Karn oedd planed diffaith yng Nghalaeth y Droellen Mutter a oedd, ar un tro, yn blaned wladfa i Gallifrey. Yn diweddarach, roedd y blaned yn gartref i Chwaeroliaeth Karn a lle ffoi yr Arglwydd Amser troseddol, Morbius.
Honnodd y Chweched Doctor bod Gallifrey "ond i'r chwith" o Karn. (SAIN: Vortex Ice)
Nodweddion[]
Er unwaith roedd Karn yn ymerodraeth addawol, cafodd ei ddinistrio gan ryfel cartref a difodiant Meistrau Karn (SAIN: Seven Keys to Doomsday) mewn rhyfel alaethol. (PRÔS: Save Yourself) Wedi'u hailadeiladu mewn rhan gan wladychiad yr Arglwyddi Amser, fe'u dinistriwyd eto yn dilyn trechiad Morbius. Tir diffeithiol, creigiog, gydag adfeilion ar ddraws arwyneb y blaned, roedd y blaned wedi'u taenellu gyda niferoedd o longau ofod drylliedig, o ganlyniad i'u phwerau telekinegig tra ceision nhw gwarchod yr Elicsir Bywyd. (TV: The Brain of Morbius)
Datgelodd y Doctor cafodd ei eni rhyw biliwn milltir wrth Karn, sydd yn awgrymu bod Karn yn agos at Gallifrey. (TV: The Brain of Morbius)
Wrth geisiodd yr Unarddegfed Doctor meddwl am y lle gwlypaf, mwyaf glawog a stormus, erioed fe ymwelodd, er mwyn ei chymharu â stormydd y Cybermen yn Klimtenburg, Karn oedd y lle cyntaf meddyliodd am. Yn y pendraw, fe ddewisodd taw Margate oedd ateb gwell. (PRÔS: Plague of the Cybermen)
Hanes[]
Tarddiad[]
Yn ôl rhai adroddiadau, roedd Karn yn gwreiddiol yn hen wladfa ymerodraeth Gallifrey cyn amser Rassilon. Mae awgrymiad am fodolaeth Chwaeroliaeth Karn hyd yn oed amser hwnnw, fel gweddillion Pythias, cyn-rheolwyr Gallifrey a gafodd eu hallyrru gan Rassilon, Omega a'r Llall. (PRÔS: Cat's Cradle: Time's Crucible)
Yn y cefn[]
Tarddiad[]
Mae Karn yn dod o drama theatr, Doctor Who and the Daleks in Seven Keys to Doomsday, wedi'u hysgrifennu gan Terrance Dicks. Ailddefnyddiodd Dicks yr enw o fewn sgript The Brain of Morbius. Defnyddiodd y drama Pedwerydd Doctor eiledol.
Dydy'r Wici hwn ddim yn ystyried y drama theatr fel canon, felly The Brain of Morbius yw ymddangosiad cyntaf Karn.