Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Paradise Towers oedd pumed stori Hen Gyfres 24 Doctor Who.

Yn dilyn dadl gyda Eric Saward, roedd John Nathan-Turner yn awyddus i ddod o hyd i awdur heb unryw gysylltiad i Saward. Yn adran sgriptiau'r BBC, fe gwrddodd Stephen Wyatt a fe ofynodd iddo ysgrifennu sgript ar gyfer Doctor Who. I ddechrau, nad oedd gan y sgript "bwystfil" traddodiadol, ac felly ychwanegwyd y glanhwyr robotig i'r sgript i lenwi'r rôl yma. Ysbrydolwyd y stori yma llawer gan nofel J.G.Ballard, High Rise. Dyma'r stori gyntaf i gael ei chomisiynu gan Andrew Cartmel.

Crynodeb[]

Mae'r Doctor a Mel yn dewis ymweld â Thyrau Paradwys, rhandy sydd yn addo bywyd heddychlon i'w phreswylwyr. Ond, mae'r adeilad yn bell ffordd o fod y fath o le mae'r enw yn awgrymu. Mae brwydro parhaol rhwng y Cangiaid, grwpiau o bobl amryliw sydd yn brwydro yn erbyn ei gilydd ar sail lliw'r enfys sydd ganddynt. Yn ychwanegol, mae glanhawyr robotig marwol yn sleifio trwy'r coridorau, a chyfrinach ym maslawr yr adeilad yw'r bygwth mwyaf oll...

Plot[]

Rhan un[]

I'w hychwanegu.

Rhan dau[]

I'w hychwanegu.

Rhan Tri[]

I'w hychwanegu.

Rhan pedwar[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - Sylvester McCoy
  • Mel - Bonnie Langford
  • Prif Ofalwr / Kroagnon - Richard Briers
  • Diprwy Prif Ofalwr - Clive Merrison
  • Tilda - Brenda Bruce
  • Tabby - Elizabeth Spriggs
  • Maddy - Judy Cornwell
  • Fire Escape - Julie Brennon
  • Bin Liner - Annabel Yuresha
  • Pex - Howard Cooke
  • Arweinydd y Cangiaid Glas - Catherine Cusack
  • Gofalwr Ifanc - Joseph Young
  • Cang Felyn - Astra Sheridan
  • Sylwebaeth Fideo - Simon Coady

Cast di-glod[]

  • Cangiaid Coch (gan gynnwys Air Duct):[1]
    • Louise Clifford
    • Martha Stylianou
    • Jennie Slade
    • Juliette Norde
    • Roberta Wells
    • Elizabeth Gardner
    • Lottie Winter
    • Nisha Nayar
    • Helen Fung
    • Christina Clark
  • Gofalwyr (gan gynnwys 569/14 isadran 8, a 49/7 isadran 5):[1]
    • Rupert Clive
    • James Carrington
    • Andrew J Bush
    • Barrimore
    • Don Weinstein
    • William Perrie
    • Nick Santini
    • Sean Bowden
  • Cangiaid Glas:[1]
    • Leigh Funnell
    • Heather Mair Thomas
    • Liz Wood
    • Tanya Davidson-Jones
    • Harriet Eedle
    • Suzanna Cardash
    • Iona Dean
  • Resïaid:[1]
    • Kathleen Bidmead
    • Muriel Wellesley
    • Nancy Adams
    • Shelena Marshall
  • Dwbl stỳnt Mel:[1]
    • Ellie Bertram

Cast[]

  • Rheolydd Llawr Cynorthwyyol - Val McCrimmon
  • Goruwchwyliwr Camera - Alec Wheal
  • Gwisgoedd - Janet Tharby
  • Dylunydd - Martin Collins.
  • Dylunydd Graffigol - Oliver Elmes.
  • Cerddoriaeth Achlysurol - Keff McCulloch
  • Colur - Shaunna Harrison
  • Dyn Camera Allanol - Alistair Mitchell, David Hunter
  • Goleuo Allanol - Ian Dow
  • Sain Allanol - Doug Whittaker
  • Cynhyrchydd - John Nathan-Turner
  • Cynorthwyydd Cynhyrchu - Frances Graham
  • Cynhyrchydd Cyswllt - Anne Faggetter
  • Rheolwr Cynhyrchu - Ian Fraser
  • Golygydd Sgript - Andrew Cartmel
  • Sain Arbennig - Dick Mills
  • Goleuo Stiwdio - Henry Barber
  • Sain Stiwdio - Brian Clark
  • Cyd-drefnydd Technegol - Richard Wilson
  • Trefniant Thema - Keff McCulloch
  • Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer
  • Effeithiau Fideo - Dave Chapman
  • Golygydd Fideo - Hugh Parson
  • Cymysgydd Lluniau - Shirley Coward
  • Dylunydd Effeithiau Gweledol - Simon Taylor

Cyfeiriadau[]

Unigolion[]

  • Cafodd Gofalwr 97/2, isadran 9 ei ladd gan y Glanhawyr.

Cyfreithiau[]

  • Marwolaeth 327 ychwanegiad 3, isadran 9 yw ffurf dienyddiaeth wedi'i rhestru yn llyfr rheolau Gofalwyr Tyrau Paradwys.

Lleoliadau[]

  • Wedi'i dylunio gan Kroagnon, neu'r Pensaer Ardderchog, enillodd Tyrau Paradwys sawl gwobr yn yr 21ain ganrif.
  • Dyluniodd Kroagnon hefyd Parc y Breuddwyd Aur, y Pont Mudiant Gwastadol a Dinas y Gwyrth.

Planedau[]

  • Yn ôl y Doctor, mae pwll nofio bendigedig ar y blaned Grïwffos, ond y Gwlmeri'n unig ag all ddefnyddio'r pwll.

Technoleg[]

  • Mae gan y Glanhawyr Robotig Hunan-actifadu Megapodig Marc 7Z lafnau ocsimotif.
  • Mae'r Doctor yn disgrifio ffôn hynafol fel enghraifft hyfryd o "audioarchitectonicalmetrasynchosity".
  • Mae Kroagnon yn "traswblannu" ei ymenydd i mewn i gorff y Brif Ofalwr trwy gorporelectrosgopi.

Y TARDIS[]

  • Roedd pwll nofio'r TARDIS yn diferu ac felly roedd rhaid ei alltaflu.

Nodiadau[]

  • Ystyriwyd Ronald Lacey, T. P. McKenna, Denis Quilley, ac Ian Richardson am rôl y Prif Ofalwr. Ystyriwyd Phillip Jackson a Roger Daltry wrth The Who am rôl y Diprwy Prif Ofalwr, Frances Cuka am Maddy. Cafodd Edward Hardwicke ei gastio fel y Diprwy, ond nid oedd modd iddo gyflawni'r rôl felly chwaraeodd Clive Merrison y cymeriad yn lle.[1]
  • Cafodd Clive Merison (Diprwy Pennaeth) ei gredydu fel "Diprwy Prif Ofalwr" yn Radio Times.
  • Yn wreiddiol, cyflawnodd David Snell, cyfansoddwr rhydd ei law, y cerddorieth achlysurol am y stori yma, ond gwrthodd John Nathan-Turner y sgôr, gan nodi ei fod yn rhy ailadroddus. Darparodd Keff McCulloch sgôr o fewn wythnos tra'n gweithio ar gerddoriaeth Time and the Rani a Delta and the Bannermen ar yr un pryd. Mae'r sgôl gwreiddiol ar gael gyda'r rhyddhad DVD.
  • Ar sgrîn, ni chafodd enw arweinydd y Cangiaid Glas ei ddweud ar sgrîn, ond cafodd hi'r enw "Drinking Fountain" yn nofeleiddiad Stephen Wyatt. Ni chafodd yr enw yma ei dynnu wrth unryw wybodaeth yn y fersiwn teledu.
  • Mewn drafftiau cynnar y stori, enw'r paned caiff Paradise Towers ei gosod arni oedd "Kroagnon", a wedyn "Griphos". Yn y diwedd, ni cafodd y blaned ei henwi yn y stori, ond mae posibilrwydd mai'r Ddaear yw hon - yn enwedig os ystyrir cyfeiliwyd rhestriad Radio Times ar gyfer rhan un (wedi'i dyddio am 3-9 Hydref 1987) gan lun du a gwyn o Richard Briers fel y Brif Ofalwr, gyda chapsiwn o "Paradise Towers, Earth. Chief Caretaker - Richard Briers / BBC1 7.35 p.m. Doctor Who"
  • Tra mae'r Doctor yn cario ymbarél yn rhan o'i wisg yn y stori yma, ni fydd ei ymbarél arwyddocaol yn cael ei weld nes y stori nesaf, Delta and the Bannermen.
  • Cafodd y stori ei hysgrifennu cyn castiwyd Sylvester McCoy.
  • Mae perfformiad Richard Briers wedi derbyn llawer o feirniadaeth. Yn ychwanegiadau'r DVD, mae'n cael ei nodi nad oedd John Nathan-Turner nac Andrew Cartmel yn bles gyda'i berfformiad yn ystod recordiad y stori, gyda Briers yn cyfaddau i anwybyddu'r cyfeiriad i wanedu ei berfformiad. Yn hwyrach, dywedodd Briers: "John Nathan-Turner was looking at me in a funny old-fashioned way, we were rehearsing it, and I thought this guy I was playing wanted to rule the world and is completely mad. So that's that way I was playing it. And he John Nathan-Turner was looking at me and looking at me and I thought, "He doesn't seem to like me very much". In the end the director, who'd had a chat with him, came to me and said, "He's very worried about you", I said, "I know, I got the vibes. What's wrong?" and he said, "He thinks you're over-playing it". I said, "Oh, I thought it was that kind of a part. I don't see how you can underplay Adolf Hitler, if you want to rule the world, you can't be very subtle about it". He said, "No, he's worried about it". But my sidekick (Clive Merrison) said, "Never mind what he says, you do it your way, it's very funny" and I said, "Okay" and in fact you know I think I nearly lost the job. I think he thought I was sending it up, but I was simply over-acting".
  • Roed Pex fod yn ddyn gyda chyhyrau enfawr, ond ni ddigwyddodd hon, gydag Andrew Cartmel: "jôc Stephen Wyatt - gyda fi yn cefnogi'n llawn - oedd bod Pex yn gyhyrog iawn sydd yn ff***o popeth lan oherwydd mai mor dwp. O ganlyniad, aberth yw ef. Ond, castiodd Nick Mallett y rôl, gan ei rhoi i Howard Cooke. Doedd dim oedd ganddo fe'r un syniad am Pex, ei unig bwriad oedd cael actor da. Cafodd Wyatt ei siomi gan hon. Roedd yna jôc a gafoedd ei niweidio gan y castio, ond o leiaf cafon ni actor dda".
  • Roedd Julie Brennan, actor Fire Escape, yn briod i Mark Strickson pan ffilmiwyd y stori yma.
  • Mae gan rai o'r bareli a gafodd ei ddefnyddio i wisgo'r set olion y logo Weyland-Yutani arnynt - rhai o sawl hen brop Alien a ddefnyddiwyd trwy gydol yr Wythdegau.
  • Cafodd Stephen Wyatt ei ysbrydoli mewn rhan wrth ymweld ffrindiau mewn rhandai yn Llundain. Nododd ef sut nad oedd modd wybod pa llawr byddai'r lifft wedi cyrraedd a byddai harddegwyr lleol yn neidio i mewn i'r llift gan wasgu pob botwm, fel byddai'r lifft yn stopio ar bob llawr.
  • Andrew Cartmel awgrymodd gangiau'r merched a'u lliwiau.
  • Ni feddyliodd Richard Briers yn uchel am ymddangos yn Doctor Who, gan fwynhau'r cais i ddros-actio. Honnodd cafodd ei logu gan Nicholas Mallett achos roedd ef yn ddyn doniol.
  • Prif gofion Bonnie Langford am y stori oedd tymheredd oer y pwll. Yn ôl pob sôn, roedd uned twymo'r pwll wedi'i diffodd ers dwy flynedd.
  • Roedd Sylvester McCoy dal yn bryderus am chwarae'r Doctor, ond cofiodd Nicholas Mallett roedd McCoy'n fwy hyblyg na Colin Baker, gan ni fyddai Baker erioed yn byrfyfyrio, tra roedd McCoy yn naturiol am fyrfyfyryio.
  • Ystyriodd Stephen Wyatt ysgrifennu stori olynol i'r stori yma a fyddai wedi gweld y Cangiaid yn ysgol fyrddiol gyda bwriad o ddod o hyd i'w cyfatebion gwrywaidd.
  • Yn y sgript gwreiddiol, roedd creuadur mwtadol yn byw ar waelod pwll Tyrau Paradwys. Pan leisiodd John Nathan-Turner pryderau ar gyfer sut i greu'r creuadur yma, newidodd y bwystfil i fersiwn dyfrol o'r glanahwyr.
  • Hyd 2022, dyma'r stori deledu Doctor Who gyntaf ers TV: The Daleks mae modd i rywun dechrau gwylio o gan weld gyrfa teledu cyfan Doctor Who pob awdur byddent yn gweld. Mewn geiriau eraill, nid oes unryw awdur ag ysgrifennodd stori cyn Paradise Towers hyd heddiw wedi ysgrifennu stori ers Paradise Towers. Dyma un o ond pedair stori mae hon yn posib, y dwy arall yw An Unearthly Child a Survival.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • Rhan un - 4.5 miliwn
  • Rhan dau - 5.2 miliwn
  • Rhan tri - 5.0 miliwn
  • Rhan pedwar - 5.0 miliwn

Cysylltiadau[]

  • Unwaith eto, mae'r Doctor yn cael ei alw'r "Un Hynafol" gan y bobl lleol. (TV: The Mysterious Planet)
  • Bydd y TARDIS yn cael ei graffitio eto yn TV: Aliens of London.
  • Ymddangosodd pwll nofio'r TARDIS yn olaf yn TV: The Invasion of Time. Yn hwyrach, byddai'r TARDIS neu'r Doctor yn ailgreu'r pwll rhwng y stori yma a The Eleventh Hour, a chafodd ei ddefnyddio gan River Song yn TV: Day of the Moon. Ond, cafodd ei gollwng unwaith eto yn TV: The Doctor's Wife. Erbyn TV: Journey to the Centre of the TARDIS, mae yna pwll nofio unwaith eto.

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

Rhyddhawyd Paradise Towers ar DVD Rhanbarth 2 ar 18 Gorffennaf 2011 (DU), ar 8 Awst 2011 (Awstralia), ac ar 1 Medi 2011 (UDA).

Cynnwys:

  • Sylwebaeth sain - yn cynnwys Judy Cornwell, Stephen Wyatt, a Dick Mills, wedi'i chymedroli gan Mark Ayers.
  • Horror on the High Rise - rhaglen dogfen am gynhyrchiad y stori yma.
  • Casting Sylvester
  • Girls! Girls! Girls! - The Eighties
  • Golygfeydd dileuwyd
  • Trac sain arall
  • Oriel
  • Trelar - The Sun Makers
  • Rhestrau Radio Times
  • Cyhoeddiadau parhad

Rhyddhadau Blu-ray[]

Rhyddhawyd Paradise Towers ar Blu-ray gyda gweddill Hen Gyfres 24 yn rhan o The Collection.

Cynnwys:

  • Sain cwmpasol 5.1 opsiynnol
  • Sylwebaeth sain
  • Trac sain wedi'i ynysu
  • Sgôr eiledol
  • Isdeitlau gwybodaeth
  • Rhaglen dogfen cynhyrchu
  • Golygfeydd estynedig a dileedig
  • Behind the Sofa
  • The Doctor's Table
  • Cyhoeddiadau parhad 1987
  • Open Air - ymddangosiad Richard Briers ar 17/12/1987
  • Ffilmiau confensiwn
  • Archif sain
  • Oriel HD
  • Trelar - Delta and the Bannermen
  • Archif PDF
  • Episodau estynedig
  • Ffilmiau lleoliad
  • Ffilmiau stiwdio

Rhyddhadau VHS[]

Rhyddhawyd Paradise Towers ar VHS yn Hydref 1995 (DU), yn Ionawr 1997 (Awstralia), ac ym Mehefin 1997 (UDA).

Troednodau[]