Kal | |
---|---|
300px Kal yn gweld y TARDIS | |
Aliasau | Bradwr |
Gwybodaeth Corfforol | |
Rhywogaeth | Dyn |
Taldra | 1.81 (m) |
Lliw Llygaid | Brown |
Lliw Gwallt | Du |
Gwybodaeth Cyffredinol | |
Planed Cartref | Y Ddaear |
Aelodaeth | Orb, Y Llwyth Gum |
Unig Ymddangosiad | An Unearthly Child |
Actor(ion) | Jeremy Young |
Kal oedd Dyn Ogof slei a oedd eisiau cipio statws Za fel pennaeth y llwyth trwy ddangos i bawb ei fod yn gallu creu tân.
Bywgraffiad
Darganfyddodd 'coeden' glas yn agos i'r gwersyll ac fe ddaeth o hyd i'r Doctor a oedd yn ysmygu trwy biben fach. Camddeallodd Kal fod yr hen ddyn yn creu tân o'i ddwylo, ond trwy rhwbio dwy eitem gyda'i gilydd. Cipiodd y dyn ac fe ddychwelodd yn ôl i'r llwyth.
Wrth gyrraedd nôl, fe wnaeth Kal ymladd gyda'r pennaeth Za dros credu ei stori dŵl. Yn y diwedd few wnaeth y Doctor codi i fyny a stopio'r gwrthgyferbyniad bach trwy gaddo ei fod am greu tân. Collodd Kal y frwydr bach.
Yn y nos, dilynodd Za, a oedd wedi codi i helpu i'r ymwelwyr dianc o'r gwersyll. Ar ben ei hun, fe symudodd y carreg fawr a oedd yn rhwystro carcharorion rhag ddianc, ond wrth gerdded i fewn mir roedd yr ymwelwyr wedi dianc, a'r Hen Fam ar y llawr.
Yn deall beth oedd wedi digwydd yn iawn, fe laddodd yr hen fenyw a rhoddodd y fai ar Za a'i wraig.
Pan ddychwelodd Y Doctor a'r gweddill yn ôl, fe brofodd fod nid cyllell Za a wnaeth llad yr hen fenyw ond defnydd Kal oherwydd, mi roedd gwaed arno. Cafodd Kal ei gorfodi allan o'r llwyth gan y bobl.
Dychwelodd yn hwyrach i ladd Za am troi'r holl llwyth yn ei erbyn. Ond, ar ôl brwydr go ddifrifol, gafodd ei ladd gan garreg i'w ben. (DW: An Unearthly Child)