Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who

Engines of War oedd nofel gan George Mann.

Dyma'r gwaith cyntaf llenyddol gan y BBC i gynnwys y Doctor Rhyfel fel y brif gymeriad. Mae'r stori yn ymhelaethu ar y brwydro treisgar iawn trwy gydol y Rhyfel Mawr Olaf Amser, gan gynnwys llygreddigaeth yr Arglwyddi Amser. Dynododd y stori yma ymddangosiad cyntaf Cinder, y gydymaith gyntaf unigryw i'r Doctor Rhyfel.

Crynodeb cyhoeddwr[]

(clawr cefn y llyfr)

"Rwyf wedi gwisgo sawl gwyneb. Byw sawl bywyd. Nid ydywf yn cydnabod pob un. Rydw i wedi ceisio fy ngorau glas i anghofio - y Doctor a frwydrodd yn y Rhyfel Amser."

(tu mewn i'r clawr blaen)

"Mae marwolaeth biliynnau'n ddim byd, Doctor, os gyfrannith at drechu'r Daleks."

Mae'r Rhyfel Mawr Amser wedi bod yn digwydd am ganrifoedd, ar ddraws y bydysawd. Mae planedi wladfaol dynoliaeth eisioes o dan reolaeth rym wladychu'r Daleks. Mae Doctor blinedig, dicterus yn arwain lynges o TARDISau brwydro yn erbyn y Daleks; ond, yng nghanol y gwythlaith, mae TARDIS y Doctor yn crasio i wyneb blaned islaw: Moldox.

Tra bod y Doctor yn sownd ar dirwedd diffaith, mae Daleks yn casglu'r preswylwyr olaf. Ond pam nad yw'r Daleks wedi eu lladd eto?

Wrth chwilio am atebion, mae'r Doctor yn cwrdd â 'Cinder', helwr Dalek ifanc. Mae eu trafferthion i ddatgelu cynllun y Daleks yn eu tywys o gweddillion Moldox, i neuaddau Galiffrei, gan ddechrau ddigwyddiadau a fydd yn newid pawb a phopeth.

Plot[]

Rhan Un: Moldox[]

I'w hychwanegu.

Rhan Dau: Galiffrei[]

I'w hychwanegu.

Rhan Tri: Tu Fewn y Lygad[]

I'w hychwanegu.

Cymeriadau[]

  • Doctor Rhyfel
  • Cinder
  • Preda
  • Karlax
  • Rassilon
  • Borusa
  • Partheus
  • Y Castellwr
  • Ceidwad
  • Cadraglaw
  • Grayvas
  • Jocelyn Harris
  • Coyne
  • Ymerawdwr y Daleks
  • Finch
  • Sammy
  • Stephanie
  • Ash

Cyfeiriadau[]

Lleoliadau[]

  • Llygad Tantalws yw anghysonder gofod-amser yn Nhroell Tantalws. Mae'r Doctor yn cofio ymweld â Llygad Tantalws yn aml yn ei bedwerydd ac wythfed ymgorfforiadau.
  • Yn ogofâu'r Rhanbarth Marwolaeth, mae'r Doctor yn gweld un o'i ymgorfforiadau dyfodol posib: rhywun tal yn gwisgo siwt.
  • Mae'r Doctor yn crybwyll ymweld â lleuadau gwydr Socho, Llen Goch Parabola'r Dwyrain, a traethau awyr Altros.
  • Moldox yw lle tarddiad bywyd dynol yn sector hwnnw'r gofod.

TARDISau[]

  • Mae Sefydlwyr Dimensiynnau Perthnasol TARDIS y Doctor yn galluogi mynediau y cyfeiriad cywir i'w theithwyr, hyd yn oed os yw cyfeiriad allanol y TARDIS yn wahanol, megis yr amser crasiodd ar ei hochr.
  • Mae'r Doctor a Cinder yn rhoi Karlax i mewn i'r Ystafell Sero.
  • O dan y Brifddinas, mae tan grofft wedi'i gysegru ar gyfer TARDISau sydd wedi marw neu sydd ar fin marw.
  • Mae modd i TARDISau brwydr tyfu, lleihau, a cynhyrchu arfau mewn eiliadau.
  • Mae ystafellau'r TARDIS yn cynnwys bwll nofio a dosbarth cemeg.
  • Mae'r Cloch Cloister yn canu wrth i'r Doctor ildio i lynges y Daleks.

Unigolion[]

  • Mae'r Doctor yn cofio arolygu awerynnau gyda'r Brigadydd tra'n gweithio ar gyfer UNIT yn ei drydydd ymgorfforiad.
  • Mae gan un o ystafellau'r TARDIS jîns du a crys-t Greenpeace wrth un o gymdeithion blaenorol y Doctor. Roedd Sam Jones yn rhan o'r gweithrediad.
  • Mae Preda yn gorchymyn Pumed Llynges Rhyfel yr Arglwyddi Amser.
  • Mae Preda yn rheoli TARDIS brwydr.
  • Crybwyllwyd Davros, er ni ddywedwyd ei enw, wrth i'r Doctor siarad a'r Cylch Tragwyddol am ei fethiad i osgoi genedigaeth y Daleks.

Technoleg[]

  • Trefnydd wybrennol yw Deigryn Isha.
  • Mae'r Canon Amserol a Maneg Rassilon yn arfau gyda'r gallu i ddileu rhywun neu rywbeth wrth hanes.

Daleks[]

  • Mae Llongau cuddiog y Daleks yn cuddio yn y Fortecs Amser nes yr adeg cywir i ymosod ar y TARDISau brwydr.
  • Crëodd Ymerawdwr y Daleks y Cylch Tragwyddol er mwyn ymchwilio i arfau amserol i ddefnyddio yn erbyn yr Arglwyddi Amser.
  • Mae'r Daleks yn creu'r Dalek Ysglyfaethus sydd yn maint fwy na Dalek arferol, er mwyn dal y Doctor tu mewn iddo.
  • Mae Daleks du, Daleks arian gyda chromen glas, Dalek gwyn, a dehoryddion Dalek gwydr ar Moldox.
  • Ystyriodd y Cylch Tragwyddol methiad y Doctor i osgoi genedigaeth y Daleks fel dechrau'r Rhyfel Amser

Diwylliant[]

  • Roedd y Doctor eisiau addysgu Cinder ar lyfrau, malws melys, te Earl Grey, yr Afon Rhein, moroedd lludw Astragard, a llys Cleopatra.

Arglwyddi Amser[]

  • Dechreuwyd proses adfywio Karlax yn dilyn cael ei arnoethi i wactod y gofod ar ôl i Longau'r Daleks dinistrio ei TARDIS brwydr.
  • "Interstitials" yw'r enw mae Cinder yn rhoi i ganlyniadau arbrofion Rassilon i adeiladu injan posibiliad. Mae eu ymddangosiad yn barhau i newid trwy gydol eu hymgorfforiadau, ac mae modd iddynt weld y dyfodol.
  • Mae Galiffreiwyr yn recordio eu cofion a'u rhoi i mewn i Lanternau cofion, sydd i'w weld ar ddraws amser a'r gofod.

Nodiadau[]

  • Gwyliodd awdur George Mann sawl stori deledu er mwyn ei helpu i ysgrifennu'r nofel: Last of the Time Lords, The Five Doctors, The Deadly AssassinThe Parting of the WaysThe Stolen Earth, a The Day of the Doctor yn bennaf. Esboniodd hefyd fe grëod Cinder fel "rhywun i gyferbynnu yn erbyn y Doctor Rhyfel, ac i'w weld trwy lygaid ffres".
  • Mae'r Nofel yma yn parhau ystod BBC Books o lyfrau Doctor Who arbennig a gynhwysodd hen Ddoctoriaid, yn dilyn The Wheel of Ice (2012) a Harvest of Time (2013).
  • Dyma'r seithfed nofel llawn i cynnwys y Daleks.
  • Cyfeiriwyd at y Rhyfel Amser gan ddefnyddio'r enw llawn o'r Rhyfel Mawr Amser yn lle'r Rhyfel Mawr Olaf Amser, gan byddai pobl ond yn gwybod mai'r rhyfel olaf amser oedd hi yn dilyn diwedd y rhyfel. Yn 2006, cyfeiriodd y cyfeirlyfr Aliens and Enemies at y rhyfel gan ddefnyddio'r un enw.

Cysylltiadau[]

  • Mae TARDIS heb guddwisg yn edrych fel silindr. (TV: The Name of the Doctor)
  • Mae'n bosibilwydd bod TARDISau meirw yn gollwng eu maint. (TV: The Name of the Doctor)
  • Ymatebodd Cinder yn union fel wnaeth Cass wrth ddysgu mai Arglwydd Amser yw'r Doctor. (TV: The Night of the Doctor)
  • Crybwyllwyd cynllun Borusa i gael anfarwolaeth gan ddefnyddio'r pump Doctor cyntaf. (TV: The Five Doctors)
  • Anfonodd Rassilon y Doctor i ddod o hyd i'r Meistr, a ffodd rhyfel. (TV: Utopia)
  • Mae'r Uwch Cyngor yn sôn am y Foment fel un o arfau Arfdy Omega. (TV: The Day of the Doctor)
  • Mae'r Doctor yn cofio am unwaith bod yn Arglwydd Arlywydd. (TV: The Invasion of Time)
  • Mae'r Doctor yn dweud wrth Cinder fod ei TARDIS wedi cael ei bwrw gan torpidos amser o'r blaen. (SAIN: Neverland)
  • Mae'r Doctor yn priodoli ei siawns i atal genedigaeth y Daleks ar Sgaro. Mae'r Cylch Tragwyddol yn gweld hon fel dechrau'r Rhyfel Amser. (TV: Genesis of the Daleks)
  • Mae gan faneg Rassilon galluoedd an-fat (TV: The Invasion of Time, ayyb) sydd yn ei alluogi i ddileu rhywun neu rywbeth wrth hanes. Fe ddefyniodd y pŵer i ddileu Arglwyddes Amser ag wrthwynebodd ef ar ddiwedd y Rhyfel Amser. (TV: The End of Time)
  • Enw'r Daleks am y Doctor yw'r "Ysglyfaethwr". (TV: Asylum of the Daleks)
  • Mae'r Daleks yn troi pobl i mewn i Daleks gan ddefnyddio deoryddion gwydr siâp Dalek. (TV: Revelation of the Daleks)
  • Mae gwyntoedd amser yn chwythu a thywynnu awyron Moldox, yn dod o Lygad Tantalws. (TV: Warrior's Gate)
  • Mae'r Doctor yn torri'r gwahanfuriau trosglwyddiad (TV: Invasion of Time) a'r ffosydd awyr (TV: The Last Day, The Day of the Doctor) wrth lanio ei TARDIS ar Galiffrei.
  • Mae'r Doctor yn "parcio" ei TARDIS mewn cylchred amserol. (TV: Doctor Who)
  • Mae gan long y Cylch Tragwyddol belydr tractor. (TV: The Creature from the Pit)
  • Pan achubwyd Partheus gan y Doctor, mae'n poeni am bosibilrwydd o drawiad amser. (TV: The Time Monster)
  • Mae'r Doctor yn cloi Karlax yn Ystafell Sero ei TARDIS. (TV: Castrovalva)
  • Mae'r Doctor yn credu roedd ei TARDIS "eisiau mynd am antur" pan ddwynwyd hi ganddo. Bydd y TARDIS yn gwirio'r ffaith i'w unarddegfed ymgorfforiad. (TV: The Doctor's Wife)
  • Mae Karlax a'r Castellwr yn defnyddio prob cof ar Cinder. (TV: Frontier in Space, The Five Doctors)
  • Mae'r Doctor yn anhryloywi nenfwd y TARDIS i weld y digwyddiadau sydd yn digwydd tu allan i'r TARDIS. (TV: Doctor Who)
  • Mae un o baentiadau ogof y Rhanbarth Marwolaeth yn dangos y Doctor a'r Foment yn sefyll drws nesaf i "blodyn mawr coch". (TV: The Day of the Doctor)
  • Mae siambr cyfarfod yr Uwch Cyngor yn cael ei ddisgrifio fel cael addurnau plaen gyda mân-ddodrefn, yn cynnnwys telyn, paentiad o chwaraewr telyn, a Capsiwl trawsfudo. Dyma sut ymddangosodd yr ystafell pan ymwelodd y Pumed Doctor. (TV: The Five Doctors)
  • Mae'r Doctor yn betrusgar i deithio gyda Cinder. Fe ymatebodd yn debyg i Rejoice. (SAIN: The Innocent)
  • Dywedwyd cafodd Rassilon ei atgodi yn "nyddiau cyntaf y rhyfel". (SAIN: Desperate Measures)

Argeaffiadau y tu allan i Brydain[]

  • Cyhoeddwyd y nofel yn yr UDA yn 2014 gyda chlawr meddal gan Broadway Books. Defnyddiodd yr un clawr â'r llyfr clawr caled.
  • Cyhoeddwyd yn yr Almaen gan Cross Cult yn 2015 gyda chlawr meddal.
  • Cyhoeddwyd yn Rwsia gan AST yn 2015 gyda chlawr caled.
  • Cyhoeddwyd yn Nhwrci gan Ithaki Yayinlari yn 2016 gyda clawr meddal.
  • Cyhoeddwyd yn Sbaen gan Dolmen Editorial yn 2022 gyda clawr meddal.

Sainlyfr[]

  • Rhyddhawyd y stori fel sainlyfr ar 18 Rhagfyr 2014 gan BBC Audio wedi'i ddarllen gan Nicholas Briggs.