Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Roedd Episôd Nadolig (Sn: Christmas Special) yn draddodiad flynyddol ar gyfer Doctor Who BBC Cymru, gan ddechrau yn 2005 gyda The Christmas Invasion, a gorffen yn 2017 gyda Twice Upon a Time. Ar Ddydd Nadolig, pob flwyddyn ers ddychweliad y gyfres, bu episôd newydd yn cael ei darlledu ar BBC One.

Mae sawl Episôd Nadolig wedi cyflwyno rhannau hanfodol i blot y gyfres (megis gydymaith neu ymgorfforiad newydd o'r Doctor). Yn aml, yr Episodau Nadolig oedd yr episôd a dderbynnodd y nifer mwyaf o wylwyr o'r rhaglenni a ddarlledwyd y flwyddyn hwnnw; mae The Next Doctor, Voyage of the Damned, a The End of Time yn rhan o'r storïau gwyliwyd mwyaf erioed.[1]

Gan ddechrau gyda Chyfres 11 yn 2018, gwaredwyd traddodiad yr Episôd Nadolig o blaid cael Episôd Blwyddyn Newydd yn lle; Resolution yn 2019. Yn union fel episodau'r gaeaf flaenorol, gosodwyd yr Episôd Flwyddyn Newydd ar yr ŵyl, gan ddarlledu y tu allan i'r rhediad rheolaidd.

Enghreifftiau eraill[]

Er yn bennaf yn draddodiad wrth Doctor Who BBC Cymru, mae dau enghraifft o'r Episôd Nadolig wrth gyfnod gwreiddiol y sioe.

Yr episôd gyntaf i'w ddarlledu ar Ddydd Nadolig oedd "The Feast of Steven", seithfed rhan y stori 1965-1966, The Daleks' Master Plan. Doedd gan yr episôd ddim llawer o gysylltiadau i blot weddill y stori, wedi'i ysgrifennu yn bwrpasol fel "saib Nadolig" wrth yr antur Dalek. Yn wir, gorffennodd yr episôd gyda'r Doctor Cyntaf yn ddweud "Nadolig Llawen" i'r gynulleidfa.

Enhraifft arall oedd A Girl's Best Friend, peilot K9 and Company. O ganlyniad, nid yw'r stori yn "Episôd Nadolig Doctor Who", mae'n cael ei hystyried yn rhan o "stori'r hen gyfres". Nid oedd themâu Nadoligaidd y stori yn amlwg nes y diwedd wrth i Sarah Jane ymlacio ar ddiwedd ei hantur, ac mae K9 yn ddechrau canu "Dymunwn Nadolig Llawen".

Yn Neges Nadolig y BBC 1981, roedd rhan a gynhwysodd gymeriadau Doctor Who.

Yn ychwanegol, cynhyrchodd y BBC golygfa bach yn 1978 o'r enw Merry Christmas Doctor Who. Heb fwriad gwreiddiol o gael ddarllediad cyhoeddus, yn y pendraw rhyddhawyd y stori ar DVD The Armageddon Factor.

Cynlluniwyd Episôd Nadolig i rhagarweinio pumed cyfres The Sarah Jane Adventures, o'r enw Miracle on Bannerman Road. Cafodd ei chanslo am sawl rheswm.

Rhestr o Episodau Nadolig Doctor Who[]

Arall[]

  • 2005 - The Unquiet Dead (Cyfres 1) (Yn ôl Russell T Davies, yr Episôd Nadolig mae "pawb yn anghofio", er iddi ddarlledu yn rhan o gyfres rheolaidd, ac ym mis Ebrill yn lle adeg y Nadolig)

Troednodau[]