Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Fugitive of the Judoon oedd pumed episôd Cyfres 12 Doctor Who.

Cyflwynodd ymfgorddoriad dirgelus newydd i'r Doctor, gyda TARDIS ei hun, er yw un ohonynt yn cofio byw bywyd y llall. Gwelir defnyddiodd y Doctor arall Bwa Cameleon i guddio ar y Ddaear fel person o'r enw "Ruth Clayton", ac mae ganddi hanes yn gweithio am yr Arglwyddi Amser, mewn cynhwysedd cyfrinachol. O ganlyniad i'r datgeliad, Jo Martin yw'r actor di-wyn cyntaf i'w chastio yn rôl y Doctor, a'r cyntaf i dderbyn credyd am y rôl hon.

Gwelodd yr episôd hefyd dychweliad John Barrowman i rôl o Capten Jack Harkness, a welwyd yn diwethaf yn episôd olaf cyfres 4 Torchwood yn 2011, The Blood Line. Dyma hefyd ymddangosiad olaf Jack ar Doctor Who mewn prin dros degawd, gyda'i ymddangosiad blaenorol yn rhan dau The End of Timw yn 2010. Er nid yw'n cwrdd â'r Trydydd ar Ddegfed Doctor, mae'n rhybuddio ei chymdeithion am y "Lone Cyberman", yn ddechrau arc stori a fyddai'n para nes The Haunting of Villa Diodati.

Union fel mae'r teitl yn awgrymu, ailgyflwynodd y stori y Jydŵn, y rhywogaeth cyntaf wrth gyfnod Russell T Davies i ymddangos yng nghyfnod Chris Chibnall.

Crynodeb[]

Mae'r Jydŵn yn chwilio am ffoadur yng Nghaerloyw, 2020. Ond mae'r Trydydd ar Ddegfed Doctor a'i chymdeithion yn dewis ymyrryd cyn bod rhywun yn cael eu niweidio, ond mae'r sefyllfa yn cymlethach na yw'n edrych i fod. Mae cyfrinach lluosbarth yn dechrau datblygu, gan cyflwyno gwyneb newydd a thynged bryderus wrth hen ffrind.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - Jodie Whittaker
  • Graham O'Brien - Bradley Walsh
  • Yasmin Khan - Mandip Gill
  • Ryan Sinclair - Tosin Cole
  • Ruth Clayton - Jo Martin
  • Capten Jack Harkness - John Barrowman
  • Lee Clayton - Neil Stuke
  • Gat - Ritu Arya
  • Capten y Jydŵn Pol-Kon-Don - Paul Kasey
  • All Ears Allan - Michael Begley
  • Marcia - Judith Street
  • Twrist - Katie Luckins
  • Llais Capten y JydŵnNicholas Briggs
  • Jydŵn - Simon CarewRichard HighgateRichard PriceMatthew Rohman
  • Y Doctor - Jo Martin

Cyfeiriadau[]

Lleoliadau[]

  • Mae Ruth yn dywysydd ar gyfer Eglwys Gadeiriol Caerloyw.
  • Mae Yaz yn cofio trapiwyd y Meistr ym myd y Kasaavin.
  • Mae'r Doctor yn gweld, ac hefyd yn dangos i Gat, Galiffrei dinistriedig.
  • Mae Lee yn honni dod o Stroud.
  • Cafodd Jack Harkness y Sgŵp Cwantican wrth fourple ar Ibiza XIII.
  • Mae Ruth yn berchen ar Goleudy, sydd, mewn gwirionedd, yn cuddio ei TARDIS a'i chofion.

Digwyddiadau[]

  • Dydd Llun yw hi, a'r dydd mae Ruth yn dathlu ei "phen blwydd".
  • Ym 1216, coronwyd Harri III yn Eglwys Gadeiriol Caerloyw.
    • Cafodd Harry Potter ei ffilmio yn yr Eglwys hefyd.
  • Derbyniodd Lee medal fyddin wedi'i greu o aloi cronoteliwrig.
  • Enwa Gat yr Effaith Cyfyngu Blinovitch yn rhywbeth fiaidd.
  • Mae'r Trydydd ar Ddegfed Doctor yn cofio'r Rhyfel Mawr Olaf Amser.
  • Mae'r Ruth-Doctor yn enwi'r cylch adborth amseryddol fel canlyniad o ddau TARDIS yn teithio'n rhy agos i'w gilydd.

TARDIS[]

  • Mae'r Doctor yn newid cylchroad y TARDIS i fod yn gyfatebol i gyfradd adnewyddu maes heddgeidwadaeth rhanbarthol y Jydŵn.
  • Mae gan TARDIS Ruth gynllun allanol retro gyda thu mewn clasurol wedi'i fân-newid.

Sefydliadau[]

  • Mae Ruth yn gwisgo oriawr SKMEI.
  • Wrth ddarllen papur seicig y Doctor, mae Pol-Kon-Don yn tybio'r Doctor i fod yn Rheolydd Ymerodraethol.
  • Gweithiodd Lee yn Bathrooms4U.
  • Mae oergell Gorenje gyda Lee a Ruth.
  • Mae Jack yn dweud anfonodd y Cynghrair rhywbeth nol trwy amser ac ar ddraws yr ofod.
  • Yn ôl y Jydŵn, eu cytundeb yw i roi'r ffoadur i'r Parthiad.

Bwydydd a Diodydd[]

  • Mae brecwast Ruth yn cynnwys tost gyda menyn, wy, a sudd oren.
  • Pryna Ruth goffi wrth Allan.
  • Mae'r siop goffi yn gwerthu crempogau.
  • Mae Lee yn prynu cacen pen blwydd ar gyfer Ruth wrth Allan, ac mae'n sôn am gael latte fel arfer.
  • Mae Graham yn mynd â mwffin.
  • Mae Gat yn cymharu chwilfrydedd y Jydŵn i ddefnyddio ordd i torri cneuen.

Unigolion[]

  • Mae gan Ruth ffrind o'r enw Reggie; mae Reggie yn alarch.
  • Mae Marcia yn hen fenyw sydd yn gwau.
  • Gweithia Allan mewn siop goffi. Mae ganddo dossier ar Lee Clayton.
  • Mae'r Doctor yn chwilio am y Meistr.
  • Mae'r Doctor a Yaz yn nodi bod hawl gan yr arestiwyd i lys gyda thrydydd parti o dan y ffug gyfraith "rheol 12 lleol y Ddaear". Maent yn llwyddo gyda'r celwydd achos mae Yaz yn swyddog.
  • Mae'r Doctor yn cyfeirio i Ruth fel "Jackie Chan" yn dilyn bwydro'r Jydŵn.
  • Mae Jack yn rhybuddio Graham, Yaz a Ryan i ogelu'r Lone Cyberman.
  • Mae'r Trydydd ar Ddegfed Doctor yn sarhau wrth glywed y Doctor Ffoadurol haeddu pwyntiau iddi, yn honni mai peth hi oedd honno.

Jydŵn[]

  • Mae'r Doctor yn nodi defnyddia'r Jydŵn Maes Heddgeidwadaeth Lefel Saith.
  • Mae Capten y Jydŵn, Pol-Kon-Don, yn dyfynnu Erthygl Eidduned y Jydŵn 163B.
  • Wrth ddarganfod bod y ddwy Doctor yw'r un person, mae'r Jydŵn yn dyfynu Isadran 951.

Rhywogaethau[]

  • Mae'r Doctor yn dweud bod y Cybermen mor lleithiog â'r Daleks.

Technoleg[]

  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at neges hologram y Meistr i'w chymdeithion.
  • Mae'r Jydŵn yn defnyddio maes heddgeidwadaeth rhanbarthol ar y Ddaear, ac maent yn bygwth ddefnyddio Ynysydd Amserol, a Ffrwydrydd Amserol er mwyn sicrhau dal eu targed.
  • Mae'r Jydŵn yn saethu Saethyn Rhybydd Olaf i mewn i fflat Lee a Ruth.
  • Mae Jack ar long sydd yn defnyddio synwyryddion symudiadau sydd yn gallu actifadu sbeics laser. Roedd hefyd ganddo tarianau, system gwrth-ddwyn, a Nanogenes.
  • Mae Jack yn defnyddio Sgŵp Qwantican i gludo Tîm TARDIS i'w long ac i'w dychwelyd.
  • Mae Lee yn danfon neges destun i Ruth wrth ei ffôn symudol.
  • Mae Gat yn cyrraedd trwy cludwyr mater.
  • Mae gan Ruth gorchudd biolegol sydd wedyn yn cael ei ddatgelu i fod o achos Bwa Cameleon.
  • Mae Ruth yn defnyddio teclyn biodata wedi'i guddio fel larwn tân ar mwyn dadwneud effaith y Bwa Cameleon.
  • Mae gan Ruth dryll laser.
  • Cludia bêm tractor TARDIS y Doctor Ffoadurol i long y Jydŵn, Cludiwr Talwak Jydwnaidd.

Nodiadau[]

  • Roedd rhaid i John Barrowman esgus adnewyddu ei dŷ yng Nghaerdydd er mwyn cadw'r cyfrinach o weithio ar Doctor Who. Yn wir, er mwyn cadw pob amheuadd i ffwrdd ohono, wnaeth Barrowman cyflawni'r adnewyddiad.[2]
    • Yn ychwanegol, i gadw dychweliad Barrowman yn gyfrinach, rhestrwyd enw ei gymeriad ac enw ei hun fel "Roy Lester", anagram o Rose Tyler.
  • Enwyd Capten y Jydŵn, Pol-Kon-Don ar ôl gefnogwr Doctor Who a ffrind i Chris Chibnall, Paul Condon, a fu farw rhyw misoedd yng nghynt.[3]
  • Cyfarwyddodd Jamie Magnus Stone golygfeydd Capten Jack Harkness, gyda Nida Manzoor yn cyfarwyddo gweddill yr episôd.
  • Mae digwyddiadau'r stori hon wedi eu olynu yn agos gan ddigwyddiadau'r episôd olynol, Praxeus, sydd wedi'i osod "yn gynnar yn nhrydydd degawd yr 21ain ganrif".
  • Mae "Ruth" yn dathlu ei 44fed pen blwydd. Mae dyddiad darlledu yr episôd hon, 26 Ionawr 2020, yn dynodi 44 blwyddyn a 2 diwrnod ers 24 Ionawr 1976, darllediad episôd olaf The Brain of Morbius, yr episôd olaf i awgrymu ymgorfforiadau cynharach na Hartnell.
  • Dyma'r episôd gyntaf o Doctor Who i gynwys Jack Harkness ers ei gyflwyniad yn TV: The Empty Child / The Doctor Dances na chafodd ei hysgrifennu gan Russell T Davies.
  • Dyma un o'r episodau cynharach i gael eu cynllunio ar gyfer cyfnod Jodie Whittaker, mor gynnar â Mawrth 2016. Cynhwysodd y fersiwn gynnar yma golygfeydd mewn gwinllan Sbaeneg a dosbarth Zumba.
    • Roedd gan drafftiau diweddarach teitl o Semper Fidelis, moto Caerwysg, gosodiad y stori. Byddai Ruth yn dywysydd teithiau arswyd yn ei 50au hwyr, gyda mab o'r enw Tony. Byddai'r dau yn cael eu datgelu i fod yn ymgorfforiad-i-ddod ac aelod o'i sgwad rhyfelwyr yn eu tro. Enw Gat oedd Gax, a chymerodd y Jydŵn le'r estronwyr gwreiddiol, sef y Karreg.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 4.21 miliwn[4]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 5.57 miliwn[5]

Lleoliadau ffilmio[]

  • Caerloyw
  • Eglwys Gadeiriol Caerloyw
  • Llongarth Caerloyw
  • Ocean House, Caerdydd
  • St German's Church, Caerdydd
  • The Little Man Coffee Company
  • Spillers and Bakers, Caerdydd
  • Dock Feeder Canal, Caerdydd
  • Goleudy gorllewin yr Wysg, Casnewydd
  • Clifton Cathedral, Bryste

Gwallau cynhyrchu[]

  • Wrth i'r ddwy Ddoctor camu allan o TARDIS y Doctor Ffoadurol, am eiliad, wrth iddynt agor y drws, mae modd gweld cefn prop y TARDIS.
    • Dyma'r achos gyntaf ers fersiwn clasurol y sioe i'r math yma o wall ddigwydd.

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor wedi bod yn chwilio am dystiolaeth bod y Meistr wedi dianc wrth fyd y Kasaavin. (TV: Spyfall)
  • Mae'r Doctor wedi ymweld â Galiffrei sawl gwaith ar ei phen ei hun ers gweld y dinistriad achosodd y Meistr. (TV: Spyfall)
  • Mae'r Doctor cofio cafodd Galiffrei ei dinistrio dwywaith o'r blaen oherwydd rhyfel (PRÔS: The Ancestor Cell, TV: The End of Time ayyb), a wedyn gan y Meistr. (TV: Spyfall)
  • Mae'r Doctor yn nodi nad oes gan y Jydŵn unrhyw awdurdodaeth ar y Ddaear. (TV: Smith and Jones, Prisoner of the Judoon, PRÔS: Revenge of the Judoon)
  • Mae'r Jydŵn yn dienyddu rhywun am ymosodiad ac maent yn hawlio ad-daliad. (TV: Smith and Jones)
  • Ceisia'r Doctor odli'r gair Jydŵn gyda "platoon" a "moon" (TV: Smith and Jones) a "lagoon".
  • Mae Jack yn gamgymryd mai'r Doctor yw Graham. (TV: Spyfall, PRÔS: The Good Doctor)
  • Mae Jack yn cusanu'r dyn fe feddyliodd oedd y Doctor, yn union fel y wnaeth i'r Nawfed Doctor at ddiwedd eu teithiau gwreiddiol. (TV: The Parting of the Ways) Cyn atgyfarfod gyda'r Degfed Doctor, (TV: Utopia) mynegodd Jack ei ddymuniad i cusanu'r Doctor cyn ei ladd y tro nesaf fyddent yn cwrdd. (TV: Fragments)
  • Mae Ryan yn meddwl bod Jack fach yn "cheesy. Wnaeth Mickey Smith hefyd cyfeirio ar Jack fel person "cheesy" wrth ei gwrdd am y tro cyntaf, (TV: Boom Town) cyn ei alw'n "Captain Cheescake" yn hwyrach. (TV: Journey's End)
  • Wrth i'w hunaniaeth go iawn arwynebu, mae "Ruth" yn galw'r Jydŵn yn rheinofformau. (SAIN: Judoon in Chains)
  • Gwobrwyodd y Doctor pwyntiau i'w chymdeithion yn flaenorol. (TV: The Tsuranga Conundrum)
  • Mae Jack yn gyfarwydd â Nanogenes, (TV: The Empty Child) y Jydŵn, (WC: Monster File: Judoon) a'r Cybermen. (TV: Cyberwoman, COMIG: Supremacy of the Cybermen, WC: Monster File: Cybermen)
  • Mae "Ruth" wedi defnyddio Bwa Cameleon i guddio ei hun fel person, gyda fywyd o gofion gau a bioleg wedi'i hailysgrifennu i adlewyrchu un dynol. (TV: Human Nature / The Family of Blood, Utopia, SAIN: One Life)
  • Datgela'r Doctor i Tîm TARDIS bod y Cybermen cyn berygled â'r Daleks. (TV: Resolution)
  • Mae Tîm TARDIS yn nodi mai'r Doctor wnaeth eu cymmanu. (TV: The Woman Who Fell to Earth, Arachnids in the UK)
  • Mae'r Doctor yn derbyn sawl brys-hysbysiad perygl wrth dair cyfandir ar ddraws y Ddaear. (TV: Praxeus)
  • Yn hwyrach, mae'r Doctor a Tîm TARDIS yn dysgu bod y Lone Cyberman yn hela'r Cyberium, gyda'r Doctor yn cael ei gorfodi i ildio'r sylwedd. (TV: The Haunting of Villa Diodati)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

  • Rhyddhawyd yr episôd gyda gweddill cyfres 12 ar DVD, Blu-ray, ac fel Steelbook ar 4 Mai 2020.

Troednodau[]