Heaven Sent oedd unarddegfed episôd cyfres 9 Doctor Who.
Mae'r episôd yma yn dangos y Doctor yn delio gyda'i galan am farwolaeth Clara Oswald, ar ôl iddo golli hi i'r Quantum Shade yn yr episôd blaenorol. Mae'r rhan fwyaf o'r stori yn yn gweld y Doctor ar ben ei hun, heb gymeriad arall, ar wahân i'r Veil sydd yn ei olyni trwy gydol y stori. Mae Jenna Coleman yn ymddangos fel fersiwn o Clara yn nychymyg y Doctor. Mae TARDIS y Doctor hefyd yn absennol wrth y stori yma, ond yn ymddangos diolch i ddychymyg y Doctor.
Mae'r stori yn nodedig am y niferoedd o gyfaddefion mae'r Doctor yn cyfaddef i, gan ei fod y tu mewn i Ddeial cyffes ei hun. Hefyd, gwelir y Doctor yn dychwelyd i Galiffrei am y tro cyntaf ers ddarganfododd na chafodd y blaned ei ddinistrio yn y Rhyfel Amser, ond yn lle cafodd ei rhoi i mewn i fydysawd poced.
Mae'r stori hon yn cymryd lle ar ddraws amser hynod o faith, gan weld y Doctor mewn cylch amser, yn marw a dod nôl yn fyw tro ar ôl tro. Yn yr episôd ganlynol, Hell Bent, mae amcan treuliodd y Doctor tua 4.5 biliwn mlynedd yn y deial cyffes, ac o ganlyniad, dyma'r antur hiraf heb ymyrraeth yn hanes Doctor Who
Crynodeb[]
Yn dilyn marwolaeth ei ffrind, nid oedd y Doctor ym meddwl byddai ei sefyllfa yn gallu gwaethygu. Mae beth ddechreuodd fel cais i gwaredu rhywun rhag gyhuddiad llofruddiaeth anghywir wedi datblygu i sefyllfa llawer gwaeth.
Eisioes, wedi'i trapio mewn hen gastell yng nghanol môr enfawr, mae'r Arglwydd Amser yn cael ei treulio gan greuadur rhyfedd sydd ond yn stopio pan mae'r Doctor yn cyfaddeb ei gyfrinachau dyfnaf. Beth yw'r peth yma eisiau? Ac oes modd i'r Doctor dianc a chyrraedd gartref?
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Y Doctor - Peter Capaldi
- Clara - Jenna Coleman
- Y Veil - Jami Reid-Quarrell
Cyfeiriadau[]
- Azbantium yw deunydd 400 gwaith caletach na deiamwnt. Mae'r Doctor yn pwno'r deunydd am dros bedwar a hanner biliwn mlynedd er mwyn cyrraedd Galiffrei.
- Mae copïau o'r Doctor yn honni eu bod 7000, 12000, 600000, 1200000, 2000000, 20000000, 52000000, "bron" a "pell dros" 1000000000 a 2000000000 mlynedd i'r dyfodol.
Y Doctor[]
- Mae'r Doctor yn casáu garddio.
- Mae'r Doctor yn profi bod modd iddo agor drws trwy cyfathrebu gydag hi, yn awgrym at abl telepathig pan oedd ef yn iau.
- Mae'r Doctor yn gallu teimlo taith trwy amser. O ganlyniad i hon, mae'r Doctor yn hawlio dylai fod yn yr un rhanbarth amser fe adawodd, ond mae safleoedd y sêr yn awgrymu bod ef wedi.
- Mae'r Veil yn creuadur a ddaeth wrth blentyndod y Doctor o fenyw bu farw a gafodd ei horchuddio gan lenni a daenodd glêr o achos y gwres.
- Mae modd i'r Doctor gwneud sain "pop" gyda'i geg.
Y Castell[]
- Mae llun o Clara Oswald yn y castell.
- Wrth ddod o hyd i'r arwydd "BIRD" ar y llawr, mae'r Doctor yn gofyn yn rhethregol os oes adar yn y yno.
- Mae gan y castell teledau sydd yn dangos safbwynt y Veil, yn helpu'r Doctor adnabod lleoliad y Veil ar adegau.
- Mae'r Doctor yn chwilio am Ystafell 12.
- Mae'r Doctor yn darganfod ac yn creu biliynnau o gopïau o benglog ei hun.
- Yn gyntaf, mae'r Doctor yn credu bod y castell yn gylch egni caëedig.
Diwylliant o'r byd go iawn[]
- Mae'r Doctor yn adrodd stori'r Bugail ifanc, o'r Brothers Grimm. Mae'r Bugail ifanc yn ymateb ar ôl cael ei gofyn gan yr Ymerodrwr "Faint o eiliadau sydd yn tragwyddoldeb?", "Mae mynydd deiamwnt pur, mae'n cymryd awr i'w esgyn, ac awr i mynd o'i hamgylch. Pob can mlynedd, mae aderyn bach yn dod i naddu ei big ar y mynydd. Pan fydd y mynydd cyfan wedi erydu, byddai eiliad cyntaf tragwyddoldeb wedi gorffen." Mae'r Doctor yn credu mai "hynod o aderyn" yw honna.
Technoleg[]
- Yn ôl y Doctor, cafodd ei dywys gan "delegludiad amrediad-hir" i'r castell.
- Mae'r Doctor yn cymharu'r telegludiwr i Argrafydd 3D.
Nodiadau[]
- Er hysbyswyd y stori fel cynnwys un cymeriad yn unig, mae presenoldeb Clara a'r Veil, a'r bachgen ifanc ar ddiwedd y stori, yn golygu nid yw hon yn wir; ond mae'r mwyafrif o'r stori wedi'i chario gan y Doctor yn unig, gydag ef yn perfformio pob linell o ddeialog ar wahân i un. Episôd-mini 2013 Clara and the TARDIS yw'r unig wir stori deledu darlledwyd i gynnwys un cymeriad yn unig. Yr unig stori arall yw The Stealers from Saiph wrth The Companion Chronicles.
- Mae'r stori mae'r Doctor yn dweud ar ddechrau'r episôd wedi ysgrifennu ar waliau'r hen gastell. Rhannau penodol yn unig sydd ar goll.
- Wrth siarad i'r Clara ddychmygol, mae'r Doctor yn torri'r pedwedydd-wal trwy edrych i'r camera a ddweud ei fod yn "dim heb gynulleidfa".
- Mae'r Doctor yn dychmygu bod nôl yn y TARDIS gyda Clara, gyda hi yn ysgrifennu ymatebion ar y byrddau du, pryd bynnag mae eisiau feddwl am sefyllfa. Mae hon yn debyg i gysyniad y "palas feddwl" wrth Sherlock, sioe crëodd ac ysgrifenodd Steven Moffat a Mark Gatiss; yno byddai Sherlock yn adolygu ac myfyrio ar ffeithiau dirgel a byddai hyd yn oed yn siarad i gysyniadau pobl mae'n gwybod.
- Yn y rhaglen teledu The Ultimate Time Lord, disgrifiyd y Doctor gan Steven Moffat fel "adrenaline junkie"; gan ddweud mai'r Doctor yw'r math o berson i daflu eu hun allan o ffenest a datrus beth i wneud ar y ffordd lawr. Mae'r Doctor yn gwneud union y peth yma yn yr episôd yma.
- Cafodd pob un o benglgau yn yr episôd eu modelu ar ôl penglog Peter Capaldi.
- Mae enw Jenna Coleman wedi'i chymryd wrth y teitlau agoriadol, o ganlyniad, dyma episôd gyntaf y gyfres newydd i gredydu un actor yn unig yn ystod y teitlau agoriadol. Er mwyn llenwi'r amser ychwanegol, cadwyd enw Capaldi ar y sgrîn am gwpl o eiliadau ychwanegol cyn i'w enw gadael trwy symyd tuag at y sgrîn yn lle diflannu. Yn yr un modd, yn y credydau cau, mae enw actor y Doctor yn cael sgrîn ei hun am y tro cyntaf, gyda chredyd actor y cydymaith i'r ail sgrîn.
- Cyn darllediad Cyfres 8, hawliodd Steven Moffat mewn cyfweliadau ei fod wedi cynllunio cliffhanger ar gyfer episôd Cyfres 9 olaf-ond-un, gan ddweud "na fyddech chi'n disgwyl dim". Mae'r Doctor yn dweud bron union y geiriau honno cyn neidio allan o ffenest, ac mae gan yr episôd yma i gliffhanger enfawr.
- Dyma unig episôd olaf-ond-un cyfres yn ystod cyfnod Steven Moffat i beidio cynnwyd Cybermen, ond gan roedd deuddeg episôd yn y gyfres yma, mae'r episôd ganlynol yn parhau'r patrwm o gynnwys Cybermen yn y deuddegfed epsiôd.
- Yn DWM 495, ysgrifenodd Moffat i gadarnhau peintiodd y Doctor llun Clara ei hun. Fe awgrymodd bod sawl cliw arall, yn enwedig "I am in 12", wedi'u gadael gan gopïau blaenorol o'r Doctor a oedd wedi'i ddiflasu gan hirdeb pob cylched.
- Unig ymddangosiad y TARDIS yn yr episôd yma yw fersiwn dychmygol o'r ystafell gonsôl ym mhen y Doctor.
- Derbynodd deialog Clara o "Get up off your arse and win!" rhai beirniadaeth gan credodd pobl mai mân-rheg oedd hyn. Yn debyg i ddefnydd "bloody" yn Kill the Moon, tu allan i'r DU roedd gan gwylwyr llai o broblem gyda arse, gan mae dal yn iaith ffiaidd, nid yw'n cael ei ystyried fel rheg.
- Yn sgript gwreiddiol, mae gair olaf llinell olaf y Doctor yn lythyren braisg fel enw priod - "The Hybrid, destined to conquer Galiffrei and stand in its ruins, is Me." Mae hon yn amlwg yn pwyntio tuag at Ashildr a'i hymddangosiad yn yr episôd ganlynol, lle mae'r Doctor yn cadarnhau mae ef yn credu mai hi yw'r Hybrid.
- Mae modd dadansoddi'r episôd yma fel trosiad enfawr am frwydro iselder. Mewn cyfweliad, datdanodd Moffat nid oedd hon yn fwriadol, ond roedd ef yn barchus i helpu pobl mewn sefyllfaoedd tywyll.
- Mae trafodaethau rhwng rhai gefnogwyr os dylai'r stori yma cael ei ystyried fel rhan gyntaf stori dwy rhan gyda Hell Bent, stori sengl, neu ganol stori tair rhan a ddechreuodd gyda Face the Raven. Mae fynonhellau "swyddogol" hefyd yn dadlau. Mae rhifo DWM, y system defnyddia'r BBC mwyaf aml, yn gwahanu'r tri stori. Er enghraifft, yn Calendar "The Story so Far" 2021 Danilo. Ond pan rhyddhawyd sgriptiau'r stori yma a'r episôd ganlynol, cyfeiriwyd atynt fel "antur dwy-ran", a hysbsywyd yr episodau fel stori sengl wrth farchnata Cyfres 9 i ddechrau. Yn ychwanegol, mae Steven Moffat hefyd wedi cyfeirio at y tair episôd fel "trioleg" am alar, ond yn nodi nad oes ots os mai un, dwy neu dair stori yw'r episodau. Efallai yn nodedig, nid yw'r stori yma yn gorffen gyda "to be continued...", er mae'r stori olynol yn agor gyda "previously...".
- Mae dyfynod wrth yr episôd yma, "How many seconds are there in eternity?", yn ymddangos yn wê-gast Time Fracture,This is Sargeant Robert Dudley..
Cyfartaleddau gwylio[]
- BBC One dros nos: 4.51 miliwn
- BBC America dros nos: i'w hychwanegu
- Cyfartaledd DU terfynnol: 6.19 miliwn
Cysylltiadau[]
- Mae'r Doctor yn dweud wrth ei ddalwyr, "bydd y Doctor yn eich gweld chi nawr". (TV: The Eleventh Hour)
- Mae'r Doctor cofio marwolaeth Clara, a sut gorchmynodd hi i beidio dial, gan ddweud y rheswm pan bu farw hi; mae hefyd yn gyfeirio at y ffaith bu farw hi mewn poen. (TV: Face the Raven)
- Mae'r Doctor yn cyfeirio at benglog ei "flaenor", heb gwybod pa mor gwir yw'r cyfeiriad yno. Yn yr un modd, cyfeiriodd y Meistr Tremas at sgerbwd yn y Rhanbarth Marwolaeth ar Galiffrei. (TV: The Five Doctors)
- Mae'r Doctor yn encilio i fersiwn dychmygol o'r TARDIS. (SAIN: The Pyramid of Sutekh)
- Mae'r Doctor yn dweud dylai pobl gwybod yn gwell nac i'w trapio. Rhybuddiodd yr Unarddegfed Doctor yr Angylion Wylo yn erbyn union yr un peth. (TV: The Time of Angels)
- Mae'r Doctor yn encilio i lefelau is dychmygiad ystafell consol y TARDIS wrth ddod yn emosiynol, gan eistedd mewn bron union yr un lle eisteddodd yr Unarddegfed Doctor pan oedd rhaid iddo mynd i Drenzalore. (TV: The Name of the Doctor)
- Mae'r Doctor yn dewud i amcan goroesiad o hyd. Yn flaenorol, mae'r Doctor yn dweud ei fod o hyd yn mewddwl honno. (TV: The Witch's Familiar)
- Ar wahân i'w phaentiad, mae breuddwydiau'r Doctor am Clara i gyd yn gwisgo'r un gwisg a'r gwallt a phan bu farw hi. Yn ychwanegol, yn eithrio unwaith, mae Clara ond yn cael ei gweld o'r cefn, yn union fel cafodd hi i'w gweld gan y Doctor olaf. (TV: Face the Raven)
- Unwaith eto, mae modd i'r Doctor adnabod artiffisialrwydd y digwyddiadau o'i amgylch. (TV: Sleep No More)
- Dangosodd y Nawfed Doctor yr abl i arafu ei synnwyr amserol wrth wneud gweithrediad peryglus. (TV: The End of the World)
- Mae'r Hybrid yn cael ei trafod. (TV: The Witch's Familiar)
- Mae'r Doctor yn hawlio ni fyddai'r Daleks byth yn gadael i unrywbeth i fod yn hanner Dalek. Yn flaenorol, gwyliodd y Doctor y Daleks yn dinistrio hybridau Dalek-dynol, (TV: Evolution of the Daleks) ac mae hefyd wedi cwrdd â hil o Daleks a ddaeth wrth fater genynnol dynol ag aeth yn wallgof o ganlyniad i fodolaeth eu hun. (TV: The Parting of the Ways) Mwy nac unwaith, bu grŵp o Daleks hybrid yn achosiad rhyfel cartref. (TV: The Evil of the Daleks, Revelation of the Daleks, Remembrance of the Daleks)
- Mae'r Doctor yn dychwelyd i Galiffrei, wedi cyrraedd "y fordd bell". (TV: The Day of the Doctor)
- Yn flaenorol, roedd gan y Doctor cysylltiad i ystafell gyda rhif ei ymgorfforiad. (TV: The God Complex)
- Mae'r Doctor yn sôn am fod yn "dda am drapiau". (TV: The Time of Angels)
- Mae'r Doctor yn dweud "yn sicr, Nadolig yw hi" wrth wynebu her. (TV: The Vampires of Venice) Mae hefyd wedi cyfririo at anachronismau a pyslau ar ei restr Nadolig o'r blaen. (TV: A Town Called Mercy)
- Ymwelodd y Pedwerydd Doctor ag amgylchfyd ailadroddus lle bu fyw nifer fersiwn blaenorol o'i breswylydd gyda'i gydymaith Adric. (PRÔS: Mauritz)
- Mae'r Doctor yn herio'r Doctor i ennill. (TV: The Girl Who Died)
Rhyddhadau cyfryngau cartref[]
Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]
- Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Doctor Who: Series 9: Part 2 ar 4 Ionawr 2016.
- Yn hwyrach, rhyddhawyd yr episôd fel rhan o set bocs DVD, Blu-ray ac fel Steelbook o Doctor Who: The Complete Ninth Series ar 7 Mawrth 2016.
Troednodau[]
|