Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Everything Changes oedd yr episôd gyntaf Cyfres 1 Torchwood. Cyflwynodd yr episôd cymeriadau rheolaidd y sioe, ac elfennau pwysig cylchol, megis yr Hwb, Myfanwy, retcon a SUV Torchwood.

Yr unig episôd i gel ei hysgrifennu gan Russell T Davies nes y drydydd gyfres, mae gan y stori elfennau tebyg i Rose, episôd cyntaf Davies yn Doctor Who. Gyda strwythur Rose yn cyflwyno'r Nawfed Doctor trwy lygaid Rose Tyler, mae Everything Changes yn cyflwyno Jack Harkness trwy lygaid Gwen Cooper. Byddai hen gefnogwyr Davies yn adnabod ei ddefnyddiad o'r strwythur hon mor bell nôl â'i rhaglen plant, Dark Season, yn yr 1990au cynnar hyd yn oed.

Mae'r episôd yn nodedig am geisiad i dwyllo'r gwylwyr, gyda Indira Varma'n cael ei chynnwys yn nheitlau agoriadol y sioe er mwyn awgrymu taw chymeriad rheolaidd oedd hi. Roedd ei marwolaeth yn fod i fod yn syndod i wylwyr. Ond, achos penderfynnodd BBC Three darlledu'r dwy episôd cyntaf yn yr un nos, ni weithiodd y efffaith bwriadol. Serch hynny, cyflwynodd hyn un o elfennau cylchol y rhaglen: gall prif gymeriadau marw hefyd yn Torchwood. Erbyn diwedd cyfres 4 byddai ond dau o gymeriadau craidd yr episôd dal i fyw; Gwen a Jack.

Ar 22 Hydref 2016, degfed penblwydd Torchwood, gwahoddwyd y cast a chriw i Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd am arddangosiad o'r episôd cyntaf er lles y cefnogwyr.

Crynodeb[]

Mae tîm Torchwood Tri yn cyrraedd llofruddiaeth creulon. Ar ôl i PC Gwen Cooper eu gwylio, wedi'i rhyfeddu gan eu dulliau a'u technoleg anarferol. Wrth iddi archwilio i'r tîm, mae'n darganfod byd dirgelus yng nghanol Caerdydd.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Capten Jack Harkness - John Barrowman
  • Gwen Cooper - Eve Myles
  • Owen Harper - Burn Gorman
  • Toshiko Sato - Naoko Mori
  • Ianto Jones - Gareth David-Lloyd
  • Rhys Williams - Kai Owen
  • Suzie Costello - Indira Varma
  • Plismon ifanc - Guy Lewis
  • P.C. Andy - Tom Price
  • AST - Jason May
  • CorffRhys Swinburn
  • Yvonne - Olwen Medi
  • D.I. Jacobs - Gwyn Vaughan Jones
  • PlismonDion Davis
  • Porter ysbyty - James Thomas
  • Weevil - Paul Kasey
  • GwarchodwrMark Heal
  • Hogyn pitsaGary Sheppeard
  • DynGwilym Havard Davies
  • MenywCathryn Davis

Cyfeiriadau[]

  • Mae AST yn archwilio corff John Tucker.
  • Mae Jack yn blasu estrogen yn y glaw.
  • Creda Andy bod Torchwood yn arbenigwyr DNA.
  • Mae Andy yn jocio byddai CSI Cardiff yn mesur cyflymder cebab.
  • Mae'r porter yn awgrymu i'r Weevil i dreialu llawdriniaeth cosmetig.
  • Mae Jack yn defnyddio Retcon ar Gwen.
  • Mae Colin yn galw Owen yn "tosser".
  • Mae Suzie ac Andy yn defnyddio "bollocks" fel sarhad.

Unigolion[]

  • Mae Andy yn gofyn i Gwen os yw hi'n mynd i Slimbo's.
  • Awgryma Jack ei fod wedi bod yn feichiog ar un bwynt yn ei fywyd, gan mae'n ddweud ei fod "byth yn gwneud hynny eto".
  • Ymwelodd Banana Boat â Rhys.
  • Ar wahan i John Tucker, dioddefwyr eraill oedd Sarah Pallister a Rani Ghosh.
  • Mae'r porter yn gofyn i Mahib am adran cyfyngedig yr ysbyty.
  • Mae Yvonne yn dweud bod Temple yn gofyn am Gwen, gan awgrymu ei fod hi wedi'i thrafferthu.
  • Mae Myfanwy yn hedfan dros ben Gwen.
  • Mae Jack yn sôn am ymchwilio Chandler a Bell.
  • Mae Rhys yn meddwl bod Gwen wedi bod yn yfed gyda Geoff.
  • Mae Andy wedi bod yn dadlau pêl-droed gyda Geoff.
  • Mae Jack yn chwilio am "y doctor cywir".

Rhywogaethau[]

  • Crybwylla Jack y Cybermen.
  • Mae suzie yn atgyfodi cleren.

Daearyddiaeth[]

  • Llofruddiwyd John Tucker yn Lôn Llangyfelach yng Nghanol Dinas Caerdydd.
  • Llofryddiwyd Rani Ghosh yn Robintree Alley.
  • Mae gan yr heddlu camerâu yn gwylio heolydd Coryton a Pharc Tredegar.
  • Mae Yvonne yn gwirio plât cofrestru cerbyd y SUV gyda chydweithwyr yn Abertawe.
  • Mae gan Torchwood sefydliad o dan Fae Caerdydd.

Digwyddiadau[]

  • Mae Jack yn sôn am y llong ofod dros Lundain ar Ddydd Nadolig a Bwydr Canary Wharf. Roedd Rhys yn benderfynnol bod y digwydiadau hon yn ffurf terfysgaeth - rhithwelediadau eang o ganlyniad i gyffuriau yn y dŵr.

Sefydliadau[]

Torchwood[]

  • Mae'r Heddlu yn ystyried Torchwood fel adran Ops Arbennig.
  • Mae Jack yn dweud bod Torchwood ar wahan i'r llywodraeth, tu allan i'r heddlu a'r tu hwnt i'r Cenhedloedd Unedig.
  • Roedd Torchwood Un yn Llundain, ond bu ddinistriwyd yn Brwydr Canary Wharf.
  • Mae Torchwood Dau yn Glasgow wedi'u arwain gan ddyn rhyfedd iawn.
  • Mae Torchwood Pedwar wedi diflannu, ond mae Jack yn gobeithio dod o hyd iddo unwaith eto.
  • Mae 105 o risiau rhwng Hwb Torchwood a Canolfan wybodaeth twristiaid Torchwood.

Tecchnoleg[]

  • Mae Torchwood yn berchen ar SUV. Ei rif cofrestru yw CF06 FDU.
  • Mae triniwr fortecs Jack yn gallu rheolu'r lifft pafin i Blâs Roald Dahl o bell.
  • Mae gan Toshiko sganiwr data.
  • Mae Owen yn defnyddio chwistrellydd fferomon.
  • Mae Suzie yn defnyddio'r gauntlet atgyfodi.
  • Mae'r arf llofruddio yn gyllell tair-lafn.

Busnesau[]

  • Mae Gwen yn ymweld â Jubilee Pizza.

Bwydydd a diodydd[]

  • Mae Rhys a Banana Boat wedi bod yn yfed .
  • Mae Rhys yn awgrymu i Gwen iddi bwyta'r bwyd Tsieiniaidd o'r oergell.
  • Mae Rhys yn coginio hot pot.

Diwylliant poblogaidd[]

  • Mae andy yn crybwyll CSI.
  • Mae'r porter yn cymharu'r Weevil i Hellraiser.
  • Mae Toshiko yn sganio A Tale of Two Cities gan Charles Dickens. Mae cymeriadau'r llyfr yn cynnwys Mr Cruncher, Mr Lorry, Miss Manette, Doctor Manette, Jacques One, Jacques Two, Defarge, y Trwsiwr heolydd, dyn llwglyd, a Marquis.
  • Mae poster yn hysbysebu Arddangosfa Doctor Who yng Nghaerdydd.

Nodiadau[]

  • Teitl cynnar y stori oedd "Flotsam and Jetsam".
  • Darlledwyd Everything Changes cefn-wrth-gefn gyda Day One yn gyntaf yn y DU. Ailddarlledwyd yr episôd ar ben ei hun ar BBC Two, tri dydd canlynol at 9:00yh ar Dydd Mercher 25 Rhyddhadau 2006.
  • Hon yw'r unig episôd i gynnwys enw Indira Varma yn y teitlau agoriadol. Roedd hyn er mwyn cadw gwylwyr rhag rhagweld marwolaeth ei chymeriad yn yr episôd. Am yr un rheswm, cafodd hi ei chynnwys yn rhan o hysbysebu'r cyfres yn gynt i ddarllediad yr episôd.
  • O ganlyniad o fod episôd cyntaf ôl-watershed masnachfraint Doctor Who, mae gan yr episôd nifer o gyntafoedd, gan gynnwys defnyddiad cyntaf y "F-word" mewn cynhyrchiad Doctor Who, ynghyd â rhegiadau eraill. Byddai nifer y rhegiadau ar Torchwood yn lleihau o fewn y cyfresi hwyrach.
  • Mae Yvonne yn dynodi 21 Ionawr 1941 yn ystod y Blits fel y dydd methodd Jack i gofrestru am ei ddyletswydd. Mae hyn yn awgrymu bod TV: The Empty Child a TV: The Doctor Dances yn digwydd ar 20 Ionawr 1941.
  • Mae Owen yn dangos tuedd deurywiol wrth iddo hudo merch ac yna, i osgoi trafferth, hudo ei chariad hefyd cyn mynd gyda'r ddau ohonynt.
  • Yn dilyn darllediad yr episôd, ystyriwyd defnydd Owen o'r chwistrellydd fferomon fel "date rape".
  • Yn ôl ffeil o'r AGG yn yr episôd The New World yn 2011, ymunodd Gwen â Torchwood yn Hydref 2006. Mae hyn yn wrth-ddweud dyddiadau sawl stori arall.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • 2.52 miliwn

Cysylltiadau[]

  • Cyfarfyddwyd Hollt Caerdydd yn gyntaf gan y Nawfed Doctor a Rose Tyler yn 1869 wrth i oresgyniad y Gelth cael ei atal gan Gwyneth. (TV: The Unquiet Dead)
  • Mae Jack yn parhau i wisgo ei driniwr fortecs. (TV: The Empty Child) Yn hwyrach, fe'i ddatgelwyd bod gosodiadau teithio amser a thelegludo y triniwr wedi'u torri. (TV: Utopia)
  • Archebodd gweithiwr GeoComTex wrth Jubilee Pizza yn 2012. (TV: Dalek)
  • Mae Jack yn sôn am long ofod y Sycorax dros Lundain (TV: The Christmas Invasion) a Brwydr Canary Wharf. (TV: Doomsday)
  • Mae priodwedd hidlydd canfyddiad y pafyn wedi'u awgrymu i fod yn ganlyniad o ban arosodd TARDIS y Doctor ar y man hwnnw wrth agor Hollt Caerdydd yn ôl rhaglennaeth y allosodwr macro-cinetig tonffurf triboffisegol. (TV: Boom Town)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

  • Rhyddhawyd yr episôd a'r pedwar nesaf yn Torchwood: Series 1, Part 1 ar 26 Rhagfyr 2006.
  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Torchwood: The Complete First Series ar 19 Tachwedd 2007.
  • Roedd yr episôd hefyd yn rhan o set bocs DVD Cyfres 1-4; rhyddhawyd ar 14 Tachwedd 2011.

Rhyddhadau Blu-ray[]