Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
No edit summary
Tag: Source edit
Tag: Source edit
Line 41: Line 41:
 
Roedd modd i Nardole hedfan y [[TARDIS y Doctor|TARDIS]], talent roedd prin o cymdeithion blaenorol y Doctor yn berchen ar, ([[TV]]: ''[[The Return of Doctor Mysterio (stori deledu)|The Return of Doctor Mysterio]]'', ''[[The Lie of the Land (stori deledu)|The Lie of the Land]]'') ond doedd Nardole ddim yn gallu dychwelyd i [[Mawrth (planed)|Fawrth]] heb gymorth [[Y Meistr|Missy]]. ([[TV]]: ''[[Empress of Mars (stori deledu)|Empress of Mars]]'')
 
Roedd modd i Nardole hedfan y [[TARDIS y Doctor|TARDIS]], talent roedd prin o cymdeithion blaenorol y Doctor yn berchen ar, ([[TV]]: ''[[The Return of Doctor Mysterio (stori deledu)|The Return of Doctor Mysterio]]'', ''[[The Lie of the Land (stori deledu)|The Lie of the Land]]'') ond doedd Nardole ddim yn gallu dychwelyd i [[Mawrth (planed)|Fawrth]] heb gymorth [[Y Meistr|Missy]]. ([[TV]]: ''[[Empress of Mars (stori deledu)|Empress of Mars]]'')
   
Yn dilyn ei ailadeiladiad, roedd ganddo hyd oes hirach na unrhyw ddyn arferol. Arhosodd at St. Luke am nifer o degawdau heb haneiddio'n weledol. ([[TV]]: ''[[The Pilot (stori deledu)|The Pilot]]'') Rhodd y [[Sbectol haul sonig|sbectol haul sonig]] ei oedran fel 237 yn ystod [[Ymosodiad y Mynachod|ymosodiad y Mynachod o'r Ddaear]]. ([[TV]]: ''[[The Pyramid at the End of the World (stori deledu)|The Pyramid at the End of the World]]'') Bu farw yn 728 mlwydd oed. ([[PRÔS]]: ''[[Twice Upon a Time (nofeleiddiad)|Twice Upon a Time]]'')
+
Yn dilyn ei ailadeiladiad, roedd ganddo hyd oes hirach na unrhyw ddyn arferol. Arhosodd at St. Luke am nifer o ddegawdau heb heneiddio'n weledol. ([[TV]]: ''[[The Pilot (stori deledu)|The Pilot]]'') Rhodd y [[Sbectol haul sonig|sbectol haul sonig]] ei oedran fel 237 yn ystod [[Ymosodiad y Mynachod|ymosodiad y Mynachod o'r Ddaear]]. ([[TV]]: ''[[The Pyramid at the End of the World (stori deledu)|The Pyramid at the End of the World]]'') Bu farw yn 728 mlwydd oed. ([[PRÔS]]: ''[[Twice Upon a Time (nofeleiddiad)|Twice Upon a Time]]'')
   
 
[[Category:Unigolion o'r 54fed ganrif]]
 
[[Category:Unigolion o'r 54fed ganrif]]

Revision as of 00:53, 23 September 2021

Nardole
NardoleLooksLeft4
Rhywogaeth: Traws-ddynol, Seiborg
Lle tarddiad: Mendorax Dellora
Gwelwyd yn gyntaf: The Husbands of River Song
Ymddangosiadau: gweld y rhestr
Actor: Matt Lucas

Nardole oedd cydymaith i'r Deuddegfed Doctor.

Yn dianc wrth gyn-fywyd llawn troseddau fe ddaeth yn weithiwr i River Song. Yn dilyn hun, dangosodd edifeirwch am ei weithgareddau ac felly ceisiodd cywiro ei orffennol anghyfreithlon.

Tra gweithiodd ar Mendorax Dellora i River Song, torfynyglwyd Nardole gan gorff y Brenin Hydroflax mewn cais i gael gwybodaeth ar leoliad River Song. Yn dilyn eu dau ddeg pedwar blwyddyn ar Darillium, roedd y Doctor yn gwybod byddai River yn mynd i'w marwolaeth yn y Llyfrgell, ailadeiladwyd Nardole gan y Doctor er mwyn osgoi bod ar ben ei hun.

Cyfarwyddiad olaf River i Nardole oedd i achub y Doctor rhag dienyddio Missy. Cyflawnodd Nardole hyn ar ôl i'r Doctor tyngu llw i warchod corff Missy am fil o flynyddoedd. Gosodwyd Missy tu mewn i Siambr Quantum Fold a chadwyd y Doctor i'w lw gan Nardole.

Pan gymerwyd Bill fel cydymaith newydd y Doctor, yn y diwedd ymunodd Nardole yn dilyn dadleuoedd am y Doctor yn anwybyddu ei lw. Yn ganlyniad o brwydr gyda Cybermen ar long wladfa, gadawodd Nardole i warchod grŵp o bentrefwyr ar gyfarwyddiadau'r Doctor.

Bywgraffiad

Cyn-fywyd troseddol

Datgelodd Nardole ei fod ddim yn gwybod ei wir darddiad, achos fe'i "darganfuwyd". (TV: The Doctor Falls) Ar un adeg, cellweiriodd at gael treftadaeth Albanaidd, wrth ddisgyn o'r clan "MacNardole". (PRÔS: Plague City)

Gweithio am River Song

I'w hychwanegu.

Teithio gyda'r Doctor a Bill

Emperor Nardole (TRODM)

Nardole ar consol y TARDIS, yn diltn "tipyn bach o stop-offs damweiniol". (TV: The Return of Doctor Mysterio)

Ar ôl dau ddeg pedwar blwyddyn gyda River Song, dechreuodd y Deuddegfed Doctor poeni am fod ar ei ben ei hun. O ganlyniad, "gludodd" y Doctor pen Nardole ar gorff newydd (TV: The Return of Doctor Mysterio, The Pyramid at the End of the World) gan droi Nardole yn rhannol seibrnetig, (TV: The Pilot) ac rhoddodd ysgyfaint dynol rhad iddo. (TV: The Pyramid at the End of the World)

Gyda'i gilydd, ymchwilion nhw i Harmony Shoal gyda chymorth wrth "The Ghost". Hefyd, treuliodd amser yng Nghaergystennin, lle rheolodd yn "gadarn, ond yn deg". (TV: The Return of Doctor Mysterio)

Treuliodd y Doctor a Nardole bron saith deg blwyddyn ym Mhrifysgol St Luke, ym Mryste yn cadw llygaid ar y gromgell a gafodd ei guddio o dan y campws. Tra ar y Ddaear, cymrodd y Doctor swydd darlithiwr a Nardole oedd ei valet. (TV: The Pilot)

Personoliaeth

Roedd Nardole yn ffyddlon ac yn ostynedig. Mi roedd yn benderfynnol taw ei ddyletswydd ef oedd e i wneud yn siwr roedd yn Doctor yn iawn yn dilyn marwolaeth River Song. (TV: The Return of Doctor Mysterio)

Roedd e'n dimid ac allai dangos ofn mawr wrth wynebu perygl. Roedd ganddo ofn mawr o uchderau. (TV: The Husbands of River Song)

Sgiliau

Roedd modd i Nardole hedfan y TARDIS, talent roedd prin o cymdeithion blaenorol y Doctor yn berchen ar, (TV: The Return of Doctor Mysterio, The Lie of the Land) ond doedd Nardole ddim yn gallu dychwelyd i Fawrth heb gymorth Missy. (TV: Empress of Mars)

Yn dilyn ei ailadeiladiad, roedd ganddo hyd oes hirach na unrhyw ddyn arferol. Arhosodd at St. Luke am nifer o ddegawdau heb heneiddio'n weledol. (TV: The Pilot) Rhodd y sbectol haul sonig ei oedran fel 237 yn ystod ymosodiad y Mynachod o'r Ddaear. (TV: The Pyramid at the End of the World) Bu farw yn 728 mlwydd oed. (PRÔS: Twice Upon a Time)