Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Empress of Mars oedd nawfed episôd cyfres 10 Doctor Who.

Mae'r episôd yn nodedig am bortreadu'r Rhyfelwr Iâ benywaidd gyntaf ar-sgrîn, y Frenhines Iâ Iraxxa, 50 blwyddyn yn dilyn cyflwyniad y rywogaeth yn The Ice Warriors, yn 1967.

Serch storïau blaenorol yn sefydlu mai o'r blaned Mawrth, Empress of Mars yw'r stori deledu gyntaf i ddarlunio'r Rhyfelwyr Iâ ar eu planed cartrefol.

Gwelodd yr episôd dychweliad dau actor wrth gyfnod clasurol Doctor Who: Ysanne Churchman, yn dychwelyd i rôl Alpha Centauri am y tro cyntaf ers stori 1974 The Monster of Peladon; ac Anthony Calf, ag ymddangosodd mwyaf ddiweddar ar Doctor Who yn stori 1982, The Visitation fel Charles.

Unwaith eto, ceisiodd y Doctor diymrysoni frwydr rhwng dynoliaeth a rhywogaeth estronaidd.

O ran y naratif, dyma'r episôd gyntaf i weld Missy allan o'i chromgell ers ei charchariad. Rhan mawr o arc y gromgell oedd cadarnhau nad oedd modd i Missy dianc wrth ei chromgell; yn y stori yma, mae Nardole yn hawlio Missy i hedfan TARDIS y Doctor i Fawrth er mwyn achub y Doctor a Bill.

Crynodeb[]

Pan ddarganfodd NASA'r neges "GOD SAVE THE QUEEN" o dan yr iâ ar wyneb Mawrth, mae'r Deuddegfed Doctor, Nardole, a Bill yn teithio i'r blaned i'w ymchwilio. Wrth gyrraedd, maent yn ddarganfod rhyfel rhwng milwyr Fictoriaidd a Rhywogaeth hynafol Mawrth

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Gohebwyr:[1]
    • Ying Quin
    • Marie Man
    • Samantha Davies
    • Karen Poolman
    • Anne Lyken-Garrner
    • Ayaisha Griffith
    • Wanda O'Connor
    • Lee Innocent
    • Morgan Roberts
    • Geraint Evans
    • Mike Wendell
    • Angus Brown
    • Jerry Wilson
    • Everett Welch
    • Adrian Miles Rosser
    • Darius Mortazavi
  • Gwyddonwyr NASA:[1]
    • Beverly Evans
    • Pam Glover
    • Neil Cox
    • William Moore
  • Milwyr:[1]
    • Liam Casey
    • Neil Cox
    • Jamie Angell
    • Charlie Akin
    • Reid Anderson
    • Simon Buck
    • Darren Swain
    • David Cromarty
  • Milwyr sydd yn cymryd y Doctor a Bill:[1]
    • Adam Bentley
    • Matthew Rohman
  • Milwyr Peach:[1]
    • Arron Highley
    • Simon Challis
  • Milwyr stỳnt:[1]
    • Troy Kenchington
    • Jonny James
    • Andrew Burford
    • James O'Daly
  • Alice:[1]
    • Ornella Dormer
  • Rhyfelwyr Iâ:[1]
    • Richard Ashton
    • Jamie Hill
    • Jason Barber

Cyfeiriadau[]

Diwylliant o'r byd go iawn[]

  • Mae Bill yn sôn am y ffilm The Vikings, gyda Kirk Douglas a Tony Curtis, sydd â cherddoriaeth thema ardderchog.
  • Mae'r milwyr yn berchen ar Faner yr Undeb.
  • Enwyd Friday ar ôl Man Friday o Robinson Crusoe.
  • Mae Godsacre yn chwerthin am bosibilrwydd o gael menyw yn rhan o'r gwasaneth heddlu.

Bwydydd a diodydd[]

  • Mae Nardole yn yfed paned o de yn NASA.
  • Mae'r Doctor, Bill, Catchlove a Godsacre yn yfed te a bwyta cacen am "swper".
  • Wrth i Friday gweini te, mae Catchlove yn gofyn i Bill os hoffai un "Indiaidd neu Tsieiniaidd".

Lleoliadau[]

  • Gorsafwyd Godsacre yn Ne Affrica, a mi roedd yn "arwr Isandlwana".
  • Mae Catchlove yn honni bod Mawrth eisioes yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig.

Technoleg[]

  • Mae NASA yn treialu'r gofoden Valkyrie ar Fawrth. Mae ganddi camera newydd sydd yn hawlio gweld o dan y pegynau a danfon lluniau nôl trwy ddefnydio spectrwm wahanol.
  • Mae rhaid lawrlwytho lluniau'r ofoden cyn eu harddangos.
  • Cynigodd Friday arfau ei llong ofod i'r milwr Fictoriaidd er mwyn iddynt adeiladu peiriant mwyngloddio o'r enw Gargantua.
  • Mae'r Rhyfelwyr Iâ wedi bod yn cysgu mewn celloedd cryogenig.
  • Cynllun Catchlove yw i "ffrwydro'r lifftiau".

Ffiseg[]

  • Mae Nardole yn casglu bod tân ar Fawrth yn golygu ocsigen, gan ei alw'n "ffiseg sylfaenol".

Pobl[]

  • Mae Bill yn sylwi ar lun o Neil Armstrong ar wal NASA. Mae'r Doctor yn egluro nid Armstrong oedd y "dyn cyntaf" ar y Lleuad.
  • Mae'r papur seicig yn dynodi i NASA bod mynediad gan criw'r TARDIS i bobman yn y cwmni wrth bennaeth NASA.
  • Mae gan y Fyddin Brydeinig darlun o'r Frenhines Fictoria, gyda fwriad i ymgymryd Mawrth yn ei henw.
  • Mae Friday ac Iraxxa wedi bod mewn gaeafgwsg am 5,000 mlynedd.
  • Mae Vincey yn ddyweddïedig i rywun o'r enw Alice.
  • Ar ôl teithio gyda'r Doctor am adeg, mae Bill yn credu byddai'r Doctor yn hoff o ffilmiau gyda robotiaid llofruddiol lle mae pawb yn marw.

Swyddi[]

  • Mae'r Doctor yn cynnig gall y neges ar arwyneb Mawrth bod o ganlyniad i ymweliad swyddogol, brydedd gwladgarol, neu Artist graffiti.

Rhywogaethau[]

  • Mae Iraxxa yn Frenhines Iâ.
  • Mae Alpha Centauri yn danfon llong ofod i Fawrth.

Arian[]

  • Mae Friday wedi addo arian, Aur, a tlysfeini i'r milwyr Fictoriaidd ymysg trysorau eraill.

TARDIS[]

  • Mae'r TARDIS yn llywio ei hun nôl i swyddfa'r Doctor ym Mhrifysgol St Luke.

Cerddoriaeth[]

  • Mae Jackdow yn canu "She Was Poor But She Was Honest" i'w hun.

Nodiadau[]

  • Mae Ysanne Churchman yn dychwelyd i'w rôl o lais Alpha Centauri, yn 92 flwydd oed. O ganlyniad, hi yw'r actores hynaf i ymddangos yng nghyfres newydd Doctor Who. Er mwyn cadw cyfrinach dychweliad Churchman, ni dderbyniodd hi credyd yn Radio Times na wefan Doctor Who.
    • Ymddangosiad olaf Alpha Centauri oedd 43 mlynedd cynt yn The Monster of Peladon. Hyd heddiw, dyma'r ail fwlch hiraf rhwng ymddangosiad olynol cymeriad neu hil yn hanes y gyfres; wedi trechu gan y Deallusrwydd Enfawr.
  • Ar The Aftershow, eglurodd Mark Gatiss dechreuodd Empress of Mars fel parhad o'i stori cyfres 9, Sleep No More, ond yn hwyrach fe drodd i mewn i stori Rhyfelwyr Iâ. Roedd hefyd bwyriad trwy gynnnwys Alpha Centauri i gael y stori yma fel trydydd stori Peladon.
  • Wrth ffilmio'r stori, roedd Ferdinand Kingsley hefyd yn y gyfres Victoria gyda Jenna Coleman. Serch hynny, yn y stori yma, defnyddiwyd portread o Pauline Collins wrth TV: Tooth and Claw ar gyfer Brenhines Fictoria.
  • Mae Iraxxa yn dweud "sleep no more!" i'w milwyr. Mae hyn yn gyfeiriad at stori flaenorol Gatiss, TV: Sleep No More.
  • Roedd trafodau i gynnwys Ian McNiece fel Winston Churchill yn y stori, ond ni ddaeth ganlyniad o'r trafodau gan nad oedd Mark Gatiss na Steven Moffat yn gallu rhoi unigolyn o'r 20fed ganrif i mewn i stori gosodwyd yn 1881.
  • Am y tro gyntaf ers Cyfres 8 mae Thema Missy yn chwarae wrth ei gweld yn y TARDIS.
  • Er mai hon yw'r chweched ymddangosiad ar-sgrin i'r Rhyfelwyr Iâ, a'r drydydd stori wedi'i gosod ar Fawrth, dyma'r tro cyntaf i'r Rhyfelwyr Iâ cael eu gweld ar eu planed cartrefol ar-sgrîn.
  • Defnyddiwyd y term "RHIP" (Rank Has It's Privileges) yn flaenorol yn TV: Day of the Daleks

Cyfartleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 3.58 miliwn
  • Cyfartaledd DU terfynol: 5.02 miliwn[2]

Cysylltiadau[]

  • Mae Doctor yn dweud wrth Friday roedd ef yn Warchod Mygedol o'r Cwch Tythonian. (TV: The Creature from the Pit)
  • Unwaith eto, mae'r Doctor yn cyfarch Rhyfelwyr Iâ gyda "by the Moons, I honour thee". (TV: Cold War)
  • Mae Bill yn crybwyll Neil Armstrong a glaniad 1969 ar y Leuad. Roedd y Degfed Doctor yno gyda'i gydymaith Martha Jones, (TV: Blink) Tra wyliodd yr Unarddegfed Doctor darllediad y glaniad yn fyw er mwyn thorri ar ddraws y darllediad gyda delwedd o Silent. (TV: Day of the Moon)
  • Mae Nardole yn gwybod sut i lywio'r TARDIS, (TV: The Return of Doctor Mysterio)
  • Mae'r Doctor yn ymweld ag un o Gychod y Rhyfelwyr Iâ, yn union fel ei fwriad gyda Clara Oswald. (TV: Robot of Sherwood)
  • Mae'r Doctor wedi delio ag asiantaith i Fawth gan Brydain o'r blaen. (TV: The Ambassadors of Death)
  • Mae'r Doctor wedi ymweld a gweddillion gwareiddiad y Rhyfelwyr Iâ yn flaenorol. (TV: The Waters of Mars)
  • Mae'r Doctor, unwaith eto, yn cwyno am ddifyg gosodiad am bren ar ei sgiwdreifar sonig. (TV: Silence in the Library, The Hungry Earth, Night Terrors, The Doctor, the Widow and the Wardrobe, The Day of the Doctor, In the Forest of the Night)
  • Mae'r Doctor yn danfon neges i Alpha Centauri er mwyn dechrau bywydau newydd y Rhyfelwyr Iâ. (TV: The Curse of Peladon)
  • Mae'r Doctor yn crybwyll nid Neil Armstrong oedd y dyn cyntaf ar y Lleuad. (PRÔS: Moon Blink)
  • Bydd y Doctor a Bill yn cwrdd a'r Rhyfelwyr Iâ eto. (COMIG: The Wolves of Winter)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]

  • Rhyddhawyd Empress of Mars gyda gweddil episodau Cyfres 10 ar DVD, Blu-ray a Steelbook ar 13 Tachwedd 2017 fel Doctor Who: The Complete Tenth Series.

Troednodau[]