Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Legend of the Sea Devils oedd Episôd y Pasg 2022 Doctor Who; yr ail yn hanes Doctor Who yn dilyn Planet of the Dead yn 2009.

Ailgyflwynodd y stori yma Gythreuliaid y Môr, wedi gweld yn olaf ar deledu yn stori 1984, Warriors of the Deep, i gyfnod BBC Cymru y rhaglen. Yn wahanol i ailddyluniad cefndred Cythreuliaid y Môr, y Silwriaid, yn The Hungry Earth, arosodd dyluniad y rhywogaeth yn gyson gyda'u dyluniad gwreiddiol, gyda CGI yn hawlio mwy o fynegiant.

Parhaodd y stori hefyd plot diddordeb rhamantus Yasmin Khan yn y Trydydd ar Ddegfed Doctor, gyda'r ddwy o'r diwedd yn trafod eu teimladau yn agored, gyda'r Doctor yn cyfaddef bod ganddi diddordeb nôl yn Yaz; ond maent yn dewis peidio dechrau perthynas gan mae'r Doctor yn byw o dan fygythiad ei hamser yn rhedeg allan.

Crynodeb[]

Pan mae'r môr-leidr chwedlonol Zheng Yi Sao - neu "Madam Ching" - yn dihuno Cythraul y Môr eithafol, mae TARDIS y Doctor yn cael ei tynnu i Tsieina ac mae rhaid i Tîm TARDIS gweithio gyda Brenhines y môr-leidron i achub y Ddaear rhag llifogydd byd-eang. Ond, yng nghanol yr antur, fe ddaw yn amlwg bod hyd yn oed mwy o bethau personol wedi risgio - gan gynnwys am y Trydydd ar Ddegfed Doctor a Yasmin Khan - nac ond hen drysor...

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Styntiau:[2]
    • Anna Benton
    • Donovan Lewis
    • Isky Fay
    • James Pavey
    • Louis Samms
    • Robert Pavey
    • Tom Hatt
    • Varpu Kronholm

Cyfeiriadau[]

Unigolion[]

  • Mae gan Yasmin Khan dalent am frwydro cleddyf.

TARDIS[]

  • Tra dan y ddŵr, mae'r Doctor yn atgyfnerthu'r yswigen oscigen gyda dwrddarian.

Hanes[]

  • Mae Madam Ching yn hela trysor coll Ji-Hun, sef y Maen Clo. Rhodd Ji-Hun y maen clo i Lei Bao, gyda'i deulu yn ei basio lawr trwy'r cenhedloedd.
    • Y Maen Clo yw crisial pliwtonig creodd y Sea Devils.

Technoleg[]

  • Mae gan Dan app ar ei ffôn ar gyfer adnabod cytserau'r nôs.
  • Mae gan Gythreuliaid y Môr ddaearmagnograff ar gyfer mesur llif y cerrynt o dan y dŵr, a chymedrolwr cerrynt ar gyfer rheoli'r llif.
  • Mae Cythreuliaid y Môr yn defnyddio diosgi orbital electron i gadw eu cwat yn aerdynn, a gwymon i gymedroli'r Meicro-hinsawdd.
  • Mae Cythreuliaid y Môr yn defnyddio cutlass gyda gwenwyn hesco-tocsig i frwydro.
  • Mae'r Doctor, Yaz, Zheng Yi Sao, a Sin Ji-Hun yn defnyddio dao - cleddfau Tsieiniaidd ochr sengl.

Diwylliant o'r byd go iawn[]

  • Mae'r Doctor yn nodi nad yw ffilmiau Stephen King, fel hanes, "erioed yn debyg i'r llyfrau".
  • Mae'r Doctor yn dweud "No ship, Sherlock" mewn cellwair pan nad yw Yaz yn sylwi ar ddiffyg Llong Ji-Hun ar waelod y môr.
  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at Pimp My Ride, gan ddweud roedd Cythreuliaid y Môr wedi "pimped Ji-Hun's ride", cyn i Yaz ei hatgoffa mai anacroniaeth oedd cyfeirio at y sioe yn 1807.

Eraill[]

  • Mae Zheng Yi Sao yn gweld Polaris ac Ursa Minor yn y nen cyn i'r cytser cael eu hymyrru gan weithredau Cythreuliaid y Môr.

Nodiadau[]

  • Dyma ail Episôd y Pasg yn hanes Doctor Who, yn dilyn Planet of the Dead yn 2009.
  • Ar amser darlledu Legend of the Sea Devils oedd yr episôd arbennig byrraf Doctor Who, gyda hyd o 48 munud; hyd arferol episôd rheolaidd.
  • Dyma'r tro cyntaf yng nghyfnod Chris Chibnall derbynodd Chris Chibnall credyd cynhyrchydd gweithredol uwchben credyd Matt Strevens. Hyd yn hyn, roedd credyd Matt Stevens yn gyson uwchben credyd Chris Chibnall.
  • Dyma'r episôd gyntaf ers Revolution of the Daleks i gynnwys hen logo'r BBC yn y dilyniant agoriadol. Cyfnewidwyd y logo i'r un newydd ar y rhyddhadau DVD a Blu-ray.
  • Roedd setiau yr episôd yma yn enfawr, gan gynnwys llong môr-ladron maint llawn. Hawliodd cynhyrchydd gweithredol Matt Strevens mae'n "debygol" mai rhein oedd y setiau mwyaf a oedd erioed wedi'u creu am y sioe, gyda Mandip Gill yn dweud taw rhein oedd y setiau mwyaf roedd hi erioed wedi gweithio ar.
  • Dyma episôd gyntaf cyfnod Chris Chibnall i ddarlledu'r trelar "Amser Nesaf" cyn y credydau cau. Dyma hefyd yr achos cyntaf o gyfnod Chibnall yn peidio chwarae thema Doctor Who dros y trelar; yn lle mae cyfeiliad arbennig o thema'r Trydydd ar Ddegfed Doctor gan Segun Akinola yn chwarae yn lle.
  • Credydwyd John Friedlander am ddylunio Cythreuliaid y Môr yn y stori The Sea Devils a Warriors of the Deep.
  • Gydag cyfartaledd gwylio dros nos o ond 2.2 miliwn, dyma'r stori deledu gyda'r nifer lleiaf o wylwyr dros nos ers Battlefield yn 1989.
  • Cuddiodd Steven Ricks (y dilladydd a greodd cot Marsissus) dychweliad Cythreuliaid y Môr trwy ddefnyddio ffug enw amdanynt; fe gyfeiriodd atnyt fel Green Gilberts, gan gyfeirio at linell yn The Sea Devils.
  • Dyma'r episôd olaf i ddarlledu ym mywyd Brenhines Elizabeth II. Gyda theyrnasiad yn estyn ers cyn crëad Doctor Who, er mai ond straeon oedd rhain, heb eu cadarnhau gan unryw fynhonell swyddogol.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 2.2 miliwn[3]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 3.47 miliwn[4]

Cysylltiadau[]

  • Mae tîm TARDIS yn chwilio am y Flor de la Mar, yn union fel cynlluniodd y Doctor gwneud yn dilyn dianc wrth y Daleks Dienyddol. Mae Yaz yn atgoffa'r Doctor mae hi yn cadw addo mind i draeth. (TV: Eve of the Daleks)
  • Mae Yaz yn cofio bwriad y Doctor i fynd â'r TARDIS i draethau ymwybodol San Munrohvar. (TV: Eve of the Daleks)
  • Mae'r Doctor yn dweud wrth Yaz bod hi wedi cwrdd â Chythreuliaid y Môr unwaith neu ddwywaith o'r blaen. (TV: The Sea Devils, Warriors of the Deep) Ond, mae adroddiad arall yn dynodi bod Yaz wedi cwrdd â nhw unwaith o'r blaen. (COMIG: Alternating Current)
  • Mae Dan yn honni ei fodd yn 42 mlwydd oed. Ond, mae'n debyg ei fod yn gollwng y pedair mlynnedd treuliodd yn yr 1900au gyda Yaz a Eustacius Jericho. (TV: Survivors of the Flux, Eve of the Daleks)
  • Mae modd i'r TARDIS cynnal bod o dan y dŵr gyda'r drysau ar agor heb llifogu. (TV: Listen) gan ddefnyddio swigen ocsigen. (TV: The Runaway Bride, The Beast Below, Oxygen)
  • Mae'r Doctor yn mynd yn grac at Ji-Hun am ladd gelyn ar ôl iddynt cael eu delio gyda mewn modd heb farwolaeth, yn union fel wnaeth hi at Karl Wright a Cadfridog Logan. (TV: The Woman Who Fell to Earth, War of the Sontarans)
  • Mae Dan yn honni dysgodd ei mam iddo sut i ddelio gyda'i elynion, ac yn wir, mae hi'n fwy anhrugarog nac ef. (TV: War of the Sontarans)
  • Mae Yaz a Dan yn sôn am eu trafodaeth cynharach ynglyn â theimladau rhamantus Yaz tuag at y Doctor, gyda Yaz yn tybio'n gywir dywedodd Dan wrth y Doctor am ei theimladau. (TV: Eve of the Daleks)
  • Mae Diane yn ceisio cysylltu â Dan, gyda Dan yn cofio "nad oedden nhw yn yr un lle" â lle oedden nhw pan siaradon nhw olaf. (TV: The Vanquishers)
  • Mae'r Doctor yn ymwybodol bod ei hamser yn rhedeg allan. (TV: The Vanquishers)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]

Rhyddhawyd y stori yma ynghyd y stori flaenorol, Eve of the Daleks, ar DVD a Blu-ray ar 23 Mai 2022 (DU) ac ar 28 Mehefin 2022.

Rhyddhadau digidol[]

Mae'r episôd ar gael i ffrydio ar BBC iPlayer.

Troednodau[]