Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Peter Dougan Capaldi (ganwyd 14 Ebrill 1958) oedd actor a chwaraeodd y Deuddegfed Doctor o 2013 nes 2017, gan ddechrau gydag ymddangosiad cameo yn The Day of the Doctor a The Time of the Doctor, gan barhau o Deep Breath nes Twice Upon a Time.

Fe hefyd chwaraeodd y cymeriad yn yr episôd Class, For Tonight We Might Die, a fersiwn digidol o'r cymeriad yn Extremis, Lobus Caecilius yn yr episôd Doctor Who The Fires of Pompeii, a John Frobisher yn Torchwood: Children of Earth.

Yn 55 mlwydd oed ar adeg ei gastio ac wrth ffilmio ei olygfeydd cyntaf fel y Doctor yn yr episôd 50fed pen blwydd The Day of the Doctor, roedd Capaldi yr un oedran â William Hartnell pan ddechreuodd e'r swydd, a'r actor hynaf i chwarae'r Doctor yn rheolaidd (roedd John Hurt yn 20 mlynedd hynach ar adeg ei ymddangosiad fel y Doctor Rhyfel, ond ni chynlluniwyd ei gymeriad fel un rheolaidd).

Capaldi yw'r trydydd actor Albanaidd i gael ei gastio fel y Doctor, yn dilyn Sylvester McCoy a David Tennant. Fel McCoy, ond yn wahanol i Tennant, defnyddiodd Capaldi ei acen brodorol Albanaidd am y rôl. Yn ychwanegol, ef yw'r actor cyntaf i chwarae'r Doctor i hefyd cael yr un enw cyntaf ag un o'i ragflaenwyr (Peter Davison).

Credydau[]

Teledu[]

Doctor Who[]

Mini-episodau[]

Torchwood[]

Class[]

  • For Tonight We Might Die

Gemau fideo[]

  • LEGO Dimensions

Dolenni allanol[]