Freema Agyeman (ganwyd Frema Agyeman ar 20 Mawrth 1979) oedd actores a chwaraeodd Martha Jones, cydymaith i'r Degfed Doctor ac aelod dros dro Torchwood Tri ac UNIT. Newidodd hi sillafiad ei henw wrth ddechrau ei gyrfa actio proffesiynnol er mwyn osgoi camgymeriadau ynganu. Mae ganddi rhieni o Ghana ac Iran.
Ymddangosodd Freema Agyeman yn gyntaf ar Doctor Who yn episôd Cyfres 2, Army of Ghosts fel Adeola Oshodi, gweithiwr Sefydliad Torchwood a gafodd ei lladd gan y Cybermen. Dychwelodd hi i'r sioe fel ei chyfnither, Martha Jones, ar ddechrau Cyfres 3 yn Smith and Jones. Parhaodd Agyeman fel Martha ar gyfer gweddill Cyfres 3, a darparodd hi ei llais ar gyfer y cymeriad yn yr animeiddiad arbennig, The Infinite Quest. Gadawodd hi'r gyfres gyda'r episôd olaf, Last of the Time Lords. O ganlyniad i'w hamser ar y gyfres, enillodd hi hefyd y record am y nifer o ymddangosiadau gwadd mwyaf ar Totally Doctor Who, heb gyfri ei hymddangosiadau ar The Infinite Quest - ond David Tennant sydd bua'r record os gaiff The Infinite Quest ei chyfri.
Nid oedd Agyeman i ffwrdd o fasnachfraint Doctor Who am sbel. Ailgydiodd hi yn rôl Martha mewn sawl episôd Cyfres 2, Torchwood, y drydydd cymeriad i groesi rhwng y ddwy sioe. Mewn cwpl o fisoedd yn dilyn ei hymddangosidau Torchwood, dychwelodd Agyeman i'r brif rhaglen am bum episôd yng Nghyfres 4, yn chwarae Martha am dairawd o episodau a ddechreuodd gyda The Sontaran Stratagem, cyn ddychwelyd am ddiwedd y gyfres, The Stolen Earth / Journey's End. Yn dilyn cwblhau ei gwaith ar Doctor Who, dychwelodd Agyeman i chwarae Martha mewn drama sain BBC Radio Torchwood, Lost Souls.
Roedd 2008 yn flwyddyn enfawr am yr actores. Ar wahân i'w sawl ymddangosiad ar Doctor Who a Torchwood (ynghyd cyflwyno cyngerdd Proms y BBC yng Ngorffennaf 2008 a oedd wedi'i cysegru i Doctor Who), cafodd ei gyhoeddi byddai'r actores yn serennu mewn ailgread o gyfres 1970au Terry Nation, Survivors, ac yng Ngorffennaf 2008, cafodd ei gyhoeddi byddai hi'n ymddangos yn Law & Order: UK, fersiwn prydeinig o'r sioe Americanaidd, Law & Order. Er roedd straeon am ei hymddangosiad yn nhrydydd cyfres Torchwood, ni ymddangosodd hi o ganlyniad i'w hymrwymiad i Law & Order: UK. Yn hwyrach, cafodd Law & Order: UK ei hadnewyddu am ail gyfres.
Yn 2009, dychwelodd Agyeman yn fuan i chwarae Martha ar gyfer diweddglo stori olaf David Tennant, The End of Time.
Yn fwy diweddar, ymddangosodd hi ar Old Jack's Boat gyda Bernard Cribbins, a'r cyfresi americanaidd, The Carrie Diaries a New Amsterdam.
Credydau[]
Teledu[]
Doctor Who[]
- Army of Ghosts - Adeola Oshodi
fel Martha Jones
- Smith and Jones
- Army of Ghosts
- Gridlock
- Daleks in Manhattan / Evolution of the Daleks
- The Lazarus Experiment
- 42
- Human Nature / The Family of Blood
- Blink
- Utopia / The Sound of Drums / Last of the Time Lords
- The Sontaran Stratagem / The Poison Sky
- The Doctor's Daughter
- The Stolen Earth / Journey's End
- The End of Time
Torchwood[]
- Reset
- Dead Man Walking
- A Day in the Death
Sain[]
The Year of Martha Jones[]
- The Year of Martha Jones
- The Last Diner
- Silver Medal
- Decieved
Big Finish Torchwood[]
- Dissected
BBC Torchwood[]
- Lost Souls
Adrodd Sainlyfrau[]
BBC New Series Adventures[]
- The Last Dodo
- Wetworld
- The Pirate Loop
- Martha in the Mirror
- The Story of Martha