Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Donna Noble oedd un o gymdeithion y Degfed Doctor.

Er yn dod wrth fywyd anhynod, cafodd ei disgrifio gan Rose Tyler a'r Degfed Doctor fel menyw bwysicaf y bysysawd, oherwydd achubodd hi realiti cyfan wrth y Daleks a Davros. Er mwyn goroesi sgîl-effeithiau ei thrawsnewid i'r "DoctorDonna", bu rhaid dileu ei chofion o'i thethiau gyda'r Doctor a dychwelwyd hi i'r Ddaear. Yn hwyrach, priododd hi Shaun Temple a chafodd hi merch. Yn hwyrach, cwrdodd hi'r Pedwerydd ar Ddegfed Doctor yn ystod frwydr gyda'r Meep, yn y pendraw llwyddodd hi ennill nôl ei chofion gan gael gwared o'r meta-crisis ag oedd yn bygwth ei bywyd.

Bywgraffiad

Bywyd Cynnar

Ganwyd Donna Noble yn Chiswick. (TV: Planet of the Ood) Hi oedd unig merch Geoff a Sylvia Noble, (TV: The Runaway Bride) yn wyres i Wilfred, (TV: Partners in Crime) ac Eileen Mott. (PRÔS: Beautiful Chaos) Derbynodd hi'r enw "The Little General" o ganlyniad i'w chymeriad boslyd. (TV: The Sontaran Stratagem) Trwy gydol ei bywyd, cefnogodd hi'r tîm West Ham United. (TV: Planet of the Ood)

Aeth hi i Ysgol Gynradd Belmont, wedi cwrdd a'i ffrind, Hettie, yno. (PRÔS: In the Blood) Ar ei diwrnod ysgol cyntaf, cafodd hi ei danfon cartref am gnoi. (TV: The Runaway Bride) Yn chwech oed, gwrthodd ei fam cymryd y teulu ar ei wyliau. Heb ei frawychu, teithiodd Donna ar fws i Strathclyde ar ei phen ei hun. (TV: Partners in Crime)

Bywyd oedolyn

Derbynodd Donna potel o Odeur Delaware fel anrheg wrth Sylvia Noble ar Nadolig 2001. (COMIG: The Widow's Curse)

Roedd hi yn bresennol am briodas ei ffrind, ond cafodd ei taflu o'r lle gan fynach. (PRÔS: Most Beautiful Music)

Ar 5 Mawrth 2005, roedd hi wedi meddwi ar ôl sylweddoli nad oedd ei theimladau ar gyfer ei chyd-weithiwr, Rufus, wedi'u hadlewyrchu. Cyrhaeddodd hi cartref am 3 yb y dydd olynol, gyda'i taid yn ei chynghori i gysgu er mwyn gwella, ac o ganlyniad ni welodd hi goresgyniad yr Autons. (PRÔS: Rose)

Yn bennaf, cwmpasodd gyrfa Donna gwaith dros-dro. Am adeg, gweithiodd hi yn Llyfrgell Hounslow, (TV: The Doctor's Daughter) ac am ddwy flwyddyn cyn Mehefin 2007 gweithiodd hi am gwmni gwydr-ddwbl. (TV: The Runaway Bride) Gweithiodd hi hefyd am Gyngor Hackney. (COMIG: The Widow's Curse)

Ni welodd hi oresgyniad Dydd Nadolig y Sicoracs o achos pen mawr, a chollodd hi oresgyniad y Cybermen gan roedd hi'n scwba deifio yn Sbaen. (TV: The Runaway Bride)

H.C. Clements

Yn ystod Mehefin 2007, roedd ganddi'r dewis o weithio fel ysgrifenyddes llawn-amser am Jival Chowdry neu fel ysgrifenyddes rhan-amser ar gyfer H.C. Clements. Oherwydd y taerineb ei fam i gymryd y flaenorol, ystyriodd Donna'r swydd; ond i osgoi tagfa geir yng nghyfeiriad Jival Chowdry, cymrydodd hi'r swydd rhan-amser yn H.C. Clements trwy troi i'r chwith. Ar y pryd, nad oedd hi'n ymwybodol o'r ffaith cychwynnodd y dagfa geir o achos fersiwn dyfodol ohoni o linell amser eiledol. (TV: Turn Left)

Yn Clements, syrthiodd hi mewn cariad yn raddol â Lance Bennett, gan roi bwysau arno i briodi hi. Cynlluniodd hi'r briodas, heb wybod roedd Lance yn rhoi gronynnau Huon yn ei choffi, wedi'i orchymyn gan Ymerodres y Racnoss. (TV: The Runaway Bride)

Cwrdd y Doctor

DonnangweldyGofod

Donna'n edrych ar y gofod am y tro cyntaf. (TV: The Runaway Bride)

Wrth gerdded yr asgellfa gyda'i thad yn ei phriodas ar Noswyl Nadolig 2007, adweithiodd y gronynnau Huon gyda'i chyflwr emosiynol, ac felly tegludwyd hi i TARDIS y Doctor. Cafodd y ddau ei rhwystro gan Santas Robotaidd rhag ddychwelyd i'r briodas ar amser, ond llwyddon nhw cyrraedd y parti briodas. Yn dilyn goeden Nadolig robotaidd yn saethu ffrwydrau at westeion y parti, dechreuodd Donna a'r Doctor ymchwilio H.C. Clements. Dôn nhw o hyd i hen orsaf Torchwood gyfrinachol o dan yr Afon Tafwys, le ddatgelodd Lance ac Ymerodres y Racnoss eu cynllyn. Torrodd y gwir calon Donna wrth ddysgu mai ond chwarae â'i theimladau oedd Lance yr amser gyfan; ond tostruiodd hi marwoaeth Lance pan gafodd ei fradychu gan yr Ymerodres, a chael ei ddefnyddio fel bwyd ar gyfer ei phlant. Helpodd Donna'r Doctor i drechu'r Ymerodres, cyn llwyddo tynnu'r Doctor wrth yr Ymerodres, gan achub ei fywyd. Ond, gwrthodd hi ei gynnig o deithio gydag ef, wedi ei brawychu gan abl y Doctor. (TV: The Runaway Bride)

Ymuno'r Doctor

O ganlyniad i'w chyfarfyddiaeth gyda'r Doctor, agorwyd llygaid Donna i fyd hollol wahanol, ac felly teimlodd hi nad oedd modd iddi barhau ei hen fywyd. Teithiiodd hi i'r Aifft am bythefnos wrth edrych am gyffro yn ei bywyd. (TV: Partners in Crime) Pan ddychwelodd hi i'w chartref, roedd rhaid iddi symud nôl mewn â'i rhieni gan werthodd hi ei fflat i ariannu'r daith. (PRÔS: Judge, Jury and Executioner) Yn dilyn marwolaeth ei thad, Geoff Noble, symudodd ei thaid, Wilfred Mott, i mewn gydan nhw. Dechreuodd Donna ymchwilio i ddigwyddiadau anesboniadwy, gan wybod byddai siawns iddi hi cwrdd y Doctor unwaith eto. Pob nôs, byddai hi yn cymryd fflasg o goffi i'w thaid, wrth iddo syllu ar y sêr. (TV: Partners in Crime)

Yn 2009, dechreuodd Donna ymchwilio i Adipose Industries. Wrth sbïo ar Miss Foster, fe welodd hi'r Doctor hefyd yn sbïo o'r tu allan i ffenest, gyda fe yn cael yr un syndod â hi wrth ei gweld. Gyda'i gilydd, atalon nhw genedigaeth Adipose trwy drawsnewidiad angheuol o feinwe ddynol i mewn i Adipose, cyn gwylio Ymdaith yr Adipose. Unwaith eto, gwahoddodd y Doctor hi i deithio gydag ef, gyda Donna yn sylwadu roedd hi'n wallgof i wrthod y tro gyntaf. Yn anhebyg i gydymeithion eraill y Doctor, roedd Donna yn barod am fywyd newydd yn y TARDIS, gan baciodd hi sawl siwtces (yn cynnwys blwch hetiau, rhag ofn ymweldiad i "Blaned yr Hetiau"). I ddechrau, roedd y Doctor yn anfodlon, ond fe gytunodd pan sicrhaodd Donna nad oedd ganddi unrhyw teimladau rhamantus amdano.

Donnacar

Donna yn darganfodd parciodd y Degfed Doctor ei TARDIS drws nesaf i'w char (TV: Partners in Crime)

Munudau cyn gadael, wrth geisio dod o hyd i le i adael allweddi ei char, siaradodd hi gyda fenyw gwallt golau; Rose Tyler, wedi dychwelyd wrth ei bydysawd paralel cafodd hi ei trapio ynddi. Unwaith roedd hi ar long y TARDIS, gofynnodd Donna hedfan i le roedd modd i'w thaid gweld a'u ffarwelio. (TV: Partners in Crime)

Yn diddorol oedd y ffaith parciodd Donna ei char yn agos i le laniodd y TARDIS; rhywbeth galwodd Donna yn dynged. Ar yr adeg honno, nid oedd y ddau yn gwybod mai gwaith Dalek Caan yn trîn y llinellau amser oedd hon. (TV: Journey's End)

Teithio gyda'r Doctor

Teithiau cynnar

Am ei thaith gyntaf yn y TARDIS, aeth Donna a'r Doctor i Pompeii ar y ddydd echdorrodd y mynydd Vesuvius yn 79 OC. Ceisiodd Donna perswadio'r Doctor i rwystro'r echdorriad, ond ni chytunodd y Doctor gan ddywedodd mai pwynt sefydlog amser oedd y ddigwyddiad. Yn y pendraw, Donna a'r Doctor oedd yn gyfrifol am yr echdorriad; ceision nhw trechu grŵp o Pyroviles, a diangodd wrth eu planed cartrefol, gyda chynllun i droi ddynoliaeth yn pyroviles i greu planed newydd ar gyfer eu hun. Yn ôl y Doctor, naill ai Pompeii neu'r fyd cyfan fydd yn cael ei ddinistrio, ac felly i helpu gwaredu rhai o'r pwysau, helpodd Donna ddechrau'r echdorriad gyda'r Doctor, gan ladd y Pyroviles. Yr union foment ddechreuodd yr echdorriad, aeth y Doctor i adael yn y TARDIS, gan anwybyddu'r llanast a'r bloeddiau o'i gwmpas; ond, llwyddodd Donna i'w berswadio i achub un teulu, ac o ganlyniad, parhaon nhw i addoli'r Doctor a Donna fel duwion y cartref. (TV: The Fires of Pompeii) O ganlyniad i'r antur hon, Dywedodd Lucius Petrus Dextrus, rhywun ag enillodd ablau seicig o ganlyniad i anadlu llwch y Pyroviles, wrth Donna bod rhywbeth ar ei chefn. Yn anhysbys iddi hi yr adeg honno, roedd ef yn cyfeirio at y Chwilen Amser a fydd yn creu bydysawd eiledol iddi lle na fyddi hi erioed yn cwrdd â'r Doctor. (TV: Turn Left)

Deltafifty

Y Doctor a Donna yn dod o hyd i Ŵd sydd wedi ei anafu (TV: Planet of the Ood)

Wedyn hynny, teithiodd y ddau i'r Sffêr yr Ŵd yn 4126 lle ddarganfodon nhw cafodd caethiwaeth yr Ŵd ei hachosi gan waredu flaen-ymennydd yr Ŵd a rhwytro'r "trydydd elfen", Ymennydd yr Ŵd canolog. Gyda'i gilydd, rhyddhaon nhw Ymennydd yr Ŵd, ac o ganlyniad, atalodd yr aflun rhwng dynoliaeth a'r Ŵd ar y blaned. Roedd gweld goddefaint yr Ŵd, a gwylio Klineman Halpen yn cael ei droi yn Ŵd yn ormodedd i Donna, gyda hi'n cyfaddef roedd hi eisiau mynd gartref; ond yn hwyrach, ar ôl tawelu, newidodd Donna ei meddwl. Wrth adael y Sffêr yr Ŵd, cyfeiriodd Ŵd Sigma at Donna fel DoctorDonna, ond nid oedd un o'r ddau wedi sylweddoli ar bwysigrwydd yr enw yr adeg honno. (TV: Planet of the Ood)

Cwrdd Martha Jones

I'w hychwanegu.

Ar ôl Martha

I'w hychwanegu.

Cael ei herwgipio gyda Nat

I'w hychwanegu.

Teithiau pellach gyda'r Doctor

I'w hychwanegu.

Yn erbyn y Daleks

I'w hychwanegu.

Dychwelyd i'r Ddaear

I'w hychwanegu.

Digwyddiadau heb ddyddiad

I'w hychwanegu.

Ewyllysroddion

Pan ddarganfydodd y Doctor galluoedd Manus Maleficus, am eiliad, cafodd ei abwydio i arbed Donna rhag losgi gan rhoi ei chofion nôl iddi. (COMIG: The Crimson Hand)

Parhaodd yr Unarddegfed Doctor i deimlo'n euog am beth wnaeth ef i Donna, gan deimlo fel ddinistriodd ef ei bywyd. (TV: Let's Kill Hitler)

Ar adeg, dywedodd y Doctor wrth River Song am beth ddigwyddodd iddi. Pan cwrddodd hi'r Degfed Doctor a Donna, cafodd hi ei sylfu wrth sylweddolu hunaniaeth Donna. (TV: Silence in the Library)

Donna oedd yn gyfrifol am edrychiad y Deuddegfed Doctor wrth iddi llwyddo i berswadio'r Doctor i achub teulu Lobus Caecilius wrth ddinistriad Pompeii. O ganlyniad, gymerodd y Doctor gwyneb Caecilius i'w atgoffa o orchmyniad Donna; i achub rhywyn, heb os nac oni bai. (TV: The Girl Who Died) Bydda'i Trydydd ar Ddegfed Doctor yn cofio'i geiriau hefyd, gan ailadrodd y neges i Yaz, Ryan a Graham yn hwyrach. (COMIG: Hidden Human History)

Yn fuan cyn adfywio, breuddwydiodd y Deuddegfed Doctor am Donna ymysg ei gymdeithion eraill. (TV: The Doctor Falls)

Ar rhyw adeg, llwyddodd Donna recordio neges holograffig ar Rhaglen Argyfwng Un rhag ofn nad oedd modd iddi dweud hwyl fawr go iawn i'r Doctor. Yn rhan o'i neges, dywedodd roedd hi wrth ei bodd yn teithio gyda fe, ac i beidio ffeindio rhywyn i'w atal fel dywedodd hi wrtho ar Nadolig, ond i ffeindio rhywyn a fyddai'n cadw ef i symyd. Chwaraewyd y neges yma i'r Doctor unwaith ddechreuodd teithio ar ei ben ei hun unwaith eto. (COMIG: The Time of My Life)

Byd paralel

I'w hychwanegu.

Gyrfa

Gwithiodd Donna fel ysgrifenyddes dros-dro mewn sawl lle, gan gynnwys H.C. Clements, a chwmni gwydr-ddwbl. (TV: The Runaway Bride, The Sontaran Stratagem) Yn hwyrach, gweithiodd hi am iechyd a gofal am deuddydd gan gadw'r cerdyn ID. (TV: Partners in Crime) Gweithiodd hi yn Llyfrgell Hounslow am chwe mis, lle dysgodd hi'r System Degol Dewey dros ddau ddydd. (TV: The Doctor's Daughter)

Personoliaeth

I'w hychwanegu.

Yn y Cefn

I'w hychwanegu.