Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Last Christmas oedd episôd Nadolig 2014 Doctor Who. Roedd yr episôd yn ddegfed episôd Nadolig y sioe ers ailgychwyniad y sioe, a'r cyntaf o bedwar i gynnwys Peter Capaldi fel y Deuddegfed Doctor.

Cynhwysodd yr episôd Nick Frost fel fersiwn breuddwyd o Siôn Corn, wedi'i weld yn olaf ar ddiwedd Death in Heaven fel rhagarweiniad i'r stori yma.

Deliodd y stori â wella'r berthynas rhwng Clara a'r Doctor ar ôl i'r ddau wahanu gan feddwl bod gan y llall fywyd well yn aros amdanynt yn lle parhau eu teithiau. Gwelodd y stori dychweliad Danny Pink, cariad Clara a cyn-athro mathemateg Ysgol Coal Hill, er mewn breuddwydiad Clara'n unig. Deliodd yr episôd hefyd gyda Clara yn symud ymlaen o'i galar.

O ran cast y stori, roedd yr episôd yn nodedig am ymddangosiad cyntaf ar-sgrîn Doctor Who Michael Troughton, mab actor yr Ail Ddoctor Patrick Troughton a brawd David Troughton, a oedd hefyd wedi ymddangos yn flaenorol ar y gyfres. Ymddangosod hefyd Dan Starkey, a wnaeth chwarae Strax yn flaenorol mewn sawl stori, mewn rôl gwahanol o Ian yr Elff.

Crynodeb[]

Mae Clara Oswald ar fin cael Noswyl Nadolig nid yw hi erioed yn mynd i anghofio. Wedi'i hailymuno gyda'r Deuddegfed Doctor, mae'n mynd i wynebu beth allai fod ei Nadolig olaf.

Mae rhywbeth erchyll yn aros mewn gorsaf ar Begwn y Gogledd, ac mae'n gwaeth nac unrhywbeth mae'r Doctor wedi profiadu o'r blaen. Pwy gall helpu? Siôn Corn wrth gwrs!

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r Doctor yn esbonio Prawf Helman-Ziegler.

Bwydydd a diodydd[]

  • Mae Santa yn amlwg wedi ei gythruddo wrth i'w elffau, ac yn hwyrach y Doctor, dweud nid yw neb yn hoffi tangerines.

Diwylliant o'r byd go iawn[]

  • Mae Shona yn dawnsio i'r gân "Merry Xmas Everybody" gan Slade er mwyn osgoi meddwl am y crancod breuddwyd wrth yng nghlafdy gorsaf Pegwn y Gogledd.
  • Mae Siôn Corn yn defnyddio RoboSapien.
  • Mae Proffesor Albert yn cymharu'r crancod breuddwyd i fersiwn Facehugger y rhywogaeth wrth y ffilm arswyd 1979 Alien; nid yw'r Doctor wedi clywed am Facehuggers na'r ffilm, yn fieiddio'r ffaith bod y ffilm yn bodoli.
  • Mae'r Doctor yn rhybuddio Clara yn erbyn bod yn rhy cyfeillgar i'r pobl yn yr orsaf gan nid "Facebook yw hon".
  • Pan mae'r Doctor yn gadael Siôn Corn ar y to, mae'n ddweud yn gellweirus wrtho "Pasg hapus".
  • Pan mae Ashley yn gofyn pwy yw Siôn Corn, mae'r Doctor yn rhoi'r "tylwyth teg danedd" a "chwningen y Pasg fel atebion posib, cyn dweud bod yr ateb yn amlwg.
  • Wrth geisio brofi i Shona mai person gwirioneddol yw ef, mae Siôn Corn yn crybwyll My Little Pony.
  • Ar amserlen Dydd Nadolig Shona, mae'r ffilmiau Alien, The Thing from Another World, a Miracle on 34th Street yn cael eu henwi, ynghyd â "Thrones". Yn amlwg, mae'r tri ffilm cyntaf wedi dylanwadu ar y freuddwyd rhanedig (y Facehuggers, grŵp o wyddonwyr yn sownd mewn gorsaf Arctig gyda creuadur angheuol, a dyn sydd yn creu mai Siôn Corn yw ef, yn eu tro).

Pobl[]

  • Mae'n bosib bod Shona yn maddau person o'r enw Dave.

Nodiadau[]

  • Gwelodd y stori newidiad un-tro i teitlau agoriadol Doctor Who. Mae gwynebau'r clociau wedi rhewi, ac mae'r TARDIS llawn eira. Mae enwau'r actorion yn diflannu i bluod eira, ac mae pluod eira yn hedfan trwy'r fortecs amser.
  • Dyma'r trydydd Episôd Nadolig olynol i gynnwys Dan Starkey, gydag ef yn ymddangos fel y Sontaran Strax yn The Snowmen yn 2012, ac wedyn fel Cadlywydd Skarr a'i israddiwr di-enw yn The Time of the Doctor yn 2013. Yn y stori yma, mae'n ymddangos fel elff o'r enw Ian.
  • Dyma hefyd trydydd Episôd Nadolig Jenna Coleman. Yn flaenorol, ymddangosodd hi fel fersiwn o Clara Oswald yn The Snowmen, cyn ymddangosd fel y Clara gwreiddiol yn The Time of the Doctor a Last Christmas. Clara yw'r cydymaith cyntaf i ymddangos mewn tri Episôd Nadolig olynol; yn hwyrach, trwy ymddangos yn Resolution, Revolution of the Daleks, ac Eve of the Daleks, byddai Yasmin Khan, wedi'i chwarae gan Mandip Gill, yn ymuno Clara fel yr unig cydymaith arall i ymddangos mewn tair episôd arbennig y gaeaf olynol.
  • Yn hwyrach cadarnhaodd Steven Moffat, Jenna Coleman a Peter Capaldi yn gwreiddiol roedd Coleman yn mynd i adael y gyfres gyda'r stori yma, ond gydag annogaeth munud olaf wrth Moffat a Capaldi, dewisodd hi aros am un cyfres pellach. Roedd y dewisiad yma yn eithaf pell yn y proses cynhyrchu, yn gorfodi newidiad awr-olaf i'r sgript. Yn gwreiddiol roedd bwriad i gael Shona fel y cydymaith nesaf.
  • Er mwyn cadw ymddangosiad Danny Pink yn cyfrinach, ni derbyniodd Samuel Anderson credyd yn Radio Times nac ar wefan y BBC.
  • Bron rhodd Steven Moffatt K9 Marc IV yn y stori, ond fe ddewisodd i beidio.
  • Mae digwyddiadau'r episôd yma yn awgrymu bod yr olygfa canol credydau yn Death in Heaven yn cymryd lle ar ôl cafodd y Doctor ei ddal gan ei granc breuddwyd; ond, mae'r olygfa olaf yn achosi ansicrwydd am y ddatgeliad yma trwy awgrymu bod Siôn Corn yn person go iawn.

Cyfartaleddau gwylio[]

Cysylltiadau[]

  • Dyma'r ail tro i'r Doctor cael antur cyfan mewn breuddwyd yn unig. (TV: Amy's Choice)
  • Mae Shona a Siôn Corn yn cymharu'r Doctor i ddewin o achos ei edrychiad. Nododd ef y ffaith yma am ei hun yn flaenorol, (TV: Time Heist) fel wnaeth Clara. (TV: The Caretaker)
  • Mae'r Doctor a Clara yn cyfaddeb wnaeth y ddau dweud celwydd wrth ei gilydd yn ystod eu cyfarfyddiad olaf i atal y llall rhag poeni; mae Clara'n datgelu ar ddamwain bod Danny Pink dal wedi marw, rhywbeth cuddiodd hi wrth y Doctor, a mae'r Doctor yn cyfaddef na ffeiniodd ef Galiffrei. (TV: Death in Heaven)
  • Yn ystod y freuddwyd mae'r Doctor yn helpu Clara henol i tynnu cracer. Yn flaenorol, wnaeth Clara'r un peth ar gyfer yr Unarddegfed Doctor henol. (TV: The Time of the Doctor)
  • Pan mae'r Doctor yn dychwelyd i'r orsaf, mae'n gorchymyn pawb arall i beidio ei saliwtio. Roedd ef yn erbyn saliwtio yn flaenorol. (TV: Death in Heaven)
  • Mae'r Doctor yn cael Clara i ganolbwyntio ar ddatrys hafaliadau er mwyn tynnu ei sylw wrth y crancod breuddwyd, rhywbeth mae'n gwneud yn diweddarach tra'n ceisio osgoi cranc yn y labordy. Defnyddiodd y Trydydd Doctor yr un dechneg ar Jp Grant i gael hi i anwybyddu Axos. (TV: The Claws of Axos)
  • Mae Siôn Corn yn cellweirio'r Doctor trwy honni byddai ef yn esbonio sefyllfaoedd cymhleth trwy ddrweud mae'n "dreamy-weamy". Yn flaenorol defnyddiodd y Doctor esboniadau fel "timey-wimey", (TV: Blink) "spacey-wacey" (TV: The Doctor's Wife) ac "humany-wumany". (TV: The Doctor, the Widow and the Wardrobe)
  • Pan mae'r Doctor yn gofyn i Siôn Corn sut oes modd iddo ffitio'r holl anrhegion yn ei sach, mae Siôn Corn yn rhoi'r esboniad o "mwy o faint ar y tu mewn", yn cythruddo'r Doctor. (TV: An Unearthly Child)
  • Mae Clara yn rhoi cwtch i'r Doctor, yn ei wneud yn anghyfforddus. Dywedodd y Doctor wrthi'n flaenorol nad oed ef yn hoff o gwtchio. (TV: Deep Breath, Listen, Death in Heaven)
  • Pan mae Rwdolff yn ymddwyn yn ddrwg, mae Siôn Corn yn defnyddio alwedd car i'w "barcio", sydd yn ei dawelu ac yn troi ei drwyn i ffwrdd. Yn flaenorol defnyddiodd y Degfed Doctor allwedd y TARDIS i gloi'r TARDIS fel car. (TV: The End of Time) Clodd Madame Vastra ei cherbyd mewn modd tebyd gan ddefnyddio teclyn yn ei het. (TV: Deep Breath)
  • Yn ystod ei breuddwyd olaf, mae Clara henol yn dweud wrth y Doctor bod hi wedi dysgu sut i hedfan awyren ers cwrdd ag ef diwethaf. Yn ystod eu cyfarfyddiad cyntaf, gofynodd yr Unarddegfed Doctor iddi os oedd modd iddi hedfan awyren, ac ymatebodd Clara nad oedd modd iddi. (TV: The Bells of Saint John)
  • Mae'r Doctor yn hawlio bod modd i'r pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y crancod breuddwyd dod wrth amseroedd a lleoliadau gwahanol, gan fod teithio amser yn posib mewn breuddwydiau. Dywedodd Madame Vastra yr un peth wrth Clara pan yn esbonio'r glawad cyfarfod seicig. (TV: The Name of the Doctor)
  • Yn flaenorol, cwrddodd y Doctor Cyntaf â Siôn Corn,(COMIG: A Christmas Story) ond mae awgrym yn hwyrach roedd yr cyfarfyddiad yn ei ben yn unig. (COMIG: The Land of Happy Endings) Cafodd ei atal hefyd wrth dorri ffabrig amser a'r gofod ar ddamwain gan yr Ail Ddoctor. (PRÔS: The Man Who (Nearly) Killed Christmas) Dangosodd yr Unarddegfed Doctor lun ohono'i hun, Albert Einstein, a Siôn Corn i blentyn yn Sardicktown gan honni taw gwir enw Siôn Corn oedd "Jeff". (TV: A Christmas Carol)
  • Cyfeiriodd Toshiko Sato at y ffilm Alien o'r blaen, (TV: Greeks Bearing Gifts) yn union fel wnaeth Izzy Sinclair, (COMIG: Fire and Brimstone) a Jason Kane. (SAIN: Birthright)
    • Er i'r Doctor hawlio mae erioed wedi clywed am fodolaeth y ffilmiau Alien, yn flaenorol awgrymodd y Degfed Doctor y ffilmiau i Cassy a Jimmy. (TV: Dreamland)
    • Er yr achosion uchod, mae sawl fynhonell hefyd yn dangos y Xenomorph fel rhywogaeth real ym mydysawd y Doctor. (TV: Mindwarp, Dalek, ayyb)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

  • Rhyddhawyd yr episôd ar DVD yn y DU ar 26 Ionawr 2015.
  • Yn hwyrach rhyddhawyd y stori yn rhan o Doctor Who: The Complete Ninth Series.

Troednodau[]

  1. [1]
  2. DWM 483
  3. TCH 80