Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Matt Lucas (ganwyd 5 Mawrth 1974) chwaraeodd Nardole yn The Husbands of River Song, The Return of Doctor Mysterio, a thrwy gydol Cyfres 10 teledu Doctor Who. Yn ychwanegol, lleisiodd ef y Silindr a'r Jelloid yn stori sain Big Finish, The One Doctor.

Yn blaenorol, portreadodd Lucas fersiwn dynwaredol o'r Ail Ddoctor yn y sgets The (Doctor) Who ar Shooting Stars yn 1997.

Gyrfa[]

Mae sawl cyfeiriad at Doctor Who yn ei sioe Little Britain, wedi cyd-greu gan David Walliams, (a wnaeth hefyd cynnwys Walliams, Anthony Head, Paul Putner, a Tom Baker), gan gynnwys ef yn chwarae cymeriad o'r enw Syr Michael Craze.

Roedd ef hefyd yn y gyfres-mini Casanova, a gafodd ei hysgrifennu gan Russell T Davies, lle rhannodd ef rhai olygfeydd gyda David Tennant.

Yn y gyfres deledu Community, fe chwaraeodd cefnogwr o'r sioe Inspector Spacetime yng nghonfensiwn; mae Inspector Spacetime yn barodi Doctor Who.

Bywyd Personol[]

Mae Lucas yn hoyw.[1]

Credydau[]

Teledu[]

Parodïau[]

  • The (Doctor) Who

Doctor Who[]

Sain[]

Prif Ystod Doctor Who[]

  • The One Doctor - y Silindr / Jelloid

Wê-gast[]

  • The Best of Days

Dolenni allanol[]


Troednodau[]