Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Planet of Giants oedd stori gyntaf yr hen ail gyfres o Doctor Who.

Roedd episôd gyntaf y stori, enwyd "Planet of Giants", y cyntaf lleolwyd ar y Ddaear cyfoes ers An Unearthly Child a'r cyntaf yn Lloegr mewn unrhyw amser ers yr un episôd. Er roedd gan y stori elfennau tebyg i syniadau C. E. Webber ar gyfer stori cyntaf Doctor Who, honnodd yr awdur, Louis Marks, taw gwir ysbrydoliaeth y stori hon oedd y gwaith pro-ecoleg gan Rachel Carson, Silent Spring, a oedd yn rhybuddio yn erbyn defnyddio bryfladdwyr. Fe gredodd trwy grebachu'r Doctor Cyntaf, byddai modd iddo rhoi criw'r TARDIS wyneb yn wyneb i'r beryglon cyflwynodd Carson yn ei llyfr. O ganlyniad, hon yw'r stori gyntaf "amgylcheddol" Doctor Who, stori gydag elfen moesol a fyddai Barry Letts yn dod i ffafrio, megis mewn storïau fel Invasion of the Dinosaurs a The Green Death.

Er sgriptiwyd a recordiwyd y stori hon mewn pedwar rhan, cyfunwyd y trydydd a'r pedwerydd rhan, enwyd "Crisis" a "The Urge to Live" yn eu tro, i greu un episôd o dan yr enw "Crisis". Ni chadwyd y deunydd torrwyd gan y BBC, er ychwanegodd Terrance Dicks rhai manylion i nofeleiddiad y stori.

Roedd y stori hefyd yn gwaith cyntaf ar y sioe ar gyfer y cyfansoddwr tymor hir, Dudley Simpson, a chredyd cyntaf ar gyfer cyfarwyddwr aml-gylchol Douglas Camfield ac awdur Louis Marks.

Crynodeb[]

Pan mae drysau'r TARDIS yn agor ar eu pen eu hun cyn materoli, mae tîm y TARDIS yn cael eu crebachu nes eu bod yn fodfedd o daldra.

Yn bobl bach iawn, maent yn darganfod plot gan ddyn fysnes didostur, Forester, a'r gwyddonwr, Smithers i greu bryfladdwyr newydd, DN6, sydd mor ddinistriadol mae'n llad hyd yn oed y pryfed sydd yn hanfodol i amaethyddiaeth. Ac yn anffodus, fel mae Arnold Farrow yn darganfod, mae Forester yn barod i lofruddio er mwyn sicrhau llwyddiant ei fusnes.

Plot[]

Planet of Giants (1)[]

I'w hychwanegu.

Dangerous Journey (2)[]

I'w hychwanegu.

Crisis (3)[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Criw[]

  • Awdur - Louis Marks
  • Cyfarwyddwr - Mervyn Pinfield (credydwyd ar "Planet of Giants" a "Dangerous Journey" yn unig)
  • Cyfarwyddwr - Douglas Camfield (cyfarwyddodd deunydd y pedwerydd episôd, "The Urge to Live", a oedd wedi'i cynnwys yn "Crisis". Credydwyd yn unigol am "Crisis")
  • Cynhyrchydd - Verity Lambert
  • Golygydd Sgript - David Whitaker
  • Dylunydd - Raymond Cusick
  • Cynhyrchydd Cyswllt - Mervyn Pinfield
  • Cerddoriaeth Achlysurol - Dudley Simpson
  • Gwisgoedd goruchwyliwyd gan Daphne Dee
  • Colur goruchwyliwyd gan Sonia Markham a Jill Summers
  • Sain Arbennig - Brian Hodgson
  • Golau Stiwdio - Howard King
  • Trefniant Thema - Delia Derbyshire
  • Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer

Cyfeiriadau[]

  • Whitmore yw goruwchwyliwr Arnold Farrow yn Whitehall
  • Mae'r Doctor a Susan wedi gwylio cyrch awyr Zeppelin yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
  • Yn ôl y Doctor, dydy ef erioed wedi ymweld Affrica.

Dylanwadau[]

  • Gulliver's Travels.
  • The Incredible Shrinking Man.
  • Silent Spring gan Rachel Carson (prifladdwyr fel bygythiad amgylcheddol).
  • Dixon of Dock Green (yr is-blot llofruddiaeth).

Nodiadau[]

  • Mae'r tri episôd yn fodoli ar delerecordiau 16mm.
  • Roedd gan y stori teitlau cynnar o Miniscule Story a The Miniscules.
    • Teitl cynnar "Dangerous Journey" oedd "Death in the Afternoon".[1]
  • Adenillodd y BBC printiau ffilm negyddol am y tri episôd yn 1978.
  • Y dewis gwreiddiol i gyfarwyddo'r stori oedd Richard Martin.
  • Donald Wilson, Pennaeth Serialau'r BBC, wnaeth gofyn i'r stori hon cael ei lleuhau'n tri episôd, gan deimlodd ef na byddai'r stori yn gweithio mewn pedwar rhan. Yn gwreiddiol, enw'r trydydd episôd oedd "Crisis" a'r pedwerydd oedd "The Urge to Live". Yn y pendraw, cadwyd teitl y trydydd episôd, "Crisis" a chredydau "The Urge to Live" gan mai hwnnw oedd angen y nifer lleiaf o golygiadau mewn amser pan oedd golygu episôd yn ddrud iawn. O ganlyniad, fe ddaeth Douglas Camfield, cyfarwyddwr "The Urge to Live", ei adnabod fel cyfarwydwr cyfan "Crisis". Does dim fersiynnau llawn o'r dau episôd gwreiddiol yn bodoli. Crewyd adluniad yn 2012 yn defnyddio'r sgriptiau gwreiddiol a wedi'u cyfarwyddo gan Ian Levine ar gyfer rhyddhad DVD y stori, gyda'r adluniad yn cynnwys recordiau newydd gan Carole Ann Ford, William Russell a actorion eraill yn dynwadu gweddill y cast.
  • Recordiwyd y stori fel rhan o'r bloc ffilmio cyntaf, er bu dewis i oedi rhyddhad y stori i'w defnyddio fel agoriad i'r ail gyfres.
  • Hon yw'r stori cyntaf mae'r Doctor yn llwyddo cyrraedd Ddaear cyfoesol ers An Unearthly Child, y stori gyntaf.
  • Er nid yw dyddiad yn cael ei rhoi ar sgrîn am y digwyddiadau, mae tair dyddiad yn fodoli; 1963 (nofeleiddiad Terrance Dicks); 1964 (The UNIT Chronology); a Mehefin 1969 (The Grandfather Infestation). Nid yw unryw un o'r dyddiadau wedi'u cymryd wrth wybodaeth ar sgrîn.
  • Y stori hon yw'r cyntaf o ddau stori yn y gyfres hon i gynnwys morgrug anferth.
  • Yn aml, mae pobl yn dueddol o daeru taw Planet of Giants yw'r stori cynnigodd C. E. Webber fel stori gyntaf Hen Gyfres 1. Ond, cysyniad o grebachu'r Doctor a'u gymdeithion oedd ei syniad ef. Roedd manylion gweddill y stori'n wahanol iawn.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • "Planet of Giants" - 8.4 miliwn
  • "Dangerous Journey" - 8.4 miliwn
  • "Crisis" - 8.9 miliwn

Gwallau cynhyrchu[]

  • Tua 4:30 munud i mewn i "Crisis" mae modd gweld meicroffon ar dop y ffrâm. Mae hyn yn digwydd eto at 14:14.
  • Pan mae Forester a Smithers yn llusgo corff Farrow ar groes y llawr, mae modd gweld Frank Crawshaw (Farrow) yn blincio nifer o weithiau.
  • Ar ddiwedd "Dangerous Journey", mae Smithers yn tynnu'r plwg o'r sinc ac yn ei adael ar ochr y sinc. Er, yn "Crisis" wrth i Ian a Barbara chwilio am y Doctor a Susan, mae'r plwg yn y sinc eto heb rheswm amlwg.

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor yn cofio newydd fod yn y 18fed ganrif hwyr. Er mai'r bwriad oedd cyfeirio at The Reign of Terror, cafodd hyn ei newid yn hwyrach gan PRÔS: The Witch Hunters.
  • Clywyd clacson argyfwng y TARDIS yn episôd un. Mae'r Cloister Bell yn cael ei glywed yn gyntaf o fewn TV: Logopolis.
  • Mae Ian yn fyfyrio ar ba fath o blaned byddai'n creu pryfed enfawr. Byddai'n darganfod ateb ar Vortis. (TV: The Web Planet)
  • Mae PRÔS: House of Giants yn dilyn y stori hon yn syth, gan ddatgelu taw 1969 yw gosodiad y stori.
  • Ailymddangosodd DN6 yn PRÔS: House of Giants a PRÔS: The Grandfather Infestation.

Rhyddhadau cyfrygau cartref a sain[]

Rhyddhadau DVD[]

Rhyddhawyd y stori ar DVD ar 20 Awst 2012. Gan gynnwys y tri episôd, cynhwysodd y DVD animeiddiad adluniadol o'r trydydd a'r pedwerydd episodau, "Crisis" a "The Urge to Live", gyda'r cast gwreiddiol yn ailgydio yn eu rolau lle yw'n bosib. Mae llais y Doctor wedi'i ddarparu gan John Guilor, a fyddai, blwyddyn yn ddiweddarach, yn ddarparu'i lais ar gyfer William Hartnell yn yr episôd 50fed pen blwydd, The Day of the Doctor.

Cynnwys:

  • Sylwebaeth sain gyda chymysgydd golygion Clive Doig, crewr sain arbennig Brian Hodgson, goruwchwyliwr colur Sonia Markham, a cynorthwyydd llawr David Tilley
  • Adluniad episodau 3 a 4 - gan ddefnyddio'r sgriptiau gwreiddiol
  • Residcovering the Urge to Live - hanes yr adluniad
  • Oriel
  • Cynnwys PDF - rhestrau Radio Times, cynlluniau props
  • Sain mono arabig dewisol

Rhyddhadau Blu-ray[]

Rhyddhadau Digidol[]

Mae'r stori ar gael:

  • i ffrydio ar BritBox (UDA) yn rhan o Gyfres 2 Doctor Who Clasurol.
  • i ffrydio ar Quickflix (Awstralia) fel "Planet of the Giants".

Rhyddhadau VHS[]

Rhyddhawyd y stori hon ar Ionawr 2002 (DU) a Mai 2003 (UDA).

Troednodau[]

  1. Doctor Who The Handbook: The First Doctor, TCH 3