ffilm teledu canlyniadol yn cael ei ystyried yn rhan o'r gyfres clasurol. Mae ffurf pressennol y sioe, a gelwir "y gyfres newydd", wedi bod ar BBC One ers 2005, wedi'i gynhurchu gan BBC Cymru.

Er mae sawl cefnogwr y sioe yn cofio'r hen cyfres yn annwyl, mae'r gyfres newydd wedi aros yn gyson yn fwy boblogaidd gyda'r cyhoedd Prydeinig, gan amlaf Doctor Who yw'r drama â sgript mwyaf poblogaidd - tu allan i'r operâu sebon - trwy gydol yr wythnosau darllediad.

Mae'r masnachfraint creuodd y sioe wedi rhoi sawl ystod deilliadol yng nghyfryngau teledu, sain a phrint.

Hanes Doctor Who[]

Tarddiad[]

Mae sawl unigolyn yn rhannu'r credyd am sefydlu Doctor Who yn 1963, ond fe'i dderbyniwyd yn gyffredinol ddaw gysyniad, a sefydliad agweddau craidd megis y TARDIS a'r Doctor a theitl y sioe ei hun wrth Sydney Newman, o Ganada, sydd hefyd wedi'i gredydu am greadigaeth gyfres enwog arall, The Avengers. Pobl eraill a gyfrannodd yn sylweddol at enedigaeth y gyfres oedd Pennaeth Cyfresi Donald Wilson, ysgrifennydd C. E. Webber, golygydd sgript David Whitaker a chynhyrchydd gyntaf y sioe, Verity Lambert, y fenyw gyntaf i lanio'r safle yn adran ddrama'r BBC.

Cyfranogwyr nodedig arall at enedigaeth y gyfres oedd Anthony Coburn a Waris Hussein, awdur a chyfarwyddwr yn eu tro am stori gyntaf y gyfres, An Unearthly Child, gyda'r episôd gyntaf yn darlledu ar 23 Tachwedd 1963. Mewn gwirionedd, yr episôd a gafodd ei ddarlledu oedd yr ail gwaith ffilmiwyd yr episôd yma; roedd gan y fersiwn gynharach (wedi enwi "Yr Episôd Peilot" gan gefnogwyr y sioe) - a oedd wedi'i ffilmio sawl wythnos gynt - sawl broblem, ac felly cafodd ei wrthod. Hawliodd y BBC ail-gynhyrchiad o'r episôd peilot. Darlledwyd yr episôd gyntaf y dydd yn dilyn fraddladdiad John F. Kennedy, a phrofodd sawl ardal doriad trydan yn ystod y darllediad; felly, darlledwyd yr episod gyntaf wythnos yn olynol cyn ddarllediad yr ail episôd.

Hefyd yn hanfodol i awyrgylch yn gynnar yn y gyfres oedd y cyfansoddwyr Ron Grainer a Delia Derbyshire. Ysgrifenodd Grainer alaw gerddoriaeth thema Doctor Who, a drawsnewidodd Derbyshire a'r BBC Radiophonic Workshop yr alaw i ddarn o gerddoriaeth arloesol. Mae sawl trefniant wedi'u defnyddio trwy gydol hanes y gyfres, ond nid yw'r alaw sylfaenol erioed wedi newid. Gan nid yw unryw ddarn o gerddoriaeth arall wedi cael ei gomisiynu, thema Doctor Who yw un o'r themâu hiraf ei oes yn hanes rhaglennu teledu.

Cyflwydnodd An Unearthly Child ymgorfforiad cyntaf y Doctor, wedi chwarae gan actor William Hartnell. Yn ei gynorthwyyo oedd William Russell a Jacqueline Hill fel Ian Chesterton a Barbara Wright yn eu tro, a Carole Ann Ford fel wyres y Doctor, Susan Foreman. Byddai'r pedwar yma yn serennu fel cast craidd y gyfres trwy gydol y gyfres gyntaf ac ymlaen i'r ail.

Yn gynnar iawn, dechreuodd y gyfres adran o'r fasnachfraint yn y ffurf o storïau sydyn, o argraffiadau un tudalen, i nofelau fer, i hyd yn oed adrodd stori ar gardiau. Mae'r genre yma o storïau wedi datblygu trwy gydol hanes Doctor Who i destynau enfawr a blodeugerddi sydd yn parhau i gael eu rhyddhau yn bell i mewn i'r 21ain ganrif.

Y Daleks[]

Yn dilyn cyflwyniad cymeriadau a chysyniadau craidd y sioe yn episôd gyntaf An Unearthly Child, gwelodd plot y tair episôd eraill stori eithaf tawel ynglŷn â grŵp o ogof-ddynion yn amseroedd cynhanesyddol. Dechreuodd y gyfres dod o hyd i'w llais ffuglen wyddonol a chadarnhau ei lleoliad yn rhan o ddiwylliant Prydain yn ei hail stori, The Daleks gan Terry Nation. Cyflwynodd y stori y Daleks, gelyn enwocaf y gyfres. O ganlyniad i'r stori yma, llwyddodd y gyfres ennill poblogaeth enfawr gyda dechreuad "Dalekmania", rhywbeth a darddiodd teganau, y nofeleiddiad gyntaf Doctor Who in an Exciting Adventure with the Daleks, yr addasiad ffilm gyntaf Dr. Who and the Daleks, a sawl stori arall yn gweld dychweliad y Daleks, gan ddechrau gyda The Dalek Invasion of Earth

Newidiadau cast cynnar[]

Roedd The Dalek Invasion of Earth hefyd yn nodedig am gynnwys newidiad cast cyntaf y gyfres, gyda Carole Ann Ford yn gadael y gyfres ar ddiwedd y stori. Cafodd hi ei hamnewid yr wythnos ganlynol gan Maureen O'Brien yn rôl Vicki, yn sefydlu'r traddodiad o newid cymdeithion y Doctor, ac felly actiorion craidd y gyfres. Rhai misoedd ymhellach, gadawodd actorion arall gwreiddiol y gyfres, William Russell a Jacqueline Hill, ar ddiwedd The Chase, gan greu lle ar gyfer y gydymaith newydd, Steven Taylor, wedi'i chwarae gan Peter Purves. Trwy gydol y gyfres, mae hyd weithrediad cydymaith wedi amrywio'n eang, gyda rhai ond yn para cwpl o wythnosau (gyda rhai yn cael eu hystyried fel cymdeithion ar ôl ymddangosiad mewn un episôd yn unig) hyd at sawl flwyddyn, gyda rhai megis Frazer Hines fel Jamie McCrimmon, Billie Piper fel Rose Tyler, a Mandip Gill fel Yasmin Khan yn ymddangos ym mhob stori, neu phob stori ond un, y Doctor teithion nhw gyda. Mae rhai actorion hefyd wedi ailymgynill yn eu rolau blynyddoedd ac hyd yn oed degawdau diweddarach (y mwyaf nodedig yw Elisabeth Sladen fel Sarah Jane Smith).

Newid hunaniaeth[]

Y ddatganiaeth enfawr nesaf o ran sefydliadau'r gyfres oedd pryd ymadawodd William Hartnell, actor y Doctor Cyntaf, y gyfres yn 1966. Yn lle cyflwyno prif gymeriad newydd, amnewid Hartnell heb esboniad, neu chanlso'r gyfres, dewisodd cynhyrchwyr y gyfres, gydag adborth wrth Sydney Newman, sefydlu abl y Doctor i adfywio i berson newydd ar ôl cael eu hanafu neu os oeddent ar fin marw. Canlyniad hyn oedd y newidiad dramatig - a llwyddianus - i Ail Doctor Patrick Troughton ar ddiwedd The Tenth Planet, stori a wnaeth hefyd cyflwyno gelyn ail mwyaf enwog y fasnachfraint, y Cybermen.

Cyflwynodd teitlau agoriadol y stori 1967, The Macra Terror, yr ymarferiad o fewnosodi wyneb y Doctor yn rhan o'r teitlau.

Ni sefydlwyd hil y Doctor nes stori olaf Troughton yn 1969. Dynododd The War Games mai Arglwydd Amser oedd rhywogaeth y Doctor. Cynhwysodd y stori yma planed cartrefol y Doctor am y tro cyntaf.

Digwyddodd yr arbrofiad o adfywio'r Doctor unwaith eto yn 1970 gyda chyflwyniad yr actor siriol, Jon Pertwee fel y Trydydd Doctor, newidiad a ddigwyddodd ar yr un pryd dechreuodd cynhyrchiad lliw. Unwaith eto, roedd y newidiad yn llwyddiannus, gyda Doctor Who yn parhau i sefydlu ei hun fel eicon teledu Prydeinig, er roedd y sioe dal yn amhoblogaidd yn y marchnadoedd Americanaidd.

Yn 1973, dathluodd y sioe ei degfed pen blwydd, yn enwedig yn ei 10fed gyfres, gyda'r stori The Three Doctors - stori a welodd dychweliad hen actorion William Hartnell fel y Doctor Cyntaf a Patrick Troughton fel yr Ail Doctor ynghyd â Pertwee, mewn stori a gadarnhaodd roedd modd i'r Doctor cwrdd a'i hun.

Daeth enw planed y Doctor o'r diwedd yn stori 1974, The Time Warrior - Gallifrey. Hefyd, ni ddaeth y term "adfywio" am broses y Doctor o newid i osgoi marwolaeth nes diweddglo cyfnod Pertwee, Planet of the Spiders yn 1974.

Llyfrau Target[]

Yn 1973, rhyddhaodd Target Books triawd o nofeleiddiadau o'r 1960au, cyn ddechrau rhyddhau addasiadau eu hun o storïau teledu yn 1974. Mewn amser cyn recordiadau cartref a rhyddhad cyfresi teledu ar dâp neu DVD, gyda phrin ail-ddarllediadau gan roedd llawer o'r hen episodau i'w feddwl wedi colli, fe ddaeth llinell llyfrau Target Books nodwedd poblogaidd a chraidd mewn masnaschfraint tyfedig Doctor Who. O ganlyniad, cyhoeddwyd llyfrau'n bell i mewn i'r 1990au. Nodwedd unigryw i'r linell (mewn gwirionedd oedd hyn yn fynd yn ôl i'r nofeleiddiadau cyntaf gan Frederick Muller) oedd y ffaith byddai'r llyfrau'n cael ei ysgrifennu gan awduron gwreiddiol y sgript, neu unigolion oedd â chysylltiadau cryf yng nghefn y sioe, megis Barry Letts, Terrance Dicks, David Whitaker, ayyb., lle roedd pawb yn gweithio mewn cynhyrchu neu olygu sgriptiau. Yn hwyr yn y 70au, ail-gyhoeddwyd sawl nofel Target yn America gan Pinnacle Books, gyda rhagarweiniad gan awdur ffuglen wyddonol nodedig Harlan Ellison, a wnaeth ychwanegu at fri'r gyfres trwy roi'r gyfres yn uwch yn ei farn na Star Trek.

Y flynyddoedd Tom Baker[]

Parhaodd y gyfres trwy gydol yr 1970au, gyda Tom Baker yn cymryd rôl y Pedwerydd Doctor yn 1974. Daw Baker yr actor enwocaf, ac yn bosib yr actor mwyaf i chwarae'r Doctor yn yr hen gyfres. Roedd hon o achos ailddarllediadau cyson o'i episôdau yn y Deyrnas Unedig mewn rhan, rhywbeth a ddechreuodd yn ystod ei gyfnod ef. Baker hefyd oedd yr actor "iau" gyntaf yn y rôl a chwaraeodd ef y Doctor am y nifer mwyaf o gyfresi nac ynryw actor cynt - saith cyfres. Mae actorion eraill wedi'u hystyried fel y Doctor "cyfredol" am amser hirach, ond heb ymddangosiadau teledu cyson. Ar ddiwedd cyfnod Tom Baker, ymgeisiodd y BBC ar gyfres deilliedig, K9 and Company, ond ni llwyddodd y gyfres yn bellach na'r episôd gyntaf, A Girl's Best Friend.

Yn gwreiddiol, roedd darllediadau'r UDA yn gwael, gyda rhai sianelu yn darlledu adroddawd yn esbonio'r plot. Erbyn diwedd yr 1970au, ond, roedd y gyfres yn sefydliad ar y Public Broadcasting Service (PBS), sianel a fyddai'n darlledu'r sioe sawl gwaith dros y tair degawd nesaf a'r gyfres newydd yn dilyn ei dychweliad yn 2005.

Yn 1974, cynhwysodd teitlau agoriadol y stori Robot llun y TARDIS, cynhwysiad a barhaodd nes The Leisure Hive yn 1980.

Yn 1976, darlledodd episôd 4 The Brain of Morbius yn rhan o Hen Gyfres 13, episôd a gwelodd cystadleuaeth ymestyn ymenyddau rhwng y Doctor a'r Arglwydd Amser Morbius, lle gwelwyd 8 gwyneb sydd yn cael eu awgrymu i fod yn wynebau'r Doctor cyn Doctor Cyntaf William Hartnell. Tra hawliodd Philip Hinchcliffe mai ei fwriad oedd awgrymu nad Hartnell oedd y cyntaf, anwybyddodd y rhan fwyaf o gefnogwyr y sioe y ddatgeliad yma, gan gredu mai ffug wynebau neu wynebau Morbius oess rhein. Yn wir, byddai sawl stori bellach yn cadarnhau safle'r cefnogwyr gan ddynodi Hartnell fel y Doctor gwreiddiol. Ond, cafodd ei ddatgelu yn The Timeless Children, ar ddiwedd Cyfres 12 yn 2020, nad William Hartnell oedd ymgorfforiad cyntaf y Doctor, gan ddatgelu cafodd y Doctor nifer anhysbys o ymgorfforiadau cyn y Doctor Cyntaf.

Yn 1979, gwelodd Doctor Who rhyddhad y stori comig gyntaf yn nhudalennau Doctor Who Weekly. (Doctor Who Magazine yn hwyrach) gyda Doctor Who and the Iron Legion. Mae'r arferiad yma wedi parhau trwy gydol pob argraffiad y cylchgrawn - ar wahân i lond llaw o argraffiadau.

Cyfnod John Nathan-Turner[]

I'w hychwanegu.

Diwedd Cyfnod[]

I'w hychwanegu.

"Y Flynyddoedd Gwyllt"[]

I'w hychwanegu.

Cam-ailgychwyniad[]

I'w hychwanegu.

Yn ôl i'r gwylltni[]

I'w hychwanegu.

Dychweliad buddugol[]

I'w hychwanegu.

Y trawsnewidiad[]

I'w hychwanegu.

Y dyn newydd[]

I'w hychwanegu.

50 mlynedd a thu hwnt[]

I'w hychwanegu.

Carreg filltir enfawr[]

I'w hychwanegu.

COVID-19[]

I'w hychwanegu.

Wedyn y cyfnod clo[]

I'w hychwanegu.

Cyfnod Arbennig[]

I'w hychwanegu.

Parhad[]

I'w hychwanegu.

"Doctor Who?"[]

I'w hychwanegu.

Canmoliaeth[]

I'w hychwanegu.

Ffilmiau nodweddol[]

I'w hychwanegu.

Cyfryngau arall[]

I'w hychwanegu.

Dolenni allanol[]

Gwefannau swyddogol[]

I'w hychwanegu.

Cyfryngau cymdeithasol[]

Troednodau[]

I'w hychwanegu.

Advertisement