Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Rhedodd Hen Gyfres 19 Doctor Who rhwng 4 Ionawr 1982 a 30 Mawrth 1982. Cynhwysodd y gyfres Peter Davison fel y Pumed Doctor, Matthew Waterhouse fel Adric, Sarah Sutton fel Nyssa, a Janet Feilding fel Tegan Jovanka. Cychwynnodd y gyfres gyda Castrovalva a chlodd gyda Time-Flight.

Trosolwg[]

Cynhwysodd y gyfres o saith stori dros dauddeg-chwech episôd ar amserlen o ddwy episôd yr wythnos; y tro gyntaf yn hanes y sioe. Yn Earthshock, digwyddodd dwy gamp enfawr: yn gyntaf, dychwelodd y Cybermen, yn syndodol, am y tro gyntaf ers Revenge of the Cybermen yn 1975 gyda dylunuiad hollol newydd, gan gynnwys ymddangosiad cyntaf David Banks fel y Cyber-Arweinydd, rôl byddai ef yn dychwelyd i yn storïau olynol nes Silver Nemesis; yn ail, am y tro cyntaf ers The Daleks' Master Plan yn 1965 ac 1966, bu farw gydymaith. Roedd campiau eraill yn cynnwys Black Orchid, y stori hanesyddol cyntaf heb unryw elfennau ffuglen gwyddonol ers The Highlanders yn 1966, a dinistriad sgriwdreifar sonig y Doctor yn The Visitation i beidio dychwelyd nes y ffilm deledu yn 1996. Clodd y gyfres gyda cliffhanger lle mae Tegan i'w gweld i gael ei hadael ym Maes Awyr Heathrow gan y Doctor ar ddamwain (treuliodd y Doctor y gyfres yn ceisio mynd â hi nôl i Heathrow).

Yn gwreiddiol, byddai gan y gyfres dauddeg-wyth episôd - dau yn fwy nag arferol. Serch hynny, defnyddiodd John Nathan-Turner arian dau o'r episodau er mwyn llogi A Girl's Best Friend, peilot K9 and Company a fethodd.

Gan ddechrau gyda'r gyfres yma, dychwelodd y BBC y gyfres i ddechreuad canol-gaeaf, a wnaeth ddigwydd yn olaf yn Hen Gyfres 12, ag oedd y fformat ar gyfer oes Jon Pertwee.

Storïau teledu[]

# Teitl Awdur Cyfarwyddwr Episodau Nodiadau
1 Castrovalva Christopher H. Bidmead Fiona Cumming 4 Y stori gyntaf i'w chyfarwyddo gan Fiona Cummming.
2 Four to Doomsday Terence Dudley John Black 4 Y stori gyntaf i'w hysgrifennu gan Terence Dudley.
3 Kinda Christopher Bailey Peter Grimwade 4 Ymddangosiad cyntaf y Mara.
4 The Visitation Eric Saward Peter Moffatt 4 Sgript cyntaf Doctor Who Eric Saward, a defnydd ar sgrîn olaf o'r sgriwdreifar sonig nes y ffilm deledu yn 1996.
5 Black Orchid Terence Dudley Ron Jones 2 Y stori "hanes pur" ers 1966, a gwaith cyfarwyddol cyntaf Ron Jones ar y sioe.
6 Earthshock Eric Saward Peter Grimwade 4 Ymddangosiad olaf Adric, a marwolaeth cyntaf cydymaith ers 1966.
7 Time-Flight Peter Grimwade Ron Jones 4 Ymadawiad dros-dro Tegan Jovanka. Y stori gyntaf i'w hysgrifennu gan Peter Grimwade.

Cast[]

  • Y Doctor - Peter Davison
  • Adric - Matthew Waterhouse
  • Nyssa - Sarah Sutton
  • Tegan Jovanka - Janet Fielding

Craidd[]

Storïau gosodwyd yn y gyfres hon[]

Nofelau[]

  • Ymglymiad y Pumed Doctor, Tegan, Nyssa, ac Adric yn Cold Fusion
  • Divided Loyalties

Storïau sydyn[]

  • The Comet's Tail
  • The Immortals
  • First Born
  • In the TARDIS: Christmas Day
  • Hearts of Stone

Sain[]

  • Psychodrome
  • Ymglumiad y Pumed Doctor, Tegan, Nyssa, ac Adric yn Cold Fusion
  • The Ingenious Gentleman Adric of Alzarius
  • Ymglymiad y Pumed Doctor yn Secrets of Telos, God of War ac The Auton Infinity
  • Smoke and Mirrors
  • The Darkening Eye
  • Iterations of I
  • The Star Men
  • The Contingency Club
  • Zaltys
  • Kingdom of Lies
  • Ghost Walk
  • Serpent in the Silver Mask
  • The Toy

Comics[]

  • On the Planet Isopterus

Cyfartaleddau gwylio[]

  • Cyfartaledd: 9.3 miliwn
  • Uchaf: 10.5 miliwn (Castrovalva - Rhan Pedwar)
  • Isaf: 8.3 miliwn (Time-Flight - Rhan Pedwar)

Addasiadau a marsiandïaeth[]

Cyfryngau cartref[]

Rhyddhad VHS[]

Rhyddhadau DVD & Blu-ray[]

Rhyddhawyd pob stori yn hen gyfres 19 yn unigol ar DVD rhwng 2003 a 2011. Trosglwyddwyd y gyfres gyfan i 1080i50 yn HD cyn cael ei ryddhau ar Blu-ray fel Doctor Who: The Collection - Season 19 yn y DU ar 10 Rhagfyr 2018. Rhyddhawyd y gyfres yn hwyrach yn Awstralia ar 23 Ionawr 2019 ac yn yr UDA fel Doctor Who: Peter Davison - Complete Season One ar 4 Rhagfyr 2018.

Rhyddhawyd fersiwn arferol o'r set bocs blu-ray yn y DU ar 31 Mai 2021.

Enw Stori Rhif a hyd
episodau
Dyddiad rhyddhau R2 Dyddiad rhyddhau R4 Dyddiad rhyddhau R1
Castrovalva
Ar gael yn rhan o'r set bocs New Beginnings yn unig yn Rhanbarth 2 a 4.
Ar gael un unigol neu yn y set bocs yn Rhanbarth 1.
4 x 25 mun. 29 Ionawr 2007 7 Mawrth 2007 5 Mehefin 2007
Four to Doomsday 4 x 25 mun. 15 Medi 2008 4 Rhagfyr 2008 6 Ionawr 2009
Kinda
Ar gael yn rhan o'r set bocs Mara Tales yn unig yn Rhanbarth 2 a 4.
Ar gael yn unigol yn unig yn Rhanbarth 1.
4 x 25 mun. 7 Mawrth 2011 7 Ebrill 2011 12 Ebrill 2011
The Visitation 4 x 25 mun. 19 Ionawr 2004 8 Ebrill 2004 1 Mawrth 2005
The Visitation - Special Edition 4 x 25 mun. 6 Mai 2013 15 Mai 2013 14 Mai 2013
Black Orchid 2 x mun. 14 Ebrill 2008 5 Mehefin 2008 5 Awst 2008
Earthshock 4 x 25 mun. 18 Awst 2003 1 Hydref 2003 7 Medi 2004
Time-Flight
ar gael yn rhan o'r set bocs Time-Flight/Arc of Infinity yn unig yn Rhanbarth 2 a 4.
Ar gael yn unigol yn unig yn Rhanbarth 1.
4 x mun. 6 Awst 2007 5 Medi 2007 6 Tachwedd 2007
The Collection - Season 19 26 x 25 mun. 10 Rhagfyr 2018 23 Ionawr 2019 4 Rhagfyr 2018

Argaeledd lawrlwytho/ffrydio[]

Enw stori Amazon Video Google Play iTunes
Castrovalva (4 episôd)
Four to Doomsday (4 episôd)
Kinda (4 episôd)
The Visitation (4 episôd)
Black Orchid (2 episôd)
Earthshock (4 episôd)
Time-Flight (4 episôd)

Nofelau[]

  • Castrovalva
  • Four to Doomsday
  • Kinda
  • The Visitation
  • Black Orchid
  • Earthshock
  • Time-Flight

Sainlyfrau[]

  • Kinda

Dolenni allanol[]