Dr. Martha Smith-Jones (ganwyd Jones) oedd meddyg Prydeinig a chydymaith i'r Degfed Doctor.
Cwrddodd hi'r Doctor tra'n astudio fel myfyriwr meddygol yn Ysbyty Royal Hope wrth i'r ysbyty cael ei tywys i'r Lleuad gan y Jydŵn. Yn dilyn y digwyddiad, dechreuodd hi teithio gyda'r Arglwydd Amser.
Cwmpodd hi mewn cariad gyda fe cyn cyfaddef ei theimladau i John Smith, gan obeithio na fyddai'r Doctor yn cofio, ac unwaith eto yn y TARDIS wrth atal ei theithiau gydag ef. Stopiodd hi teithio gydag ef o ganlyniad i'w chariad amdano a'r effaith cafodd Y Flwyddyn Na Fu Erioed arni a'i theulu, ond ni chollodd hi cysylltiad gydag ef, gan adael ei ffôn gyda'r Doctor gyda'r addewid mi welith ef hi eto. Parhaodd hi cael anturiau, gyda ac heb y Doctor, o ddiolch i'w gwaith gyda UNIT a Torchwood.
Yn y pendraw, priododd Mickey Smith, a cychwynodd y ddau brwydro estronwyr gyda'i gilydd. Cyfarfodd hi'r Doctor unwaith eto cyn iddo adfywio, gydag ef yn achub ei bywyd wrth Sontaran.
Bywgraffiad[]
Bywyd Cynnar[]
Ganwyd Martha Jones ar 14 Medi 1984 (PRÔS: The Torchwood Archives) i Francine a Clive Jones. Yn ôl fynhonell arall, ganwyd Martha yn 1986. Roedd ganddi chwaer bach o'r enw Tish, brawd bach o'r enw Leo a nith o'r enw Keisha Jones, merch Leo. (PRÔS: The Frozen Wastes) Dewisodd Francine yr enw Martha oherwydd roedd hi'n hoff o'r sain. (PRÔS: Wooden Heart)
Dewisodd Martha dod yn doctor ar ȏl i'w brawd gwthio hi oddi ar swing yn ei phlentyndod. Torrodd hi ei braich, a wnaeth gweld y pelydr-X o'i braich ei diddori a'i hysbrydoli i astudio meddyginiaeth. (PRÔS: The Frozen Wastes)
Magwyd Martha yn nhŷ ei mam pan ysgarodd ei rhieni, ac yn aml Martha oedd y cymedrolwr ym mhrwydrau ei theulu. Bu fyw Tish a Leo gydan nhw hefyd, gyda Martha yn cysgu mewn ystafell lleiaf y tŷ. (PRÔS: Wooden Heart) Yn wyth mlwydd oed, darllenodd Martha y gyfres The Troubleseekers gan Annette Billingsley yn awyddus, cyfres 32 llyfr o hyd; y llyfrau cyntaf erioed darllenodd hi. Yn hwyrach, darllenodd hi Harry Potter a His Dark Instruments. (PRÔS: The Mystery of the Haunted Cottage) Cymerodd Martha tair gwers trwmped ym mlwyddyn 6 yn ysgol gynradd. (COMIG: House Pests)
Pan roedd gan Francine gwesteion am ginio, disgwyliwyd Martha a'i chwaer i "berfformio" trwy roi bwyd i'r gwesteion tra honnodd Francine byddai Martha yn dod yn llawdriniwr pennaf. Casaodd Martha yr sylw ac achosodd hon ffrithiant rhwngddi hi a Tish, rhywun a garodd y sylw.
Cyn cwrdd y Doctor, aeth Martha i gyngerdd Mika yn Nenmarc. (PRÔS: The Pirate Loop)
Ym mhrifysgol, roedd Martha yn ffrindiau gyda Holly. Yn dilyn marwolaeth mam Holly, collon nhw cysylltiad. (SAIN: The Last Diner)
Yn 2007, bu farw ei chefnder Adeola Oshodi, gweithwyr yn Torchwood Un, ym Mrwydyr Canary Wharf. (TV: Army of Ghosts) Nododd Martha bod y dau ohonynt yn edrych yn debyg i'w gilydd. (PRÔS: Made of Steel)
Gyda'r Degfed Doctor[]
Cyfarfyddiad cyntaf[]
Cwrddodd Martha y Degfed Doctor ar 4 Mehefin 2008, (PRÔS: The Secret Lives of Monsters) wrth fynd i'w swydd fel myfyriwr meddygol yn Ysbyty Royal Hope yn Llundain, yn astudio o dan Mr Stoker. Heb gyflwyno ei hun, dywedodd y Doctor "fel hon, ti'n gweld?", wrth cymryd ei tei i ffwrdd cyn cerdded bant. Yn anhysbys i Martha ar y pryd, roedd ef yn arddangos teithio amser. Cwrddodd hi y Doctor unwaith eto yn yr ysbyty, lle roedd ef yn cuddio fel claf o'r enw John Smith, heb sylweddoli mai fersiwn iau ohono; cwrandodd hi ar guriad ei galon, a darganfododd hi hefyd fod ganddo dau galon, ond cadwodd hi'r ffaith yn gyfrinach.
Yn hwyrach y dydd honno, wrth gafodd yr ysbyty ei drawsfudo i'r Lleuad gan y Jydŵn, na chafodd Martha ei chynhyrfu tra gwylltiodd pawb arall. Gweithiodd Martha gyda'r Doctor i hela'r Plasavmore "Florance Finnigan", targed y Jydŵn. Yn ystod eu cyfarfyddiad, cafodd y Doctor ei blesio gan resymu a gallu Martha; megis pan cyfrifodd Martha byddai holl aer yr ysbyty wedi diflannu'n barod heb agor y ffenestri gan nad oeddent yn aerdynn. Er glywodd hi curiad calon y Doctor, nid oedd Martha yn bendant ar hunaniaeth estronaidd y Doctor, ond yn dechrau ei gredu pan gadarnhaodd scaneri y Jydŵn mai estronwr oedd ef.
Wrth i ocsigen yr ysbyty rhedeg allan, rhodd Martha ei hanadl olaf i ddadebru'r Doctor, er mwyn iddo atal cynllun Florance. Wedyn, dychwelodd y Jydŵn yr ysbyty i'r Ddaear. Y noson honno, yn dilyn dadl teuluol ym mharti ei brawd, Leo, cafodd Martha ei cwrdd gan y Doctor. Datgelodd y Doctor mai Arglwydd Amser oedd ef, cyn ei gwahodd i ymuno ag ef yn y TARDIS am "un taith" yn unig trwy amser a'r gofod. (TV: Smith and Jones)
Teithiau cyntaf gyda'r Doctor[]
Tywysodd y Doctor Martha i 1599 lle cwrddon nhw William Shakespeare, a fflyrtiodd ef gyda yn ei galw fel ei "Menyw tywyll". Defnyddiodd y tri ohonynt raib i drechu tairawd o Carrionites, rhywogaeth yn debyg i wrachod a oedd yn defnyddio drama Shakespeare, Love's Labour's Won, fel hud i ddod â Charrionites arall i'r Ddaear; roedd defnydd Martha o'r gair "Expelliarmus" yn rhan o'r rhaib pan nad oedd modd i Shakespeare meddwl am y gair cywir yn hanfodol mewn trechu'r Carrionites. Cafodd y Carrionites, ynghyd â'r drama, eu selio nôl ar ochr frodorol eu porth. (TV: The Shakespeare Code)
Nesaf, cymerodd y Doctor Martha i Efrog Newydd Newydd, gyda'r ddau yn glanio yn y Tanddinas. Wrth ddysgu ymwelodd y Doctor Ddaear Newydd unwaith o'r blaen gyda Rose, pryderodd Martha mai cydymaith "rebound" oedd hi. Wedyn, cafodd Martha ei herwgipio gan gwpl a oedd yn gyrru ar y Draffordd a oedd angen trydydd teithiwr er mwyn defnyddio'r lôn brys; yno bron bu'r tri yn cael eu lladd gan Facra, ond llwyddon nhw dianc o ganlyniad i'r Doctor yn agor y draffordd. Pan ailgwrddodd y Doctor a Martha, gwyliodd hi marwolaeth Gwyneb Boe, a chlywodd hi ei eiriau olaf o "You are not alone". Cyn gadael Daear Newydd, dywedodd y Doctor wrth Martha am ei blaned gartrefol a'r Rhyfel Mawr Olaf Amser. (TV: Gridlock)
Estynodd y Doctor taith Martha unwaith eto i gynnwys taith i Ddinas Efrog Newydd yn 1930, lle darganfodon nhw dirgel yn Hooverville, gyda phoblogaith y tref yn cael eu troi i mewn i foch-gaethweision, (TV: Daleks in Manhattan) o ganlyniad i gynllyn Cwlt Sgaro i greu hil o Daleks-dynol. (TV: Eviolution of the Daleks) Bron bu Martha a grŵp o breswylwyr Hooverville yn cael eu troi i mewn i Daleks-dynol, (TV: Daleks in Manhattan) ond llwyddodd y Doctor creu sain digon uchel i hawlio pawb i ddianc. Ar ôl i'r Doctor cael ei dywys nôl i'r Daleks i'w cynorthwyyo, rhodd y Doctor ei bapur seicig i Martha cyn iddi mynd â Tallulah a Frank i lawr uchaf yr Empire State Building, yn esgus bod yn beiriannwyr ac arcitect, darganfodon nhw bod y Daleks wedi cymryd rheolaeth dros adeiladaeth yr adeilad, yn gweithio gyda Mr Diagoras i roi Dalekaniwm ar fast yr adeilad i bweru eu harbrofion. Tra ymyrrodd y Doctor ar y mellt yn taro'r mast, cysylltodd Martha a Frank polion metel o du allan yr adeilad i'r lifft; trydaneiddiwyd a lladdwyd y moch-gaethweision a oedd yn dilyn y Doctor. (TV: Evolution of the Daleks)
Yn dilyn trechiad Cwlt Sgaro, dychwelodd y Doctor Martha i'w chartref 12 awr diweddarach i'w hymadawiad. Clywodd y Doctor rhywun ar y teledu yn addo i "newid ystyr dynoliaeth", ac felly tywysodd Martha'r Doctor i gyflwyniad teclyn ieuangeiddio Prof. Richard Lazarus, gan dderbyniodd hi gwahoddiad wrth ei chwaer. Yn darganfod y gwir am waith erchyll Lazarus, gweithiodd y Doctor, Martha, a'i chwaer Tish i ladd y bwystfil roedd Lazarus eisioes. Wedyn y digwyddiad, gwahoddodd y Doctor Martha am un taith mwy, ond gwrthodd hi. Doedd Martha dim eisiau bod yn deithiwr dysbeidiol rhagor, ac felly gwahoddwyd Martha ar y TARDIS fel gydymaith amser llawn gan y Doctor. (TV: The Lazarus Experiment)
Anturiau fel cydymaith llawn y Doctor[]
I'w hychwanegu.
Yn sownd yn 1969[]
I'w hychwanegu.
Teithiau ychwanegol gyda'r Doctor[]
I'w hychwanegu.
Y Flwyddyn Na Fu Erioed[]
I'w hychwanegu.
Gyrfa UNIT[]
Gweithio gyda Torchwood[]
I'w hychwanegu.
Ailcwrdd y Doctor[]
I'w hychwanegu.
Brwydro'r Daleks[]
I'w hychwanegu.
Asiantaethau UNIT olaf[]
I'w hychwanegu.
Gwaith rhydd[]
I'w hychwanegu.
Bywyd hwyrach[]
I'w hychwanegu.
Digwyddiadau heb ddyddiad[]
I'w hychwanegu.
Ewysyllroddion[]
Roedd gan yr Unarddegfed Doctor teimladau o euogrwydd tuag at Martha. (TV: Let's Kill Hitler)
Roedd gan Alice O'Donnell adnabyddiaeth o Martha, Rose, ac Amy fel cyn-gymdeithion y Doctor o ganlyniad i'w gwaith fel deallusrwydd milwrol. Pan tywysodd y Deuddegfed Doctor hi nôl i 1980, amhaodd O'Donnell na fyddai Martha wedi mynd yn sâl yn dilyn ei thaith cyntaf yn y TARDIS fel wnaeth ei cyd-weithiwr, Mason Bennett. (TV: Before the Flood)
Yn fuan cyn ei adfywiad, breuddwydiodd y Deuddegfed Doctor am Martha yn dweud ei enw. (TV: The Doctor Falls)
Personoliaeth[]
I'w hychwanegu.
Sgiliau[]
Roedd gan Martha ymenydd hynod o wyddonol. Yn aml, byddai hi'n defnyddio ei gwybodaeth, a sgiliau rhesymoli trwy gydol ei theithiau. (TV: Smith and Jones, The Shakespeare Code, Daleks in Manhattan, The Lazarus Experiment, Human Nature / The Family of Blood, The Doctor's Daughter, The Sontaran Stratagem, Reset) Roedd ei gallu yn hawlio hi i gyflawni cynlluniau cymhleth ar gryn lleied o wybodaeth wrth y Doctor (TV: Human Nature / The Family of Blood, Last of the Time Lords) Roedd modd iddi siarad Almaeneg yn gyfforddus. (TV: Journey's End) Yn ychwanegol, roedd hi'n adnabyddus ar sut i ddefnyddio dryll (TV; The Family of Blood, The End of Time) Ac wrth gwrs, roedd ganddi abl ardderchog megyddol, yn enwedig o ganlyniad i'r hyfforddiant enillodd hi wrth y sefyllfaoedd anghyffredin a'r estronwyr cwrddodd hi ar ei theithiau; hawliodd hyn iddi gweithio gyda sefydliadau megis UNIT a Torchwood Tri. (TV: The Sontaran Stratagem, The Doctor's Daughter, Reset, A Day in the Death)
Yn y cefn[]
I'w hychwanegu.