Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
Muto Genesis

"Mwto" (Sn: "Muto") oedd term difrïol am bobl a gafodd eu mwtadu gan ymbelydrau niwclear yn ystod y Rhyfel Mil Flwyddyn rhwng y Thals a'r Kaleds ar Sgaro. Roedd y Mwtos eu hun yn credu oedd y derm yn sarhaus. (SAIN: Guilt) Unwiath, disgrifiodd Davros y Mwtos fel "weak, tattered, crippled relics of the war." (SAIN: Purity) Er hyn, yn y pendraw fe ddaeth y Mutos yn grŵp o bobl yn eu rhinwedd eu hun. (PRÔS: Dalek: The Astounding Untold History of the Greatest Enemies of the Universe)

Bioleg[]

Roedd y Mwtos yn edrych yn debyg i Thals neu Kaleds a gaeth eu camffurffio, ond roedd ystod eang o fwtadau gwahanol. Roedd y Mwtos yn byw yn nhiroedd gwylltion Sgaro, gan geisio fyw ar dir y diffeithwch ymbelydrol, ac fe'u helwyd yn aml gan y Thals i'w ddefnyddio fel caethweision. (TV: Genesis of the Daleks) Dros amser, cymysgodd y grwpiau Mwtos Thal a Kaled i greu un pwll genynnau, a gaeth ei gydabod gan rhai haneswyr fel hil ymdeimladol unigol.

Hanes[]

Tarddiad[]

Ar ddiwedd y Rhyfel Mil Flwyddyn, roedd y Mwtos yn niferus. Gyrrwyd y pobl a oedd wedi'u mwtadu i'r tiroedd gwylltion gan bawn nad oedd wedi'u mwtadu, a adnabyddwyd fel "norms", fel ymgais i gynnal purdeb hiliol. Defynyddiodd y Thals y Mwtos fel caethweision. (TV: Genesis of the Daleks) Wnaeth rhai Mwtos cymryd rhan mewn canibaliaeth. (SAIN: Davros, Purity)

Yn ystod genedigaeth y Daleks[]

Pan deithiodd yn ôl i'r Rhyfel Mil Flwyddyn gyda'r Pedwerydd Doctor, camgymerodd y Thals Sarah Jane Smith am Fwto wrth ddod o hyd iddi hi yn y diffeithwch. Wedyn gorffen eu taflegryn niwtronig, gorfododd y Thals i'r Mwtos i'w lwytho heb cysgod rhag yr ymbelydredd. Mewn cais dianc, arweinodd Sarah Jane gwrthryfel y Mwtos. Wnaeth y Mwtos caethedig dringo trwy'r awyrendy, gyda nifer yn dianc, ond saethwyd y mwyafrif tra'n esgyn. (TV: Genesis of the Daleks)

Ar ôl y bom niwtron[]

Ar ôl i'r Daleks tanio bom niwtron a wnaeth diwedd y Rhyfel, wrth dinistrio y rhan fwyaf o'r Thals, (TV: The Daleks) Y mwtos oedd un o'r rhywodaethau olaf ar Sgaro. Wrth ddod yn bobl yn eu rhinwedd eu hun, helpodd y Mwtos dysgu i'r nifer fach o Thals sut i oroesi ar y tir arbelyredig. (PRÔS: Dalek: The Astounding Untold History of the Greatest Enemies of the Universe)

Advertisement