Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who

Jonathan Moran oedd prif swyddog y Drum, gorsaf gloddio danddŵr yn 2119 yn yr Alban. Tra'n arbed ei ffrind Cass, cafodd Moran ei losgi gan injannau roced a thrawsnewidwyd yn ysbryd gan Albar Prentis.

Wnaeth yr ysbryd aflonyddu ar y criw trwy'r nos, gan ddilyn nhw i gawell Faraday yr orsaf, a rhwystrodd mynediad yr ysbrydion. Crwydodd yr ysbrydion am dair noson gan arhos yn amyneddgar am adawiad y criw o'r cawell er mwyn casglu nwyddau, lle cafon nhw eu hymosod ar gan yr ysbrydion gyda chadeirau a chyllyll, ond roedd eu hymdrechion yn aflwyddiannus.

Pan gyrrhaeddodd y Deuddegfed Doctor a Clara Oswald, dilynodd Moran a Prentis nhw, gan ymosod arnyn nhw gydag arfau cyn encilio trwy wal. Pan gychwynodd "day mode" yr orsaf, diflannodd yr ysbrydion, gan adael y criw i symud trwy'r orsaf yn rhydd heb gael ymosodiad.

Pan gychwynodd "night mode" yn annisgwyl, boddwyd Richard Pritchard, aelod o'r criw, gan Moran a Prentis, a fe newidwyd yn ysbryd. Yna, aeth y tri ohonynt i ymosod ar Clara.

Yn hwyrach, trapiwyd yr ysbrydion yn y cawell Faraday gan y Doctor fel rhan o'i gynllyn. Ceisiodd Moran rhoi niwed i'r Doctor ond methodd. Siaradodd y Doctor gyda'r ysbrydion, ond wedyn gadawodd, gan alluogi nhw gweithio allan modd i orlifo'r orsaf. (TV: Under the Lake)

Pan gyrhaeddodd tafluniad holograffig o'r Doctor, fe agorodd y cawell Faraday i alluogi'r ysbrydion eraill i ddianc. Mi wnaeth ysbryd Moran dilyn Cass, tra'n llusgo bywell. Bron lladdwyd Cass gan yr ysbryd, ond fe llwyddodd Cass dianc.

Gyrrwyd yr ysbrydion nôl i'r cawell o achos rhu eu meistr, y Brenin Bysgotwr. Dywedodd y Doctor wrth Clara byddai UNIT yn torri'r cawell Faraday o'r orsaf cyn ei daflu i'r gofod. Yno, yn bell wrth y maes magnetig y Ddaear, byddai'r ysbrydion yn afradloni. (TV: Before the Flood)

Yn y Cefn[]

Defnyddiwyd ysbryd moran fel gelyn yn y gêm ffôn symudol Doctor Who: Legacy.

Advertisement