Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Pizza-tw-owen-meatfeast

Owen Harper yn tynnu'r cig wrth ei bitsa 'meat feast'. (TV: Meat)

Pitsa (neu pizza) oedd math o fwyd ar gael ar y Ddaear. Roedd pitsa yn cynnwys crystyn bara, haen o saws tomato (er gallai sawsiau eraill, fel barbeciw, cael ei ddefnyddio), haen o gaws, ac amryw o dopins. Yn ystod yr 20fed a'r 22ain ganrifoedd, roedd pitsa yn dewis poblogaidd iawn am bryd o fwyd. (TV: The Parting of the Ways, Love & Monsters) Gallai person archebu pitsa am ddanfoniad gan ystod eang o fwytai megis Jubilee Pizza, ffafriwyd gan Torchwood Tri yng Nghaerdydd. (TV: Everything Changes) Enwyd topins cyffredinol, er engraifft, Pitsa Hawäieg a oedd yn cynnwys pinafal a chig. (PRÔS: Joyride) Parlyrau pitsa oedd bwytai oedd yn bennaf yn gweini pitsas. (PRÔS: Gatecrashers)

Hanes[]

Yn ôl Peter Summerfield, "dechreuodd" pitsa tua'r 18fed ganrif. Roedd ei dad, Adrian Wall, yn hoff o bitsa, yn enwedig pitsa Hawäieg. (PRÔS: Big Bang Generation)

Aeth Tom ac Iris Wildthyme i barlwr pitsa am ginio, ond gadawodd Iris gyda Robin Hood cyn oedd modd iddi bwyta. (SAIN: Wildthyme at Large)

Ar y 5ed o Fawrth 2005, awgrymodd Rose Tyler pitsa am fwyd y noson honno i "Mickey Smith", a mewn gwirionedd oedd ddyblygiad Auton. Er cyrhaeddon nhw y bwyty, tarfwyd y ddau ohonynt gan y Nawfed Doctor cyn oedd modd iddynt archebu eu bwyd. (TV: Rose)

Dywedodd Mickey Smith wrth Jackie Tyler am fwyty pitsa newydd ag agorodd ar Minto Road yn 2006 hwyr. (TV: The Parting of the Ways)

Yn 2007, aeth Elton Pope allan i gael pitsa ar gyfer ef a Jackie Tyler. Ond, ar ôl daeth Jackie o hyd i ffotograff o'i merch yn ei got. (TV: Love & Monsters)

Pitsa oedd hoff fwyd Caroline. Roedd hi eisiau bwyta pita gyda Clive Finch. Pan gadawodd ef ei bydysawd eiledol, wnaeth hi ei bryfocio am beidio gallu mwynhau pitsa. (SAIN: The Flood)

Yn 2009, wrth ceisio ffonio UNIT, galwodd y Degfed Doctor bwyty pitsa ar ddamwain, Pizza Geronimo, pan oedd e'n sownd ar San Helios. (TV: Planet of the Dead)

Rhywbryd yn y 2000oedd hwyr, archebodd Iris Wildthyme pitsa ansiofi mewn bwyty, er cafodd hi Tom i dynnu'r ansiofis. (SAIN: Wildthyme at Large)

Yn 2010, storiodd gweithwr Groske mewn gorsaf UNIT pitsa yn ei guddfan. Cynnigodd ei bitsa i Clyde Langer, Rani Chandra a Santiago Jones pan cuddion nhw o'r Shansheeth. (TV: Death of the Doctor)

Yn 2011, cynnigodd Sarah Jane Smith pitsa i Sky. (TV: Sky)

Erbyn y 26ain ganrif, roedd pizza wedi lleuhau mewn poblogrwydd, o ganlyniad doedd Bernice Summerfield erioed wedi'i fwyta. (PRÔS: The Left-Handed Hummingbird)

Darganfwyd pitsa hefyd ar blaned gyda phoblogaeth o Ornt. Hawliodd y system telegludo yn New Port City modd i un parlwr pitsa i delegludo pitsas yn syth i dai cwsmeriaid. (PRÔS: Gatecrashers)

Cyfeirau eraill[]

Yn dilyn ei gyfarfod â'r Warp Core, rhodd Ace sylwad ar wyneb y Meistr, gan ddweud ei fod yn edrych fel "pizza wedi'i gollwng i'r llawr". (SAIN: Dust Breeding)