Face the Raven oedd degfed episôd y nawfed gyfres o Doctor Who.
Gwelodd yr episod dychweliad Rigsy wrth Flatline o Gyfres 8, a thrydydd ymddangosiad Ashildr yn y gyfres, ac hefyd y tro cyntaf mae Clara yn gweld hi ers The Girl Who Died.
Darluniodd yr episod hon marwolaeth Clara Oswald. Wnaeth y sefyllfa ag achosodd ei thranc delio â'r canlyniadau o ban mae cydymaith yn ceisio actio fel y Doctor, trwy ddynwared gweithredoedd hunan-aberthol y Doctor, peryglodd Clara ei hun. Ers marwolaeth Danny Pink yn y gyfres flaenorol, roedd Clara wedi dechrau actio mewn ffordd mwy anystyriol.
Byddai marwolaeth Clara, ac ymateb y Doctor yn creu uchafbwynt arc Cyfres 9. Yn dilyn canfod achos y digwyddiadau arwiniodd at dranc Clara, byddai'r Doctor yn mynd i mewn i gynddaredd tawel ond anorchfygol, wrth ceisio dod o hyd i atebion a chael cyfiawnder am ei gydymaith.
Crynodeb[]
Mae'r Doctor, Clara a Rigsy wedi'u trapio ar stryd estronaidd yn Llundain, wedi'i guddio rhag gweddill y byd.
Mae Ashildr, y ferch gymysgryw ddifarw, yn gofalu am rai o greaduriaid mwyaf angheuol y bydysawd. Ni fydd pawb yn dianc yn fyw. Bydd rhaid i un ohonynt wynebu'r gigfran.
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Y Doctor - Peter Capaldi
- Clara - Jenna Coleman
- Mayor Me - Maisie Williams
- Rigsy - Joivan Wade
- Jen - Naomi Ackie
- Kabel - Simon Manyonda
- Rump - Simon Paisley Day
- Anahson - Letitia Wright
- Dyn Chronolock - Robin Soans
- Menyw Estronaidd - Angela Clerkin
- Menyw Habrian - Caroline Boulton
- Hen Fenyw - Jenny Lee
Cast di-glod[]
Cyfeiriadau[]
- Ymwelodd y Doctor a Clara yr "ail gardd mwyaf prydferth trwy gydol amser a'r gofod", lle arbedwyd y Doctor rhag priodi "planhigyn enfawr ymwybodol" gan Clara.
- Mae'r Doctor yn bygwth Me i achub Clara, gan ddweud fe fyddai'n dod â UNIT, y Seigonau, y Daleks, a'r Cybermen i ddinistrio ei stryd trap.
- Gwelwyd poster "80s Classics Volume 3".
- Mae Me yn cyfeirio at aros yn y stryd "ers Waterloo". Rhagdybiodd y Doctor taw Brwydr Waterloo oedd hyn, ond mae Me yn ei gywiro, gan egluro roedd hi'n golygu Gorsaf Waterloo.
Siopa[]
- Enw un o'r siopau ar y stryd trap yw Roskilly's.
- Gwelwyd siop BOSS, hysbyseb Café Zest, Brew Dog a Queens Vaults.
Technoleg[]
- Defnyddiodd Me breichled telegludo i drafnidio'r Doctor o stryd trap.
Cartograffeg[]
- Ymwelodd y Doctor, Clara a Rigsy ag ystafell mapiau y Llyfrgell Brydeinig.
- Mae Clara yn cyfeirio at fordd cartograffydd o greu mapiau.
- Gwelwyd arwyddion Park Street a West End.
Rhywogaethau[]
- Gwelwyd Janus.
- Defnyddiodd y stryd trap cylch camarweiniad. Honnodd Me taw golau'r Lurkworms oedd hyn mewn gwirionedd.
- Gwelir Quantum Shade.
- Mae Creadur yn ceisio bwyta Clara.
Nodiadau[]
- Hwn yw'r stori deledu cyntaf i gynnwys y Deuddegfed Doctor mewn fersiwn melfed byrgwnd o'i got Crombie glas tywyll, yn debyg i'r cot gwelwyd yn COMIG: The Highgate Horror.
- Mae'r credydau yn defnyddio "Ŵds" fel lluosog y gair Ŵd, yn lle "Ŵd" fel sefydlwyd yn TV: The Impossible Planet
- Mae poster mewn un golygfa gyda diagram o flux capacitor, cyfeiriad at Back to the Future. Ar y poster hefyd yw ysgrifen Aurebesh, wyddor defnyddiodd y gyfres Star Wars. Mae'r ysgrifen yn sillafu "Delorean", car y gyfres Back to the Future.
- Mae'r episôd yn cynnwys defnydd cyntaf o olygfa ôl-gredydau. Yn gynharach, defnyddiodd Death in Heaven golygfa canol-gredydau.
- Rhywbryd rhwng ffilmio The Woman Who Lived a Face the Raven, fe gaeth Maisie Williams twll yn ei thrwyn, o ganlyniad roedd gan Me tylliad trwyn hefyd, er ei ffactor iacháu.
- Mae'r llun o Clara mae Rigsy yn paeintio ar y TARDIS wedi'i seilio ar lun o Jenna Coleman defnyddiwyd i hysbysu ei hymddangosiadau yn nghonfensiynnau ffuglen wyddonol.
- Clara yw'r cydymaith cyntaf ers Adric yn TV: Earthshock i farw ar sgrîn. Nid yw digwyddiadau mewn episodau diweddarach yn datwneud ei marwolaeth yn yr episôd. Er bu farw ei rhagflaenwyr Amy Pond a Rory Williams yn eu hymddangosiad olaf, mae eu marwolaethau go iawn yn digwydd y tu hwnt i'r sgrîn, a dynodwyd eu bod yn digwydd mewn cyfnod yn bell o bryd gadawon nhw'r TARDIS.
- Crybwyllwyd hyn yn fuan gan y Doctor wrth iddo cyfri camau ar stryd cyn stopio i glymu esgid plentyn, gan ddweud wrtho "cofia 82." Darlledwyd Earthshock yn gyntaf yn 1982.
Cyfartaledd gwylio[]
- BBC One dros nos: 4.42 miliwn
- BBC America dros nos: i'w hychwanegu
- Cyfartaledd DU terfynnol: 6.06 miliwn
Gwallau cynhyrchu[]
- Mae'r dilyniant teitl allan o sync gyda'r cerddoriaeth thema.
- Mae trefniant gwallt Clara yn newid yn sylweddol rhwng saethiadau wrth iddi ffarwelio'r Doctor (er enghraifft, mae ei chlustiau yn weladwy mewn un saethiad, ond dydyn nhw ddim yn yr un nesaf). A phryd mae Clara'n mynd ar y stryd, mae ei gwallt yn fwy llawn nag eiliad yn gynharach.
- Wrth i Clara dweud bod deuddeg munud ar ôl, nid yw symudiadau ei gwefusau'n paru'r deialog, yn awgrymu newid yn ystod ôl-gynhyrchu. Yn wir, roedd gan y sgript ffilmio y linell fel naw munud ar ôl.
Cysylltiadau[]
- Mae'r Doctor a Clara yn aduno gyda Rigsy. (TV: Flatline)
- Darganfuodd y Doctor a Clara bod cof Rigsy wedi'i dileu. Defnyddiodd Torchwood Tri cyffur retcon yn aml. (TV: Everything Changes ayyb)
- Mae Me yn gofyn am ac yn derbyn deial cyffes y Doctor (TV: The Magician's Apprentice, The Witch's Familiar)
- Mae'r Doctor yn cymryd allan ei gardiau ymddiheirio. (TV: Under the Lake)
- Mae Clara yn cymharu ei haberthiad i un Danny Pink. (TV: Death in Heaven)
- Gofynnodd Clara i'r Doctor iddo fod yn "Doctor" nid "rhyfelwr". Fe ddywedodd hi rywbeth yn debyg i'r Unarddegfed Doctor wrth ddarbwyllo i beidio tanio'r Foment. (TV: The Day of the Doctor)
- Mae Clara yn hongian wrth y TARDIS er mwyn dod o hyd i achosiad tatŵ Rigsy. Ar un adeg, wrth gael eu cludo gan UNIT i Dŵr Llundain, hongiodd yr Unarddegfed Doctor wrth ochr y TARDIS yn dilyn cwympo allan, gyda Clara'n gwylio wrth y drysau. Yn debyg i'r Doctor, mae Clara wedi'i hymddangos i fwynhau'r profiad (TV: The Day of the Doctor)
- Mae Me yn atgoffa'r Doctor o'i "photobomb" yn llun Clara, gan ddweud taw ei ffordd hi o adael iddo wybod ei bod hi'n iawn oedd hyn. (TV: The Woman Who Lived)
- Mae Clara yn dynodi byddai "teyrnasiad terfygaeth" y Doctor yn gorffen at olwg cyntaf o blentyn yn crio, gan gyfeirio at ei angen o fod yn garedig pan mae plant yn drist (TV: The Beaast Below, The Day of the Doctor, The Girl Who Died)
- Nid y tro cyntaf mae'r TARDIS yn cael ei pheintio yw hyn, (TV: Aliens of London) na'r tro cyntaf mae rhywyn wedi paentio'r TARDIS yn absenoldeb y Doctor. (TV: The Happiness Patrol)
- Yn y gorffennol bu rhaid i'r Doctor delio â chyfriadau i lawr peryglus. (TV: 42, Flesh and Stone)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]
- Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Doctor Who: Series 9: Part 2 ar 4 Ionawr 2016.
- Yn hwyrach, rhyddhawyd yr episôd fel rhan o set bocs DVD, Blu-ray ac fel Steelbook o Doctor Who: The Complete Ninth Series ar 7 Mawrth 2016.
Troednodau[]
|