Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Harvest of the Sycorax oedd trydydd stori Classic Doctors, New Monsters gan Bif Finish Productions. Ysgrifennodd James Goss y stori a gynhwysodd Sylvester McCoy yn rôl y Seithfed Doctor.

Crynodeb cyhoeddwr[]

Yn y dyfodol pell, mae gan ddynoliaeth meddyginiaeth am bopeth. Beth bynnag yw'r problem, mae gan Pharma Corps yr ateb. Yn ychwanegol, mae ganddynt clefyd ar gyfer union pob math o waed dyn. Does dim rhaid i Zanzibar Hashtag teimlo'n drist, frawychus, teimlo o dan straen, nac yn isel byth eto.

Hynny yw, nes bod estronwyr creulon yn cyrraedd ei llong ofod, gyda'r bwriad o agor y gladdgell. Beth fyddai'n digwydd i ddynoliaeth os llwyddia'r Sicoracs i ddwyn cynnwys y gladdgell?

A phan mae'r Seithfed Doctor yn cyrraedd y llong, byddai modd iddo perswadio Zanzibar i becso am ei bywyd am ddigon hir er mwyn ei gynorthwyo?

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - Sylvester McCoy
  • Zanzibar - Nisha Nayar
  • Cadwallader - Jonathan Firth
  • Shadrak - Rebecca Callard
  • Y Brif SicoracsGiles Watling
  • Eshak - Alex Deacon

Cyfeiriadau[]

I'w hychwanegu.

Nodiadau[]

  • Rhyddhawyd fersiwn finyl o'r stori hon mewn storveydd Asda detholus ar 25 Medi 2020.

Cysylltiadau[]

  • Mae Dyn yn defnyddio gormodedd o feddyginiaeth er mwyn cyfyngu eu hemosiynnau a'u hymatebion biolegol. (PRÔS: Only Human)
  • Gall pobl cymryd meddyginiaeth er mwyd dileu ofn, galar a dicter. Mae hefyd modd i anghofio teulu. (TV: Gridlock)
  • Mae'r Sicoracs yn defnyddio rhaff drydanol er mwyn dienyddi pobl. (TV: The Christmas Invasion)
  • Pan mae'r Doctor yn cyrraedd yr ystafell gyda'r Sicoracs a'u carcharion, maent yn dechrau deall ei gilydd heb dechnoleg cyfieithu. Mae'r Doctor yn galw hyn yn "anrheg o'r Arglwyddi Amser". Hon yw canlyniad cylchedau cyfeiethu'r TARDIS yn cyfeiethu pob iaith, dynol neu arall i bawb yn yr ardal leol. (TV: The End of the World ayyb)
  • Caiff Sicoracseg ei gyfieithu i Saesneg gan y TARDIS ar gyfer y carcharion, a mae Saesneg wedi'i gyfieithu i Sicoracseg ar gyfer y Sicoracs. (TV: The Christmas Invasion)
  • Yn ystod y brwydr rhwng ei hunan a Zanzibar, unig arf y Doctor yw ei ymbarél. (TV: Remembrance of the Daleks)
  • Mae'r Sicoracs yn galw pobl yn "gwartheg". (TV: The Christmas Invasion)
  • Mae'r Doctor yn galw ymdrechion y Sicoracs i oresgynnu planedi trwy reolaeth waed yn "voodoo". (TV: The Christmas Invasion)
  • Mae'r Doctor yn nodi ei hen feistrolaeth o grefftau ymladd. Yn ystod ei drydydd ymgorfforiad, fe ddefnyddiodd Venusian aikido yn aml i warchod ei hun ac eraill. (TV: Inferno, Colomy in Space, The Mutants, The Green Death, The Time Warrior ayyb) Dysgodd yr Ail Doctor Venusian aikido ar Wener gyda Jamie McCrimmon a Victoria Waterfield. (SAIN: Voyage to Venus)
  • Mae'r Doctor yn dweud "C'mon, Zanzibar, we've got work to do." Rhywbeth fe ddywedodd i Ace unwaith. (TV: Survival

Dolenni Allanol[]

Advertisement