Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Marco Polo (Cy: Marco Polo) oedd pedweredd stori Hen Gyfres 1 Doctor Who.

Hon oedd y tro cyntaf i ffigwr enwog hanesddol ymddangos yn y gyfres. Hefyd, roedd y TARDIS, am unwaith, yn hanfodol i'r plot yn lle bod yn rhywbeth dylai'r teihwyr dychwelyd i yn dilyn eu hantur.

O'i gymharu â storïau eraill Doctor Who, darluniodd Marco Polo cymunedau hanesyddol yn gwell trwy gael grŵp gydag amryw o ethnigrwydd yn lle un casgliad ystrydebol o hil. Mae cyfeiriad hefyd at narcotics y byd go iawn wrth i Ping-Cho adrodd stori sydd yn cynnwys hashish. Nid yw ynryw cyfeiriad arall yn y sioe nes The Talons of Weng-Chiang.

Yn rhyfedd am stori wrth hen gyfnod y sioe, mae adroddawd gan y stori. Mae Mark Eden yn darllen wrth i fap dangos siwrne'r teithwyr. Hyd 2022, mae ond llond llaw o storïau teledu wedi cynnwys adroddawd i gysylltu golygfeydd. Mae enghreifftiau nodedig yn cynnwys Rassilon yn The End of Time yn 2010, Clara Oswald yn The Name of the Doctor a Tasha Lem yn The Time of the Doctor yn 2013.

Mae Marco Polo yn enwedig yn nodedig am fod y stori cynharaf ac hiraf sydd ar goll yn gyfan. Yr episôd cyntaf, "The Roof of the World", yw'r episôd hynaf i fod ar goll, ac hyd 2022, does dim episôd ar gael yn archif y BBC o gwbl.

Crynodeb[]

Gan gyrraedd Canolbarth Asia yn 1289, mae'r Doctor a'i gymdeithion yn ymuno carafan y fforiwr Fenisaidd enwog, Marco Polo, wrth iddynt croesi'r Llwyfandir Pamir, dros y Gobi, a thrwy galon Cathay.

Wedi gweld sawl peth anhygoel a goroesi amryw o beryglon, maent yn cyrraedd Palas Hâf enfawr Kublai Khan yn Shang-tu, lle mae'r Doctor yn gwneud ffrindiau gyda'r rheolwr hŷn.

Yna, maent yn symus i'r Palas Ymerodrol ym Mheking, lle mae'r teithwyr yn achub Khan rhag cais llofruddiaeth gan y rhyfelwr Mongol, Tegana cyn gadael yn y TARDIS unwaith eto.

Plot[]

The Roof of the World (1)[]

I'w hychwanegu.

The Singing Sands (2)[]

I'w hychwanegu.

Five Hundred Eyes (3)[]

I'w hychwanegu.

The Wall of Lies (4)[]

I'w hychwanegu.

Rider from Shang-Tu (5)[]

I'w hychwanegu.

Mighty Kublai Khan (6)[]

I'w hychwanegu.

Assassin at Peking (7)[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Dr. Who - William Hartnell
  • Ian Chesterton - William Russell
  • Barbara Wright - Jacqueline Hill
  • Susan Foreman - Carole Ann Ford
  • Marco Polo - Mark Eden
  • Tegana - Derren Nesbitt
  • Ping-Cho - Zienia Merton
  • Dyn yn Lop - Leslie Bates
  • Chenchu - Jimmy Gardner
  • Malik - Charles Wade
  • Acomat - Philip Voss
  • Bandit MongolMichael Guest
  • Ling-Tau - Paul Carson
  • Wang-Lo - Gabor Baraker
  • Kuiju - Tutte Lemkow
  • Vizier - Peter Lawrence
  • Kublai Khan - Martin Miller
  • Fforman y Swyddfa - Basil Tang
  • Ymerodres - Claire Davenport
  • Yeng - O. Ikeda

Cast di-glod[]

  • Milwyr Mongol:[1]
    • John Lee
    • Roy Vincente
    • Ronald Chee
    • Carlton Ngui
    • Clem Choy
    • Bill Brandon
    • Arnold Lee
  • Cynorthwyydd Ping-Cho:[1]
    • Zohra Segal
  • Dwbl am law Marco Polo:[1]
    • John Woodcock
  • Dynes Tsieiniaidd:[1]
    • Violet Leon
  • Cynorthwyyd y dynes Tsieiniaidd:[1]
    • Suk Hee S'Hng
  • Prentrefwyr Tun-Huang:[1]
    • Clem Choy
    • Irene Ho
    • Peggy Sirr
  • Porthorion y Carfan Mongol:[1]
    • Eton Fing-On
    • Aman Tokyo
  • Bandits Mongol:[1]
  • Cludwyr y carafan:[1]
    • Henry Loy
    • Muang Hlashwe
    • LL Lim
    • Boon Wan Lee
  • Gwas yn Way Inn:[1]
    • Ying Win
  • Sentri:[1]
    • Valentino Mussetti
  • Bantits Mongol yn y goedwig:[1]
    • Leslie Bates
    • Philip Lee
    • David Brewster
    • Valentino Musetti
    • Gordon Bremworth
    • Stanley Chen
  • Cynorthwywyr yn nhafarn Wang-Lo:[1]
    • Clem Choy
    • LL Lim
    • Aman Tokyo
  • Masnachwyr teithiol:[1]
    • Gordon Bremworth
    • Stanley Chen
  • Boneddiges:[1]
    • Kay Fong
  • Rhyfelwr y carafan:[1]
    • DAvid Anderson
  • Cynorthwyyd yn yr ail dafarn:[1]
    • O. Ikeda
  • Cludwyr sbwriel:[1]
    • John Lee, Clem Choy
  • Boneddigwyr teithiol:[1]
    • Robert Chow
    • Lloyd Lam
  • Boneddigesau teithiol:[1]
    • Peggy Sirr
    • Violet Leon
  • Boneddigwyr y cwrt:[1]
    • Aman Tokyo
    • O. Ikeda
    • Ying Wiu
    • Muang Hlashwe
    • Robert Chow
    • Lloyd Lam
  • Gwarchodwyr y Palas:[1]
    • John Lee
    • Clem Choy
    • Phillip Lee
    • Santos Wong
    • Ronald Chee
    • Gordon Bremworth
    • Carlton Ngui
  • Menywod y cwrt:[1]
    • Peggy Sirr
    • Violet Leon
    • Kay Fong
    • Iris Loy
    • Suk Kee S'Hng
  • Dynion y cwrt:[1]
    • Roy Vincente
    • Henry Loy
    • WA Scully
    • Eton F'Ong
    • Basil Tang
  • Cludydd bloerflwch Kublai Khan:[1]
    • Henry Dillon
  • Milwyr:[1]
    • Clem Choy
    • David Anderson
  • Cynorthwywyr yr Ymerodres:[1]
    • Doreen Tang
    • Suchin

Criw[]

  • Awdur - John Lucarotti
  • Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer
  • Cerddoriaeth Achlysurol - Tristam Carry
  • Gwisgoedd - Daphne Dare
  • Colur - Ann Ferriggi
  • Golygydd Sgript - David Whittaker
  • Dylunydd - Barry Newbery
  • Cynhyrchydd cyswllt - Mervyn Pinfield
  • Cynhyrchydd - Verity Lambert
  • Cyfarwyddwr - Warris Hussein, John Crockett ("The Wall of Lies" yn unig)

Cyfeiriadau[]

Gemau[]

  • Mae Ian a Marco Polo yn chwarae gwyddbwyll.

Unigolion[]

  • Mae gan Barbara diddordeb mewn hanes Bwdhaeth.
  • Mae modd i Ian gwneud marchogaeth, ac mae hefyd yn gallu brwydro gyda chleddyf.
  • Mae angen ffon ar y Doctor,, gyda fe yn derbyn un wrth Kublai Khan
  • Mae Ian yn gwisgo Cot Ulster derbyniodd y Doctor wrth Gilbert and Sullivan.

TARDIS[]

  • Mae'r Doctor yn creu Allwedd y TARDIS newydd.

Lleoliadau[]

  • Mae Susan wedi teithio i foroedd metel Gwener.

Nodiadau[]

  • Teitl gweithredol y stori oedd A Journey to Cathay.[2]
  • Does dim un o saith episôd y stori hon ar gael yn archif y BBC.
  • Hon yw'r stori cynharaf i fod ar goll o archif y BBC.
  • Hon yw'r unig stori anghyflawn i gael dau gyfarwyddwr.
  • Wrth ysgrifennu'r sgript, defnyddiodd John Lucarotti cofiant Polo a gafodd ei gyhoeddi yn yr 13fed ganrif o dan yr enw The Description of the World. Roedd taith y stori deledu wedi'i hysbrydoli gan daith gyntaf Polo i Beking, taith ag orffennodd yn 1275. Mae ei hebryngwr, Ping-Cho, wedi'i seilio ar ddigwyddiad go iawn o 1292 lle tywysodd Polo'r tywysoges ifanc Kokachin i Bersia er mwyn iddi phriodi un o nai Kublai Khan, cyn dysgu ei fod wedi marw. Enwyd Tegana, Acromat a Noghai ar ôl rheolwyr Tartar wnaeth cofiant Polo sôn am.
  • Hon oedd yr ail stori Doctor Who i gael ei gomisiynnu, heb gyfri hen storïau a gafodd eu gollwng.
  • Hon yw'r unig stori i gynnwys adroddwr yn adrodd siwrne'r prif cymeriadau dros map.
  • Mae sawl llun du a gwyn o'r stori hon yn bodoli. Ynghyd â'r trac sain, defnyddiodd Loose Cannon Productions rhain er mwyn creu adluniad lliw llawn o'r stori hon.
  • Cynhyrchwyd y trydydd episôd o dan y teitl "The Cave of Five Hundred Eyes", ac o ganlyniad mae'r teitl yn ymddangos hefyd ar ddiwedd yr episôd blaenorol, "The Singing Sands".
  • Hon yw un o dair o storïau Doctor Who yr 1960au heb glipiau o'r cynhyrchiad na'r cymeriadau yn eu gwisgoedd. Er i bron pob un o'r storïau coll cael o leiaf un clip 16mm o delerecordiad du a gwyn, neu rhai fframiau wrth fideo cartref 8mm, ni dyw dim yn bodoli am y stori hon, Mission to the Unknown, na The Massacre
    • Serch hynny, Marco Polo yw'r un o'r storïau gwellaf o ran dogfennaeth ffotograffiaeth, gyda niferoedd o luniau ar gyfer pob episôd a set llawn o deledsnaps yn bodoli o "The Roof of the World" nes "Five Hundred Eyes" ac o "Rider from Shang-Tu" nes "Assassin at Peking. Er, nid yw telesnaps yn bodoli am "The Wall of Lies".
  • Yn eironig, gwerthwyd y stori hon i fwy o wledydd nag unrhyw stori arall o'r 1960au. Prynodd o leiaf un deg naw gwlad gwahanol y stori hon. O ganlyniad, i'r stori i fod ar goll yn gyfan, bu rhaid i fwy o gopïau o'r stori hon cael eu dinistrio nag unryw stori arall.
  • Er cynlluniwyd y stori fel trydydd stori'r gyfres, cafodd ei gohirio, The Edge of Destruction yn llenwi'r gwagle yn lle.
  • Er crëwyd telesnaps am y stori hon, nid oedd tystiolaeth cadarnhaol o'u bodolaeth nes yn 2004 pan ddaeth Derek Handley o hyd i rai am "The Roof of the World", "The Singing Sands", "Five Hundred Eyes", "Rider from Shang-Tu", "Mighty Kublai Khan" ac "Assassin at Peking" yng nghasglaid breifat Waris Hussein, cyfarwyddwr y stori. Ond, nid oes telesnaps am "The Wall of Lies" achos ni chyfarwyddodd Hussein yr episôd hwnnw, ac felly nad oedd ganddo reswm i brynnu'r telesnaps. Nid yw'n adnabyddus os oedd John Crockett yn berchen ar delesnaps yr episôd. Os cafodd telesnaps eu cynhyrchu am y drydydd episôd, naill ai mewn casgliad preifat neu wedi'u dinistrio ydynt.
  • Ni enwyd y bandit yn y stori, fe'i enwyd fel Kuiju yn credydau "Rider fron Shang-Tu", "Mighty Kublai Khan" ac "Assassin at Peking" yn unig.
  • Hon yw'r stori gyntaf i gynnwys anifieiliaid byw: ceffylau'r Mongols a'r mwnci pry cop ar ysgwydd Kuiju.
  • Datgelodd Carole Ann Ford taw hon oedd ei hoff stori.
  • Gan roedd William Russell yn anhapus gyda'r chwe munud o olygfeydd a gafodd ei ychwanegu i sgript "The Wall of Lies" dydd cyn recordio, rhowd mwyd o hawl i wrthod sgriptiau canlynol i'r cast rheolaidd.
  • Yn gweiddiol, y cynllun oedd i gael y Doctor, Ian a Barbara yn perfformio'r adroddawd, ond yn hwyrach penderfynwyd taw cynrychioli dyfyniadau o dyddiaduron Marco Polo oedd rhain.
  • Yn ystod cynhyrchiad, ymddangosodd Doctor Who ar glawr Radio Times; roedd bwriad y mis Tachwedd blaenorol i gael Doctor Who ar glawr Radio Times ar gyfer episôd cyntaf An Unearthly Child. Roedd y llun du a gwyn yn cynnwys William Hartnell gyda'r actorion gwadd Mark Eden a Derren Nesbitt. Yn anffodus, roedd gan William Russell dicter am y cyhoeddiad, gan ymateb trwy ei asiant, T. Plunkett Green, ei fod yn teimlo cafodd gweddil y cast rheolaidd wedi eu sarhau trwy eu gwaharddiad o'r clawr.
  • Yn ôl Heather Hartnell, gweddw William Hartnell, hoff stori ei gwr oedd hon, gan honni mai syniad ef oedd i gael stori ar Marco Polo.
  • Teimlodd y cast bod y mmwnci yn annodd i wedithio gyda. Disgrifiodd Carole Ann Ford y mwnci fel "peth fach erchyll, yn biso dros bobeth a chnoi pawb ag aeth yn agos iddo".
  • Defnyddiodd Barry Newman, dylunydd y stori, Ruins of Desert Cathay (1912) gan Aurel Stein a Chinese and Indian Architecture (1963) gan Nelson Ikon Wu er mwyn ymchwilio dyluniau y 13fed ganrif. Teimlodd Newbery bod pensaernïaeth Coreeg o 1900 yn debyg i bensaernïaeth y 13fed ganrif.
  • Gweithiodd John Lucarotti yn flaenorol ar y stori radio 18 rhan, The Three Journey's of Marco Polo.
  • Wrth ddatblygu'r stori, trafferthodd John Lucarotti gyda "The Wall of Lies", ac felly fe ddefnyddiodd defnydd o gofiant Marco Polo, The Travels of Marco Polo, er mwyn ehangu'r plot.
  • Defnyddiodd Tristam Cary offerynnau traddodiadol am y sgôr, gan gynnwys ffilwt, telyn ac offerynnau taro, ac fe recordiodd lleisiau electronig ar gyfer golygfeydd y storm tywod yn yr ail episôd.
  • Castiodd Warris Hussein Mark Eden am Marco Polo ar ôl ei weld mewn cynhyrchiad y Royal Shakespeare Company o A Penny for a Song yn 1962.
  • Am Ping-Cho, roedd Waris Hussein eisiau actores dwyreiniol na ymddangosodd yn cynhyrchiad y West End o The World of Suzie Wong na'r ffilm 55 Days at Peking (1963), oherwydd amlygwydd y cynhyrchiadau. Clyweliodd Zienia Merton yn nghartref Hussein, a chynnigodd Hussein y rôl iddi.
  • O ganlyniad i William Hartnell yn mynd yn sâl, cafodd "The Singing Sands" ei ail-ysgrifennu, ac felly mae ond gan William Hartnell un llinell yn yr episôd.
  • Am effaith y storm tywod yn "The Singing Sands", defnyddiwyd peiriant gwynt, gyda effaithiau eraill wedi gosod drosodd; roedd Waris Hussein yn anhapus gyda'r effaith, gan deimlo ei fod yn edrych fel "eirialau pawb wedi cwympo drosodd". Cofiodd Zienia Merton wnaeth y peiriant chwythu tywod i mewn i'w llygaid, gan ei wneud yn ddall am weddil yr olygfa.
  • Yn ystod ymarferion camera "Assassin at Peking", torrodd Derren Nesbitt law dde Mark Eden ar ddamwain gan ddefnyddio dagr.
  • Roedd William Russell yn anhapus gyda newidiadau i'r sgript a leihaodd ei rôl yn y stori, felly ysgrifennodd ei asiant at bennaeth serials y BBC, Donald Wilson. Ymatebodd Wilson gan gadarnhau byddai'n "cadw golwg" er mwyn sicrhau byddai'r sgiptiau yn "manteisio ar dalentau Russell".
  • Enillodd y stori sylw wrth ddau ffynhonell ar gyfer datblygiad pellach: ym Mehefin 1964, dangosodd Young World Publications diddordeb am addasu'r stori ar gyfer y gyfres comig Super Mag, ond gwthododd y BBC gan roedd yr hawliau comig newydd ei werthu i TV Comic; ac yng Nghorffennnaf 1964, ymgyrchodd The Walt Disney Company y BBC er mwyn prynnu'r hawliau ffilm, ond doedd dim unryw datblygid wedi canlyn hyn.
  • Yng nghanol yr 1990au, cysylltodd sianel teledu Africaidd â'r BBC er mwyn dychwelyd y ddwy gyfres gyntaf 'cyflawn'. Gwrthododd y gweithiwr am ba bynnag rheswm, ac mae'r episodau wedi'u cymryd i gael eu dinistrio yn fuan wedyn. Mae'n bosib roedd Marco Polo yn rhan o'r swmp hyn.
    • Serch hynny, yn ôl y wefan BroaDWcast, (gwefan sydd yn fanylu ar ba wledydd gwerthwyd Doctor Who i, a'u dyddiadau darlledu yn y wledydd hwnnw) efallai nad oedd y stori hon, The Reign of Terror, na The Crusade (y storïau o'r dwy gyfres gyntaf gydag episodau coll) wedi'u cynnwys yn rhan o'r set. Byddai hyn yn egluro pam dywedodd y gweithiwr i ddinistrio'r episodau yn lle dychwelyd nhw i'r BBC, gan ddoedd dim angen copïau ychwanegol o storïau a oedd yn bodoli yn barod. Ni fydd yn adnabyddus pa ochr o'r stori oedd y gwir nes mae tystiolaeth o'u dinistriad neu eu dychweliad i archif y BBC yn digwydd.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • "The Roof of the World" - 9.4 miliwn
  • "The Singing Sands" - 9.4 miliwn
  • "Five Hundred Eyes" - 9.4 miliwn
  • "The Wall of Lies" - 9.9 miliwn
  • "Rider From Shang-Tu" - 9.4 miliwn
  • "Mighty Kublai Khan" - 8.4 miliwn
  • "Assassin at Peking" - 10.4 miliwn

Lleolidau ffilmio[]

  • Ealing Television Film Studios
  • Lime Grove Studios (Studio D)

Gwallau cynhyrchu[]

I'w hychwanegu.

Cysylltiadau[]

  • Wedyd ymadawiad y Doctor, ymwelwelodd Jared Khan cwrt Kublai Khan gan eisiau cael y TARDIS am y Charrl. (PRÔS: Birthright)
  • Yn ôl y Pedwerydd Doctor, nid oedd ef wedi teithio i Tsieina am bedwar cant mlynedd. (TV: The Talons of Weng-Chiang)
  • Yn fuan wedyn ei adfywiad, dywedodd yr Ail Doctor wrth Ben Jackson a Polly Wright ei fod wedi ymweld â Tsieina, a roedd Marco Polo yn ffrind iddo. (TV: The Power of the Daleks)
  • Byddai'r Doctor, Ian a Barbara yn dychwelyd i Tsieina eto yn 1865, y tro hwn gyda Vicki Pallister. (PRÔS: The Eleventh Tiger)
  • Yn wahanol i broffesau y Doctor yn y stori, cyfarfodd y Doctor a Susan gyda thadcu Kublai, Genghis Khan. (PRÔS: Time and Relative, SAIN: An Earthly Child)
  • Ymwelodd y Doctor a Susan Pecking yn ystod Gwrthryfel Boxer naill ai yn hwyr yn yr 19eg ganrif neu'r 20fed ganrif cynnar. (SAIN: The Flames of Cadiz
  • Mewn llinell amser eiledol, darganfyddodd Marco Polo blwch arall. Pan ddileuwyd yr Unarddegfed Doctor wrth hanes, darganfyddodd Polo y Pandorica a fe symudodd y blwch i'r Fatican. (TV: The Big Bang)
  • Yn hwyrach, adroddodd y Doctor i'w gymdeithion, Steven Taylor a Sara Kingdom, a chriw'r cerbyd teithio amser Hank Morgan IV gyda'i antur gyda Kublai Khan. Er honnodd y Doctor taw o ddifri oedd y stori, meddylion nhw bod ei stori yn ddigri. (SAIN: The Anachronauts)
  • Torrodd yr yn cylched ag achosodd yr antur hon pan laniodd y Chweched Doctor a Peri Brown yn Kazakhstan yn 1963, gan achosi'r Doctor i gofio treulio sawl mis yn teithio ar ddraws Tsieina. (SAIN: 1963: The Space Race)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

  • Cynhyrchodd 2|entertain adluniad hanner awr trwy delesnaps fel ychwanegiad ar DVD The Beginning, yn penodol ar DVD unigol The Edge of Destruction.

Rhyddhadau sain[]

  • Rhyddhawyd trac sain y stori ar CD gan BBC Radio Collection, gydag adroddawd gan William Russell, yn Nhachwedd 2003.
  • Ail-rhyddhawyd y stori yn 2010 yn rhan o'r set bocs Doctor Who: The Lost TV Episodes - Collection One.
  • Rhyddhawyd y stori unwaith eto, y tro hyn ar finyl gan Demon Record, gan gynnwys adroddawd William Russell, ar 11 Medi 2020.

Troednodau[]

Advertisement